(Dd - Ch) Cadeirydd y Pwyllgor John Griffiths AS, members Jayne Bryant AS a Joel James AS, yn ymweld Rheolwr Prosiect Llyfrgell Maendy, Ruth Essex.

(Dd - Ch) Cadeirydd y Pwyllgor John Griffiths AS, members Jayne Bryant AS a Joel James AS, yn ymweld Rheolwr Prosiect Llyfrgell Maendy, Ruth Essex.

Mae angen iddi fod yn haws i gymunedau Cymru reoli eu hasedau – Adroddiad y Senedd

Cyhoeddwyd 13/10/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/10/2022   |   Amser darllen munudau

Dylai fod yn haws i gymunedau reoli asedau lleol pwysig, yn ôl adroddiad gan y Senedd.

Mae lleoliadau fel canolfannau cymunedol, llyfrgelloedd a thafarndai yn hanfodol ar gyfer llesiant a chael mynediad at wasanaethau.

Fodd bynnag, clywodd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai grwpiau ledled Cymru yn disgrifio nifer o rwystrau, gan gynnwys diffyg hawliau statudol, cael mynediad at gyllid a chael y cymorth cywir gan awdurdodau lleol.

Mae’n gofyn yn awr i Lywodraeth Cymru sefydlu comisiwn er mwyn dod o hyd i atebion i’r problemau hynny.

Yn ôl John Griffiths AS, Cadeirydd y Pwyllgor:

“Fe allwn ni fod yn falch o’r brwdfrydedd mawr a ddangoswyd ledled Cymru dros redeg asedau lleol pwysig. Fodd bynnag, nid yw rhedeg menter er budd y gymuned yn dasg hawdd.

“Fe wnaethon ni gwrdd â nifer o grwpiau cymunedol i glywed am eu profiadau uniongyrchol. Helpodd eu tystiolaeth ni i ddeall manteision perchnogaeth gymunedol, ond hefyd rhai o’r heriau a’r rhwystrau y maen nhw’n eu hwynebu.

“Bydd angen cymorth gwahanol ar bob grŵp, yn dibynnu ar eu hamgylchiadau – ond ry’n ni am i bawb gael y cyfle i ddwyn prosiectau asedau cymunedol yn eu blaen oherwydd y dystiolaeth ddiamheuol y gall gwasanaethau neu asedau sy’n cael eu rhedeg gan y gymuned ddod â manteision sylweddol.

“Dyna pam mae angen i ni ei gwneud hi’n haws i grwpiau lleol gymryd rhan mewn rhedeg yr asedau sydd wrth galon eu cymunedau. Ry’n ni wedi gwneud cyfres o argymhellion a fydd, yn ein barn ni, yn helpu i gyflawni hynny.”

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus a chlywed tystiolaeth gan randdeiliaid allweddol, mae’r adroddiad yn nodi 16 o argymhellion, gan ddechrau gyda gofyn i Lywodraeth Cymru sefydlu comisiwn i barhau â’r gwaith hwn.

Dylai’r comisiwn hwnnw, wedyn, archwilio newidiadau deddfwriaethol posibl, gwell mynediad at gyllid neu fenthyciadau fforddiadwy i grwpiau cymunedol, a chymorth i’r grwpiau hynny gystadlu yn erbyn buddsoddwyr preifat pan ddaw asedau ar gael.

Roedd Cwmpas – sydd wedi ymchwilio i berchnogaeth gymunedol o asedau a thir – ymhlith y rhanddeiliaid a roddodd dystiolaeth mewn gwrandawiad.

Yn ôl Casey Edwards, Cynghorydd Tai a Arweinir gan y Gymuned, Cwmpas:

“Mae manteision asedau cymunedol yn amrywio o wella cydlyniant cymunedol, i ddarparu cyfleoedd ar gyfer cyflogaeth, sgiliau a hyfforddiant, i well iechyd a llesiant.

“Mae gan fentrau cymunedol y gwerth cymdeithasol hwnnw wrth wraidd popeth a wnânt; dyw e ddim rhywbeth ychwanegol nac yn rhywbeth sy’n neis i'w gael; yn hytrach, maen nhw’n byw ac yn anadlu gwerth cymdeithasol.

“A’r rheswm pam y cafodd y mwyafrif o’r mentrau cymunedol hyn eu sefydlu yn y lle cynta oedd er budd y gymuned yn fwy eang. Dyna yw eu nod cyntaf – nid yw’n ymarfer sy’n gwneud elw.”

Mae’r Pwyllgor yn argymell sefydlu’r comisiwn ar berchnogaeth gymunedol ar dir ac asedau o fewn 12 mis i gyhoeddi’r adroddiad hwn.