Pwyllgor y Cynulliad i drafod lwfansau cynghorwyr

Cyhoeddwyd 07/03/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor y Cynulliad i drafod lwfansau cynghorwyr Bydd Pwyllgor Llywodraeth Leol y Cynulliad yn craffu ar reoliadau newydd o ran lwfansau cynghorwyr ac yn trafod mesur perfformiad mewn awdurdodau lleol yn ei gyfarfod nesaf.     Bydd y Pwyllgor hefyd yn trafod cynnydd awdurdodau lleol o ran hyrwyddo cydraddoldeb gyda llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar gydraddoldeb, y Cyng Cheryl Green a phrif weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.  Bydd yn derbyn papur ynghylch y newid i’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol newydd, sydd i’w sefydlu ym mis Hydref eleni.  Comisiwn y DU fydd hwn gyda Phwyllgor Cymru yn cael ei gadeirio gan gomisiynydd Cymru.                             Yn yr un cyfarfod bydd Aelodau yn ystyried diwygiadau i’r Mesur Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd sy’n ymwneud â Chymru, yn craffu ar reoliadau Strategaethau Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles Llywodraeth Cynulliad Cymru ac yn trafod Cynllun Gofodol Cymru.            Cynhelir y cyfarfod am 9am, ddydd Mercher 7 Mawrth yn Ystafell Bwyllgora 2, y Senedd, Bae Caerdydd. Manylion llawn ac agenda