Y Llywydd yn rhoi ymgysylltu effeithiol â phartneriaid yn yr Undeb Ewropeaidd ar frig yr agenda wrth i Gymru ddathlu 40 mlynedd yn Ewrop
30 Ebrill 2013
Ar 1 Mai, bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal digwyddiad gyda Senedd Ewrop a’r Comisiwn Ewropeaidd i ddathlu 40 mlynedd o Gymru yn Ewrop, wythnos cyn Diwrnod Ewrop ar 9 Mai.
Ymunodd Prydain â’r Gymuned Ewropeaidd yn ffurfiol ym 1973, gan arwain at sefydlu perthynas ac ymgysylltiad cadarn gan Gymru yn y prosiect Ewropeaidd.
Yn ystod y cyfnod hwn, mae Cymru wedi elwa o’i haelodaeth yn yr UE mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys cael cyllid sylweddol o’r Polisi Amaethyddol Cyffredin yn benodol ac, yn ddiweddar, o’r Cronfeydd Strwythurol, yn ogystal â chael mynediad at fuddion ehangach o ran bod yn rhydd i symud o amgylch, cyfnewid diwylliannol ac addysgiadol a ffyrdd eraill o gyfnewid â chymunedau ledled Ewrop, a hefyd twf y Farchnad Sengl.
Bydd y digwyddiad, sy’n cael ei gynnal yn y Pierhead, yn cynnwys cyflwyniad gan yr Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, sydd bellach wedi’i lleoli yn y Pierhead, ac wedyn dadl gan Aelodau’r Cynulliad ac Aelodau o Senedd Ewrop ynghylch profiad Cymru o’i haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd.
Yn ei geiriau o groeso i’r digwyddiad, bydd y Llywydd yn nodi pa mor bwysig yw ymgysylltiad effeithiol â pholisi yr UE gan y Cynulliad Cenedlaethol, a pha mor bwysig yw craffu ar y polisïau hyn, er mwyn sicrhau bod y prosiect Ewropeaidd yn helpu Cymru yn y ffordd orau.
Bydd y Llywydd hefyd yn amlinellu sut y mae newidiadau i’r ffordd y mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn ymdrin â materion Ewropeaidd yn profi i fod yn llwyddiannus.
Bydd y Llywydd yn dweud “mae’r Cynulliad yn ystyried Ewrop yn fater pwysig, ac rydym yn gweld perthynas gadarn â Sefydliadau Ewrop yn yr un modd”.
“Rydym wedi mabwysiadu dull newydd o weithio yn ystod y pedwerydd Cynulliad, sef prif-ffrydio gwaith yr UE ar draws ein pwyllgorau, ac mae cynnydd clir wedi bod o ran cyfranogiad gan Aelodau mewn materion sy’n gysylltiedig â’r UE ac o fewn ystod a manylder y materion hyn.
“Un elfen bwysig o’r broses hon yw rôl y Pwyllgorau fel canolbwynt y gall rhanddeiliaid yng Nghymru fynd ato er mwyn cymryd rhan mewn dadleuon ynghylch polisi a deddfwriaeth yr UE.
“Mae hyn hefyd yn ein caniatáu i gyfathrebu’n well â Senedd Ewrop a’r Comisiwn Ewropeaidd er mwyn cyfleu safbwynt Cymru – siarad deddfwrfa wrth ddeddfwrfa.
“Mae Ewrop yn cynnig ffyrdd gwahanol o fynd i’r afael â materion yng Nghymru, ac rwy’n benderfynol y bydd y dull yr ydym wedi’i ddatblygu dros y ddwy flynedd diwethaf er mwyn craffu ar yr UE yn cadarnhau ein dylanwad ar y gwaith o wneud penderfyniadau yn Ewrop.”
Cyn y digwyddiad yn y Pierhead, bydd y Llywydd yn cynnal cyfarfod â chadeiryddion pwyllgorau’r Cynulliad, y pedwar ASE o Gymru, cynrychiolwyr Cymru ar Bwyllgor y Rhanbarthau a Phenaethiaid cynrychiolaeth y Deyrnas Unedig ar y Comisiwn Ewropeaidd a swyddfa’r Comisiwn yng Nghymru i edrych ar ffyrdd o gryfhau’r perthnasoedd a amlinellir uchod.