Nid yw potensial a chapasiti prentisiaethau ar gyfer cefnogi economi Cymru yn cael eu gwireddu'n llawn yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad

Cyhoeddwyd 25/10/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Nid yw potensial a chapasiti prentisiaethau ar gyfer cefnogi economi Cymru yn cael eu gwireddu'n llawn yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad

25 Hydref 2012

Gall cynlluniau prentisiaeth yng Nghymru fod yn gymhleth ac nid yw eu potensial llawn yn cael ei wireddu yn ôl adroddiad newydd gan Bwyllgor Menter a Busnes y Cynulliad Cenedlaethol.

Daeth y Pwyllgor i'r casgliad bod prentisiaethau'n hanfodol ar gyfer recriwtio, hyfforddi, datblygu a chadw gweithlu gweithgar sydd â'r sgiliau gorau yng Nghymru, yn enwedig yn yr hinsawdd economaidd bresennol.

Fodd bynnag, ar sail tystiolaeth fideo a gyflwynwyd i'r Pwyllgor, sy'n cyfleu barn pobl ifanc a darparwyr hyfforddiant, bu i'r Pwyllgor ganfod hefyd y gall fod stigma, mythau a stereoteipio ar sail rhyw sylweddol mewn perthynas â phrentisiaethau; mae cyflogwyr posibl yn aml yn eu gweld fel cost yn hytrach na chaffaeliad, a gall prentisiaid posibl eu gweld fel gwaith rhad y gellir ei hepgor mewn proffesiynau a ystyrir yn israddol gan mwyaf.

Bu i'r Pwyllgor ystyried nifer o raglenni prentisiaeth llwyddiannus yn ystod ei ymchwiliad. Roedd galw mawr am leoedd ar bob un ohonynt ac roeddent yn rhoi profiad buddiol i'r ymgeiswyr llwyddiannus. Ym marn y Pwyllgor, dylid annog trefnwyr cynlluniau o'r fath i ysbrydoli eraill.

Hysbyswyd y pwyllgor hefyd y gallai penodi prentisiaid fod yn broses gymhleth sy’n peri dryswch, yn enwedig i fusnesau bach a chanolig, a bod cwmnïau'n cael eu hatal rhag eu penodi oherwydd diffyg amser ac adnoddau.

Dywedodd Nick Ramsay AC, Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes: "Mae prentisiaethau'n arf grymus sydd ar gael i Lywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi ac ysgogi economi Cymru.

"Credwn fod awydd cynyddol am gynlluniau prentisiaeth a chroesawn yr uned brentisiaeth a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru.

"Fodd bynnag, credwn hefyd fod angen symleiddio'r system, a all fod yn gymhleth, a hyrwyddo buddion prentisiaethau i gyflogwyr a chyflogeion posibl.

"Yn fwy sylfaenol, mae angen newid mewn diwylliant fel bod prentisiaethau'n cael mwy o barch ac yn cael eu hystyried fel buddsoddiad yn hytrach na chost."

Mae'r Pwyllgor yn gwneud 20 o argymhellion i Lywodraeth Cymru yn ei adroddiad, gan gynnwys:

  • Annog cyflogwyr sydd â rhaglenni prentisiaeth sydd wedi hen ennill eu plwyf i fentora cyflogwyr busnesau bach a chanolig a chydweithio â hwy i’w cynghori ar gynlluniau prentisiaeth a rhannu darpariaeth hyfforddi.

  • Mynd i’r afael â phroblemau o ran parch tuag at brentisiaethau, gan gynnwys drwy ailystyried prentisiaeth fel cynnyrch, sicrhau bod pobl yn deall ystyr y term 'prentisiaeth', ac ystyried ffyrdd mwy arloesol o hyrwyddo a chyfathrebu 'brand' prentisiaeth i bobl ifanc;

  • A sicrhau bod pobl ifanc a'u rhieni yn cael cyngor amserol o safon dda am brentisiaethau fel y gallant wneud dewisiadau deallus ynghylch eu llwybr addysgol a gyrfaol.