Ymweliad cyntaf Tywysog Cymru a'r Senedd

Ymweliad cyntaf Tywysog Cymru a'r Senedd

Ymweliad cyntaf Tywysog Cymru

Cyhoeddwyd 17/11/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 18/11/2022   |   Amser darllen munudau

Ymwelodd Tywysog Cymru â'r Senedd am y tro cyntaf ar ddydd Mercher 16 Tachwedd er mwyn gwella ei ddealltwriaeth o'r dirwedd wleidyddol ddatganoledig a'r materion sy’n bwysig i bobl yng Nghymru.

Croesawodd y Gwir Anrhydeddus Elin Jones AS, Llywydd y Senedd, a'r Dirprwy Lywydd, David Rees AS, ei Uchelder Brenhinol i'r Senedd lle y bu’n cwrdd ag arweinwyr pleidiau ac aelodau etholedig.

Fe wnaeth ei Uchelder Brenhinol hefyd gwrdd ag aelodau Senedd Ieuenctid Cymru i ddysgu am ei rôl yn cynrychioli llais pobl ifanc yng Nghymru, gan gynnwys eu gwaith ar iechyd meddwl a'r amgylchedd – dau faes sydd o ddiddordeb i Dywysog Cymru.

Yn y cyfarfod gyda Thywysog Cymru roedd aelodau’r Senedd Ieuenctid presennol: Jake Dillon, Sir Drefaldwyn; Zach Davis, Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro; Tegan Skyrme, sy'n cynrychioli Anabledd Dysgu Cymru; Ffion Fairclough, Pontypridd; Fatma Nur Aksoy, Dwyrain Casnewydd; a Hanna Mahamed, a etholwyd gan y sefydliad partner Race Council Cymru. Hefyd yn bresennol oedd y cyn-Aelod Manon Clarke, a fu’n cynrychioli Gorllewin Caerdydd yn Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru.