Proses ar gyfer y gyllideb sy'n addas at y dyfodol

Cyhoeddwyd 06/08/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/12/2020   |   Amser darllen munudau

​Mae Pwyllgor Cyllid y Senedd yn galw am broses newydd ar gyfer pasio'r gyllideb flynyddol yng Nghymru i sicrhau symlrwydd, tryloywder ac atebolrwydd.

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn gwneud 'cynnig' o ran y gyllideb a'r cyfraddau treth bob blwyddyn, ond mae'r Pwyllgor Cyllid yn galw am broses ddeddfwriaethol newydd ar gyfer y gyllideb sy'n diwallu anghenion pawb yn llawn ac sy'n adlewyrchu aeddfedrwydd y Senedd ar ôl 20 mlynedd o ddatganoli.

Byddai proses ddeddfwriaethol newydd y gyllideb yn golygu cyflwyno deddfwriaeth i'r Senedd bob blwyddyn sy'n cymeradwyo cynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru a'r cyfraddau trethiant sydd i'w talu gan bobl yng Nghymru.

Mae'r Pwyllgor hefyd o'r farn y dylid cryfhau gwaith y Senedd a Llywodraeth Cymru i ymgysylltu â'r cyhoedd wrth graffu ar y gyllideb cyn ac wedi iddi gael ei gosod. Mae'n hanfodol bod y cyhoedd yn rhan o'r broses.

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan arbenigwyr ym maes prosesau cyllidebol ac edrychodd ar yr arferion gorau ledled y byd wrth graffu ar y gyllideb. Fe wnaeth y Pwyllgor gyfarfod ag arbenigwyr a chydweithwyr allweddol yn yr Alban sydd hefyd wedi bod yn edrych ar y mater hwn yn fanwl.

Dywedodd Llyr Gruffydd AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid:

"Rydym ni wedi dod yn bell ers dechrau datganoli ym 1999. Gyda mwy o bwerau i Lywodraeth Cymru a'r Senedd, a'r pŵer i bennu cyfraddau treth yma yng Nghymru, mae'n bwysig bod y ffordd ry' ni'n pasio'r gyllideb yn adlewyrchu hyn.

"Mewn unrhyw ddemocratiaeth fodern, mae'n allweddol i'r senedd ddwyn y llywodraeth i gyfrif yn iawn, yn enwedig ar ei chynlluniau gwariant a'i lefelau treth. Mae'r rhain yn benderfyniadau sy'n effeithio ar fywydau pobl bob dydd ac rydym am wneud y broses yn addas at y dyfodol, gan sicrhau ei bod yn syml, yn dryloyw a bod y Llywodraeth yn wirioneddol atebol i Aelodau'r Senedd a phobl Cymru."

Mae'r Pwyllgor yn credu y dylai grŵp annibynnol wneud gwaith i fwrw ymlaen â phroses ddeddfwriaethol ar gyfer y gyllideb, gan drafod cwestiynau fel:

  • Ai Cyllideb flynyddol neu Fil Cyllid a fyddai fwyaf addas ar gyfer awdurdodi cynlluniau gwariant a threthi Cymru;
  • Sut y bydd gwaith modelu a rhagolygon annibynnol Llywodraeth Cymru yn cael eu hymgorffori yn y broses;
  • Sut a phryd y byddai diwygiadau yn cael eu gwneud i Fil, wrth gynnal gallu Llywodraeth Cymru i reoli ei chyllideb ei hun;
  • Yr effaith ar waith craffu ariannol ehangach y Senedd, er enghraifft gwaith craffu yn ystod y flwyddyn, y gyllideb ddrafft a chraffu ar unrhyw ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â'r gyllideb;
  • Sut i wella ymgysylltiad â'r cyhoedd a'r gwaith o graffu ar gyllidebau blynyddol cyn i'r gyllideb gael ei chyflwyno, a'r blaenoriaethau tymor canolig a'r strategaeth ariannol;
  • Y disgwyliadau ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cyllidebau dangosol aml-flwyddyn, yn enwedig ar gyfer llywodraeth leol a phartneriaid cyflenwi.

Mae'r Pwyllgor bellach yn galw am ddull ar y cyd rhwng y Pwyllgor, Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid i edrych ar y mater hwn ddechrau tymor nesaf y Senedd.