Michelle Morris, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Michelle Morris, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Penodi Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru newydd

Cyhoeddwyd 26/01/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/01/2022   |   Amser darllen munudau

Mae’r Senedd wedi cymeradwyo’n ffurfiol enwebiad Michelle Morris i’w phenodi yn Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus newydd Cymru (yr Ombwdsmon).

Bydd Michelle Morris yn cymryd yr awenau oddi ar yr Ombwdsmon sy’n gadael, sef Nick Bennett, ar 1 Ebrill 2022 yn y sefydliad sy’n ymchwilio i gwynion gan bobl yn erbyn cyrff cyhoeddus yng Nghymru. Mae’r Ombwdsmon hefyd yn ystyried cwynion am achosion o aelodau etholedig o Gynghorau Tref, Cynghorau Cymuned neu Gynghorau Sir yn torri’r Cod Ymddygiad.

Mae’r penodiad hwn yn dilyn gwrandawiad cyn-enwebiad gan Bwyllgor Cyllid y Senedd ar yr Ombwdsmon newydd ym mis Rhagfyr 2021 a arweiniodd at argymhelliad i’r Senedd gymeradwyo eu dewis, a fydd nawr yn cael ei phenodi gan Ei Mawrhydi y Frenhines.

Hwn hefyd fydd y penodiad cyntaf i swydd yr Ombwdsmon ers i Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 ddod i rym. Mae’r ddeddfwriaeth bwysig hon, a gyflwynwyd gan y Pwyllgor Cyllid yn y Bumed Senedd, yn rhoi pwerau i’r Ombwdsmon ymchwilio i gwynion o’i wirfodd ac i sefydlu gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer ymdrin â chwynion er mwyn sicrhau bod cysondeb o ran y broses ar draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru.

Mae gan Michelle Morris, yr Ombwdsmon newydd, gefndir ym maes llywodraeth leol ac mae’n ymuno o Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent lle y bu’n Rheolwr Gyfarwyddwr ers 2017. Cyn hyn bu’n ymgymryd â nifer o uwch swyddi llywodraeth leol yng Nghymru a’r Alban.

Dywedodd Michelle Morris: “Rwyf wrth fy modd fy mod wedi fy mhenodi fel Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus newydd Cymru.

“Mae rôl yr Ombwdsmon yn hollbwysig er mwyn sicrhau y gellir ymdrin â chwynion am wasanaethau cyhoeddus neu gynghorwyr etholedig yn annibynnol, a phan aiff pethau o chwith, y gellir eu datrys, a bod gwersi’n cael eu dysgu ar gyfer y dyfodol.

“Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r tîm ac rwy’n benderfynol o barhau â gwaith da yr Ombwdsmon.”

Dywedodd Peredur Owen Griffiths, Cadeirydd Pwyllgor Cyllid y Senedd a’r panel cyfweld, “Rwy’n falch iawn bod y Senedd wedi pleidleisio i gymeradwyo dewis y Pwyllgor fel yr Ombwdsmon newydd.

“Mae’r Ombwdsmon yn chwarae rhan bwysig yng Nghymru, ac yn sicrhau y caiff pawb eu trin yn deg o ran y gwasanaethau cyhoeddus; mae’r pŵer i ymchwilio i gwynion, am ddim, yn agwedd hollbwysig ar y rôl honno.

“Mae Michelle Morris yn benodai rhagorol a bydd yn hyrwyddwr cryf dros ein hawliau pan fydd unrhyw un yng Nghymru yn defnyddio gwasanaethau cyhoeddus.

“Hoffwn ddiolch i Nick am ei waith dros y blynyddoedd diwethaf ac am y sylfaen cadarn y mae wedi’i adael o ran swydd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.”