Y coronafeirws, iechyd meddwl a gwastraff plastig ar agenda cyfarfod Senedd Ieuenctid Cymru

Cyhoeddwyd 11/11/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/11/2020

Caiff cyfarfod nesaf Senedd Ieuenctid Cymru ei gynnal ddydd Sadwrn, 14 Tachwedd pan fydd yr aelodau’n trafod effaith y coronafeirws ar blant a phobl ifanc.

Gwahoddir yr aelodau i rannu eu profiadau personol o fyw drwy bandemig byd-eang, ond byddant hefyd yn sôn am yr hyn y maent wedi’i glywed gan blant a phobl ifanc eraill y maent yn eu cynrychioli.

Oherwydd y cyfyngiadau symud, mae ysgolion wedi bod ar gau am fisoedd ac mae anawsterau wedi codi wedyn wrth i grwpiau blwyddyn orfod hunanynysu - mae nifer o ddisgyblion yn dweud eu bod wedi’i chael yn anodd dysgu gartref.  O gofio am y cyfyngiadau teithio a’r angen i greu swigod teuluol hefyd, mae wedi bod yn anodd iawn cymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol a gweld teulu a ffrindiau.

Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yn rhithwir ac chaiff ei ffrydio’n fyw am y tro cyntaf ar Senedd TV am 10.00.

Mae Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg a Hannah Blythyn AS, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, wedi cytuno i fod yn bresennol.

Bydd y canlynol hefyd yn cymryd rhan:

  • Lynne Neagle AS, Cadeirydd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd;

  • Mike Hedges AS, Cadeirydd Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Senedd;

  • Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru; a,

“Dyma ein trydydd cyfarfod fel Senedd Ieuenctid lawn.

“Rydw i’n edrych ymlaen at rannu ein hadroddiad am sbwriel a gwastraff plastig â’r Llywodraeth.

“Rydw i’n llawn cyffro i glywed ymateb y Gweinidogion i drydydd adroddiad y Senedd Ieuenctid gan fod hwn yn fater mor bwysig i bobl ifanc Cymru.

“Mae’n dda gallu rhannu gwaith y pwyllgor o’r diwedd. Rydw i hefyd yn edrych ymlaen at weld ffrindiau ar draws Gymru unwaith eto, er y bydd hynny mewn ffordd rithwir.

“Rydw i’n falch iawn o fod yn rhan o’r Senedd Ieuenctid yma gan fod yr aelodau i gyd mor dalentog ac angerddol.” Aelod Senedd Ieuenctid Cymru, Efan Fairclough.

“Mae’r coronafeirws yn rheoli’n bywydau ar hyd o bryd. Mae'r cyfarfod hwn yn gyfle hanfodol i bobl ifanc ddweud wrth Lywodraeth Cymru sut mae'r pandemig wedi effeithio arnyn nhw a pha gymorth sydd ei hangen arnyn nhw.

“Mae Senedd Ieuenctid Cymru hefyd wedi bod yn gweithio’n galed i gynhyrchu dau adroddiad manwl, meddylgar ac adeiladol ar faterion sy’n bwysig i blant a phobl ifanc.

“Rwy’n ddiolchgar i weinidogion Llywodraeth Cymru am gytuno i ddod i’r cyfarfod hwn ac rwy’n edrych ymlaen at glywed beth sydd ganddynt i’w ddweud.” Cadeirydd y sesiwn, Elin Jones AS, Llywydd y Senedd.

Mae Senedd Ieuenctid Cymru wedi cyhoeddi dau adroddiad yn ddiweddar; y naill ar gymorth iechyd emosiynol ac iechyd meddwl i blant a phobl ifanc yng Nghymru  a’r llall ar fynd i’r afael â phroblemau sbwriel a gwastraff plastig yng Nghymru.

Mae’r adroddiad ar iechyd emosiynol ac iechyd meddwl yn nodi bod tri o bob pump o blant a phobl ifanc yng Nghymru yn ceisio ymdopi â phroblemau iechyd emosiynol ac iechyd meddwl bob wythnos. Mae’n dweud bob angen cymryd camau brys i sicrhau bod pob person ifanc yn gwybod am y wybodaeth a’r gwasanaethau cymorth sydd ar gael iddynt.

Mae'r adroddiad ar sbwriel a phlastig yn galw am wahardd plastigau untro yng Nghymru ac am addysg well am fanteision ailgylchu a lleihau gwastraff.

Mi fydd modd gwylio'r cyfarfod yn fyw ar Senedd TV