Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ymchwiliad i addasiadau yn y cartref

Cyhoeddwyd 11/12/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ymchwiliad i addasiadau yn y cartref

11 Rhagfyr 2012

Mae Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi dechrau ymgynghoriad cyhoeddus i gynorthwyo ei ymchwiliad i addasiadau yn y cartref yng Nghymru.

Bydd y Pwyllgor yn ystyried:

  • Pam bod yr amser a dreulir yn dosbarthu cymhorthion ac addasiadau a ariennir gan Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl yn amrywio’n sylweddol ledled Cymru?

  • A wnaed cynnydd digonol wrth weithredu argymhellion adroddiad y Pwyllgor Cyfle Cyfartal yn 2009 ar addasiadau yn y cartref?

  • Pa effaith y mae gostyngiad mewn adnoddau ar gyfer tai yn debygol o’i chael ar ddarparu addasiadau yn y cartref?

  • A yw Llywodraeth Cymru yn monitro’n effeithiol y modd y mae gwasanaethau addasu yn cael eu darparu?

  • Beth mwy sydd angen ei wneud i wella gwasanaethau addasu yn y cartref yng Nghymru?

Dywedodd Ann Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, “Mae colli eich annibynniaeth o ganlyniad i anaf, salwch neu ddiffyg symudedd wrth fynd yn hyn yn gallu bod yn anodd iawn. Felly, mae’n bwysig bod y systemau a’r offer a all helpu i gadw unigolion yn annibynol yn gweithio’n dda a’u bod yn cael eu gosod mewn modd amserol a chyfleus.

“Rydym am glywed am brofiadau pobl ledled Cymru mewn perthynas â’r mater hwn. Rwy’n annog unrhyw un sydd wedi defnyddio gwasanaethau addasu’r cartref, neu sydd wedi ymwneud â hwy, boed hynny ar eu cyfer hwy neu ar gyfer ffrind neu berthynas, i ddweud eu dweud.”

Dylai unrhyw un sydd am gyfrannu at yr ymgynghoriad naill ai e-bostio: pwyllgor.ccll@cymru.gov.uk neu ysgrifennu at: Clerc y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1NA.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau yw dydd Gwener, 1 Chwefror.