Duke of Edinburgh

Duke of Edinburgh

Y Senedd yn talu teyrnged i’r Tywysog Philip

Cyhoeddwyd 09/04/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/04/2021   |   Amser darllen munudau

Bydd y Senedd yn cael ei hadalw ddydd Llun, Ebrill 12, am 11:00 er mwyn talu teyrnged i fywyd a gwasanaeth Ei Uchelder Brenhinol y Tywysog Philip, Dug Caeredin. 

Bu farw Ei Uchelder Brenhinol yn heddychlon y bore ma yng Nghastell Windsor.  

Mae baneri wedi eu hanner gostwng ar draws holl ystâd y Senedd, a bydd llyfr cydymdeimlo arlein ar gael i'r rhai sydd am dalu teyrnged.  

Dywedodd Elin Jones AC, y Llywydd:  

"Rhoddodd y Tywysog flynyddoedd lawer o wasanaeth cyhoeddus. Roedd hyn yn cynnwys gwasanaeth milwrol yn ystod yr Ail Ryfel Byd a chreu Gwobr Dug Caeredin, sydd wedi rhoi profiadau a chyfleoedd hollbwysig i gannoedd ar filoedd o bobl ifanc yng Nghymru a thu hwnt. 

"Mae'r Senedd yn anfon ei chydymdeimlad."