Y Bwrdd Taliadau yn cynnig creu rôl uwch-gynghorydd newydd i wella capasiti'r Cynulliad

Cyhoeddwyd 16/07/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 30/07/2014

Mae'r Bwrdd Taliadau yn ymgynghori ar gynnig y dylai Aelodau'r Cynulliad allu cyflogi uwch-gynghorwyr ar raddfa uwch er mwyn gwella capasiti strategol y Cynulliad Cenedlaethol.

Byddai rôl yr uwch-gynghorydd yn darparu cymorth o ran gwaith ymchwil a chyngor i'r Aelodau.

Yn ôl Sandy Blair, Cadeirydd y Bwrdd: "Mae'r ymgynghoriad hwn yn trafod cyfres o gynigion o ran y cymorth sydd ar gael i Aelodau'r Cynulliad. Fel gyda'r holl waith yr ydym yn ei wneud, rwy'n hyderus bod ein cynigion yn cynnig mwy o hyblygrwydd i'r Aelodau, gan gynnal y mesurau hanfodol hynny sy'n diogelu Aelodau, eu staff, trethdalwyr ac enw da'r Cynulliad.

"Cynhaliwyd ymgynghoriad ar gyflwyno rôl uwch-gynghorydd yn 2012-13, ac roedd cryn gefnogaeth i'r cynnig ar y pryd. Gwyddom fod llawer o'r Aelodau yn cefnogi'r syniad, felly rydym wedi diwygio'r cynnig gan ystyried yr adborth a ddaeth i law.

"Er i gyfrifoldebau'r Cynulliad gynyddu'n raddol ers ei sefydlu, dim ond 60 o Aelodau Cynulliad sydd yna o hyd, ac ni ddisgwylir i hynny newid yn y tymor byr. Beth bynnag y bo maint y Cynulliad, byddwn yn ymdrechu i sicrhau bod ein Penderfyniad yn rhoi'r adnoddau sydd eu hangen i'r Aelodau gyflawni eu gwaith."

"Mae'r Bwrdd yn gyfrifol am wneud Penderfyniad ynghylch sawl agwedd ar daliadau a chymorth i Aelodau'r Cynulliad, ac mae cymorth staffio yn un o'r agweddau hynny. Ein bwriad yw cynnal ymgynghoriad ar bob agwedd wrth inni nesáu at gyflawni'r gwaith hwnnw ym mis Mai y flwyddyn nesaf."

Mae'r ddogfen ymgynghori hefyd yn cynnwys y cynigion canlynol:

  • cynyddu maint y Gronfa Polisi ac Ymchwil, ac ehangu ei chwmpas;

  • cyflwyno budd-dal marwolaeth yn y swydd i staff cymorth Aelodau'r Cynulliad;

  • ystyried a ellid cyflwyno cynllun prentisiaeth ar gyfer grwpiau'r pleidiau;

Ychwanegodd Mr Blair: "Yn amlwg, bydd gan Aelodau presennol y Cynulliad a'u staff ddiddordeb yn ein cynigion ond efallai y byddant yn berthnasol y tu hwnt i'r Cynulliad hefyd. Croesawn ymatebion i'r ymgynghoriad hwn gan unrhyw sefydliad neu unigolyn."