Un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol i gynnal ymchwiliad i farwenedigaethau

Cyhoeddwyd 28/03/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol i gynnal ymchwiliad i farwenedigaethau

28 Mawrth 2012

Bydd ymchwiliad newydd gan un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n ymchwilio i’r hyn syn cael ei wneud i leihau’r achosion o farwenedigaethau yng Nghymru.

Mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn galw am dystiolaeth fel rhan o’i ymchwiliad. Bydd yr ymchwiliad yn canolbwyntio ar ymwybyddiaeth o’r canllawiau presennol, y ffordd y cant eu rhoi ar waith a’u heffeithiolrwydd ar gyfer gweithwyr proffesiynol yn y maes meddygol a chleifion.

Yn ôl yr elusen Marwenedigaeth a Marwolaeth Cyn Geni, Sands, mae tua 4,000 o farwenedigaethau bob blwyddyn yn y DU, sy’n cyfateb i 11 bob dydd.


Mae marw-enedigaethau’n rhoi cyfrif am ddeg gwaith yn fwy o farwolaethau babanod na marwolaeth yn y crud.

“Mae union achos llawer o farwenedigaethau’n parhau i fod yn anesboniadwy er bod gwahanol ffactorau cyfrannol wedi’u henwi,” meddai Mark Drakeford AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

“Yn ystod yr ymchwiliad hwn, byddwn yn rhoi sylw arbennig i dwf gwael y ffetws a lleihad mewn symudiadau’r ffetws yn ogystal â pha welliannau posibl y gellir eu gwneud.

“Byddem yn croesawu unrhyw dystiolaeth gan bobl neu sefydliadau sydd â phrofiad o’r materion sensitif hyn.”

Gall unrhyw un sy’n dymuno cyflwyno tystiolaeth i’w ystyried fel rhan o’r ymchwiliad hwn ysgrifennu at: Glerc y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1NA; neu afon e-bost at, HSCCommittee@cymru.gov.uk.


Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno tystiolaeth yw dydd Gwener, 25 Mai 2012.