Claf yn yr Ysbyty

Claf yn yr Ysbyty

Oedi cyn trosglwyddo cleifion yn arwain at fethiannau eang ar draws y GIG a gofal cymdeithasol

Cyhoeddwyd 15/06/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 15/06/2022   |   Amser darllen munudau

Mae un o bwyllgorau’r Senedd yn galw am weithredu ar unwaith i sicrhau nad yw cleifion yn gorfod aros cyhyd yn yr ysbyty ar ôl gwella o’u salwch.  

Yn ôl adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a gafodd ei lansio heddiw, mae argyfwng gweithlu yn y sector gofal cymdeithasol sy’n golygu bod cleifion yn aros yn yr ysbyty am ddyddiau, neu wythnosau hyd yn oed, yn hwy nag sydd angen.  

Mae hyn yn creu ôl-groniad yn y system gofal iechyd ac, o ganlyniad, mae ambiwlansys yn ciwio y tu allan i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys am oriau, yn methu trosglwyddo cleifion sy'n ddifrifol wael ac yn methu helpu aelodau eraill o'r cyhoedd. 

Methu gadael yr ysbyty 

Mae’r adroddiad yn cydnabod ei bod, ar hyn o bryd, yn anodd mesur maint y broblem gan fod Llywodraeth Cymru wedi atal gofynion adrodd ynghylch achosion o ‘oedi wrth drosglwyddo gofal’ ar ddechrau'r pandemig ac wedi cyflwyno canllawiau newydd ar gyfer rhyddhau cleifion o’r ysbyty. 

Mae adroddiad y Pwyllgor yn amlinellu sut y mae aelodau o'r teulu a gofalwyr di-dâl yn cael eu rhoi mewn sefyllfa amhosibl wrth iddynt orfod naill ai gadael eu hanwyliaid yn yr ysbyty yn hirach nag sydd angen, neu ysgwyddo cyfrifoldebau gofalu ychwanegol er nad yw’r gallu ganddynt, o reidrwydd, i ymdopi â’r cyfrifoldebau hynny.  

Yn achos cleifion sy'n sownd mewn gwelyau ysbyty - ac mae nifer anghymesur o’r rhain yn bobl hŷn - gall cyfnod o aros cyn cael eu rhyddhau greu mwy o broblemau meddygol ee maent yn fwy tebygol o gael haint neu o fynd yn rhy ddibynnol yn feddyliol ar eraill.

Mae’n bosibl y bydd gallu corfforol y claf yn dirywio’n gyflym hefyd a gall hynny ei gwneud yn fwy tebygol y byddant yn syrthio ac yn cael anaf arall yn y dyfodol.

 

Aros am ambiwlans 

Mae’r ffaith na yw’n bosibl rhyddhau cleifion yn ddiogel yn cael sgil effaith ar y system gofal iechyd, gan fod ambiwlansys yn gorfod aros y tu allan i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys nes bydd gwelyau ar gael i’w cleifion. 

O ganlyniad, rhaid aros yn hir am ambiwlans i drin pobl sydd wedi’u hanafu ac sydd mewn poen - ac mae hynny weithiau’n arwain at ganlyniadau sy'n peryglu eu bywydau.  

Yn ei dystiolaeth i’r Pwyllgor, rhybuddiodd Pwyllgor Meddygol Lleol Morgannwg fod meddygon teulu yn anfon cleifion i'r ysbyty mewn ceir oherwydd prinder ambiwlansys.  

Dywedodd Jason Killens, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wrth y Pwyllgor nad oedd nifer sylweddol o ambiwlansys ar gael i’w defnyddio ac, o ganlyniad, roedd cleifion yn aros heb gymorth am “gyfnodau hir iawn”.

Roedd yn cydnabod roedd y gwasanaeth roeddent yn ei gynnig i gleifion yn annerbyniol, a bod Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn gwneud popeth yn ei gallu i wella’r sefyllfa.  

‘Ailosod y system’ 

Ym mis Mawrth 2022, arweiniodd Llywodraeth Cymru ac Uned Gyflawni’r GIG raglen i ‘ailosod’ yr holl systemau gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn hwyluso llif y system a lleihau’r achosion o oedi cyn trosglwyddo gofal.   

Mae’r adroddiad yn croesawu hyn, ond yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi’r wybodaeth ddiweddaraf cyn diwedd y flwyddyn ynghylch llwyddiant y rhaglen ailosod a’i heffaith ar yr ymdrech i leihau nifer y cleifion sy’n gorfod aros yn yr ysbyty yn hwy nag sydd angen. 

 





Russell George AS
Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

 

 


“Y tu ôl i bob achos o oedi  mae person nad yw wedi cael y gofal a'r cymorth sydd ei angen i ganiatáu iddo neu iddi ddychwelyd adref, neu symud i rywle addas.

“Mae hyn yn gadael miloedd o berthnasau a gofalwyr di-dâl sy’n gorfod dewis rhwng gadael rhywun yn yr ysbyty neu benderfynu ysgwyddo mwy o gyfrifoldebau gofalu eto.  

“Mae clywed am ambiwlansys yn ciwio y tu allan i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys tra bod pobl sydd wedi’u hanafu’n ddifrifol yn aros am oriau - a hynny weithiau’n arwain at ganlyniadau sy’n peryglu eu bywyd - yn peri pryder mawr. 

“Oni chymerir camau radical i newid y ffordd y caiff gofal cymdeithasol ei ddarparu a’i wobrwyo, a’r ffordd y telir amdano, nid ydym yn debygol o weld y newidiadau sydd eu hangen i atal cleifion rhag gorfod aros mewn ysbytai. 

“Mae'n gwbl annerbyniol bod dros 1,000 o bobl mewn gwelyau ysbytai er y dylent fod wedi’u rhyddhau.  Mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu ar fyrder i ddatrys y broblem hon.” 

 


Recriwtio staff gofal cymdeithasol 

Dywedodd yr adroddiad ei bod yn gynyddol anodd denu pobl i weithio ym maes gofal cymdeithasol a hyd nes y bydd y gweithlu’n cael ei drin yn gyfartal â’r gweithlu gofal iechyd, bydd y broblem hon yn parhau. 

Mae’r Pwyllgor yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau eisoes i ymdrin â’r problemau sy’n effeithio ar y gweithlu gofal cymdeithasol, gan gynnwys ymgyrch recriwtio a chyflwyno Cyflog Byw Gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol.  

Fodd bynnag, mae’r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno newidiadau ychwanegol i dâl ac amodau gwaith gweithwyr gofal cymdeithasol cyn gynted â phosibl. 

Mae hyn yn cynnwys rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr ymrwymiad i gyflwyno strwythur cyflog cenedlaethol i weithwyr gofal ac ymdrin â’r ffaith mai dim ond rhai gweithwyr gofal cymdeithasol sy’n cael Tâl Salwch Statudol (£99.35 yr wythnos ar hyn o bryd) os na allant weithio oherwydd salwch. 

Mae’r adroddiad hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro sut y bydd yn cynyddu’r nifer sy’n cael eu recriwtio i’r sector hwn. 

Dementia 

Clywodd y Pwyllgor fod angen dealltwriaeth well o anghenion pobl â dementia mewn ysbytai a’r ffordd orau o’u helpu a sicrhau bod y sefyllfa’n llai dryslyd iddynt.  

Clywodd y Pwyllgor hefyd am sawl achos lle cafodd pobl eu rhyddhau o’r ysbyty yn hwyr yn y nos, mewn ardaloedd lle nad oedd dim, neu fawr ddim, trafnidiaeth gyhoeddus, ac yn gorfod dod o hyd i ffordd o gyrraedd adref eu hunain.   

Mae’r adroddiad yn annog Llywodraeth Cymru i dreialu slotiau rhyddhau penodol ar gyfer pobl â dementia i helpu cartrefi gofal, gofalwyr a theuluoedd i gynllunio’n well ar eu cyfer. 

Clywodd y Pwyllgor am brofiad Angela Davies, sy’n gofalu’n ddi-dâl am ei thad sydd â dementia: 

“Cawsom alwad ffôn am 4 o’r gloch y prynhawn i ddweud bod fy nhad yn barod i ddod adref a’i fod yn iawn. ‘Doedd dim byd yn bod arno.. Grêt. Roedd yn gallu mynd i fyny’r grisiau’. Roeddwn i’n gweithio, ond fe lwyddon ni i drefnu i’w nôl o am 6 o’r gloch. Roedd yn cael trafferth cerdded.  Dywedodd yr ysbyty ei fod o’n sych.  Doedd o ddim.  Roedd yn socian erbyn iddo gyrraedd adref.  Doedd o ddim yn gallu mynd i fyny’r grisiau, a bu’n rhaid iddo gysgu ar y soffa’r noson honno.  Ni ddaeth neb o’r ysbyty i weld y cartref.  Doedd dim angen pecyn gofal arno medden nhw.  Doedd gennym ni ddim byd.” 

 



Mwy am y stori hon

Dewch i wybod am argymhellion y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyfer mynd i’r afael â faint o amser y mae cleifion yn ei dreulio yn yr ysbyty ar ôl gwella o salwch.

Darllenwch yr adroddiad



Ymchwiliad: Rhyddhau cleifion o ysbytai ac effaith hynny ar y llif cleifion drwy ysbytai