Neges ynglyn â phartneriaeth i’w seinio drwy faes Sioe Frenhinol Cymru

Cyhoeddwyd 21/07/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Neges ynglyn â phartneriaeth i’w seinio drwy faes Sioe Frenhinol Cymru

21 Gorffennaf 2010

Partneriaeth â Chynulliad Cenedlaethol Cymru yw’r allwedd i sicrhau bod datganoli yn gweithio i chi.

Dyma’r brif neges a gaiff ei chyhoeddi gan yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn Sioe Frenhinol Cymru ar 21 Gorffennaf.

Bydd yn cyfarfod â’r ffermwyr ifanc a sefydliadau partner eraill yn adeilad y Cynulliad Cenedlaethol i ddynodi’r rhwystrau sy’n bod i bobl ifanc bleidleisio a beth a fyddai’r ffordd orau i annog pleidleiswyr am y tro cyntaf i fynd i’r gorsafoedd.

Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC, Llywydd y Cynulliad: “Rwyf am gymryd y cyfle hwn i annog yr holl bartneriaid i barhau i weithio gyda ni er mwyn sicrhau bod y Cynulliad yn adlewyrchu dymuniadau a phryderon holl bobl Cymru.”

“Un o’n prif amcanion strategol yw cynyddu’r niferoedd sy’n cymryd rhan yn y broses wleidyddol yma yng Nghymru.

“Does dim modd cyflawni hyn oni bai fod pawb yn cydweithio â’r Cynulliad Cenedlaethol i wneud y gorau o gyfreithiau newydd i weddu i anghenion Cymru.

“Dyma hefyd y rheswm pam rydym ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad o’n Rheolau Sefydlog, i weld a oes modd i ni wneud y system yn haws i bobl ei chyrraedd.”

Mae sefydliadau partner fel Shelter Cymru wedi rhoi eu sêl bendith i neges y Llywydd sy’n nodi ei bod yn haws cyflawni amcanion mewn partneriaeth.

Dywedodd Rhian Jones, Cydgysylltydd Addysg Shelter: “Fel sefydliad rydym wedi cael budd enfawr o’n partneriaeth â’r Cynulliad Cenedlaethol”.

“Rydym wedi cael budd o ran cefnogaeth gydag ein deiseb gwirfoddolwyr ifanc, ein hyfforddiant ymwybyddiaeth ar gyfer ein hymchwilwyr ifanc a gwybodaeth i staff ar rôl ac effaith gwaith Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ogystal â phwysigrwydd pleidleisio.

“Mae wedi agor nifer o ddrysau i ni ac rydym yn annog sefydliadau eraill y trydydd sector i fanteisio ar gyfleoedd o’r fath.”

Bydd pleidleiswyr yn bwrw’u pleidlais y flwyddyn nesaf i benderfynu drwy refferendwm a ddylai’r Cynulliad gael rhagor o bwerau ai peidio; byddant yn ethol pwy yr hoffent i gynrychioli eu buddiannau fel Aelodau’r Cynulliad yn y Pedwerydd Cynulliad; ac yn olaf, bydd cyfle i bleidleisio yn refferendwm Llywodraeth y DU ynghylch a ddylai system bleidleisio gyfrannol gael ei defnyddio i ethol Aelodau Seneddol San Steffan.

Hefyd yn Sioe Frenhinol Cymru bydd taflenni newydd yn cael eu lansio gan y Cynulliad, sy’n rhoi gwybodaeth ddiduedd am y tri etholiad.(gweler yr amgaeedig).

Ychwanegodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas: “Bydd y flwyddyn nesaf yn un o’r blynyddoedd pwysicaf i Gymru ers cenhedlaeth”.

“Caiff pobl Cymru wneud dewisiadau a fydd yn penderfynu sut y llywodraethir arnynt am genedlaethau i ddod.

“Nid yn unig y byddant yn penderfynu pwy a fydd yn eistedd yn y Cynulliad nesaf ond hefyd sut y mae modd i’r Aelodau hynny yn y Cynulliad wneud cyfreithiau sy’n effeithio ar Gymru.

“O dan Ddeddf Llywodraeth Cymru, mae gan y Cynulliad Cenedlaethol rôl bwysig i’w chwarae i ddarparu cyngor diduedd ac awdurdodol ar ddwy o’r tair pleidlais hyn a dyma pam yr wyf yn cyfarfod â Ffermwyr Ifanc heddiw i annog llawer ohonynt a fydd yn pleidleisio am y tro cyntaf, i fynd allan a phleidleisio.

“Rwyf hefyd am gymryd y cyfle hwn i annog yr holl bartneriaid i barhau i weithio gyda ni i sicrhau bod y Cynulliad yn adlewyrchu dymuniadau a phryderon holl bobl Cymru.”

Ar y cyd â’r daflen wybodaeth newydd, bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi cyfarwyddyd diduedd ar y tair pleidlais wahanol ar ein gwefan yn www.cynulliadcymru.org/vote2011