Un o Bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol yn cynnal ymchwiliad i farw-enedigaethau yng Nghymru

Cyhoeddwyd 26/06/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Un o Bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol yn cynnal ymchwiliad i farw-enedigaethau yng Nghymru

26 Mehefin 2012

Bydd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ymchwiliad undydd i farw-enedigaethau yng Nghymru ddydd Iau 28 Mehefin.

Bydd yr ymchwiliad yn canolbwyntio ar ymwybyddiaeth, gweithrediaeth ac effeithiolrwydd canllawiau cyfredol ar gyfer gweithwyr meddygol proffesiynol a chleifion mewn cysylltiad â marw-enedigaethau.

Yn ôl Sands, yr elusen marw-enedigaethau a marwolaeth cyn geni, ceir tua 4,000 o farw-enedigaethau bob blwyddyn yn y DU, sy’n cyfateb i 11 bob dydd. Mae deg gwaith yn fwy o fabanod yn marw oherwydd marw-enedigaeth o gymharu â marwolaeth yn y crud.

Dywedodd Mark Drakeford AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, “Mae marwolaeth baban yn brofiad erchyll i unrhyw riant. Ni ellir esbonio union achos nifer o farw-enedigaethau er ein bod yn ymwybodol o nifer o ffactorau sy’n cyfrannu atynt”.

“Yn ystod ein hymchwiliad undydd byddwn yn canolbwyntio ar ddiffyg tyfiant y ffetws a llai o symudiadau gan y ffetws, yn ogystal â rhoi sylw i ba welliannau posibl y gellir eu gwneud i wasanaethau gofal ac iechyd.”