Penodi Bwrdd Taliadau annibynnol newydd

Cyhoeddwyd 09/07/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/07/2015

​Mae pum aelod newydd wedi'u penodi i Fwrdd Taliadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Y Cynulliad Cenedlaethol oedd y corff seneddol cyntaf yn y DU i sefydlu corff annibynnol i bennu cyflogau a lwfansau ei Aelodau.

Sefydlwyd y Bwrdd gan Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010 ac mae'n gyfrifol am bennu cyflogau a chymorth ariannol i Aelodau'r Cynulliad Cenedlaethol er mwyn eu galluogi i gyflawni eu rolau'n effeithiol.

Dyma'r pump a fydd yn cymryd lle'r Bwrdd presennol ar 21 Medi 2015 ar ddiwedd tymor yr Aelodau presennol (bywgraffiadau  llawn yn y nodiadau i olygyddion):

  • Y Fonesig Dawn Primarolo (Cadeirydd) - Aelod Seneddol De Bryste rhwng 1987 a 2015, mae hi wedi dal swyddi Gweinidogol amrywiol yn Llywodraeth y DU ac roedd yn Ddirprwy Lefarydd Tŷ'r Cyffredin.
  • Y Fonesig Jane Roberts - seiciatrydd ymgynghorol, cyn-arweinydd Cyngor Bwrdeistref Camden, cadeirydd y felin drafod New Local Government Network, ac mae ganddi gefndir eang ym maes llywodraeth leol ac iechyd.
  • Roger Williams - Aelod Seneddol Brycheiniog a Sir Faesyfed rhwng 2001 a 2015.
  • Michael Redhouse - Pennaeth EMES Consulting, a sefydlodd yn 2002 sy'n helpu llawer o sefydliadau mawr gyda materion cyflogau a buddion, ac mae'n aelod o'r Corff Adolygu Cyflogau Athrawon Ysgol.
  • Trevor Reaney - Clerc a Phrif Weithredwr Cynulliad Gogledd Iwerddon.

Dywedodd y Fonesig Dawn Primarolo, Cadeirydd newydd y Bwrdd:

"Rwy'n falch iawn o dderbyn y swydd hon ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda fy nghydweithwyr newydd yn gwasanaethu Cymru a'r Cynulliad.

"Bydd gan y Cynulliad Cenedlaethol a gaiff ei ethol yn 2016 fwy o gyfrifoldeb deddfwriaethol ac ariannol nag erioed o'r blaen. Gan adeiladu ar sylfaen gadarn y Bwrdd a'n rhagflaenodd, rwy'n gobeithio y gallwn weithio gydag Aelodau, staff a phobl Cymru i helpu gydag ateb yr heriau hynny."

Yn dilyn y penodiadau, dywedodd Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc Cynulliad Cenedlaethol Cymru: "Yn gyntaf, hoffwn dalu teyrnged i aelodau presennol y Bwrdd am eu gwaith sylweddol ar eu Penderfyniad ar gyfer system cymorth ariannol y Pumed Cynulliad.

"Y Cynulliad Cenedlaethol oedd y corff seneddol cyntaf yn y DU i sefydlu corff annibynnol i bennu cyflogau a lwfansau ei Aelodau. Mae aelodau'r Bwrdd yn chwarae rôl bwysig o ran sicrhau hyder bod arian cyhoeddus yn cael ei wario mewn modd priodol, gydag atebolrwydd, gwerth am arian a thryloywder.

"Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu denu unigolion o safon mor uchel i wasanaethu'r Bwrdd yn ei ail dymor pum mlynedd."