Un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol yn lansio ymgynghoriad ar Fil Safleoedd Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol (Cymru)

Cyhoeddwyd 05/11/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol yn lansio ymgynghoriad ar Fil Safleoedd Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol (Cymru)

05 Tachwedd 2012

Mae un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gofyn i’r cyhoedd am ei farn am Fil Aelod Cynulliad mainc gefn sy’n ceisio cyflwyno trefn trwyddedu a gorfodi newydd i safleoedd cartrefi symudol preswyl yng Nghymru.

Mae’r Memorandwm Esboniadol sy’n cyd-fynd â’r Bil yn nodi ei fod hefyd yn ceisio moderneiddio nifer o elfennau o’r berthynas gytundebol rhwng perchenogion cartrefi symudol a pherchenogion y safleoedd, a rhoi pwerau i Weinidogion Cymru gymeradwyo cod ymarfer ar reoli safleoedd, a gwneud rheoliadau rheoli.

Mae’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn galw am dystiolaeth wrth iddo ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil, sef y Bil cyntaf i gael ei gyflwyno gan Aelod mainc cefn yn y Pedwerydd Cynulliad.

Dyma rai o’r cwestiynau y bydd y Pwyllgor yn eu gofyn fel rhan o’r ymgynghoriad:

–a yw’r Bil yn angenrheidiol;

–a yw’n cyflawni’r diben a nodwyd ar ei gyfer;

–a yw’r darpariaethau allweddol a nodir yn y Bil yn briodol;

–beth yw’r rhwystrau posibl i weithredu’r darpariaethau allweddol hyn;

–a oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil; ac

–a yw’r Bil yn nodi ei gynigion yn ddigon manwl, neu a yw’n gadael gormod i’r Gweinidogion ei nodi maes o law.

Dywedodd Ann Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol: “Mae’r Bil hwn yn ceisio mynd i’r afael â materion sy’n cael effaith wirioneddol ar y rhai sy’n byw ar safleoedd cartrefi symudol preswyl yng Nghymru”.

“Rydym yn bwriadu archwilio pa mor effeithiol y gallai’r Bil fod o ran mynd i’r afael â’r materion hyn mewn modd cymesur a theg, ac mae’n hollbwysig ein bod yn casglu barn a syniadau pobl am y pwnc hwn.

“Rydym yn awyddus i unrhyw un sydd â barn am hyn ystyried y Bil a’r Memorandwm Esboniadol, a chyflwyno ei syniadau i’r Pwyllgor.”

Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y Bil yn dod i ben ar 7 Rhagfyr 2012.

Linc i ragor o wybodaeth am y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol.