‘Pryder dybryd’ y Pwyllgor nad yw’r Ysgrifennydd Gwladol am ddod i roi tystiolaeth

Cyhoeddwyd 01/07/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/07/2016

​Mae Huw Irranca-Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, wedi mynegi pryder dybryd fod Alun Cairns, AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi gwrthod gwahoddiad i roi tystiolaeth i’r Pwyllgor ar Fil Cymru a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU.

“Mae gan Fil Cymru oblygiadau hirdymor ar gyfer ansawdd y cyfreithiau y caiff y Cynulliad eu gwneud, a pha mor hawdd fydd hi i bobl Cymru ddeall cyfreithiau eu gwlad.

“Er ei bod yn glir bod y Bil wedi gwella rywfaint ers i’r Bil Cymru drafft gael ei gyhoeddi, rydyn ni eisoes wedi clywed bod y Bil yn dal i fod yn gymhleth ac y gallai fod yn gam yn ôl o gymharu â’r setliad datganoli presennol.

“Gan fod y cyfnod Pwyllgor ym mhroses drafod Tŷ’r Cyffredin ar y Bil i ddod i ben ar 11 Gorffennaf, roedd y Pwyllgor wedi gobeithio y byddai’r Ysgrifennydd Gwladol yn gallu rhoi goleuni ar y Bil newydd a’n helpu ni ddeall beth y mae’n ceisio’i gyflawni.”

Mae’r Pwyllgor yn awyddus i glywed barn cynifer o bobl â phosibl o bob rhan o Gymru i’w helpu i ystyried y Bil.

Bydd y Pwyllgor yn clywed tystiolaeth gan y Prif Weinidog a’r Llywydd ddydd Llun a dydd Mercher yr wythnos nesaf. Mae eisoes wedi clywed tystiolaeth gan gyfreithwyr ac arbenigwyr ar y cyfansoddiad.

Mwy o wybodaeth

Bil Cymru Llywodraeth y DU

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol