Ymchwiliad pêl-droed yn parhau gyda sesiwn agored yn Llandudno
29 Mai 2012
Bydd cyfle i gefnogwyr pêl droed yng Nghymru leisio eu barn am Uwch-gynghrair Cymru wrth Bwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mharc Maesdu yn Llandudno ddydd Iau 31 Mai.
Bydd y Pwyllgor yn gofyn am farn a syniadau’r cefnogwyr ar faterion fel cyfleusterau, datblygu chwaraewyr, nifer y gwylwyr ac unrhyw beth arall yr hoffent ei drafod.
Bydd y sesiwn agored yn gyfle i Aelodau’r Cynulliad glywed yn uniongyrchol gan gefnogwyr, swyddogion a chwaraewyr, a bydd eu cyfraniadau’n cael eu hystyried yn rhan o’r ymchwiliad ac yn cynorthwyo’r pwyllgor wrth lunio ei argymhellion.
Mae’r sesiwn agored yn dechrau am 19.30 ac mae croeso i bawb. Fodd bynnag, bydd seddi ar gael i’r cyntaf i’r felin.
Gwybodaeth am yr ymchwiliad i Uwch-gynghrair Cymru
Gwybodaeth am y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol