Swydd wag: Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru

Cyhoeddwyd 31/01/2025   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 31/01/2025

Archwilydd Cyffredinol Cymru yw archwilydd allanol statudol annibynnol y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. 

Mae Swyddfa Archwilio Cymru (WAO) yn gorff corfforaethol sy’n cynnwys Bwrdd statudol naw aelod sy’n cyflogi staff ac yn darparu adnoddau eraill i Archwilydd Cyffredinol Cymru, sydd hefyd yn Brif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu’r Bwrdd. Mae'r Bwrdd yn gyfrifol am fonitro a chynghori'r Archwilydd Cyffredinol wrth iddo arfer ei swyddogaethau. 

Gyda’i gilydd, mae’r Archwilydd Cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru yn gweithredu o dan hunaniaeth ambarel Archwilio Cymru. 

Mae’r Senedd am benodi i’r swydd gwag ar gyfer Aelod Anweithredol o Fwrdd Swyddfa Archwilio Cymru i ddechrau ar 1 Gorffennaf 2025 (£12,500 y flwyddyn, amhensiynadwy, 2-3 diwrnod y mis) 

Dyddiad cau: Dydd Gwener 7 Mawrth 2025 

Darganfyddwch mwy.