Trafnidiaeth Cymru – Datganiad gan Gadeirydd Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau'r Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 29/11/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 29/11/2018

Ar ôl sesiwn dystiolaeth y bore yma gyda Trafnidiaeth Cymru, mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau wedi cytuno i wneud rhagor o waith yn trafod yr achosion o darfu ar wasanaethau rheilffyrdd yr hydref hwn.

Train-arriving-cardiff


Clywodd y Pwyllgor y bore yma fod 36 o unedau (9 y cant o fflyd Cymru a'r Gororau) wedi'u tynnu o wasanaeth ar un adeg, gan achosi i drenau gael eu canslo ar draws Cymru.


Ar ôl y sesiwn, cytunodd y Pwyllgor i wneud y canlynol:


- Llunio adroddiad ar achosion o darfu ar y rheilffyrdd yn yr hydref;
- Ysgrifennu at ddeiliad blaenorol y fasnachfraint, sef Trenau Arriva Cymru, i gael ei farn;
- Ystyried data ychwanegol gan y cwmni Trafnidiaeth Cymru yn codi o'i ymchwiliadau parhaus i'r hyn a aeth o'i le.


Roedd y Pwyllgor eisoes wedi gwahodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth, i roi tystiolaeth ar y broses o drosglwyddo i'r fasnachfraint newydd yr wythnos nesaf.


Dywedodd Russell George AC, Cadeirydd y Pwyllgor:

 “Mae'r achosion o darfu ar y rheilffyrdd a gafwyd yr hydref hwn yn destun pryder mawr. Mae'r Pwyllgor wedi cytuno i ddwysáu'r gwaith roedd wedi bwriadu ei wneud i graffu ar y broses o drosglwyddo i fasnachfraint rheilffyrdd newydd, er mwyn sicrhau y caiff gwersi eu dysgu o'r problemau sydd wedi plagio wythnosau cyntaf cyfnod Trafnidiaeth Cymru.”