#POWiPL - Janet Street-Porter i drafod y portread o fenywod yn y cyfryngau mewn sesiwn yn y Pierhead
07 Hydref 2013
Bydd Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn croesawu Janet Street-Porter, y sylwebydd adnabyddus ar y cyfryngau, i'r Pierhead ar 10 Hydref.
Bydd Ms Street-Porter yn traddodi prif ddarlith yn dwyn y teitl "Menywod yn y Cyfryngau: Cynrychiolaeth deg?", a fydd yn trafod y ffordd y caiff menywod eu portreadu yn y cyfryngau. Yna, bydd yn cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb gyda'r gynulleidfa.
Trefnwyd y sesiwn hon fel rhan o ymgyrch y Llywydd: Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus (#POWiPL), sydd â'r nod o annog mwy o fenywod yng Nghymru i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus drwy fod yn ynadon, cynghorwyr, cyfreithwyr, llywodraethwyr ysgol neu drwy anelu at gael eu penodi ar fyrddau.
Yn ganolog i'r ymgyrch y mae awydd y Llywydd i sicrhau modelau rôl cryf i fenywod drwy gyflwyno menywod eraill sy'n llwyddo mewn meysydd y mae dynion wedi bod yn flaenllaw ynddynt yn draddodiadol. Gwneir hyn drwy gyfres o brif ddarlithoedd yn y Pierhead. Mae hyn yn dilyn mandad a roddwyd i'r Llywydd yng nghynhadledd Cymru, Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus, ym mis Tachwedd y llynedd.
“Mae’n fraint cael annerch sesiwn ‘Menywod yn y cyfryngau: cynrychiolaeth deg’ y Llywydd", meddai Janet Street-Porter.
“Byddaf yn gweld y sylw y mae’r cyfryngau’n ei roi i fenywod mewn bywyd cyhoeddus ac yn aml, rwy’n eu gweld yn cael eu portreadu yn nhermau’r ffordd y maent yn edrych neu’r hyn y maent yn ei wisgo. Ac eto, pan edrychwch ar y sylw y mae dynion yn ei gael, yr hyn y maent yn ei ddweud ac yn ei wneud sy’n cyfrif.
"Mae’r agwedd hon yn arwain llawer o fenywod i ddod i’r casgliad y gallai mynd i fywyd cyhoeddus eu gwneud yn agored i’r un math o gwestiynu - mewn gwirionedd, mae’n rhwystr i lawer o fenywod fynd ar drywydd swyddi cyhoeddus.
"Ni ddylai’r un ohonom dderbyn hyn ac rwy’n cefnogi’n llawn "ymgyrch Menywod Mewn Bywyd Cyhoeddus" y Llywydd.
Mae siaradwyr blaenorol wedi cynnwys Shami Chakrabarti, Cyfarwyddwr Liberty, sef y grwp sy'n ymgyrchu dros hawliau sifil, a'r Farwnes Susan Greenfield, sy'n wyddonydd blaenllaw.
Dywedodd Rosemary Butler AC, y Llywydd, "Mae'n wych gallu croesawu Janet Street-Porter i siarad gyda ni am yr heriau sy'n wynebu menywod yn y cyfryngau.
"Mae hi'n dangos bod menywod yn gallu bod yn arweinwyr mewn meysydd sy'n draddodiadol wedi'u harwain gan ddynion.
"Dyna pam yr wyf wedi wedi trefnu'r gyfres hon o ddigwyddiadau lle bydd menywod blaenllaw yn rhannu eu profiadau a chynnig atebion, efallai, i gael gwared ar y rhwystrau sy'n wynebu menywod mewn bywyd cyhoeddus.
"Ond nid dyna'r cyfan rydym wedi'i wneud. Yr wythnos diwethaf, lansiwyd y Porthol Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus, fydd yn darparu gwybodaeth am sut i gymryd rhan mewn swyddi cyhoeddus, y swyddi gwag a'r cyfleoedd hyfforddi sydd ar gael a thystiolaeth gan fenywod ysbrydoledig sydd eisoes wedi llwyddo mewn swyddi cyhoeddus."
Gellir dod o hyd i'r porthol drwy wefan Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus neu drwy'r sianel drydaru @MenywodCymru.
Gellir gwylio fideo esboniadol drwy glicio yma
Mae nifer gyfyngedig o leoedd ar ôl o hyd ar gyfer y digwyddiad gyda Janet Street-Porter, a gellir archebu lle drwy ffonio llinell archebu'r Cynulliad ar 0845 010 5500 neu drwy anfon e-bost at archebu@cymru.gov.uk.