Un o bwyllgorau’r Cynulliad yn cefnogi Mesur arfaethedig a allai atal yr hawl i brynu

Cyhoeddwyd 18/01/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Un o bwyllgorau’r Cynulliad yn cefnogi Mesur arfaethedig a allai atal yr hawl i brynu

18 Ionawr 2011

Mae Mesur arfaethedig newydd a fyddai’n caniatáu i’r hawl i brynu gael ei hatal, mewn ardaloedd lle mae galw am dai, wedi cael cefnogaeth gan bwyllgor trawsbleidiol o Aelodau’r Cynulliad.

Mae Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 2 Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cefnogi, mewn egwyddor, y Mesur Arfaethedig ynghylch Tai (Cymru).

Os caiff y Mesur arfaethedig ei basio, byddai’n galluogi Gweinidogion Cymru i gymeradwyo bod yr hawl i brynu a chael cartrefi cyngor neu gartrefi y mae cymdeithasau tai yn berchen arnynt yn cael ei hatal dros dro. Byddai’r Mesur arfaethedig hefyd yn rhoi pwerau rheoleiddio ac ymyrryd gwell i Weinidogion Cymru mewn perthynas â landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.

Dywedodd Val Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Roedd y Pwyllgor yn falch i weld bod camau yn cael eu cymryd i wella mynediad at dai cymdeithasol yng Nghymru.”

“Roedd mwyafrif y dystiolaeth a gafwyd yn mynegi cefnogaeth gyffredinol dros atal yr hawl i brynu a’r angen am ddeddfwriaeth yn y maes hwn.”

Mae’r Pwyllgor wedi argymell rhai gwelliannau i’r Mesur arfaethedig, yn enwedig o ran y broses ymgynghori, ac ychwanegu amserlenni i sicrhau nad oes unrhyw geisiadau gan denantiaid i ddefnyddio’u hawl i brynu’n cael eu hatal am gyfnod penagored tra bod awdurdodau lleol yn gwneud cais i atal yr hawl honno.

Byddai’r Mesur arfaethedig yn caniatáu ataliad o hyd at bum mlynedd, gydag estyniad pellach posibl o hyd at ddeng mlynedd.

Cynghorau lleol yn unig all wneud cais i atal yr hawl i brynu.

Bydd y fframwaith rheoleiddio newydd yn cynnwys perfformiad, arolygu, cosbau ac iawndal.