Pwyllgor Senedd yn galw am weithredu i fynd i’r afael â’r argyfwng tlodi tanwydd

Cyhoeddwyd 18/05/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 19/05/2022   |   Amser darllen munudau

Mae adroddiad gan bwyllgor y Senedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar unwaith helpu’r tlotaf yng Nghymru allu twymo eu cartrefi.

Mae 14% o aelwydydd Cymru yn byw mewn tlodi tanwydd ac y gallai’r niferoedd hyn godi i 45% o aelwydydd yn dilyn y cynnydd yn y cap ar brisiau ynni ym mis Ebrill 2022. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth o gymunedau ledled Cymru sydd yn poeni’n arw am sut byddent fedru talu eu biliau gaeaf yma.

Mae Llywodraeth Cymru yn diffinio ‘tlodi tanwydd’ pan fydd aelwydydd yn gorfod talu mwy na 10% o’u hincwm ar wresogi eu cartref.

Dywedodd Jenny Rathbone AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol:  

“Mae tlodi tanwydd nawr yn argyfwng cenedlaethol gyda phrisiau egni, yn enwedig prisiau nwy, yn parhau i godi. Os fod Llywodraeth Cymru yn ddifrifol eisiau helpu pobl sy’n dioddef o dlodi tanwydd gaeaf yma, mae’n rhaid mabwysiadu mesurau brys i wella inswleiddio tai nid yw rhai teuluoedd medru fforddio eu cynhesu.” 

Dywedodd John Williams, o Abertawe, sydd yn byw mewn tlodi tanwydd:  

“Dwi ‘di diffodd y gwres ers hir, dwi’n ceisio defnyddio’r tegell cyn lleied â phosibl a dwi heb ddefnyddio’r sychwr dillad ers rhai misoedd. I fod yn onest, os alla’i dreulio’r diwrnod tu allan y tŷ i arbed egni yna fe wna’i. 

“Mae fy iechyd meddwl a fy ngor-bryder wedi mynd gymaint gwaeth yn ddiweddar. Dwi jest yn ymdopi ar hyn o bryd ond os ydy’r prisiau’n codi eto, bydda’i wir mewn trwbl.” 

Galwodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar Lywodraeth Cymru i ddysgu o’u hymdrechion blaenorol i leihau tlodi tanwydd ar ôl i’r ymchwiliad ddarganfod llu o broblemau yn eu Rhaglen Cartrefi Clyd. 

Crëwyd Rhaglen Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru, sy'n cynnwys dau gynllun, sef 'Nyth' ac 'Arbed', yn benodol ar gyfer aelwydydd sydd naill ai mewn tlodi tanwydd neu sydd mewn perygl o fod mewn tlodi tanwydd.  

Cynlluniwyd Arbed a Nyth i ddarparu systemau gwres canolog fel boeleri, paneli solar, inswleiddio a goleuadau ynni effeithlon i alluogi pobl i arbed arian ar eu biliau. 

Ond mae’r adroddiad a gyhoeddir heddiw yn datgelu bod cyrhaeddiad, maint a phwrpas y rhaglenni hyn wedi methu ag ymateb i lefel yr angen yng Nghymru.   

Ychwanegodd Jenny Rathbone MS:  

“Roedd nodau rhagorol i’r Rhaglen Cartrefi Clyd i leihau tlodi tanwydd ac allyriadau carbon, ond mae’r adroddiad hwn yn dangos ei bod – mewn sawl ffordd – wedi bod yn fethiant. Mae’r dystiolaeth yn dangos na chyrhaeddodd y cymorth a ddarparwyd gan y rhaglen hon lawer o bobl yr oedd angen y cymorth hwn arnynt fwyaf.   

“Rhaid i’r rhaglen nesaf fod yn llawer mwy o ran maint a gwneud gwaith gwell i dargedu’r rhai sydd angen cymorth. Dylai hefyd anelu at fod yn llawer mwy gwyrdd – dim jest darparu boeleri nwy i bobl.” 

Wrth roi tystiolaeth i’r Pwyllgor, roedd Gofal a Thrwsio Cymru yn beirniadu’r ffocws ar osod boeleri nwy a’r gyfran isel o ymyriadau a oedd yn ymwneud ag inswleiddio:  

“Nid yw gosod boeleri newydd yn lle rhai diffygiol yn golygu na fydd cartref bellach yn cael trafferth gyda thlodi tanwydd os yw gwres yn dal i ddianc o’u heiddo a bod eu biliau ynni’n parhau’n uchel oherwydd hynny. Mae gosod systemau gwresogi newydd mewn cartrefi sydd heb eu hinswleiddio yn union fel prynu tebot â chraciau ynddo.” 

 


 

Tlodi tanwydd a’r Rhaglen Cartref Clyd

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn