Un o Bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi adroddiad ar graffu ar gyfrifon

Cyhoeddwyd 06/03/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/03/2015

Mae Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi adroddiad ar ei waith craffu ar gyfrifon cyrff cyhoeddus, sy'n ceisio gwella llywodraethu, gwneud adrodd yn fwy tryloyw a sicrhau gwell gwerth am arian i drethdalwyr yn y dyfodol.  

Yn ychwanegol i Lywodraeth Cymru a Chomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru, y cyrff y cafodd eu cyfrifon eu hystyried gan y Pwyllgor oedd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Comisiynydd Plant Cymru, Comisiynydd y Gymraeg a Chyngor Celfyddydau Cymru.

Dywedodd Darren Millar AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus:

"Mae'n ofynnol i gannoedd o sefydliadau sy'n cael cyllid trethdalwyr yng Nghymru gyhoeddi cyfrifon ac adroddiadau blynyddol, ac mae'r rhain, ar y cyfan, yn cydymffurfio â gofynion adrodd, er efallai nad yw'r wybodaeth sydd ynddynt yn cael ei chraffu na'i deall cystal ag y gallai fod.

"Eleni, penderfynodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ystyried cyfrifon rhai o'r sefydliadau hyn fel rhan o becyn o ffyrdd newydd o weithio a gytunwyd gennym yn gynharach yn nhymor y Cynulliad."

Adroddiad Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Craffu ar Gyfrifon ar gyfer 2013-14 (PDF, 664KB)