darnau arian £1

darnau arian £1

Pwyllgor Cyllid yn croesawu Cadeirydd newydd Swyddfa Archwilio Cymru

Cyhoeddwyd 11/01/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/01/2023   |   Amser darllen munudau

Mae penodiad Dr Kathryn Chamberlain fel Cadeirydd newydd Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) wedi’i gadarnhau. 

Cafodd y penodiad hwn, a gafodd ei argymell i’r Senedd gan y Pwyllgor Cyllid, ei gymeradwyo a’i gadarnhau drwy bleidlais yn y Cyfarfod Llawn a gynhaliwyd ddydd Mercher 11 Ionawr. Bydd cyfnod y Cadeirydd newydd yn dechrau ar 16 Mawrth 2023 a bydd yn para tan 15 Mawrth 2027.  

Ar hyn o bryd, Dr Kathryn Chamberlain yw Prif Weithredwr yr Awdurdod Monitro Annibynnol ar gyfer Cytundebau Hawliau Dinasyddion. 

Yn flaenorol, bu’n gwasanaethu fel Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, ac mae adroddiad y Pwyllgor yn tynnu sylw at ei phrofiad helaeth mewn rolau gweithredol ac anweithredol dros nifer o flynyddoedd.  

Dywedodd Peredur Owen Griffiths AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid: “Ar ran y Pwyllgor Cyllid, hoffwn longyfarch Dr Kathryn Chamberlain a’i chroesawu i’w rôl newydd fel Cadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru.  

“Mae ganddi brofiad ac arbenigedd helaeth, a bydd yn ychwanegiad amhrisiadwy i Fwrdd Swyddfa Archwilio Cymru. Edrychaf ymlaen at gydweithio â hi ac i weld sut y bydd yn mynd ati i gyflawni rôl y Cadeirydd. 

“Hoffwn ddiolch hefyd i Lindsay Foyster, y Cadeirydd presennol, am ei hymrwymiad a’i gwaith caled yn ystod cyfnod heriol yn y rôl. Mae’r Pwyllgor yn gwerthfawrogi ei gwasanaeth ar ran y sefydliad ac yn dymuno’r gorau iddi ar gyfer y dyfodol.” 

Dywedodd Dr Kathryn Chamberlain, y Cadeirydd newydd: “Rwy'n falch iawn o gael y cyfle i fod yn Gadeirydd ar Fwrdd Swyddfa Archwilio Cymru, ac rwy’n edrych ymlaen at ddechrau ar y gwaith.  

“Yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni, mae gwariant y Llywodraeth o dan y chwyddwydr i raddau nas gwelwyd cynt, ac rwyf wedi ymrwymo’n llwyr i sicrhau bod trethdalwyr Cymru yn cael gwerth am arian gan y sector cyhoeddus.” 

Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton: “Hoffwn longyfarch Dr Chamberlain a’i chroesawu i Fwrdd Swyddfa Archwilio Cymru a’i rôl fel Cadeirydd. 

“Mae hwn yn gyfnod heriol iawn i gyllid y sector cyhoeddus yng Nghymru ac mae archwilio i sicrhau fod arian cyhoeddus yn cael ei reoli’n dda, ei fod yn diwallu anghenion pobl a’i fod yn grymuso gwelliant, erioed wedi bod mor hanfodol. Edrychaf ymlaen at weithio gyda Kate a Bwrdd SAC i gyflawni ein huchelgeisiau strategol. 

“Hoffwn hefyd ddiolch i’r Cadeirydd sy’n gadael, Lindsay Foyster, am yr ymroddiad a’r arweiniad y mae hi wedi’u cynnig i Fwrdd SAC ac i mi’n bersonol. Rwy’n dymuno’n dda iddi ar gyfer y dyfodol.” 

Mae'r Pwyllgor Cyllid hefyd wedi penodi Dr Kathryn Chamberlain yn Aelod Anweithredol o Fwrdd Swyddfa Archwilio Cymru am gyfnod o bedair blynedd, rhwng 16 Mawrth 2023 a 15 Mawrth 2027.  

Yn ogystal, gwnaeth y Pwyllgor ailbenodi David Francis yn Aelod Anweithredol o Fwrdd Swyddfa Archwilio Cymru am yr un cyfnod o amser. Yn wahanol i rôl y Cadeirydd, y Pwyllgor sy’n gwneud y penodiadau hyn, ac nid yw’n ofynnol iddynt gael eu cymeradwyo gan y Senedd. 

Gellir darllen manylion y prosesau recriwtio yn adroddiad y Pwyllgor Cyllid