Rhagor o bwerau i’r Cynulliad i gryfhau effeithiolrwydd llywodraethu ysgolion

Cyhoeddwyd 02/02/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Rhagor o bwerau i’r Cynulliad i gryfhau effeithiolrwydd llywodraethu ysgolion

Dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru gael rhagor o bwerau er mwyn iddo allu cyflwyno deddfau newydd i gryfhau rôl llywodraethwyr ysgolion.

Dyna farn Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 4 y Cynulliad sydd wedi cymeradwyo Gorchymyn arfaethedig Cymhwysedd Deddfwriaethol (Addysg) 2010.

Bydd y gorchymyn yn galluogi’r Cynulliad i ddeddfu (ar ffurf Mesurau Cynulliad) ar mewn meysydd sy’n cynnwys rhoi cymorth a chyngor i lywodraethwyr, hyfforddi llywodraethwyr a’r berthynas rhwng effeithiolrwydd llywodraethwyr a sut y mae ysgol yn perfformio.

Ar hyn o bryd, nid oes gan y Cynulliad Cenedlaethol bwerau i greu Mesurau i roi sylw i’r materion hyn.

“Bydd y Gorchymyn arfaethedig hwn yn gwella effeithiolrwydd llywodraethu ysgolion,” meddai Mike German AC, Cadeirydd y Pwyllgor.

“Bydd yn galluogi Llywodraeth Cymru i gyflwyno Mesurau a fydd yn cryfhau’r modd y mae’n medru dylanwadu ar y broses o lywodraethu ysgolion.”

“Bydd yn sicrhau bod y broses o lywodraethu yn cyd-fynd yn well â chyfeiriad polisi addysg yng Nghymru, sy’n fwyfwy gwahanol i bolisïau rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig.”

Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Addysg) 2010 (PDF)

Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 4