Rhaglen gwerth £500 miliwn i ddigideiddio cofnodion papur ar gyfer cleifion yng Nghymru ar ei hôl hi gyda’r potensial o roi cleifion mewn peryg

Cyhoeddwyd 08/11/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 08/11/2018

Rhaglen gwerth £500 miliwn i ddigideiddio cofnodion papur ar gyfer cleifion yng Nghymru ar ei hôl hi gyda’r potensial o roi cleifion mewn peryg.

Stethoscope-keyboard


Mae rhaglen i ddigideiddio cofnodion cleifion yng Nghymru eisoes yn rhy hen, yn dueddol o fethu’n aml gan beri pryder a risg i gleifion, yn ôl Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

 
Nod Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yw integreiddio systemau Technoleg Gwybodaeth ar draws holl fyrddau iechyd Cymru gan ddefnyddio datrysiadau newydd arloesol, er mwyn lleihau biwrocratiaeth, arbed amser arian a gwella’r driniaeth a roddir i gleifion.


Ers cynllunio Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yn gyntaf yn 2003, canfu’r Pwyllgor fod cynhyrchion technolegol eraill wedi cael eu lansio a’u mireinio tra bod staff meddygol yng Nghymru o dan straen wrth ddefnyddio systemau TG hen ffasiwn a bregus nad ydynt yn cyflawni’r hyn a addewir.


Yn 2016, amcangyfrifwyd y byddai datblygu a chyflwyno’r systemau newydd ym mhob un o fyrddau iechyd Cymru yn costio £484 miliwn. Ni welodd y Pwyllgor fawr ddim tystiolaeth yn dangos o ble y deuai’r arian hwn ac a fyddai unrhyw gyllid ychwanegol yn cael ei ddyrannu i’r GIG neu a fyddai angen i’r arian ddod o’r adnoddau cyfredol.
Dim ond 10 y cant o gyllideb Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru sy’n cael ei wario ar arloesedd tra bod cyfran llawer mwy yn cael ei gwario ar drwsio a chynnal systemau sy’n bell ar ei hôl hi.


Roedd y Pwyllgor yn arbennig o bryderus am fregusrwydd System Gwybodaeth Rhwydweithiau Canser Cymru, sef y system a ddefnyddir i olrhain triniaeth a llesiant cleifion canser yng Nghymru.
Mae System Gwybodaeth Rhwydweithiau Canser Cymru yn defnyddio meddalwedd nad yw Microsoft wedi’i chefnogi ers 2014. Er bod y feddalwedd yn rhy hen i bob pwrpas ac yn agored i risg o ymosodiadau seiber, nid oes system newydd wedi’i chyflwyno yn ei lle hyd yma.


Yn ôl bwrdd iechyd Caerdydd a’r Fro, nid oedd modd defnyddio’r system am dri diwrnod yn ystod mis Awst eleni.


Yn ôl Canolfan Canser Felindre,


“ni roddwyd triniaeth cemotherapi i un claf gan nad oedd canlyniadau profion gwaed ar gael a chafodd triniaeth radiotherapi ei ohirio ar gyfer wyth claf hefyd.”


Ar y cyfan, methodd systemau ar draws GIG Cymru unwaith bob naw diwrnod yn ystod chwe mis cyntaf 2018. Rhoddwyd sicrwydd i’r Pwyllgor nad oedd risg i unrhyw gleifion o ganlyniad i hyn. Ond yn ôl cofnod digwyddiadau y Gwasanaeth Gwybodeg ei hun,


“Roedd cynnydd yn y risg i gleifion mewn apwyntiadau meddygon teulu, gan beri pryder i glinigwyr a chleifion oherwydd nad oedd modd gweld holl gofnodion y cleifion. Roedd cynnydd o ran oedi hefyd wrth ymdrin â phobl mewn adrannau Cleifion Allanol, Achosion Brys, Endosgopi a Theatrau. Roedd yn rhaid i rai cleifion ail-wneud profion diagnostig gan nad oedd modd prosesu rhai samplau patholegol.”

 

Lady-on-phone-bad-news


Roedd y Pwyllgor hefyd yn pryderu am adroddiadau ‘gorgadarnhaol’ ar gynnydd gan y Prif Weithredwr sy’n gyfrifol am gynnal y Gwasanaeth Gwybodeg, a nododd fod gan y gwasanaeth uchelgais ‘o’r radd flaenaf’, a hynny er gwaetha’r ffaith bod prosiectau naill ai’n bell ar ei hôl hi, neu ar amser dim ond am fod yr amserlen wedi newid.


“Yn 2003, nid oedd yr iPhone wedi’i ddyfeisio ac nid oedd Gmail na Skype wedi dod yn boblogaidd eto,” meddai Nick Ramsay AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.


“Y flwyddyn honno, lansiwyd y Strategaeth Hysbysu Gofal Iechyd, â’r syniad o gael cofnod cleifion electronig i Gymru wrth wraidd iddi.


“Mae’r prosiectau technolegol arloesol eraill a gyflwynwyd y flwyddyn honno nid yn unig wedi’u cyflawni, ond mae sawl prosiect newydd wedi rhagori arnynt, ac eto mae GIG Cymru yn dal ymhell o gyflawni porth electronig diffwdan ar gyfer cofnodion cleifion.


“Mae ein hymchwiliad wedi codi cwestiynau difrifol ynglŷn â chymhwysedd, gallu a chapasiti’r system iechyd i newid y drefn o ran gwasanaethau gofal iechyd digidol yng Nghymru.


“Ac eto, gwelom ddiwylliant o hunansensoriaeth a gwadu ymhlith y rheini sy’n gyfrifol am fwrw ymlaen â’r agenda, o fewn y Gwasanaeth Gwybodeg ei hun yn ogystal â’i bartneriaid yn y byrddau iechyd a Llywodraeth Cymru.”


Mae’r Pwyllgor yn gwneud pum argymhelliad yn ei adroddiad, gan gynnwys:


- Roedd y Pwyllgor yn pryderu’n fawr am y dystiolaeth a glywyd ar fethiannau systemau, seilwaith a chydnerthedd. O ystyried tystiolaeth ddiweddar o fethiannau pellach ers i ni dderbyn tystiolaeth, hoffem gael sicrwydd pellach gan Lywodraeth Cymru bod eu systemau yn gadarn. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno amserlen eglur ar gyfer sefydlogi seilwaith digidol GIG Cymru;


- Yn y trafodaethau ar y defnydd o gyfrifiadura cwmwl ac effaith methiannau diweddar, roedd yn peri pryder mawr iawn, pan ymddengys bod gan lawer o systemau defnyddwyr berfformiad ac amser gweithredol cadarn, bod GIG Cymru yn cael trafferth yn rhedeg ei ganolfannau data ei hun gydag 21 o fethiannau yn ystod 6 mis cyntaf 2018, sef un methiant bob naw diwrnod. Mae’r Pwyllgor yn argymell adolygiad o gapasiti Uwch-arweinwyr o ran eu sgiliau a dulliau llywodraethu yng Ngwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru a Thîm Digidol ehangach y GIG; ac


- Mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru wedi’i orymestyn ar hyn o bryd, ac mae gwella yn golygu llawer mwy na thywallt mwy o arian i mewn i’r sefydliad presennol, sy’n annhebygol o gyflawni canlyniadau sylweddol wahanol. Rydym yn argymell y dylai unrhyw gyllid ychwanegol a ddyrennir i Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru fod yn gysylltiedig ag ad-drefnu i gyflawni’r gwelliannau sy’n ofynnol.


Caiff yr adroddiad ei ystyried yn awr gan Lywodraeth Cymru.


  Darllen yr adroddiad llawn:

 

Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Systemau Gwybodeg GIG Cymru (PDF, 1 MB)