Y Cynulliad Cenedlaethol yn gwbwl dryloyw drwy gyhoeddi treuliau ar-lein

Cyhoeddwyd 29/06/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 23/11/2021   |   Amser darllen munudau

Y Cynulliad Cenedlaethol yn gwbwl dryloyw drwy gyhoeddi treuliau ar-lein

Bydd cofnod cyhoeddus o geisiadau Aelodau’r Cynulliad am dreuliau yn cael ei lansio ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol heddiw (29 Mehefin).

Mae hyn yn golygu y bydd pawb yn gallu gweld pa dreuliau y mae eu Haelodau Cynulliad yn eu hawlio drwy glicio botwm yn unig.

I ddechrau, hawliadau ar gyfer y flwyddyn ariannol 2008/09 yn unig a fydd ar gael, ond o’r hydref ymlaen, bydd y cofnod yn cael ei ddiweddaru yn fisol. Caiff treuliau eu cyhoeddi bob mis, tri mis ar ôl iddynt ddod i law.

Mae hyn yn dilyn penderfyniad y llynedd i gyhoeddi pa dreuliau a hawliwyd gan Aelodau’r Cynulliad yn y blynyddoedd ariannol 2006/07 a 2007/08.

Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Llywydd y Cynulliad:  “Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi bod ar flaen y gad mewn perthynas â thryloywder treuliau Aelodau’r Cynulliad.”

“Rydym bob amser wedi bob yn agored wrth gyfathrebu â’r cyhoedd yng Nghymru ac wedi rhoi cymaint o wybodaeth â phosibl iddynt.

“Rwyf yn credu bod rhaid i bobl Cymru ymddiried yn llawn yn y Cynulliad Cenedlaethol er mwyn iddo gadw ei statws fel y prif sefydliad democrataidd dros Gymru.

“Felly, ein nod yw bod hyd yn oed yn fwy tryloyw, yn fwy agored ac yn fwy didwyll â phobl Cymru nag erioed.

“Dyna pam ein bod yn lansio’r log trueliau ariannol ar lein heddiw, a hefyd pam sefydlwyd panel annibynnol gennym ym mis Medi 2008, i ystyried dyfodol cymorth ariannol i Aelodau, a fydd yn cyflwyno eu argymhellion wythnos i heddiw.”

Gallwch weld y log misol newydd yn www.cynulliadcymru.org/allowances.  Bydd ar gael am 9am heddiw (29 Mehefin)

Gellir chwilio am wybodaeth ar y wefan gan ddefnyddio enw Aelod Cynulliad, y math o hawliad neu'r dyddiad pan gafodd y treuliau eu hawlio.