Un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol yn cynnal ymchwiliad i’r fframwaith gwasanaeth cenedlaethol ar gyfer diabetes.

Cyhoeddwyd 26/07/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol yn cynnal ymchwiliad i’r fframwaith gwasanaeth cenedlaethol ar gyfer diabetes.

26 Gorffennaf 2012

Bydd ymchwiliad newydd gan un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol yn ymchwilio i weithredu’r fframwaith gwasanaeth cenedlaethol ar gyfer diabetes yng Nghymru a’i gyfeiriad yn y dyfodol.

Mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn galw am dystiolaeth fel rhan o’i ymchwiliad i’r cynnydd a wnaed o ran gweithredu’r fframwaith gwasanaeth cenedlaethol ar gyfer diabetes yng Nghymru ar draws y byrddau iechyd lleol a’i ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd wrth atal diabetes a chynnig triniaeth ar ei gyfer.

Bydd y Pwyllgor hefyd yn ystyried y camau posibl sydd angen eu cymryd yn y dyfodol er mwyn gyrru’r agenda hwn yn ei flaen.

Cafodd ‘Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Diabetes yng Nghymru - Strategaeth Gyflawni’ ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2003. Mae’n gynllun 10 mlynedd sydd wedi’i ddylunio i fynd i’r afael â’r nifer gynyddol o achosion o ddiabetes, i wella gwasanaethau a sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i’r rhai sydd â’r cyflwr.

Mae diabetes yn gyflwr sy’n cael ei achosi gan ormodedd o lwcos yn y gwaed. Ceir dau brif fath o ddiabetes. Achosir Math 1 pan nad yw’r corff yn gallu cynhyrchu inswlin. Achosir Math 2 pan nad yw’r corff yn cynhyrchu digon o inswlin i weithio fel y dylai.

Mae dros 160,000 o bobl yng Nghymru yn dioddef o ddiabetes, gyda 66,000 o bobl yn ychwanegol sy’n dioddef o’r cyflwr ond sydd heb gael diagnosis eto. Os nad yw’n cael ei drin yn gywir, gall diabetes arwain at gymhlethdodau iechyd difrifol.

Dywedodd Mark Drakeford AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: "Mae diabetes yn effeithio ar filoedd o bobl o bob oedran yng Nghymru. Os nad yw’n cael ei drin yn gywir, gall arwain at glefyd y galon, strôc, dallineb ac afiechydon difrifol eraill."

"Bydd yr ymchwiliad hwn yn canolbwyntio ar sut mae’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Diabetes yng Nghymru wedi cael ei weithredu a pha mor llwyddiannus yr oedd wrth atal y cyflwr a chynnig triniaeth ar ei gyfer dros y naw mlynedd ers i’r fframwaith gael ei gyhoeddi.

"Byddem yn annog cymaint o unigolion a sefydliadau sydd â phrofiad yn y maes hwn â phosibl i gysylltu â ni i gael dweud eu dweud am y mater pwysig hwn."

Gall unrhyw un sy’n dymuno cyflwyno tystiolaeth i’w hystyried fel rhan o’r ymchwiliad naill ai ysgrifennu at: Clerc y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1NA; neu anfon e-bost at PwyllgorIGC@cymru.gov.uk.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau yw dydd Gwener 21 Medi 2012.