Ymchwiliad y Cynulliad i ystyried cyfranogiad yn y celfyddydau

Cyhoeddwyd 14/02/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Ymchwiliad y Cynulliad i ystyried cyfranogiad yn y celfyddydau

14 Chwefror 2012

Bydd ymchwiliad newydd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn ystyried pa effaith y mae toriadau mewn cyllidebau wedi ei chael ar nifer y bobl sy’n cymryd rhan yn y celfyddydau yng Nghymru.

Caiff yr ymchwiliad ei gynnal gan grŵp gorchwyl a gorffen a gaiff ei sefydlu gan y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol.

Cafodd ei ysgogi gan nifer o ddeisebau a gyflwynwyd i’r Cynulliad Cenedlaethol a oedd yn mynegi pryder ynghylch y toriadau mewn cyllid ar gyfer prosiectau celfyddydol ym mhob rhan o’r wlad, ac effaith hynny ar gymunedau lleol.

Yn ogystal ag asesu’r effaith honno, mae’r grŵp hefyd yn bwriadu canfod unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth ar gyfer cymryd rhan yn y celfyddydau, o ran demograffeg a daearyddiaeth, a gwerthuso pa bolisïau sydd ar waith gan Lywodraeth Cymru a chyrff ariannu’r celfyddydau.

Dywedodd Ann Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, “Mae prosiectau celfyddydau cymunedol yn gyfle i bobl o bob rhan o’r gymuned gymryd rhan, mynegi eu hunain a magu hyder drwy berfformiad.

“Rydym yn ymwybodol iawn o’r cyfnod anodd rydym yn byw ynddo a’r penderfyniadau anodd y mae’n rhaid i gyrff ariannu ac awdurdodau lleol eu gwneud i sicrhau cyn lleied o effaith â phosibl ar ddarparu gwasanaethau hanfodol.

“Ond ein barn ni yw ei bod yn bwysig o hyd i asesu’r effaith wirioneddol y mae torri ar gyllidebau celfyddydol wedi ei chael ar y cymunedau a gefnogwyd ganddynt. Rydym hefyd am ystyried pa lwybrau eraill sydd ar gael i ni, naill ai o ran mentrau gwirfoddol neu o ran cael gafael ar gyllid drwy fframweithiau polisi presennol i helpu i gau rhai o’r bylchau hynny.”

Er mwyn helpu i gael darlun o gyfranogiad yn y celfyddydau ar draws Cymru, mae’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol wedi llunio dau holiadur: un ar gyfer grwpiau celfyddydol ac un i gyfranogwyr allu nodi eu sylwadau.

Gellir gweld yr holiadur ar gyfer sefydliadau celfyddydol yma.

Gellir gweld yr holiadur ar gyfer cyfranogwyr yma.

Bydd y Pwyllgor hefyd yn derbyn cyflwyniadau ffurfiol drwy e-bost i Pwyllgor.CCLlL@cymru.gov.uk neu drwy ysgrifennu at:
Clerc y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol,
Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1NA.