Penodiadau newydd i Fwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd

Cyhoeddwyd 12/08/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/12/2020   |   Amser darllen munudau

Mae Cadeirydd ac Aelod newydd wedi’u penodi i Fwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd. 

Penodwyd Dr Elizabeth Haywood yn Gadeirydd y Bwrdd a Hugh Widdis yn aelod o'r Bwrdd. Bydd eu penodiadau i'r Bwrdd yn dechrau ym mis Medi 2020. 

Mae Dr Haywood ar hyn o bryd yn aelod o Fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru, Grŵp Hendre a'r elusen Leonard Cheshire.  Cyn hynny, roedd hi'n aelod o Fwrdd Scottish Power Energy Networks, yn aelod annibynnol o Fwrdd Taliadau Swyddfa Archwilio Cymru, a Chadeirydd cyntaf WCVA Services Ltd.  Hi hefyd a gadeiriodd Dasglu Gweinidogol Llywodraeth Cymru ar gyfer Dinas-ranbarthau. 

Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol y Llywodraeth ar gyfer Gogledd Iwerddon yw Mr Widdis, ac ef yw'r Cyfreithiwr Adran ar gyfer Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon. Rhwng mis Gorffennaf 2017 a mis Mai 2018 fe’i penodwyd dros dro i swydd Ysgrifennydd Parhaol Adran Gyllid Gogledd Iwerddon. Mae ganddo 20 mlynedd o brofiad o weithio mewn gwasanaethau cyfreithiol seneddol a llywodraeth. 

Yn ôl Dr Elizabeth Haywood: 

“Rwy’n falch iawn o gael y cyfle i Gadeirio’r Bwrdd Taliadau Annibynnol ac edrychaf ymlaen at wasanaethu ochr yn ochr ag aelodau eraill y Bwrdd. Mae hwn yn gyfnod heriol nid yn unig i Aelodau etholedig o’r Senedd, ond i bawb yng Nghymru, ac rwy'n llawn cyffro am y dasg sydd o'n blaenau." 

Senedd Cymru oedd y corff seneddol cyntaf yn y DU i sefydlu corff annibynnol i bennu cyflogau a lwfansau ei Aelodau. 

Sefydlwyd y Bwrdd gan Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010 ac mae'n gyfrifol am bennu cyflogau a chymorth ariannol i Aelodau o’r Senedd er mwyn eu galluogi i gyflawni eu rolau'n effeithiol. 

Dywedodd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd: 

“Rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu penodi Cadeirydd ac aelod newydd i’r Bwrdd sydd â phrofiad mor eang a helaeth. 

“Bydd y safon eithriadol o uchel o bobl sy’n gwasanaethu ar y Bwrdd Taliadau nesaf yn helpu i roi hyder i bobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei wario gydag uniondeb, atebolrwydd, gwerth am arian a thryloywder.” 

Bydd y Bwrdd Taliadau Annibynnol nesaf, a ddaw i rym ym mis Medi 2020, hefyd yn cynnwys tri Aelod arall. Mae Mike Redhouse a’r Fonesig Jane Roberts wedi cytuno i aros ar y Bwrdd am dymor arall o bum mlynedd a phenodwyd Ronnie Alexander yn 2017 i wasanaethu hyd at 2022.