Ymgyrch #POWiPL yn dylanwadu ar seneddau ledled Ewrop

Cyhoeddwyd 23/10/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 23/10/2015

Mae'r Fonesig Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wedi annerch Cyfarfod Llawn Cynulliad CALRE ym Milan – corff ymbarél sy'n cynnwys cynrychiolwyr o seneddau rhanbarthol ledled Ewrop.

Testun ei hanerchiad oedd ei hymgyrch Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus – #POWiPL – sy'n ceisio annog mwy o fenywod i gyfrannu at fywyd cyhoeddus.

 

Yng Nghyfarfod Llawn blaenorol Cynulliad CALRE yn Galicia y llynedd, cytunodd y Llywydd i gadeirio a chydgysylltu Gweithgor Cydraddoldeb Rhywiol fel rhan o Raglen Waith CALRE ar gyfer 2015.

Cyfarfu'r gweithgor yn y Cynulliad Cenedlaethol ym mis Mehefin eleni, lle trafodwyd arfer gorau.

Dywedodd y Fonesig Rosemary Butler wrth sesiwn CALRE ym Milan, "Rwy'n credu bod gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru hanes da i'w adrodd o safbwynt cynrychiolaeth i fenywod mewn democratiaeth.

"Rhan bwysig o gylch gorchwyl Cawcws Menywod mewn Democratiaeth y Cynulliad y sefydlais y llynedd oedd chwilio am arfer gorau a'i rannu, yn enwedig arfer gorau gan seneddau eraill. 

"Fy nod, felly, gyda'r gweithgor hwn yw trafod a chyfnewid arfer gorau mewn gwahanol feysydd gyda chyd-aelodau CALRE."

Mae pynciau trafod y gweithgor yn cynnwys:

  • y mesurau y mae seneddau a phleidiau'n eu gosod i annog a sicrhau cynrychiolaeth gan fenywod ar wahanol lefelau; a
  • nodi a yw seneddau â chynrychiolaeth gref gan fenywod yn creu polisïau a deddfwriaeth unigryw o ganlyniad i'r gynrychiolaeth gadarnhaol hon.