Y Cynulliad Cenedlaethol ar y trywydd iawn i gyrraedd targedau heriol o ran allyriadau ynni

Cyhoeddwyd 19/08/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 03/07/2015

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn debygol o gwrdd â thargedau heriol i ostwng 40% ar ei allyriadau ynni erbyn 2015.

Mae'r ffigurau diweddaraf, a gyhoeddwyd yn Adroddiad Blynyddol y Cynulliad (PDF, 6.95MB), yn dangos bod y Cynulliad wedi sicrhau 34% o ostyngiad yn yr allyriadau ynni ers y flwyddyn gychwynnol, sef 2008/09.

Hefyd, yn ystod yr un cyfnod, mae'r Cynulliad wedi llwyddo i sicrhau gostyngiad o 29% yn yr allyriadau nwyon ty gwydr net.

Mae'r Ymddiriedolaeth Garbon wedi nodi bod hon yn safon ragorol o berfformiad o fewn y sector cyhoeddus yng Nghymru.

"Rwy'n falch o weld ein bod yn gwneud cynnydd da o ran lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd oherwydd dylem fod ar flaen y gad yn yr ymgyrch yng Nghymru i leihau allyriadau," meddai'r Fonesig Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad.

"Mae llwyddiant y Cynulliad wedi dod o weithio mewn partneriaeth â'r Ymddiriedolaeth Garbon ac arbenigwyr eraill.

"Ond nid ydym yn mynd i orffwys ar ein rhwyfau. Er mwyn cynnal ein momentwm o ran lleihau allyriadau ynni, mae cymorth technegol ac arbenigol pellach wedi'i gomisiynu ac mae wedi arwain at lunio Map Llwybr Lleihau Carbon. Mae ynddo dargedau heriol newydd sy'n anelu at sicrhau 30% arall o ostyngiad yn yr allyriadau hyd at 2021."

Mae gwneud yn fawr o'r system rheoli adeiladau a rheolaethau, addasiadau i wella effeithlonrwydd offer a gwell ymwybyddiaeth o ynni ymysg defnyddwyr, oll wedi cyfrannu at y gostyngiad mewn allyriadau ynni.

Yn ogystal â'r targedau allyriadau ynni a lleihau carbon a amlinellir uchod, mae'r Cynulliad hefyd wedi cyflawni'r canlynol:

  • Gostyngiad o 13.4% yn yr allyriadau cyffredinol sy'n gysylltiedig â theithiau busnes ers 2008/09;

  • Gostyngiad o 62% y flwyddyn ddiwethaf o ran gwastraff sy'n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi, gan agosáu at y targed o ddim gwastraff tirlenwi; a

  • 57% o ostyngiad yn yr allyriadau gwastraff o gymharu â'r llynedd.

Yn ôl Peter Black AC, y Comisiynydd sydd â chyfrifoldeb am yr ystâd a chynaliadwyedd: "Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r staff sy'n gweithio yn nhimau Cynaliadwyedd a Rheoli Cyfleusterau'r Cynulliad ac ymdrechion yr holl ddefnyddwyr o ran sicrhau'r canlyniadau arbennig hyn.

"Fel cenedl, mae angen i Gymru ddangos arweiniad o ran lleihau ei hôl troed carbon, ac mae angen i'r Cynulliad Cenedlaethol chwarae rhan ganolog yn hynny drwy osod esiampl.

"Mae gennym lawer o waith i'w wneud i sicrhau gostyngiad pellach ond mae'r canlyniadau'n dangos ein bod ar y trywydd iawn."