Pwyllgor i graffu ar waith Gweinidog

Cyhoeddwyd 05/11/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor i graffu ar waith Gweinidog

Bydd Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn craffu ar waith y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol ar faterion allweddol o fewn ei bortffolio yn ei gyfarfod nesaf ddydd Mercher 7 Tachwedd. Dyma’r tro cyntaf y mae’r Gweinidog wedi ymddangos gerbron y Pwyllgor ers yr etholiad.   Mae’r materion a nodwyd gan y Pwyllgor i’w trafod yn cynnwys:
  • Pwerau newydd arfaethedig i’r Cynulliad wneud deddfwriaeth mewn cysylltiad â materion yn ymwneud ag awdurdod lleol yn cynnwys strwythurau a therfynau;
  • Gwybodaeth i’r cyhoedd ar safon Gwasanaethau Llywodraeth Leol
  • Gwasanaethau Tân ac Achub;
  • Arian Llywodraeth Leol yn cynnwys help i bensiynwyr gyda’u Treth Gyngor;
  • Arian ar gyfer trefniadau Cyflog Cyfartal Llywodraeth Leol;
  • Camddefnyddio Sylweddau.
Bydd y Pwyllgor hefyd yn penderfynu ar y ffordd orau o barhau â deiseb gan Sefydliad Aren Cymru sy’n galw am gynyddu nifer y rhoddwyr organau yng Nghymru. Trosglwyddwyd y ddeiseb i’r Pwyllgor hwn gan y Pwyllgor Deisebau.   Cynhelir y cyfarfod yn Ystafell Bwyllgora 2, y Senedd rhwng 9.30am a 11.30am. Manylion llawn ac agenda