Pwyllgor Cynulliad yn ymateb i adolygiad Ofcom o Ddarlledu Gwasanaeth Cyhoeddus
Heddiw (ddydd Iau) cyhoedda Is-bwyllgor Darlledu Cynulliad Cenedlaethol Cymru – is-bwyllgor o’r Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant - ei ymateb i ail gam adolygiad Ofcom o ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus.
Argymhelliad yr ymateb gan yr is-bwyllgor yw bod arian ychwanegol yn cael ei ganfod i gynnal y ffynhonnell ar gyfer darlledu gwasanaeth cyhoeddus y tu hwnt i’r BBC, a bod cronfa ar gyfer cynnwys gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru yn cael ei sefydlu i fod yn gyfrifol am dalu arian am gynnwys darlledu gwasanaeth cyhoeddus. Mae’n argymell hefyd, os dymuna ITV dynnu’n ôl o’i oblygiadau gwasanaeth cyhoeddus, ac ildio’i drwydded, y dylai’r drwydded ar gyfer Sianel 3 yng Nghymru fod ar wahân i’r drwydded ar gyfer Sianel 3 yn Lloegr a’i hysbysebu ar wahân, gyda darpariaeth benodol am wasanaeth cyhoeddus, ac y dylai Ofcom ei gwneud yn ofynnol i Channel 4 gomisiynu o leiaf 5% o’r rhaglenni mae’n eu cynhyrchu, o Gymru.
Rhai argymhellion eraill a wnaethpwyd gan yr is-bwyllgor yn ei ymateb yw:
Dylai cyfuniad o’r ‘dull gweithredu Esblygiad’ a’r ‘dull gweithredu Ariannu Cystadleuol’ a ddisgrifir yn nogfen ymgynghorol Ofcom fod yn fodel priodol ar gyfer y dyfodol;
Dylai ITV1 yn benodol barhau i fod â chyfrifoldebau am wasanaeth cyhoeddus hyd at o leiaf 2014, ac yna dylid sicrhau bod trwydded ar wahân ar gyfer Cymru;
Dylai Ofcom ystyried anghenion penodol Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon mewn cysylltiad ag ariannu cynnwys y gwasanaeth cyhoeddus sy’n berthnasol i bob cenedl – argymhella’r is-bwyllgor bod arian sylweddol o wahanol ffynonellau’n cael ei ddefnyddio i gefnogi cronfa gynnwys darlledu gwasanaeth cyhoeddus;
Dylid cyrraedd y targed o 5% o gynyrchiadau rhwydwaith yn y BBC o Gymru erbyn 2012 yn hytrach na 2016, a dylid monitro’r BBC gan Ofcom a sicrhau eu bod yn atebol am y targed hwnnw;
O gofio’i bwysigrwydd i gynulleidfaoedd yng Nghymru, a diffyg unrhyw ddarpariaeth arall ar hyn o bryd, dylai lefel cynnyrch presennol ITV Wales gael ei gadw hyd 2012 o leiaf;
Dylai Ofcom ail-ystyried ei gymeradwyaeth i gynigion ITV i ostwng ei gynnyrch ‘heb fod yn newyddion’ ar gyfer ITV yng Nghymru, a phwyso am ymrwymiad parhaus gan ITV am 5 awr ac 20 munud o raglenni newyddion a 3 awr o raglenni ‘heb fod yn newyddion’ bob wythnos;
Dylai Ofcom sicrhau bod S4C ar gael yn fyd eang yn dilyn trosglwyddo i ddigidol, ac na ddylai trosglwyddo i ddigidol ddigwydd yng Nghymru oni bai bod 97% o'r wlad yn gallu derbyn DAB;
Dylai Ofcom ystyried ceisiadau am drwyddedu radio cymunedol gan ei bwyllgor cynghori yng Nghymru;
Dylai Ofcom gomisiynu arolwg o raglenni Channel 4 a newyddion ITN i fesur y sylw a roddir i Gymru yn eu gwasanaethau.
Nid yw dogfen ymgynghorol Ofcom yn ymdrin â sut mae Cymru’n cael ei phortreadu ar wasanaethau’r rhwydwaith. Mae Adroddiad King y BBC, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2008, eisoes wedi arwain at welliant yn y modd mae adroddiadau am Gymru’n cael eu cyfleu mewn rhaglenni newyddion a materion cyfoes rhwydwaith y BBC. Mae’r Is-bwyllgor yn gofyn i Ofcom gomisiynu arolwg tebyg o raglenni Channel 4, ac o wasanaeth newyddion ITN ar gyfer ITV, er mwyn mesur y sylw a gaiff Cymru yn eu gwasanaethau.
Caiff yr Is-bwyllgor Darlledu ei gadeirio gan Nerys Evans AC a’i aelodau eraill yw Peter Black AC, Paul Davies AC a Joyce Watson AC.
Mae copïau o’r adroddiad ar gael gan:
Y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant
Gwasanaeth y Pwyllgorau
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
CF99 1NA
Ffôn: 029 2089 8429
E-bost: annette.millett@wales.gsi.gov.uk
Bydd copi electronig o’r adroddiad hwn ar gael ar wefan y pwyllgor