#Steddfod2018 a Geraint Thomas yn dod â’r nifer fwyaf erioed o bobl i’r Senedd

Cyhoeddwyd 16/10/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/10/2018

Bu cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mae Caerdydd eleni yn fodd o ddod â'r nifer fwyaf erioed o bobl drwy ddrysau Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Bu 18,371 o bobl yn ymweld â'r Senedd, a oedd yn rhan o Faes Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018, a bu 29,285 o bobl yn ymweld â'r Pierhead.

Roedd y Senedd a'r Pierhead yn lleoliadau allweddol yn Eisteddfod Genedlaethol eleni, a gafodd ei gynnal rhwng 3 ac 11 o fis Awst. Roedd adeilad eiconig y Pierhead yn gartref i Shw'mae Caerdydd, y ganolfan ar gyfer dysgu Cymraeg ar Faes yr Eisteddfod, tra bu'r Senedd yn gartref i'r Lle Celf ynghyd â Phafiliynau'r Cymdeithasau.

Fel rhan o weithgareddau'r wythnos, caniatawyd i aelodau'r cyhoedd ymweld â phrif Siambr drafod y Cynulliad am y tro cyntaf erioed, a manteisiodd 5,595 o bobl ar y cyfle hwn. Yr uchafbwynt i lawer oedd cael y cyfle i eistedd yng nghadair y Llywydd i gael tynnu eu llun.

Yn adlewyrchu ar effaith yr Eisteddfod Genedlaethol, dywedodd y Llywydd, Elin Jones AC:

"Roedd yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mae Caerdydd yn gyfle bendigedig i ni, nid yn unig i gynnal rhai o brif weithgareddau'r Ŵyl, ond hefyd i groesawu cynifer o ymwelwyr newydd drwy'r drysau. 'Doedd hanner y rhai a ddaeth erioed wedi ymweld â'r Senedd o'r blaen. Roedd y digwyddiad yn llwyddiant arwyddocâol i ni, wrth inni ymgysylltu â phobl o bob cwr o Gymru ac ymwelwyr o'r tu hwnt.

O'r ymateb a gafwyd, roedd yn amlwg yn fodd gwerthawr o helpu pobl i wella eu dealltwriaeth o'r Cynulliad ac i gynyddu eu diddordeb yn ein gwaith. Mawr obeithiaf y bydd hyn yn arwain at gyfleoedd eraill, ac rwy'n edrych ymlaen at weld Eisteddfod yr Urdd yma fis Mai nesaf."

Un o uchafbwyntiau eraill yr wythnos i'r Cynulliad Cenedlaethol oedd y digwyddiad i groesawu Geraint Thomas enillydd y Tour de France eleni adref, pan ddiolchodd y Llywydd a'r Prif Weinidog iddo ar ran pobl Cymru ar risiau'r Senedd, o flaen y dyrfa frwdfrydig a chyffrous.

Dod â democratiaeth yn fyw i gynulleidfa newydd

Yn ogystal â bod yn gartref i sesiynau'r Cymdeithasau yn yr Eisteddfod, cynhaliodd y Cynulliad Cenedlaethol ei sesiynau ei hun drwy gydol yr wythnos, gan ddod â phynciau fel menywod ym maes gwleidyddiaeth a Pleidleisiau yn 16 i sylw cynulleidfa newydd. Darlledwyd y sesiynau hefyd yn fyw ar Facebook, a oedd yn caniatáu i bobl o bob cwr o'r byd weld y sesiynau.

Y flwyddyn nesaf, bydd y Senedd yn gartref i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, a gaiff ei chynnal o 27 Mai - 1 Mehefin 2019. Mae Eisteddfod yr Urdd yn ddigwyddiad diwylliannol pwysig i bobl ifanc yng Nghymru, a bydd yn y Senedd ym mlwyddyn gyntaf Senedd Ieuenctid Cymru newydd. Cyhoeddir rhagor o fanylion am Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn y Flwyddyn Newydd.

Mae manylion y digwyddiadau a'r arddangosfeydd a gaiff eu cynnal yn y dyfodol agos i'w gweld ar adran 'Beth sy'n digwydd' gwefan y Cynulliad Cenedlaethol, neu drwy ein dilyn ar Facebook, Twitter ac Instagram i gael y newyddion a'r cyhoeddiadau diweddaraf.