Y Pwyllgor Archwilio i holi swyddogion y Cynulliad ynghylch prosiect y Senedd.

Cyhoeddwyd 17/06/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Pwyllgor Archwilio i holi swyddogion y Cynulliad ynghylch prosiect y Senedd.

Bydd Pwyllgor Archwilio’r Cynulliad yn holi uwch swyddogion Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghylch adeilad y Senedd yn ei gyfarfod nesaf ddydd Iau 19 Mehefin.

Cyhoeddodd y Swyddfa Archwilio adroddiad yn gynharach eleni a nodwyd ynddo fod yr adeilad, ar y cyfan, wedi’i gwblhau ar amser ac yn unol â’r gofynion o ran cost ac ansawdd ond iddo gael ei gwblhau chwe mis yn hwyrach na'r hyn a fwriadwyd, yn bennaf oherwydd oedi wrth lunio'r fanyleb Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu derfynol.

Bydd y pwyllgor yn holi Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad; Dianne Bevan, Prif Swyddog Gweithredu Cynulliad Cenedlaethol Cymru; David Richards, Pennaeth Prosiect Llywodraethu Iechyd a Richard Wilson, Cyfarwyddwr y Rhaglen Adeiladu, ynghylch canfyddiadau’r adroddiad.

Dywedodd David Melding AC, Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio: “Mae’r Senedd erbyn hyn yn adeilad eiconig yng Nghymru ac mae’n gweithredu’n dda fel cartref i’r Cynulliad. Fodd bynnag, mae’n bwysig ein bod yn edrych yn fanwl ar bob agwedd ar y prosiect er mwyn sicrhau y caiff unrhyw fater ei nodi a gwersi eu dysgu ar gyfer unrhyw brosiectau adeiladu yn y dyfodol.”

Cynhelir y cyfarfod yn Ystafell Bwyllgora 3, y Senedd, Bae Caerdydd, am 9.30am ddydd Iau 19 Mehefin.

Rhagor o wybodaeth am y pwyllgor