EU Committee of Regions - UK Contact Group

EU Committee of Regions - UK Contact Group

'Rhyfel dinistriol Wcráin yn ein hatgoffa o’n dynoliaeth a’n gwerthoedd cyffredin'

Cyhoeddwyd 21/03/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 21/03/2022   |   Amser darllen munudau

Mae David Rees AS, Dirprwy Lywydd y Senedd, wedi pwysleisio pwysigrwydd y cyfeillgarwch, y ddeialog a’r delfrydau cyffredin sy’n parhau i rwymo’r DU a’r UE gyda’i gilydd.

Wrth annerch Aelodau o Bwyllgor y Rhanbarthau Ewropeaidd - Grŵp Cyswllt y DU yn y Senedd, dywedodd y Dirprwy Lywydd bod y rhyfel dinistriol yn Wcráin yn ein hatgoffa o’n dynoliaeth gyffredin a’r gwerthoedd rydym yn eu rhannu. Soniodd am ei gred ein bod yn gryfach gyda’n gilydd ac yn unedig yn ceisio datrysiadau.

Mae'r Senedd yn cynnal Pwyllgor y Rhanbarthau Ewropeaidd - Grŵp Cyswllt y DU, a sefydlwyd i gynnal cysylltiadau trawsffiniol a chadw lle i drafod materion cyffredin ar ôl i’r DU ymadael â’r UE.

Y Senedd yw’r sefydliad cyntaf yn y DU i gynnal cyfarfod y Grŵp Cyswllt.

Roedd Mark Drakeford, y Prif Weinidog a Löig Chesnais-Girard, Llywydd Llydaw, yn bresennol yn y sgyrsiau, yn ogystal ag arweinwyr rhanbarthol o Bortiwgal, Sbaen, Y Weriniaeth Tsiec, Iwerddon, Ffrainc, a’r Almaen.

Bu’r arweinwyr hefyd yn trafod y goblygiadau i Gymru yn sgil y cytundeb masnach newydd rhwng y DU a’r UE a’r cyfleoedd i gryfhau’r cysylltiadau a’r berthynas rhwng Cymru, y DU a rhanbarthau’r UE.

Dywedodd David Rees AS, y Dirprwy Lywydd: “Mae gan y Senedd hanes balch o ymgysylltu â’r UE, Ewrop a’r byd yn ehangach.

“Rydyn ni mewn byd newydd, ond mae gennym ni gyfeillgarwch hirsefydlog a pharhaol. Mae’r meysydd sydd o ddiddordeb i ni yn y Senedd yn rhai y bydd holl wledydd a rhanbarthau Ewrop yn eu rhannu; newid yn yr hinsawdd a chynaliadwyedd, ymgysylltu â dinasyddion a chydraddoldeb, arloesi digidol ac addasu ac ymateb i'r heriau a ddaw i’r amlwg yn sgil pandemig Covid.

“Mae’r rhyfel dinistriol yn Wcráin, ar ein cyfandir ni ein hunain, yn ein hatgoffa ni i gyd o’n dynoliaeth gyffredin a’r gwerthoedd rydym yn eu rhannu. Mae’n bwysicach nag erioed yn ein hanes diweddar ein bod yn estyn llaw at ein gilydd ac yn gweithredu’n gytun.

“Mae’n hanfodol ein bod yn adeiladu ar etifeddiaeth falch a pharhaus y Senedd – a’n gwlad – o ymgysylltu Ewropeaidd.”