Y Cynulliad i ddathlu Diwrnod Celtaidd Rhyngwladol yn Eisteddfod Gydwladol Llangollen

Cyhoeddwyd 09/07/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Cynulliad i ddathlu Diwrnod Celtaidd Rhyngwladol yn Eisteddfod Gydwladol Llangollen

Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn dathlu Diwrnod Celtaidd Rhyngwladol ddydd Gwener 13 Gorffennaf ar ei stondin yn Eisteddfod Gydwladol Llangollen drwy gynnal digwyddiad “Cymraeg yn y Gweithle”, sef diwrnod o weithdai a gweithgareddau a fydd yn dangos sut mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn ymdrin â materion dwyieithog. Bydd cyfieithwyr ar y pryd yn rhoi arddangosfa fyw a chaiff y cyhoedd eu gwahodd i roi cynnig ar gyfieithu trafodion y Cynulliad eu hunain.  Fe fydd sesiwn holi ac ateb anffurfiol hefyd pan fydd y cyfieithwyr yn ateb cwestiynau am eu gwaith a’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle.