Newid diwylliant yn hanfodol i wella’r ffordd yr ymdrinir â chwynion yn GIG Cymru, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 05/08/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 24/02/2015

Mae angen diwylliant mwy agored a gonest o fewn GIG Cymru os yw’r ffordd yr ymdrinir â chwynion yn mynd i wella, yn ôl Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad Cenedlaethol.

Clywodd y Pwyllgor fod pobl yn edmygu ac yn gwerthfawrogi’r GIG, a bod eu profiadau ohono yn gadarnhaol yn y rhan fwyaf o achosion. Fodd bynnag, roedd clywed bod diwylliant caeedig yn bodoli o fewn GIG Cymru pan fo pethau’n mynd o’u lle yn peri pryder i’r Pwyllgor. Mae’r Pwyllgor yn cydnabod y camau y mae llawer o fyrddau iechyd lleol ac ymddiriedolaethau’r GIG yng Nghymru yn eu cymryd i wella’r ffordd y maent yn ymdrin â chwynion. Serch hynny, bu tystion yn disgrifio proses gwyno lle y mae ymdeimlad o amddiffynoldeb yn parhau ymhlith staff sy’n ymdrin â chwynion, a chafwyd gwybod bod staff, cleifion a pherthnasau yn ofni gwneud cwynion. Mae’r Pwyllgor wedi galw ar y Gweinidog i fynnu bod pob bwrdd iechyd lleol ac ymddiriedolaeth yn cymryd camau ar unwaith i sicrhau bod yr holl staff yn cael eu hannog a’u cefnogi i godi pryderon heb wynebu cosb, ac i sicrhau bod pryderon yn cael ymateb boddhaol.

Mae’r Pwyllgor yn credu bod atebolrwydd ac arweinyddiaeth gryfach yn hanfodol er mwyn sicrhau bod yr holl gwynion yn cael eu trin yn briodol a bod gwersi’n cael eu dysgu fel y gall gwasanaethau wella. Mae wedi galw ar y Gweinidog i nodi prosesau i godi a chynnal statws cwynion o fewn byrddau iechyd lleol ac ymddiriedolaethau, ac i sicrhau bod perfformiad o ran ymdrin â chwynion yn cael ei fesur a’i fonitro’n effeithiol.

Dywedodd David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: "Mae’r Pwyllgor yn cydnabod bod y mwyafrif llethol o brofiadau pobl o GIG Cymru yn gadarnhaol."

"Fodd bynnag, ar yr achlysuron prin hynny pan fo pethau’n mynd o’u lle, credwn fod angen gwella’n sylweddol y ffordd yr ymdrinir â chwynion.

"Dylai cwynion gael eu trin yn agored, yn dryloyw ac mewn modd amserol. Dylai’r rhai sy’n gwneud cwynion, boed yn staff neu’n gleifion, deimlo y gallant wneud hynny heb ofni y gallai effeithio’n wael ar eu gyrfaoedd neu ofal.

"Rydym yn croesawu’r dystiolaeth a glywsom fod llawer o fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau eisoes yn ceisio sicrhau’r newid diwylliant y credwn sydd ei angen, ond mae angen gwneud mwy i sicrhau bod yr hyn sydd yn barod yn adeg anodd i bawb yn llawer llai gofidus. "

Mae’r Pwyllgor wedi nodi ei brif ganfyddiadau mewn llythyr at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a bydd yn ailedrych ar y mater cyn diwedd y Cynulliad hwn yn 2016 i ganfod pa gynnydd sydd wedi’i wneud.

Mae rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gael yma.

Rhagor o wybodaeth am yr ymchwiliad i broses gwyno’r GIG.