Un o bwyllgorau’r Cynulliad i gynnal ymchwiliad i bolisi Llywodraeth Cymru ar yr amgylchedd hanesyddol

Cyhoeddwyd 01/06/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Un o bwyllgorau’r Cynulliad i gynnal ymchwiliad i bolisi Llywodraeth Cymru ar yr amgylchedd hanesyddol

1 Mehefin 2012

Mae un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ceisio barn pobl ynghylch pa mor effeithiol mae Llywodraeth Cymru yn gofalu am adeiladau a chofadeiladau hanesyddol Cymru.

Bydd ymchwiliad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn canolbwyntio ar nifer o faterion, gan gynnwys pa mor effeithiol yw systemau presennol Llywodraeth Cymru i ddiogelu a rheoli adeiladau a chofadeiladau hynafol, safleoedd archeolegol a morol yn ogystal â pharciau, tirweddau a gerddi hanesyddol.

Bydd yr ymchwiliad hefyd yn ystyried beth fyddai’r goblygiadau pe bai swyddogaethau Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru a sefydliadau eraill, gan gynnwys Cadw, yn cael eu cyfuno.  

Mae gan Gymru dri Safle Treftadaeth y Byd, 34,000 o gofadeiladau cofrestredig ac adeiladau rhestredig, a thros 400 o barciau, tirweddau a gerddi hanesyddol rhestredig.

Dywedodd Ann Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol: “Mae gan Gymru gyfoeth o hanes amrywiol, a daw’r hanes hwnnw’n fyw drwy ein holl leoliadau hanesyddol ledled y wlad.

“Mae’r ymchwiliad hwn yn amserol, gan fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno Bil Treftadaeth yn 2014-15. Mae Huw Lewis AC, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth hefyd wedi sefydlu gweithgor i edrych ar sut y gall swyddogaethau Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru gael eu cyfuno â swyddogaethau sefydliadau eraill, gan gynnwys Cadw.

“Gwn o brofiad am y balchder sydd gan bobl Cymru o’u treftadaeth pensaernïol ac rydym yn edrych ymlaen at glywed eu barn a’u syniadau am bolisi Llywodraeth Cymru ar yr amgylchedd hanesyddol.”   

Dylai unrhyw un sy’n dymuno cyflwyno gwybodaeth a thystiolaeth i’r ymchwiliad wneud hynny naill ai drwy e-bost: Pwyllgor.CCLlL@cymru.gov.uk neu drwy ysgrifennu at: Y Clerc, Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1NA.

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno tystiolaeth yw 29 Mehefin 2012.

Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol