Rheolaeth ariannol y llywodraeth yn gwella, ond mae angen gwneud mwy, medd y Pwyllgor Archwilio

Cyhoeddwyd 20/12/2006   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Rheolaeth ariannol y llywodraeth yn gwella, ond mae angen gwneud mwy, medd y Pwyllgor Archwilio

Mae safonau rheolaeth ariannol yn y llywodraeth a chyrff y GIG yng Nghymru yn dda ac yn gwella o hyd, yn ôl adroddiad newydd gan Bwyllgor Archwilio Cynulliad Cenedlaethol Cymru a gyhoeddir heddiw (dydd Mercher, Rhagfyr 20). Fodd bynnag mae angen gwelliannau o hyd mewn rhai meysydd yn cynnwys grantiau, rheoli asedau ac ansawdd dulliau paratoi cyfrifon. Mae’r adroddiad yn dweud y bydd yn bwysig fod trefniadau rheolaeth ariannol cadarn wedi’u sefydlu i gefnogi’r strwythur datganoledig newydd yn dilyn gweithredu Deddf Llywodraeth Cymru.                                                                              Canfu’r Pwyllgor fod camau pendant wedi’u cymryd o ran caffael yn y sector cyhoeddus ac i ddatblygu systemau Rhyddid Gwybodaeth, ond mae rhai problemau o hyd yn bodoli gyda rheoli prosiectau’r Undeb Ewropeaidd. Mae’r adroddiad yn croesawu cynnydd cadarnhaol a wnaethpwyd gan gyrff y llywodraeth i ateb cyfyngiadau i gyflwyno cyfrifon blynyddol ynghynt.  Fodd bynnag, mae archwilwyr yn dal i weld diffygion yn ansawdd y cyfrifon hynny ac nid yw’r wybodaeth sy’n gefndir i’r cyfrifon bob amser yn gywir neu’n gyflawn.                                          Mae’r adroddiad yn argymell y dylai Llywodraeth y Cynulliad, wrth lunio ei hamserlenni a’i chynlluniau prosiect cyffredinol ar gyfer paratoi ei gyfrifon blynyddol, ddarparu’n ddigonol i reolwyr adolygu a sicrhau ansawdd y cyfrifon cyn eu cyflwyno i gael eu harchwilio.                                                    Mae hefyd yn galw am dynhau’r system rheoli grantiau, ac am well systemau gwybodaeth ar gyfer canfod cynnydd a wneir gyda cheisiadau Rhyddid Gwybodaeth.      Dywedodd Janet Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio: “Mae’r Pwyllgor yn falch o weld perfformiad rheolaeth ariannol gwell y llywodraeth . Fodd bynnag, rhaid i ni weld yr arferion rheolaeth ariannol cadarn yn cael eu gweithredu i ymdopi â phwerau cynyddol y Cynulliad o fis Mai 2007.”