darnau arian £1

darnau arian £1

Pwyllgor Cyllid yn addo darganfod sut fydd y Drafft Gyllideb yn lleddfu pwysau costau

Cyhoeddwyd 14/12/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/12/2022   |   Amser darllen munudau

Ddoe, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y Gyllideb Ddrafft 2023-24 i’r Senedd.

Dechreuodd y Pwyllgor Cyllid ei waith craffu manwl ar y Gyllideb Ddrafft ddydd Mercher 14 Rhagfyr trwy glywed tystiolaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans MS, ac yna’n cyhoeddi eu hadroddiad ar ddydd Llun 6 Chwefror. Mae holl sesiynau’r Pwyllgor ar gael i’w wylio ar www.senedd.tv.

Bydd Pwyllgorau Seneddol eraill hefyd yn cyhoeddi eu hadroddiadau ar effaith y Gyllideb Ddrafft ar eu cylchoedd gorchwyl ar yr un diwrnod.

Wrth ymateb i’r Gyllideb Ddrafft, dywedodd Peredur Owen Griffiths AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid:

"Mae’r ansicrwydd o ran y darlun cyllidol ac economaidd yn y DU wedi arwain at heriau sylweddol i Lywodraeth Cymru wrth wneud ei pharatoadau ar gyfer y gyllideb, gyda safonau byw yn debygol o brofi’r cwymp mwyaf sydd erioed wedi’i gofnodi.

“Mae'r Gweinidog wedi cyflwyno nifer o fesurau i gefnogi aelwydydd, gwasanaethau cyhoeddus a busnesau i ddelio â'r argyfwng costau byw, y cynnydd mewn costau ynni ac effaith chwyddiant uchel.

“Bydd y Pwyllgor yn gofyn i'r Gweinidog amddiffyn y penderfyniadau cyllido y mae wedi'u gwneud ac egluro sut y bydd y gyllideb hon yn lleddfu pwysau costau a lleihau niwed chwyddiant hanesyddol."

 

Bydd y Pwyllgor Cyllid hefyd yn cynnal y sesiynau tystiolaeth ar y Gyllideb ar y 12 a 19 o Ionawr.

Mae'r Senedd hefyd wedi cyhoeddi amserlen llawn o’r broses craffu sydd yn cydfynd gyda erthygl gan yr adran ymchwil sy’n amlinellu proses y Gyllideb a blaenoriaethau’r Llywodraeth.