Nick Ramsay AS

Nick Ramsay AS

Mynd i’r afael â thwyll yng Nghymru

Cyhoeddwyd 30/07/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/12/2020   |   Amser darllen munudau

​Mae Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Senedd, Nick Ramsay AS wedi ymateb i adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru a gyhoeddwyd ddydd Iau 30 Gorffennaf sy’n archwilio’r risgiau twyll sy’n gysylltiedig â COVID-19. 

Yn ystod y pandemig, mae nifer yr adroddiadau twyll wedi cynyddu'n sylweddol ledled y DU, gyda'r sgam gysylltiedig gyntaf wedi'i hadrodd naw diwrnod yn unig ar ôl cadarnhau’r achos cyntaf o COVID-19. Yn yr adroddiad, mae Swyddfa Archwilio Cymru yn nodi bod angen i gyrff cyhoeddus wella a dysgu oddi wrth eraill ar y cyd i fynd i’r afael â thwyll yng Nghymru yn fwy effeithiol.

Mewn ymateb i’r adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, dywedodd Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Senedd, Nick Ramsay AS: 

“Mae’r pandemig COVID-19 yn dangos yn union pa mor hyblyg a thwyllodrus y gall twyllwyr fod wrth fanteisio ar gyfleoedd a gwendidau. Mae graddfa ac ystod eu sgamiau yn frawychus. Mae'n bwysicach nag erioed fod gan bob corff cyhoeddus yng Nghymru drefniadau effeithiol i frwydro yn erbyn twyll ac i amddiffyn y pwrs cyhoeddus. 

“Mae’r adroddiad diweddaraf hwn gan Swyddfa Archwilio Cymru yn nodyn atgoffa amserol y dylai cyrff cyhoeddus fuddsoddi adnoddau i atal a chanfod twyll. Trwy gryfhau eu gwaith partneriaeth, gallant fynd i'r afael â thwyll yn fwy effeithiol. Rhaid i Lywodraeth Cymru ddarparu arweinyddiaeth strategol i ysgogi gwelliannau ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru yn y maes hwn sy’n symud yn gyflym.”

Mae Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Senedd yn gyfrifol am edrych ar sut y mae Llywodraeth Cymru yn gwario ei chyllideb i sicrhau bod poblogaeth Cymru’n cael y gwerth gorau posibl am arian.

Mae adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru – ‘Gwella ein Perfformiad - Mynd i’r Afael â Thwyll yng Nghymru’ – ar gael yma.