Y Llywydd yn llofnodi Llyfr Cydymdeimlo yn y Senedd

Cyhoeddwyd 12/09/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 12/09/2022   |   Amser darllen munudau

Rhoddodd y Gwir Anrhydeddus Elin Jones AS, Llywydd Senedd Cymru, ddiolch i Ei Mawrhydi Y Frenhines am wasanaethu ar hyd ei hoes wrth iddi lofnodi’r Llyfr Cydymdeimlo yn y Senedd.

 Ysgrifennodd y Llywydd:   

“Gyda phob diolch am oes o wasanaeth. Thank you for your service over the 70 years. Boed i chi heddwch yn eich gorffwys.”  

 Mae'r llyfr bellach ar agor i Aelodau o’r Senedd a staff seneddol dalu teyrnged. Ar ôl angladd Ei Mawrhydi Y Frenhines, bydd y Llywydd yn anfon y llyfr at Ei Fawrhydi Y Brenin.   

Ddoe, cafodd y Senedd ei hadalw ar gyfer sesiwn eithriadol wrth i'r Aelodau sôn am eu parch a’u hedmygedd at ymrwymiad a gwasanaeth y Frenhines dros y degawdau. 

Cytunodd yr Aelodau ar Gynnig o Gydymdeimlad ddoe a fydd yn cael ei ddarllen i Ei Fawrhydi Y Brenin pan fydd ef ac Ei Mawrhydi Y Frenhines Gydweddog yn ymweld â'r Senedd ddydd Gwener. Bydd y Parti Brenhinol hefyd yn cwrdd ag Aelodau o'r Senedd ac Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru.   

 Mae'r cynnig y cytunwyd arno ddoe yn nodi:  

"Bod y Senedd hon yn mynegi ei thristwch dwys yn dilyn marwolaeth Ei Mawrhydi Y Frenhines ac yn estyn ei chydymdeimlad diffuant i Ei Fawrhydi Y Brenin ac Aelodau eraill o’r Teulu Brenhinol.  Rydym yn cydnabod ymrwymiad parhaus Ei Mawrhydi i wasanaeth a dyletswydd cyhoeddus, gan gynnwys y gefnogaeth a roddodd i nifer o elusennau a sefydliadau yng Nghymru, a’i chysylltiad ar hyd ei hoes â Chymru a’i phobl."