Dyn yn ystod sesiwn therapi

Dyn yn ystod sesiwn therapi

‘Rhwystr triphlyg’ anghydraddoldeb iechyd meddwl: Pwyllgor Iechyd y Senedd yn lansio ymchwiliad

Cyhoeddwyd 10/01/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/01/2022   |   Amser darllen munudau

Heddiw, mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd yn lansio ymchwiliad newydd, sy'n canolbwyntio ar anghydraddoldebau iechyd meddwl ar draws gwahanol grwpiau yn y gymdeithas.

Bydd yr ymchwiliad yn canolbwyntio ar brofiadau pobl sy'n cael eu heffeithio'n anghymesur gan iechyd meddwl gwael yng Nghymru ac yn edrych ar yr hyn sy’n rhwystro mynediad at wasanaethau iechyd meddwl.

Yn rhinwedd ei rôl o ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif ar ran pobl Cymru, mae'r Pwyllgor yn ystyried i ba raddau y mae polisi Llywodraeth Cymru yn cydnabod anghenion iechyd meddwl y grwpiau hyn, ac yn mynd i’r afael â’r anghenion hynny.

Yn ôl y Ganolfan Iechyd Meddwl, mae anghydraddoldeb iechyd meddwl yn rhwystr triphlyg sy'n effeithio ar nifer fawr o bobl o wahanol rannau o'r boblogaeth:

  • Mae rhai grwpiau o bobl yn wynebu risg anghymesur o iechyd meddwl gwael. Yn aml, mae hyn yn gysylltiedig ag anghydraddoldebau yn y gymdeithas.
  • Gall grwpiau sydd â lefelau arbennig o uchel o iechyd meddwl gwael wynebu’r anawsterau mwyaf o ran mynediad at wasanaethau.
  • Pan fyddan nhw yn cael cefnogaeth, mae eu profiadau a'u canlyniadau yn aml yn waeth.

 



Cymerwch ran

Dysgwch ragor am yr ymgynghoriad cyhoeddus a rannu eich barn am sut y gellid lleihau anghydraddoldebau iechyd meddwl..

Dysgwch ragor am yr ymgynghoriad

 


Yn ôl Russell George AS, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

“Heddiw, rydym yn lansio ymchwiliad i fynd at waelod anghydraddoldebau iechyd meddwl ledled Cymru. Dyw hi ddim yn iawn bod rhai pobl yn y gymdeithas yn meddu ar risg anghymesur o iechyd meddwl gwael, ac maen nhw’n aml yn ei chael hi'n anodd cael yr help a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw.

“Rydym yn gwybod, er enghraifft, bod plant o'r 20% tlotaf o aelwydydd bedair gwaith yn fwy tebygol o gael anawsterau iechyd meddwl difrifol erbyn eu bod yn 11 oed na'r rheini o'r 20% cyfoethocaf.

“Rydym eisiau clywed profiadau’r rheini sydd wedi’u heffeithio a rhoi llais i grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol er mwyn ein helpu i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rydym eisiau defnyddio profiadau pobl ledled Cymru i’n helpu i bennu’r trywydd ar gyfer polisi Llywodraeth Cymru ar iechyd meddwl.”

Mae'r ymchwiliad yn cychwyn ar 10 Ionawr 2022, gyda galwad am dystiolaeth ysgrifenedig. Bydd y Pwyllgor yn clywed gan ystod eang o bobl dros y misoedd nesaf a bydd yn adrodd yn ddiweddarach yn y flwyddyn, gyda chanfyddiadau ac argymhellion.

 

Mae’r galwad am dystiolaeth ysgrifenedig yn cau ar Ddydd Iau, 24 Chwefror 2022.