Pwyllgor Archwilio i drafod LG

Cyhoeddwyd 09/07/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor Archwilio i drafod LG

Bydd Pwyllgor Archwilio’r Cynulliad Cenedlaethol yn trafod LG mewn cyfarfod yr wythnos hon.   Bydd y Pwyllgor yn cynnal ei gyfarfod cyntaf yn y Trydydd Cynulliad am  1.30pm, ddydd Iau 12 Gorffennaf yn Ystafell Bwyllgora 3, y Senedd, Bae Caerdydd. Bydd y Pwyllgor yn ethol Cadeirydd a bydd yn clywed cyflwyniad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, Jeremy Colman, ar gylch gwaith a dyletswyddau’r Pwyllgor Archwilio,  sy’n gyfrifol am graffu’n ddiduedd ar wariant Llywodraeth y Cynulliad.   Bydd yr aelodau hefyd yn clywed tystiolaeth fel rhan o’u hymchwiliad i ddiogelu arian cyhoeddus ym mhrosiectau LG yng Nghasnewydd.   Mwy o fanylion am gyfarfod y pwyllgor