Cod Ymddygiad a Rheolau a Chanllawiau Cysylltiedig ar gyfer Aelodau o'r Senedd

Cyhoeddwyd 05/01/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 08/10/2021   |   Amser darllen munudau

Cytunodd y Senedd ar God Ymddygiad ar Safonau Ymddygiad Aelodau o'r Senedd newydd a chanllawiau cysylltiedig, a ddaeth i rym ar ddechrau'r Chweched Senedd, ar 24 Mawrth 2021. Ceir rhagor o wybodaeth am ddatblygiad y Cod newydd mewn erthygl newyddion, ac adroddiad a gyhoeddwyd gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad.

Pwrpas hanfodol y Cod Ymddygiad hwn yw cynnal enw da’r Senedd a'r ethos agored ac atebol sy'n angenrheidiol i atgyfnerthu hyder y cyhoedd yng ngonestrwydd Aelodau o'r Senedd yn y ffordd y maent yn cyflawni eu dyletswyddau a'u cyfrifoldebau cyhoeddus pwysig.

Mae'r Cod hwn yn berthnasol i holl Aelodau o'r Senedd. Rhaid i Aelodau gydymffurfio ag ef. Mae rheolau pellach ar gynnal busnes y Senedd, gan gynnwys y Rheolau Sefydlog a chanllawiau'r Llywydd, i'w gweld yma.

Mae'r Senedd wedi ymrwymo i ddelio'n effeithiol ag unrhyw bryderon neu gwynion. Os oes gennych unrhyw bryderon am ymddygiad Aelod neu os ydych am wneud cwyn, cysylltwch â’r Comisiynydd Safonau. Os oes gennych unrhyw bryderon sy'n gysylltiedig â Chomisiwn y Senedd neu os ydych am wneud cwyn, ymwelwch â'n tudalen Cwynion.

 

Cod Ymddygiad

Cod Ymddygiad ar Safonau Ymddygiad Aelodau o'r Senedd
  • Diweddarwyd ddiwethaf: Mai 2021
  • Perchennog: Y Pwyllgor sy'n gyfrifol am Safonau Ymddygiad
  • Cyswllt: Clerc i'r Pwyllgor sy'n gyfrifol am Safonau Ymddygiad
  • Ffeiliau PDF

Mae'r Cod yn cynnwys y tair adran ganlynol a dylid ei ystyried yn ei gyfanrwydd:

 

Rhan 1 - Cyflwyniad a Statws y Cod

1. Mae'r Cod Ymddygiad hwn (y “Cod”) yn cynnwys:

  • Rhan 1 Cyflwyniad a statws y Cod
  • Rhan 2 Dehongli ac Egwyddorion Cyffredinol
  • Rhan 3 Safonau Ymddygiad Personol yr Aelodau

2. Mae'r Cod yn nodi’r safonau ymddygiad sy’n ofynnol gan Aelodau o'r Senedd, ac mae'n God sy'n ymwneud ag ymddygiad Aelodau o'r Senedd at ddibenion Mesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009. Mabwysiadwyd y Cod trwy benderfyniad y Senedd ar 24 Mawrth 2021.

3. Mae’r Llywydd a chadeiryddion pwyllgorau fel arfer yn ymdrin ag ymddygiad Aelodau yn ystod sesiynau llawn y Senedd ac mewn pwyllgorau trwy ddefnyddio Rheolau Sefydlog y Senedd sy'n ymwneud â chynnal trefn yn ystod trafodion. Os bydd y Llywydd neu gadeirydd y pwyllgor, wrth ymdrin â mater o'r fath, o'r farn bod angen ymchwilio i'r ymddygiad ymhellach neu’n llawnach, gall gyfeirio'r mater at Gomisiynydd Safonau'r Senedd.

4. Yn ogystal â’r Cod hwn, rhaid i Aelodau gydymffurfio â Rheolau Sefydlog y Senedd, gan gynnwys ei Rheolau Sefydlog sy’n ymwneud â datgan a chofrestru buddiannau ariannol a buddiannau eraill ac aelodaeth o gymdeithasau. Gellir cyfeirio achosion honedig o dorri'r Rheolau Sefydlog hyn at Gomisiynydd Safonau'r Senedd i ymchwilio iddynt. Am y rheswm hwn, nid yw'r Cod yn cynnwys Rheol benodol ar ddatgan a chofrestru buddiannau o'r fath.

5. Gall Comisiwn y Senedd gyhoeddi canllawiau o bryd i'w gilydd i gynorthwyo Aelodau a'u staff i gydymffurfio â'r Cod, a gall Comisiynydd Safonau’r Senedd roi sylw i ganllawiau o'r fath wrth ystyried unrhyw gŵyn o fethiant i gydymffurfio â darpariaethau'r Cod.

6. Mae'r Cod yn gymwys i Aelodau sy'n dal swydd gyhoeddus Aelod o'r Senedd bob amser, gan gynnwys bywydau personol a phreifat yr Aelodau.

7. Nid yw'r Cod yn gymwys:

(i) i’r Llywydd neu gadeirydd pwyllgor mewn perthynas ag arfer y swyddogaethau a roddir gan ddeddfiad, y Senedd neu’r Rheolau Sefydlog.

(ii) pan fo Aelod yn gweithredu'n gyfan gwbl yn rhinwedd ei swydd fel Prif Weinidog Cymru, un o Weinidogion Cymru neu fel Cwnsler Cyffredinol a bod ei ymddygiad yn cael ei lywodraethu gan God Gweinidogion Cymru fel y'i diffinnir yn adran 8(2)(a) o'r Mesur.

(iii) mewn perthynas â safon y gwasanaeth a'r canlyniadau a gafwyd gan Aelod.

 

Rhan 1: Canllawiau

1. Mae'r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau o'r Senedd (y Cod) yn nodi'r Rheolau a'r Egwyddorion y mae'n rhaid i Aelodau o'r Senedd gadw atynt. Cytunodd y Senedd ar y Cod ar 24 Mawrth 2021. Cyfrifoldeb personol Aelod yw deall ei rwymedigaethau o dan y Cod a gweithredu mewn ffordd sy'n bodloni'r safonau ymddygiad uchel sy’n ofynnol gan Aelodau o’r Senedd

2. Prif ddiben y Cod yw helpu ac arwain Aelodau i gynnal safonau ymddygiad priodol wrth gyflawni eu rôl, yn hytrach na chyfyngu ar Aelodau yn y ffordd y maent yn gweithredu. Nodwedd allweddol wrth ddefnyddio a gorfodi'r Cod yw meithrin a chynnal ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn eu cynrychiolwyr etholedig.

3. Mae Aelodau'n gyfrifol am sicrhau eu bod hwy eu hunain a'u staff yn ymwybodol o gynnwys y Cod a'r holl ganllawiau cysylltiedig a gwybodaeth ychwanegol. Disgwylir i Aelodau hefyd fanteisio ar hyfforddiant - gan gynnwys cyrsiau gloywi. Nid yw anwybodaeth o ddarpariaethau'r Cod yn rheswm dilys dros eu torri.

4. Nod y canllawiau hyn (a gyhoeddwyd ar 24 Mawrth 2021) yw darparu eglurder ac esboniad o'r Cod i Aelodau, eu staff a'r cyhoedd. Mae’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad wedi cytuno ar y canllawiau, ac maent wedi'u cyhoeddi o dan baragraff 5 o'r Cod. O’r herwydd, ni ellir gorfodi’r canllawiau hyn, ond gall Comisiynydd Safonau’r Cynulliad (‘y Comisiynydd’) roi ystyriaeth iddynt wrth ystyried cwynion. Dim ond i gwynion a lywodraethir gan y Cod fel y cytunwyd gan y Senedd ar 24 Mawrth 2021, a ddaeth i rym ar ddechrau’r Chweched Senedd, y maent yn gymwys.

5. Diben y canllawiau yw helpu Aelodau a'u staff i ddeall eu priod rwymedigaethau a'u cyfrifoldebau o dan y Cod. Fodd bynnag, ni all gwmpasu pob amgylchiad y gellir ei ddychmygu.

6. Gall Aelodau gyfeirio eu methiant eu hunain i gydymffurfio â’r Cod (neu ddarpariaeth berthnasol arall) at Gomisiynydd Safonau’r Senedd ond dim ond os yw’r Aelod yn cyfaddef i’r methiant i gydymffurfio pan gaiff y cyfeiriad ei wneud. Yna, Comisiynydd Safonau’r Senedd fydd yn gyfrifol am wneud dyfarniad ffurfiol bod y materion y cyfaddefwyd iddynt yn cyfrif fel methiant i gydymffurfio â’r Cod.

7. Mae'r canllawiau hyn hefyd yn ceisio helpu'r rhai a allai fod eisiau cwyno am Aelod i ddeall a all achos o dorri’r Cod fod wedi digwydd ai peidio. 

Y defnydd o'r Cod mewn perthynas ag ymddygiad Aelodau yn y Cyfarfod Llawn a chyfarfodydd pwyllgorau

8. Mae’r Cod yn nodi fel a ganlyn:

“Mae’r Llywydd a chadeiryddion pwyllgorau fel arfer yn ymdrin ag ymddygiad Aelodau yn ystod sesiynau llawn y Senedd ac mewn pwyllgorau trwy ddefnyddio Rheolau Sefydlog y Senedd sy'n ymwneud â chynnal trefn yn ystod trafodion.”

9. Mae hyn yn adlewyrchu, er bod yn rhaid i Aelodau gydymffurfio â'r Cod mewn lleoliadau o'r fath, cyfrifoldeb y Llywydd a chadeiryddion y pwyllgorau fydd mynd i'r afael ag unrhyw faterion sy'n codi o ran ymddygiad ar unwaith. Fodd bynnag, os bydd y Llywydd neu gadeirydd pwyllgor o'r farn, wrth ymdrin â mater o'r fath, bod angen ymchwilio ymhellach neu’n fanylach i ymddygiad Aelod, gallant ddod i’r casgliad fod Comisiynydd Safonau’r Senedd yn fwy cymwys i gynnal ymchwiliad o’r fath a chyfeirio'r mater at y Comisiynydd yn unol â hynny. Os yw rhywun am wneud cwyn am ymddygiad Aelod yn ystod Cyfarfod Llawn neu mewn cyfarfod pwyllgor, dylai gyfeirio’r gŵyn (yn y drefn honno) at y Llywydd neu Gadeirydd Pwyllgor perthnasol.

Y defnydd o'r Cod mewn perthynas â bywydau preifat Aelodau.

10. Mae’r Cod yn nodi ei fod yn gymwys:

“i Aelodau sy'n dal swydd gyhoeddus Aelod o'r Senedd bob amser, gan gynnwys bywydau personol a phreifat yr Aelodau.”

11. Mae hyn yn darparu bod y Cod yn berthnasol – ac y gellir gwneud cwyn - mewn perthynas ag ymddygiad Aelodau mewn unrhyw gyd-destun, ni waeth a yw'n ymwneud â bywyd cyhoeddus neu breifat Aelod. Mae hefyd yn berthnasol i’r defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol.

Penderfyniadau gan y Llywydd neu Gadeirydd Pwyllgor

12. Mae’r Cod yn nodi nad yw’n gymwys:

“i’r Llywydd neu gadeirydd pwyllgor mewn perthynas ag arfer y swyddogaethau a roddir gan ddeddfiad, y Senedd neu’r Rheolau Sefydlog.”

13. Mae Rheolau Sefydlog y Senedd yn darparu bod penderfyniadau a wneir gan y Llywydd neu Gadeirydd Pwyllgor mewn perthynas â materion penodol a gaiff eu rheoleiddio gan Reolau Sefydlog – sy’n cynnwys cynnal trefn yn ystod dadl yn y Cyfarfod Llawn neu yng nghyfarfodydd y Pwyllgorau – yn derfynol. Mae Rheolau Sefydlog hefyd yn darparu dull i’r Senedd ddiswyddo Llywydd neu Gadeirydd Pwyllgor. Gan fod yn rhaid i’r Comisiynydd gynnal ymchwiliadau yn unol â darpariaethau’r Rheolau Sefydlog, effaith y darpariaethau hyn yw na all y Comisiynydd ymchwilio i gwynion am benderfyniadau’r Llywydd na Chadeirydd Pwyllgor pan fo’n gweithredu’n gyfan gwbl yn rhinwedd y swydd honno.

Y defnydd o'r Cod mewn perthynas â rolau Gweinidogol

14. Mae’r Cod yn nodi fel a ganlyn:

“Nid yw’r Cod yn gymwys: pan fo Aelod yn gweithredu'n gyfan gwbl yn rhinwedd ei swydd fel Prif Weinidog Cymru, un o Weinidogion Cymru neu fel Cwnsler Cyffredinol a bod ei ymddygiad yn cael ei lywodraethu gan God Gweinidogion Cymru fel y'i diffinnir yn adran 8(2)9(a) o'r Mesur.”

15. Mae hyn yn adlewyrchu na all Comisiynydd Safonau'r Senedd ystyried cwyn ynghylch ymddygiad Aelod sy'n gweithredu yn rhinwedd ei swydd fel Gweinidog (fel y'i diffinnir yn y Cod) a byddai’n gorfod cael ei gwrthod. Fodd bynnag, gall cwynion o'r fath gael eu gwneud yn erbyn cod ymddygiad gwahanol: Cod Gweinidogion Cymru. Mae Cod Gweinidogion Cymru yn nodi y bydd y Prif Weinidog yn cyfeirio cwynion ynghylch ymddygiad Gweinidogol at Gynghorydd Annibynnol i'w hystyried a'u cynghori, oni bai bod y Prif Weinidog yn fodlon y gellir ymateb i'r cwynion yn fwy ar unwaith neu'n rheolaidd (er enghraifft lle mae toriad diymwad, neu lle nad oes achos credadwy i ateb neu os ystyrir cwynion yn flinderus neu'n ddibwys eu natur).

16. Os oes gan rywun gŵyn bod un o Weinidogion Llywodraeth Cymru wedi torri Cod Gweinidogion Cymru, dylent ysgrifennu at y Prif Weinidog yn:

Llywodraeth Cymru
Pumed Llawr
Tŷ Hywel
Bae Caerdydd
CF99 1SN

E-bost: PS.FirstMinister@gov.wales

Y defnydd o'r Cod mewn perthynas â pherfformiad Aelodau

17. Mae'r Cod yn nodi nad yw'n berthnasol:

“mewn perthynas â safon y gwasanaeth a’r canlyniadau a gafwyd gan Aelod.”

18. Mae hyn yn adlewyrchu nad yw'r Cod yn ymwneud â pha mor 'effeithiol' y canfyddir y mae Aelod yn cyflawni ei rôl, p'un a yw hynny o ran pa mor rheolaidd y mae'n cynnal cymorthfeydd, eu gwerth fel eiriolwr, neu eu cyfraniadau yn y Cyfarfod Llawn ac yng nghyfarfodydd pwyllgorau.

19. Fodd bynnag, mae'r Cod yn berthnasol o hyd mewn perthynas ag ymddygiad Aelodau wrth gyflawni eu swyddogaethau. Er enghraifft, pe bai Aelod yn defnyddio iaith ymosodol gydag aelod o'r cyhoedd wrth gynnal cymhorthfa, gellid codi cwyn gan fod ymddygiad o'r fath yn torri'r Cod.

20. Mewn achosion eithafol, gallai Aelod sy’n anwybyddu cais am gymorth ar bwrpas, heb reswm rhesymol, weithredu’r Egwyddor Parch, ac felly Rheol 1.

Y defnydd o'r Cod mewn perthynas a datgan â chofrestru buddiannau

21. Mae’r Cod yn nodi fel a ganlyn:

“Rhaid i Aelodau gydymffurfio â Rheolau Sefydlog y Senedd, gan gynnwys ei Rheolau Sefydlog mewn perthynas â datgan a chofrestru buddiannau ariannol a buddiannau eraill ac aelodaeth o gymdeithasau. Am y rheswm hwn, nid yw'r Cod yn cynnwys Rheol benodol ar ddatgan a chofrestru buddiannau o'r fath.”

22. Er gwybodaeth, mae Rheolau Sefydlog yn ei gwneud yn ofynnol i Aelodau gofrestru yn y Gofrestr Buddiannau Aelodau yr holl fuddiannau perthnasol (fel y'u diffinnir yn yr Atodiad i Reol Sefydlog 2). Mae hyn er mwyn sicrhau ei fod ar gael i'r cyhoedd y buddiannau y gellir yn rhesymol feddwl sy’n dylanwadu ar eu gweithredoedd. Mae Rheolau Sefydlog hefyd yn darparu ar gyfer Cofnodi Cyflogaeth Aelodau’r Teulu gyda Chymorth Arian y Comisiwn,  Cofnodi’r Amser y bydd Aelod yn Ymwneud â Gweithgarwch Cofrestradwy a Chofnodi Aelodaeth o Gymdeithasau.

23. Nodir canllawiau manwl ar ofynion Rheolau Sefydlog o'r fath yn y canlynol:

Rhan 2 - Dehongli ac Egwyddorion Cyffredinol

8. Rhaid i Aelodau ymddwyn yn unol â'r Egwyddorion canlynol (y cyfeirir atynt yn y Cod fel “yr Egwyddorion Cyffredinol”).

Anhunanoldeb

Rhaid i Aelodau wneud penderfyniadau er lles y cyhoedd yn unig. Ni chânt wneud penderfyniadau er mwyn iddynt hwy neu unrhyw berson arall elwa’n ariannol neu’n faterol, a hynny mewn modd amhriodol neu modd nas caniateir.

Uniondeb

Ni chaiff Aelodau eu rhoi eu hunain o dan unrhyw rwymedigaeth ariannol neu rwymedigaeth arall tuag at unigolion neu gyrff allanol a allai geisio dylanwadu arnynt wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau swyddogol. Rhaid i Aelodau bob amser ymddwyn mewn ffordd na fydd yn tanseilio ffydd a hyder y cyhoedd yn uniondeb y Senedd ac osgoi unrhyw ymddygiad a fydd yn dwyn anfri ar y Senedd neu ar ei Haelodau yn gyffredinol.

Gwrthrychedd

Wrth gyflawni eu busnes, rhaid i Aelodau wneud penderfyniadau yn ôl haeddiant.

Atebolrwydd

Mae Aelodau yn atebol i’r cyhoedd am eu penderfyniadau a’u gweithredoedd a rhaid iddynt wneud eu hunain yn destun pa bynnag archwiliad sy’n addas i’w swydd gyhoeddus fel aelodau o’r Senedd.

Bod yn agored

Rhaid i Aelodau fod mor agored â phosibl ynghylch yr holl benderfyniadau a gweithrediadau a wneir ganddynt. Rhaid iddynt roi rhesymau dros eu penderfyniadau a chyfyngu ar wybodaeth dim ond yn unol â gofynion statudol, Rheolau Sefydlog y Senedd a rheolau sy'n rhwymo Aelodau o'r Senedd a'u staff, neu pan fo budd y cyhoedd ehangach yn amlwg yn mynnu hynny.

Gonestrwydd

Rhaid i Aelodau fod yn onest, rhaid iddynt ddatgan unrhyw fuddiannau preifat sy’n berthnasol i’w dyletswyddau cyhoeddus a rhaid iddynt gymryd camau i ddatrys unrhyw achosion o wrthdaro a allai godi mewn modd sy’n diogelu buddiannau cyhoeddus.

Parch

Ni chaiff Aelodau ymddwyn mewn modd sy'n lleihau cyfle cyfartal, rhaid iddynt barchu urddas pobl eraill a pheidio ag ymddwyn yn wahaniaethol neu mewn modd nas dymunir.

Arweinyddiaeth

Rhaid i Aelodau hyrwyddo a chefnogi'r egwyddorion hyn trwy arweinyddiaeth a dangos esiampl, a bod yn barod i herio ymddygiad gwael lle bynnag y mae'n digwydd.

9. Mae'r Safonau Ymddygiad Personol a nodir yn Rhan 3 o'r Cod hwn i'w dehongli yn unol â'r Egwyddorion Cyffredinol ac mae torri'r Cod yn golygu torri unrhyw un o'r safonau a nodir yn Rhan 3 o'r Cod hwn.

10. Yn y Cod hwn:

(1) ystyr “bwlio” yw ymddygiad tramgwyddus, bygythiol, maleisus neu sarhaus; neu gam-drin neu gamddefnyddio pŵer mewn ffordd sy'n bwriadu tanseilio, bychanu, beirniadu'n annheg neu anafu rhywun, naill ai trwy ymddygiad parhaus neu un weithred annerbyniol iawn;

(2) mae "gwahaniaethu" yn cynnwys ymddygiad sy'n gwahaniaethu yn erbyn unrhyw berson ar sail oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, barn wleidyddol a dewis iaith;

(3) ystyr “aflonyddu” yw ymddygiad digroeso sydd â’r diben neu’r effaith o darfu ar urddas unigolyn neu sy’n creu amgylchedd bygythiol, gelyniaethus, diraddiol, bychanol neu sarhaus i unigolyn ac sy’n cynnwys aflonyddu rhywiol;

(4) ystyr “ymddygiad nas dymunir” yw ymddygiad nad yw’n cael ei annog na’i dderbyn gan y dioddefwr, ni waeth a fwriadwyd iddo beri tramgwydd, ac ni waeth a yw’n digwydd mwy nag unwaith neu a yw’n ddigwyddiad unigol; and

(5) ystyr “y Mesur” yw Mesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009 (mccc 4.).

11. Wrth ddehongli a chymhwyso'r diffiniadau o "fwlio", aflonyddu", "gwahaniaethu" ac "ymddygiad nas dymunir":

(1) mae bwriad y person y gwneir cwyn amdano yn amherthnasol.

(2) y prawf yw a fyddai person rhesymol a diduedd o'r farn y byddai'r ymddygiad yn dod o fewn un o'r diffiniadau gan roi sylw i gyd-destun yr ymddygiad y gwneir cwyn amdano.

(3) rhaid parchu hawliau perthnasol y person y gwneir cwyn amdano a'r person sy'n ddarostyngedig i'r ymddygiad o dan sylw o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.

 

Rhan 2: Canllawiau

Perthynas Rheolau ac Egwyddorion y Cod

24. Mae'r Cod yn nodi nifer o Egwyddorion Trosfwaol sy’n mynegi’n gyffredinol sut y mae’n rhaid i Aelodau ymddwyn. Mae pob Egwyddor (Anhunanoldeb, Uniondeb, Gwrthrychedd, Atebolrwydd, Bod yn agored, Gonestrwydd, Parch, Arweinyddiaeth) yn cyd-fynd â thestun, sy’n dangos yr ymddygiad sy’n ymwneud â’r Egwyddor honno. Mae’r canllawiau hyn yn darparu esboniad ychwanegol o’r dehongliad a‘r defnydd o’r Egwyddorion.

25. Mae’r Egwyddorion yn llywio’r Rheolau ymddygiad penodol a nodir yn Rhan 3. Er enghraifft, mae methu â chynnal yr Egwyddor Parch yn debygol o fod yn gyfystyr ag Aelod sy'n torri un neu fwy o'r Rheolau a ganlyn:

  • Rheol 3: Ni chaiff Aelodau ymddwyn mewn modd sy'n dwyn anfri ar y Senedd neu ei Haelodau yn gyffredinol.
  • Rheol 4: Ni chaiff Aelodau ymddwyn mewn modd nas dymunir, aflonyddu, bwlio na gwahaniaethu.
  • Rheol 5: Rhaid i Aelodau gynnal y gyfraith droseddol. Ystyrir bod Aelod wedi methu â chynnal y gyfraith droseddol dim ond os yw'n cael ei euogfarnu o drosedd neu os yw'n cyfaddef trosedd yn ffurfiol.
  • Rheol 6: Ni chaiff Aelodau ymosod yn bersonol ar unrhyw un — mewn unrhyw ohebiaeth (naill ai ar lafar neu'n ysgrifenedig, ar ffurf electronig neu drwy unrhyw gyfrwng arall) — mewn modd a fyddai'n cael ei ystyried yn ormodol neu'n ymosodol gan berson rhesymol a diduedd, gan ystyried y cyd-destun y gwnaed y sylwadau ynddo.

26. At hynny, mae Rheol 1 yn ei gwneud yn ofynnol i Aelodau gynnal yr Egwyddorion, ac felly mae’n bosibl y canfu bod ymddygiad nad yw’n torri un o’r Rheolau eraill, yn torri un neu fwy o’r Egwyddorion Trosfwaol o hyd, ac i hyn fod yn torri Rheol 1.

Yr Egwyddor Anhunanoldeb

27. Mae’r Cod yn nodi bod yn rhaid i Aelodau:

“wneud penderfyniadau er lles y cyhoedd yn unig. Ni chânt wneud penderfyniadau er mwyn iddynt hwy neu unrhyw berson arall elwa’n ariannol neu’n faterol, a hynny mewn modd amhriodol neu modd nas caniateir.”

28. Mae Rheolau Sefydlog y Senedd yn nodi rheolau ar ddatgan buddiannau perthnasol a chofrestradwy, a bod Aelodau wedi'u gwahardd rhag pleidleisio mewn perthynas ag unrhyw fuddiant y mae'n ofynnol ei gofrestru neu ei ddatgan lle mae'r penderfyniad yn debygol o arwain at fantais ariannol uniongyrchol i'r Aelod sy'n fwy na'r hyn sy'n cronni i'r etholwyr yn gyffredinol (ac eithrio o ran cadeirydd pwyllgor yn defnyddio'r bleidlais fwrw).

29. Gellir defnyddio'r dull hwn yn ddefnyddiol mewn perthynas ag unrhyw benderfyniadau eraill a wneir gan Aelodau wrth gyflawni eu dyletswyddau cyhoeddus, neu wrth ryngweithio eu bywydau cyhoeddus a phreifat. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y Canllawiau i Aelodau o'r Senedd ar gofrestru, datgan a chofnodi buddiannau ariannol a buddiannau eraill.

Yr Egwyddor Uniondeb

30. The Code states that:

“Ni chaiff Aelodau eu rhoi eu hunain o dan unrhyw rwymedigaeth ariannol neu rwymedigaeth arall tuag at unigolion neu gyrff allanol a allai geisio dylanwadu arnynt wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau swyddogol.”

31. Mae'r dehongliad o ddyletswyddau swyddogol Aelodau yn eang ac yn golygu unrhyw weithgarwch mewn perthynas â busnes yn y Senedd a busnes etholaethol neu ranbarthol sy'n codi o'u hethol yn Aelod. Mae'n cynnwys, er enghraifft, ymgymryd â gwaith achos, pleidleisio, trafod cynnwys adroddiadau pwyllgorau, codi cwestiynau, hyrwyddo materion (gan gynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol), ac ati. Rhaid peidio â gwneud penderfyniadau o'r fath yn gyfnewid am daliad na budd materol arall.

32. Mae’r Cod hefyd yn nodi:

“Rhaid i Aelodau bob amser ymddwyn mewn ffordd na fydd yn tanseilio ffydd a hyder y cyhoedd yn uniondeb y Senedd ac osgoi unrhyw ymddygiad a fydd yn dwyn anfri ar y Senedd neu ar ei Haelodau yn gyffredinol.”

33. Mae’r Cod, yn benodol Rheol 3, hefyd yn mynd i'r afael â'r mater o ddwyn anfri ar y Senedd:

“Ni chaiff Aelodau ymddwyn mewn modd sy'n dwyn anfri ar y Senedd neu ei Haelodau yn gyffredinol.”

Yr Egwyddor Gwrthrychedd

34. Mae’r Cod yn nodi fel a ganlyn:

“Wrth gyflawni eu busnes, rhaid i Aelodau wneud penderfyniadau yn ôl haeddiant.”

35. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, penderfyniadau mewn perthynas â gwneud penodiadau cyhoeddus, neu mewn perthynas ag argymell unigolion ar gyfer dyfarniadau, anrhydeddau, neu fuddiannau eraill.

Yr Egwyddor Atebolrwydd

36. Mae’r Cod yn nodi fel a ganlyn:

“Mae Aelodau yn atebol i’r cyhoedd am eu penderfyniadau a’u gweithredoedd a rhaid iddynt wneud eu hunain yn destun pa bynnag archwiliad sy’n addas i’w swydd gyhoeddus fel Aelod o’r Senedd.”

37. Gall natur gwaith craffu o'r fath fod yn eang a gall amrywio mewn perthynas â gwahanol amgylchiadau. Byddai, er enghraifft, yn cynnwys galluogi cyhoeddi hawliadau treuliau a chadw cofnodion priodol fel sy'n ofynnol gan unrhyw reolau. Gall hefyd gynnwys cydweithredu ag unrhyw ymchwiliadau sy'n ymwneud â phenderfyniadau a gweithredoedd Aelodau (er enghraifft gan Gomisiynydd Safonau’r Senedd, Pwyllgorau'r Senedd, Comisiwn y Senedd, ac ati).

Yr Egwyddor Bod yn Agored

38. Mae’r Cod yn nodi fel a ganlyn:

“Rhaid i Aelodau fod mor agored â phosibl ynghylch yr holl benderfyniadau a gweithrediadau a wneir ganddynt. Rhaid iddynt roi rhesymau dros eu penderfyniadau a chyfyngu ar wybodaeth dim ond yn unol â gofynion statudol, Rheolau Sefydlog y Senedd a Rheolau sy'n rhwymo Aelodau o'r Senedd a'u staff, neu pan fo budd y cyhoedd ehangach yn amlwg yn mynnu hynny.”

39. Nid yw'r Egwyddor Bod yn Agored yn darparu ar gyfer datgelu gwybodaeth gyfrinachol a/neu wedi'i marcio'n amddiffynnol mewn modd anghyfiawn. Rhaid i Aelodau ddilyn Rheolau 14 a 15 mewn perthynas â cheisiadau am wybodaeth a datgelu gwybodaeth.

Yr Egwyddor Gonestrwydd

40. Mae’r Cod yn nodi fel a ganlyn:

“Rhaid i Aelodau fod yn onest, rhaid iddynt ddatgan unrhyw fuddiannau preifat sy’n berthnasol i’w dyletswyddau cyhoeddus a rhaid iddynt gymryd camau i ddatrys unrhyw achosion o wrthdaro a allai godi mewn modd sy’n diogelu buddiannau cyhoeddus.”

41. Ni ddylai Aelodau wneud datganiadau y maent yn gwybod – neu y dylent fod yn gwybod - eu bod yn ffug. Gellir dwyn Aelodau i gyfrif drwy’r weithdrefn safonau am wneud datganiadau ffug, am beidio â chymryd camau rhesymol a chall i wirio cywirdeb datganiadau a honiadau ac am beidio â chymryd camau amserol a phriodol i gywiro anghywirdebau neu gamgymeriadau. Mae canllawiau ar y gofyniad bod yn rhaid i “Aelodau ddatgan unrhyw fuddiannau preifat sy’n berthnasol i’w dyletswyddau cyhoeddus a chymryd camau i ddatrys unrhyw achosion o wrthdaro a allai godi mewn modd sy’n diogelu buddiannau cyhoeddus” ar gael yn y Canllawiau i Aelodau o'r Senedd ar gofrestru, datgan a chofnodi buddiannau ariannol a buddiannau eraill.

Yr Egwyddor Parch

42. Mae’r Cod yn nodi fel a ganlyn:

“Ni chaiff Aelodau ymddwyn mewn modd sy'n lleihau cyfle cyfartal, rhaid iddynt barchu urddas pobl eraill a pheidio ag ymddwyn yn wahaniaethol neu mewn modd nas dymunir.”

43. Mae'r Cod yn diffinio gwahaniaethu fel rhywbeth sy'n cynnwys:

“ymddygiad sy'n gwahaniaethu yn erbyn unrhyw berson ar sail oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, barn wleidyddol a dewis iaith.”

44. Mae'r gofyniad hwn yn ymwneud â phob math o wahaniaethu anghyfreithlon, gan gynnwys:

  • gwahaniaethu uniongyrchol: trin pobl yn wahanol ar y seiliau a nodir yn y diffiniad;
  • gwahaniaethu anuniongyrchol: triniaeth nad yw'n ymddangos ei bod yn gwahaniaethu rhwng pobl (ar y seiliau a nodir yn y diffiniad), ond sydd o dan anfantais anghymesur iddynt; ac
  • erledigaeth: trin person yn llai ffafriol oherwydd ei fod wedi cwyno am wahaniaethu, dwyn achos am wahaniaethu, neu wedi bod yn rhan o gŵyn am wahaniaethu neu ddwyn achos am wahaniaethu.

45. Mae’r Cod yn ei gwneud yn ofynnol i Aelodau barchu urddas pobl eraill, ond gyda’r awgrym cynnil o’u hawl i ryddid mynegiant, sydd wedi'i ymgorffori yn Erthygl 10.1 o'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol ('y Confensiwn'). Mae cyfraith achos ar ryddid mynegiant o dan Erthygl 10 yng nghyd-destun datganiadau gan gynrychiolwyr etholedig wedi'i chrynhoi yn flaenorol yn Heesom v Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (Saesneg yn unig):

ii) Article 10 protects not only the substance of what is said, but also the form in which it is conveyed. Therefore, in the political context, a degree of the immoderate, offensive, shocking, disturbing, exaggerated, provocative, polemical, colourful, emotive, non-rational and aggressive, that would not be acceptable outside that context, is tolerated… Whilst, in a political context, article 10 protects the right to make incorrect but honestly made statements, it does not protect statements which the publisher knows to be false.

iii) Politicians have enhanced protection as to what they say in the political arena; but Strasbourg also recognises that, because they are public servants engaged in politics, who voluntarily enter that arena and have the right and ability to respond to commentators (any response, too, having the advantage of enhanced protection), politicians are subject to "wider limits of acceptable criticism". They are expected and required to have thicker skins and have more tolerance to comment that ordinary citizens.

iv) Enhanced protection therefore applies, not only to politicians, but also to those who comment upon politics and politicians, notably the press; because the right protects, more broadly, the public interest in a democracy of open discussion of matters of public concern. Thus, so far as freedom of speech is concerned, many of the cases concern the protection of, not a politician's right, but the right of those who criticise politicians.

v) The protection goes to "political expression"; but that is a broad concept in this context. It is not limited to expressions of or critiques of political views, but rather extends to all matters of public administration and public concern including comments about the adequacy or inadequacy of performance of public duties by others. The cases are careful not unduly to restrict the concept; although gratuitous personal comments do not fall within it. (emphasis added)

vi) The cases draw a distinction between fact on the one hand, and comment on matters of public interest involving value judgment on the other. As the latter is unsusceptible of proof, comments in the political context amounting to value judgments are tolerated even if untrue, so long as they have some – any – factual basis. What amounts to a value judgment as opposed to fact will be generously construed in favour of the former; and, even where something expressed is not a value judgment but a statement of fact (e.g. that a council has not consulted on a project), that will be tolerated if what is expressed is said in good faith and there is some reasonable (even if incorrect) factual basis for saying it, "reasonableness" here taking account of the political context in which the thing was said.

vii) As article 10(2) expressly recognises, the right to freedom of speech brings with it duties and responsibilities. In most instances, where the State seeks to impose a restriction on the right under article 10(2), the determinative question is whether the restriction is "necessary in a democratic society". This requires the restriction to respond to a "pressing social need", for relevant and sufficient reasons; and to be proportionate to the legitimate aim pursued by the State.

viii) As with all Convention rights that are not absolute, the State has a margin of appreciation in how protects the right of freedom of expression and how it restricts that right. However, that margin must be construed narrowly in this context: "There is little scope under article 10(2) of the Convention for restrictions on political speech or on debate on questions of public interest.

ix) Similarly, because of the importance of freedom of expression in the political arena, any interference with that right (either of politicians or in criticism of them) calls for the closest scrutiny by the court.

46. O'r herwydd, nid yw'r Egwyddor Parch yn golygu na all Aelodau gymryd rhan mewn dadl gadarn gyda gwrthwynebwyr gwleidyddol neu eraill. Mae beirniadaeth o syniadau a safbwyntiau gwahanol yn rhan o ddadl ddemocrataidd, ond ni ddylai hyn arwain at gam-drin personol.

47. Adlewyrchir yr awgrym cynnil hwn yn Rheol 6, sy'n nodi:

“Ni chaiff Aelodau ymosod yn bersonol ar unrhyw un — mewn unrhyw ohebiaeth (naill ai ar lafar neu'n ysgrifenedig, ar ffurf electronig neu drwy unrhyw gyfrwng arall) — mewn modd a fyddai'n cael ei ystyried yn ormodol neu'n ymosodol gan berson rhesymol a diduedd, gan ystyried y cyd-destun y gwnaed y sylwadau ynddo.”

48. Gellir nodi bod y Cod yn diffinio bwlio fel:

“ymddygiad tramgwyddus, bygythiol, maleisus neu sarhaus; neu gam-drin neu gamddefnyddio pŵer mewn ffordd sy'n bwriadu tanseilio, bychanu, beirniadu'n annheg neu anafu rhywun, naill ai trwy ymddygiad parhaus neu un weithred annerbyniol iawn.”

49. Ni fyddai hyn yn cynnwys gweithredoedd fel Aelod yn herio neu'n cwestiynu polisi mewn modd cadarn, yn craffu ar berfformiad, neu’n cyflawni ei rôl o ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif fel arall.

50. Gall bwlio ddigwydd 'wyneb yn wyneb' a thrwy gyfryngau print ac electronig. Mae'r safonau ymddygiad a ddisgwylir yr un fath, ni waeth sut mae Aelod yn mynegi ei hun.

Yr Egwyddor Arweinyddiaeth

51. Mae’r Cod yn nodi fel a ganlyn:

“Rhaid i Aelodau hyrwyddo a chefnogi'r Egwyddorion hyn trwy arweinyddiaeth a dangos esiampl, a bod yn barod i herio ymddygiad gwael lle bynnag y mae'n digwydd.”

52. Rhaid i Aelodau gynnal yr Egwyddorion a chydymffurfio â'r Cod wrth herio ymddygiad gwael.

53. Gall amgylchiadau a chyd-destun fod yn arbennig o bwysig wrth ystyried y gofyniad i herio ymddygiad gwael. Er enghraifft, pe bai Aelod yn bresennol tra bod Aelod arall yn gwneud ymosodiadau a oedd yn bersonol, hiliol, rhywiaethol (ac ati), tuag at aelod o staff neu'r cyhoedd, rhagwelid fel rheol y byddai'r Aelod yn herio ymddygiad o'r fath yn uniongyrchol. Fodd bynnag, pe bai gan Aelod achos i bryderu y byddai ymyrryd yn uniongyrchol mewn sefyllfa benodol yn peryglu ei ddiogelwch personol, efallai mai ymateb rhesymol fyddai ei ddwyn i sylw rhywun arall, er mwyn mynd i’r afael â’r sefyllfa.

Rhan 3 - Safonau Ymddygiad Personol Aelodau

12. Rhaid i Aelodau gydymffurfio â’r Rheolau Ymddygiad canlynol:

Rheol 1

Rhaid i Aelodau gynnal yr Egwyddorion Cyffredinol.

Rheol 2

Rhaid i Aelodau weithredu'n onest.

Rheol 3

Ni chaiff Aelodau ymddwyn mewn modd sy'n dwyn anfri ar y Senedd neu ei Haelodau yn gyffredinol.

Rheol 4

Ni chaiff Aelodau ymddwyn mewn modd nas dymunir, aflonyddu, bwlio na gwahaniaethu.

Rheol 5

Rhaid i Aelodau gynnal y gyfraith droseddol. Ystyrir bod Aelod wedi methu â chynnal y gyfraith droseddol dim ond os yw'n cael ei euogfarnu o drosedd neu os yw'n cyfaddef trosedd yn ffurfiol.

Rheol 6

Ni chaiff Aelodau ymosod yn bersonol ar unrhyw un — mewn unrhyw ohebiaeth (naill ai ar lafar neu'n ysgrifenedig, ar ffurf electronig neu drwy unrhyw gyfrwng arall) — mewn modd a fyddai'n cael ei ystyried yn ormodol neu'n ymosodol gan berson rhesymol a diduedd, gan ystyried y cyd-destun y gwnaed y sylwadau ynddo.

Rheol 7

Rhaid i Aelodau ddatrys unrhyw achosion o wrthdaro sy'n codi rhwng eu buddiannau preifat a budd y cyhoedd ar unwaith, ac o blaid budd y cyhoedd.

Rheol 8

Rhaid i Aelodau gydymffurfio â'r rheolau a wneir o bryd i'w gilydd gan Glerc a Phrif Weithredwr y Senedd fel Prif Swyddog Cyfrifyddu Comisiwn y Senedd ar y defnydd o adnoddau a ddarperir i Aelodau gan Gomisiwn y Senedd.

Rheol 9

Ni chaiff Aelodau gamddefnyddio taliadau, lwfansau nac adnoddau sydd ar gael iddynt o dan benderfyniad Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd.

Rheol 10

Ni chaiff Aelodau dderbyn unrhyw gymhelliant ariannol, rhodd, lletygarwch neu fudd arall fel cymhelliant neu wobr am gyflawni eu swyddogaethau fel Aelodau o'r Senedd, am ddylanwadu ar drafodion yn y Senedd, neu a allai fel arall ymddangos i berson rhesymol a diduedd i ddylanwadu, neu o bosibl ddylanwadu ar eu gweithredoedd fel Aelod, ac eithrio i'r graddau y mae eu derbyn yn cydymffurfio â'r ddarpariaeth a wneir mewn Rheolau Sefydlog.

Rheol 11

Ni chaiff Aelodau ddefnyddio na cheisio defnyddio eu statws fel Aelod i roi mantais neu driniaeth ffafriol i'w hunain neu i unrhyw berson arall, neu i osgoi anfantais neu greu anfantais i rywun arall.

Rheol 12

Rhaid i Aelodau fod yn agored ac yn dryloyw gydag Aelodau eraill, swyddogion Comisiwn y Senedd a swyddogion unrhyw gorff neu awdurdod arall, wrth ddatgelu unrhyw weithgareddau a wneir mewn perthynas â sefydliad, neu ar ran unigolyn neu sefydliad, y mae gan yr Aelod berthynas ariannol ag ef, gan gynnwys gweithgareddau nad ydynt o reidrwydd yn destun cofnodion cyhoeddus megis cyfarfodydd a swyddogaethau anffurfiol.

Rheol 13

Ni chaiff Aelodau weithredu mewn ffordd sy’n ymyrryd yn amhriodol, y bwriedir iddo ymyrryd yn amhriodol neu y mae’n debygol o ymyrryd yn amhriodol, ar berfformiad y Senedd neu bwyllgor y Senedd wrth ei gwaith, na gallu Aelod, unrhyw aelod o staff Aelod neu swyddogion a gweithwyr Comisiwn y Senedd, neu ddyletswyddau Comisiynydd Safonau’r Senedd i gyflawni eu dyletswyddau.

Rheol 14

Ni chaiff Aelodau ymddwyn mewn ffordd y gellid yn rhesymol ei ystyried yn ymddygiad sy’n rhoi pwysau ar unigolion i:

(i) gyfaddawdu amhleidioldeb gwleidyddol Comisiwn y Senedd neu'r Gwasanaeth Sifil;

(ii) torri Cod Ymddygiad Staff Comisiwn y Senedd;

(iii) torri Cod y Gwasanaeth Sifil;

(iv) torri Cod Ymddygiad Staff Cymorth; nac

(v) ymdrin â cheisiadau am wybodaeth ac eithrio fel y nodir yng Nghod Ymarfer y Senedd ar Fynediad Cyhoeddus i Wybodaeth.

Rheol 15

Ni chaiff Aelodau, mewn perthynas â datgelu gwybodaeth:

(i) sy’n gyfrinachol neu wedi’i farcio i’w ddiogelu fel arall, ei datgelu ac eithrio pan fo awdurdod i wneud hynny gan y person neu’r awdurdod sy’n rheoli’r wybodaeth neu pan fo angen neu ganiatâd i’w datgelu yn ôl y gyfraith;

(ii) defnyddio’r wybodaeth a dderbynnir yn gyfrinachol heblaw yn rhinwedd eu swydd fel Aelod o’r Senedd, ac ni chânt ddefnyddio, neu geisio defnyddio, gwybodaeth o’r fath at ddibenion maleisus, dibenion mantais ariannol neu unrhyw fantais bersonol arall; ac

(iii) atal unrhyw berson rhag cael mynediad at wybodaeth fel y caniateir yn ôl y gyfraith.

Rheol 16

Ni chaiff Aelodau annog Aelod arall i fynd yn groes i unrhyw un o'r Safonau Ymddygiad Personol hyn, gan gynnwys y Rheolau mewn perthynas â chwynion ac ymchwiliadau safonau.

Rheol 17

Rhaid i Aelodau gydweithredu bob amser â Chomisiynydd Safonau'r Senedd wrth gynnal unrhyw ymchwiliad ac unrhyw ystyriaeth ddilynol o'r gŵyn gan Bwyllgor Safonau Ymddygiad y Senedd.

Rheol 18

Rhaid i Aelodau gydymffurfio â'r gweithdrefnau ar gyfer ymchwilio i gwynion yn erbyn Aelodau.

Rheol 19

Ni chaiff Aelodau ddatgelu manylion mewn perthynas â:

(i) unrhyw ymchwiliad gan Gomisiynydd Safonau'r Senedd ac eithrio pan fydd wedi'i awdurdodi gan y gyfraith i wneud hynny, neu gan Gomisiynydd Safonau'r Senedd neu awdurdod ymchwilio arall; na

(ii) trafodion Pwyllgor Safonau Ymddygiad y Senedd mewn perthynas â chŵyn oni bai eu bod wedi'u hawdurdodi gan y gyfraith i wneud hynny, neu gan y Pwyllgor.

Rheol 20

Ni chaiff Aelodau lobïo aelod o Bwyllgor Safonau Ymddygiad y Senedd, na Chomisiynydd Safonau’r Senedd, na’u staff, mewn ffordd y cynllunnir neu y bwriedir iddi ddylanwadu'n amhriodol ar ei ystyriaeth ynghylch p’un a dorrwyd y Cod Ymddygiad ai peidio, neu mewn perthynas â gosod cosb.

Rheol 21

Ni chaiff Aelodau geisio dylanwadu, annog, cymell na cheisio cymell, person sy'n gwneud cwyn mewn ymchwiliad i dynnu’r cwyn yn ôl neu newid ei gŵyn, neu unrhyw dyst neu berson arall sy'n cymryd rhan mewn cwyn i dynnu tystiolaeth yn ôl neu newid ei dystiolaeth.

Rheol 22

Ni chaiff Aelodau gamliwio unrhyw argymhelliad a wnaed gan Bwyllgor Safonau Ymddygiad y Senedd mewn perthynas ag unrhyw gŵyn y mae wedi'i hystyried, neu unrhyw ganfyddiadau neu adroddiad gan Gomisiynydd Safonau’r Senedd.

Rheol 23

Ni chaiff Aelodau wneud cwynion gwamal, blinderus neu sy’n amlwg yn ddi-sail i Gomisiynydd Safonau'r Senedd.

Rheol 24

Rhaid i Aelodau gymryd camau rhesymol i sicrhau bod eu staff, wrth weithredu ar eu rhan, hefyd yn cynnal ac yn gweithredu yn unol â'r Rheolau hyn a'r Egwyddorion Cyffredinol.

 

Rhan 3: Canllawiau

Rheol 1

54. Mae'r Cod yn nodi yn Rheol 1:

“Rhaid i Aelodau gynnal yr Egwyddorion Trosfwaol.”

55. Dim ond pan nad oes rheol sy’n fwy priodol y dylid dibynnu ar Reol 1 wrth wneud cwyn. Wrth wneud cwyn am ymddygiad Aelod, dylid ystyried y rheolau penodol eraill yn gyntaf.

56. Os yw’r gŵyn er hynny wedi’i llunio o dan Reol 1 yna dylai, fel pob cwyn, nodi’r ymddygiad penodol y cwynir amdano, a dylai gael ei chefnogi gan dystiolaeth o’r achos honedig o dorri’r Cod.

57. Mae cwynion gwamal, blinderus neu rai nad ydynt yn benodol, yn debygol o gael eu nodi’n annerbyniadwy.

Rheol 2

58. Mae'r Cod yn nodi yn Rheol 2:

“Rhaid i Aelodau weithredu'n onest.”

59. Ni fyddai celwydd golau (e.e. honni ei fod yn 'iawn' pan fydd Aelod wedi blino mewn gwirionedd) neu ryw ddiffyg gwirionedd arall, yn cael ei ystyried yn achos o dorri'r Rheol hon. Yn yr un modd, er y disgwylir i Aelodau wirio ffeithiau’n rhesymol a gwirio eu honiadau, mae’n anochel y bydd datganiadau 'anghywir, ond wedi'u gwneud yn onest,' yn digwydd o bryd i'w gilydd. Er enghraifft, gallai Aelod gamddyfynnu ffigur ariannol yn anfwriadol (“£60,000” yn hytrach na “£600,000”). Ar yr amod bod yr Aelod wedi cywiro’r gwall cyn gynted â phosibl, mae cwynion o'r fath yn debygol o gael eu hystyried yn wamal neu'n flinderus.

60. Byddai cwyn fel arfer yn seiliedig ar gelwydd honedig. Ymhlith pethau eraill, mae sylwedd canlyniadau celwydd yn debygol o fod yn ffactor wrth bennu cosb am ymddygiad o'r fath.

Rheol 3

61. Mae'r Cod yn nodi yn Rheol 3:

“Ni chaiff Aelodau ymddwyn mewn modd sy'n dwyn anfri ar y Senedd neu ei Haelodau yn gyffredinol.”

62. Mae hyn yn rhoi effaith benodol i’r Egwyddor Uniondeb. Gall dehongli materion a allai ddwyn anfri ar y Senedd, ym meddwl rhywun rhesymol a diduedd, fod yn eang ei gwmpas. Mae enghreifftiau blaenorol wedi cynnwys defnyddio iaith a/neu ddelweddaeth amhriodol a/neu ymosodol, ymddygiad ymosodol corfforol a geiriol, argyhoeddiad troseddol a diffyg gofal a goruchwyliaeth ddigonol wrth ddefnyddio adnoddau'r Senedd.

Rheol 4

63. Mae'r Cod yn nodi yn Rheol 4:

“Ni chaiff Aelodau ymddwyn mewn modd nas dymunir, aflonyddu, bwlio na gwahaniaethu.”

64. Nodir diffiniadau o ymddygiad digroeso, aflonyddu, bwlio a gwahaniaethu ym mharagraff 8 o'r Cod. Mae’r Rheol hon yn rhoi effaith benodol i’r Egwyddor Parch.

Rheol 5

65. Mae'r Cod yn nodi yn Rheol 5:

“Rhaid i Aelodau gynnal y gyfraith droseddol. Ystyrir bod Aelod wedi methu â chynnal y gyfraith droseddol dim ond os yw'n cael ei euogfarnu o drosedd neu os yw'n cyfaddef trosedd yn ffurfiol.”

66. Gellir nodi y gall canfyddiadau o ymddygiad amhriodol ynddynt eu hunain hefyd fod yn droseddau, megis aflonyddu troseddol, ymosodiad cyffredin, neu ymosodiad rhywiol.

67. Mae'r Rheol hon hefyd yn cwmpasu achosion eraill lle mae cyfraith droseddol wedi'i thorri: er enghraifft, os caiff Aelod ei euogfarnu neu ei rybuddio am drosedd trefn gyhoeddus. Os nad oes digon o dystiolaeth i euogfarnu neu rybuddio, yna nid ystyrir bod Aelod wedi torri'r Rheol hon.

Rheol 6

68. Mae'r Cod yn nodi yn Rheol 6:

“Ni chaiff Aelodau ymosod yn bersonol ar unrhyw un — mewn unrhyw ohebiaeth (naill ai ar lafar neu'n ysgrifenedig, ar ffurf electronig neu drwy unrhyw gyfrwng arall) — mewn modd a fyddai'n cael ei ystyried yn ormodol neu'n ymosodol gan berson rhesymol a diduedd, gan ystyried y cyd-destun y gwnaed y sylwadau ynddo.”

69. Fel y nodwyd yn flaenorol, mewn perthynas â'r Egwyddor Parch, mae amgylchiadau lle na fydd 'ymosodiad personol' yn cael ei ystyried yn achos o dorri'r Cod, oherwydd nid yw'n cael ei ystyried yn ormodol neu'n ymosodol o fewn cyd-destun gwleidyddol. Fodd bynnag, nid yw cyd-destun gwleidyddol yn 'carte blanche' ar gyfer unrhyw fath o ymosodiad personol.

70. Diben y Rheol hon yw mynd i’r afael ag achosion o ymosodiad dybryd, ac mae’n rhoi effaith i’r Egwyddor Parch. Rhaid cydbwyso’r defnydd o’r Rheol yn erbyn y diogelwch cryf o’r hawl i ryddid mynegiant o dan erthygl 10 y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.

71. Mae’r defnydd o’r Rheol yn ystyried y dull a fabwysiadwyd yn yr achos Calver, R (Ar Gais) yn erbyn Panel Dyfarnu Cymru, lle nodwyd (yn Saesneg):

“the more egregious the conduct, the easier it is likely to be for the panel, and for the court, to undertake the balancing that is required and justifiably to conclude that what was said or done falls within one of the exceptions to freedom of expression under common law, statute or the Convention. If the conduct is less egregious, it is likely to be more difficult to do this.”

Rheol 7

72. Mae'r Cod yn nodi yn Rheol 7:

“Rhaid i Aelodau ddatrys unrhyw achosion o wrthdaro sy'n codi rhwng eu buddiannau preifat a budd y cyhoedd ar unwaith, ac o blaid budd y cyhoedd.”

73. Mae canllawiau manwl ar gyfer Aelodau o'r Senedd ar gofrestru, datgan a chofnodi buddiannau ariannol a buddiannau eraill ar gael yn y Canllawiau i Aelodau o'r Senedd ar gofrestru, datgan a chofnodi buddiannau ariannol a buddiannau eraill.

Rheol 8

74. Mae'r Cod yn nodi yn Rheol 8:

“Rhaid i Aelodau gydymffurfio â'r rheolau a wneir o bryd i'w gilydd gan Glerc a Phrif Weithredwr y Senedd fel Prif Swyddog Cyfrifyddu Comisiwn y Senedd ar y defnydd o adnoddau a ddarperir i Aelodau gan Gomisiwn y Senedd.”

75. Nodir y rhain ar hyn o bryd yn y Rheolau a Chanllawiau ar Ddefnyddio Adnoddau'r Senedd.

76. Yn benodol, gellir nodi bod Aelodau'n atebol am ddefnyddio unrhyw adnoddau sydd ar gael iddynt, gan gynnwys defnydd gan unrhyw un y maent yn caniatáu iddynt gael mynediad at adnoddau o'r fath.

Rheol 9

77. Mae'r Cod yn nodi yn Rheol 9:

“Ni chaiff Aelodau gamddefnyddio taliadau, lwfansau nac adnoddau sydd ar gael iddynt o dan benderfyniad Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd.”

78. Gall Aelodau ddefnyddio adnoddau i gyflogi staff ac i redeg swyddfeydd yn eu hetholaethau er mwyn ymdrin â phroblemau ac achosion a godir gan y rhai y maent yn eu cynrychioli. Gallant hefyd hawlio ad-daliad am gostau y bydd yn rhaid iddynt eu hysgwyddo os bydd angen iddynt aros oddi cartref dros nos i ymgymryd â'u dyletswyddau swyddogol fel Aelodau o’r Senedd.

79. Mae'r rheolau sy'n ymwneud â'r hyn y mae gan Aelodau hawl i hawlio amdanynt wedi'u cynnwys ym Mhenderfyniad Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd ar Gyflog a Lwfansau Aelodau, sydd ar gael yma: Cyflogau a threuliau Aelodau o’r Senedd.

80. O 1 Ebrill 2019, nid yw'r Aelodau wedi gallu hawlio lwfans ar gyfer ariannu cyflogau aelodau'r teulu. Gall unrhyw aelodau'r teulu a oedd yn gyflogedig cyn y dyddiad hwn barhau i gael eu cyflogi hyd at ddiwedd y Chweched Senedd. Yn ystod y cyfnod hwn, ni chaiff contractau aelodau presennol o’r teulu eu gwella gan yr Aelod sy'n cyflogi (h.y. dim cynnydd mewn oriau na dyrchafiad). Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y Canllawiau i Aelodau o’r Senedd ar Gofnodi Cyflogaeth Aelodau'r Teulu gyda Chymorth Arian y Comisiwn.

Rheol 10

81. Mae'r Cod yn nodi yn Rheol 10:

“Ni chaiff Aelodau dderbyn unrhyw gymhelliant ariannol, rhodd, lletygarwch neu fudd arall fel cymhelliant neu wobr am gyflawni eu swyddogaethau fel Aelodau o'r Senedd, am ddylanwadu ar drafodion yn y Senedd, neu a allai fel arall ymddangos i berson rhesymol a diduedd i ddylanwadu, neu o bosibl ddylanwadu ar eu gweithredoedd fel Aelod, ac eithrio i'r graddau y mae eu derbyn yn cydymffurfio â'r ddarpariaeth a wneir mewn Rheolau Sefydlog.”

82. Dyma'r 'rheol adfocatiaeth ddi-dâl' ac mae hefyd yn cynnwys 'taliad mewn nwyddau,' lle gallai rhywun gynnig ffafr anariannol i'r Aelod yn gyfnewid am ddylanwadu ar drafodion yn y Senedd, neu fel arall gyflawni ei swyddogaethau fel Aelod o'r Senedd (e.e. cyfarfod â Gweinidog i drafod mater penodol). Mae trafodion yn y Senedd yn cynnwys pleidleisio ar unrhyw ddarn o ddeddfwriaeth, codi unrhyw gwestiwn yng nghyfarfodydd y pwyllgorau neu'r Cyfarfod Llawn, neu hyrwyddo unrhyw fater fel arall. Mae canllawiau manwl ar gyfer Aelodau o'r Senedd ar gofrestru, datgan a chofnodi buddiannau ariannol a buddiannau eraill ar gael yn y Canllawiau i Aelodau o'r Senedd ar gofrestru, datgan a chofnodi buddiannau ariannol a buddiannau eraill.

Rule 11

83. Mae'r Cod yn nodi yn Rheol 11:

“Ni chaiff Aelodau ddefnyddio na cheisio defnyddio eu statws fel Aelod i roi mantais neu driniaeth ffafriol i'w hunain neu i unrhyw berson arall, neu i osgoi anfantais neu greu anfantais i rywun arall.”

84. Nid yw hyn yn golygu na all Aelod dynnu sylw at sefyllfa benodol unigolyn, fel ffordd o ddangos mater ehangach o bolisi cyhoeddus. Gellir gwneud cymhariaeth rhwng y Rheol hon a throthwy'r bar ar bleidleisio a nodir yn y Rheolau Sefydlog, sy'n darparu na all Aelod bleidleisio:

“os gallai penderfyniad penodol yn y trafodion hynny arwain at fantais ariannol uniongyrchol i'r Aelod, neu, hyd y gŵyr yr Aelod, i bartner yr Aelod neu unrhyw blentyn dibynnol sydd gan yr Aelod, a fyddai'n fwy na’r fantais a allai ddod i ran y personau y byddai’r penderfyniad yn effeithio arnynt yn gyffredinol.”

85. Nid yw'r gofyniad hwn mewn Rheolau Sefydlog yn atal Aelod sydd - er enghraifft - yn ffermwr âr, rhag pleidleisio ar faterion sy'n ymwneud â ffermio âr (ar yr amod eu bod wedi datgan y budd perthnasol hwnnw cyn cymryd rhan yn y trafodion neu cyn pleidleisio. Yn hytrach, mae'n atal yr Aelod rhag pleidleisio ar faterion sy'n ymwneud â ffermio âr lle byddai canlyniadau'r penderfyniad o fudd penodol i'r Aelod hwnnw o'i gymharu â ffermwyr âr eraill. Yn yr un modd, gallai Aelod dynnu sylw at sefyllfa etholwr sy'n aros am fath penodol o lawdriniaeth feddygol, fel modd i holi Gweinidog ymhellach ynghylch mater ehangach o amseroedd aros. Drwy wneud hynny ni fyddai'r Aelod yn ceisio cael triniaeth ffafriol i'w etholwr, ond yn hytrach yn tynnu sylw at anghenion pob person o'r fath sy'n aros am y driniaeth honno a sicrhau nad yw ei etholwr wedi cael ei drin yn annheg.

Rheol 13

86. Mae'r Cod yn nodi yn Rheol 13:

“Ni chaiff Aelodau weithredu mewn ffordd sy’n ymyrryd yn amhriodol, y bwriedir iddo ymyrryd yn amhriodol neu y mae’n debygol o ymyrryd yn amhriodol, ar berfformiad y Senedd neu bwyllgor y Senedd wrth ei gwaith, na gallu Aelod, unrhyw aelod o staff Aelod neu swyddogion a gweithwyr Comisiwn y Senedd, neu ddyletswyddau Comisiynydd Safonau’r Senedd i gyflawni eu dyletswyddau.”

87. Er enghraifft, byddai hyn yn cynnwys rhyddhau nodiadau briffio cyfrinachol gan Bwyllgor neu adroddiad drafft Pwyllgor (a fyddai hefyd yn gweithredu Rheol 15, gan fod dogfennau o'r fath wedi'u marcio'n amddiffynnol).

Rheol 14

88. Mae'r Cod yn nodi yn Rheol 14:

“Ni chaiff Aelodau ymddwyn mewn ffordd y gellid yn rhesymol ei ystyried yn ymddygiad sy’n rhoi pwysau ar unigolion i:

(i) gyfaddawdu amhleidioldeb gwleidyddol Comisiwn y Senedd neu'r Gwasanaeth Sifil;

(ii) torri Cod Ymddygiad Staff Comisiwn y Senedd;

(iii) torri Cod y Gwasanaeth Sifil;

(iv) torri Cod Ymddygiad Staff Cymorth; nac

(v) ymdrin â cheisiadau am wybodaeth ac eithrio fel y nodir yng Nghod Ymarfer y Senedd ar Fynediad Cyhoeddus i Wybodaeth.”

89. Ni ragwelir y bydd Aelodau'n gyfarwydd â manylion y Codau hyn, ac yn y pen draw bydd swyddogion yn gyfrifol am benderfynu a allai cais neu ymddygiad penodol gan Aelod gyfaddawdu ei ddidueddrwydd gwleidyddol. Fodd bynnag, lle mae swyddog wedi nodi y byddai Cod perthnasol neu ei ddidueddrwydd gwleidyddol yn ei atal rhag gwneud rhywbeth (neu’n ei gwneud yn ofynnol iddo wneud rhywbeth), ni chaiff Aelod roi pwysau i ddylanwadu ar ei benderfyniad neu fel arall gymell newid safbwynt.

Rheol 15

90. Mae'r Cod yn nodi yn Rheol 15:

“Ni chaiff Aelodau, mewn perthynas â datgelu gwybodaeth:

(i) sy’n gyfrinachol neu wedi’i farcio i’w ddiogelu fel arall, ei datgelu ac eithrio pan fo awdurdod i wneud hynny gan y person neu’r awdurdod sy’n rheoli’r wybodaeth neu pan fo angen neu ganiatâd i’w datgelu yn ôl y gyfraith;

(ii) defnyddio’r wybodaeth a dderbynnir yn gyfrinachol heblaw yn rhinwedd eu swydd fel Aelod o’r Senedd, ac ni chânt ddefnyddio, neu geisio defnyddio, gwybodaeth o’r fath at ddibenion mantais ariannol neu unrhyw fantais bersonol arall; ac

(iii) atal unrhyw berson rhag cael mynediad at wybodaeth fel y caniateir yn ôl y gyfraith.”

91. Dylai'r Aelodau fod yn ymwybodol y gall unrhyw wybodaeth y maent yn ei phrosesu gael ei rhyddhau i unigolion neu i'r cyhoedd yn ehangach yn unol â deddfwriaeth a Chod Ymarfer y Senedd ar Fynediad Cyhoeddus i Wybodaeth.

92. Mae'r gofynion a nodir yn Rheol 15 hefyd yn berthnasol ar ôl i Aelod roi’r gorau i fod yn Aelod o’r Senedd.

Rheol 16

93. Mae'r Cod yn nodi yn Rheol 16:

“Ni chaiff Aelodau annog Aelod arall i fynd yn groes i unrhyw un o'r Safonau Ymddygiad Personol hyn, gan gynnwys y Rheolau mewn perthynas â chwynion ac ymchwiliadau safonau.”

94. Bydd y penderfyniad ynghylch p’un a oedd Aelod yn annog rhywun arall yn seiliedig ar p’un a fyddai person diduedd a rhesymol yn ystyried bod ei ymddygiad yn annog tramgwydd yn uniongyrchol, ni waeth a gyfeirir at y Cod yn benodol ai peidio. Yn ddarostyngedig i gyd-destun ac amgylchiadau, mae anogaeth anuniongyrchol yn llai tebygol o gael ei ystyried fel achos o dorri'r Cod.

Rheolau sy'n gysylltiedig â threfn Safonau'r Senedd (Rheolau 17-24)

95. Ymdrinnir ag unrhyw gyhuddiadau o beidio â chydymffurfio â'r Cod drwy'r broses a nodir yn y Weithdrefn ar gyfer ymdrin â chwynion yn erbyn Aelodau o’r Senedd, fel y'i cymeradwywyd gan Bwyllgor Safonau Ymddygiad y Senedd.

96. Mae gwybodaeth am rôl Comisiynydd Safonau’r Senedd, gan gynnwys manylion cyswllt ar gael ar wefan Comisiynydd Safonau’r Senedd.

97. Mae Rheolau 17-24 yn ymdrin ag ymddygiad Aelodau mewn perthynas â'r cod a'r broses Safonau. Rhaid i Aelodau ymgysylltu â'r broses ac ni allant geisio ei hoedi neu ei thanseilio. Mae gan y Rheolau hyn rôl allweddol wrth gynnal ymddiriedaeth y cyhoedd yn y broses, a gall methu â'u cynnal waethygu unrhyw sancsiynau a ddefnyddir mewn perthynas â chwynion penodol.

98. Mae'r Cod yn nodi yn Rheol 17:

“Rhaid i Aelodau gydweithredu bob amser â Chomisiynydd Safonau'r Senedd wrth gynnal unrhyw ymchwiliad ac unrhyw ystyriaeth ddilynol o gŵyn gan Bwyllgor Safonau Ymddygiad y Senedd.”

99. Ni chaniateir, er enghraifft, i Aelod wrthod cais anffurfiol am gyfweliad â Chomisiynydd Safonau’r Senedd, gofyn i rywun eraill beidio â chydweithredu ag ymchwiliad, dinistrio neu wrthod darparu papurau, negeseuon e-bost, neu unrhyw ddogfennaeth arall y mae'r Comisiynydd yn gofyn i’r Aelod eu darparu.

100. Yn nodedig, mae adrannau 11, 12 a 15 o Fesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009 yn rhoi pwerau i Gomisiynydd Safonau’r Senedd ei gwneud yn ofynnol i unrhyw un fynychu gerbron y Comisiynydd i roi tystiolaeth, neu i gyflwyno dogfennau (mewn unrhyw ffurf) sy’n berthnasol i ymchwiliad. Gall Comisiynydd Safonau’r Senedd orfodi’r pwerau hyn drwy hysbysiad ffurfiol (gan gynnwys hysbysiad i Aelod). Mae methu â chydymffurfio â hysbysiad o’r fath heb esgus rhesymol yn cyfrif fel trosedd y gellid ei chosbi â chyfnod o hyd at chwe mis yn y carchar, neu ddirwy lefel 5 (diderfyn), neu’r ddau.

101. Mae'r Cod yn nodi yn Rheol 19:

“Ni chaiff Aelodau ddatgelu manylion mewn perthynas ag unrhyw ymchwiliad gan Gomisiynydd Safonau'r Senedd ac eithrio pan fydd wedi'i awdurdodi gan y gyfraith i wneud hynny, neu gan Gomisiynydd Safonau'r Senedd neu awdurdod ymchwilio arall.”

102. Byddai hyn yn cynnwys, er enghraifft, unrhyw gyfrif o gyfweliadau y gallent fod wedi'u cael gyda Chomisiynydd Safonau’r Senedd, unrhyw fanylion yn adroddiad y Comisiynydd, unrhyw gyfrif o roi tystiolaeth i Bwyllgor Safonau Ymddygiad y Senedd, ac ati.

103. Mae'r Cod yn nodi yn Rheol 20:

“Ni chaiff Aelodau lobïo aelod o Bwyllgor Safonau Ymddygiad y Senedd, na Chomisiynydd Safonau’r Senedd, na’u staff, mewn ffordd y cynllunnir neu y bwriedir iddi ddylanwadu'n amhriodol ar ei ystyriaeth ynghylch p’un a dorrwyd y Cod Ymddygiad ai peidio, neu mewn perthynas â gosod cosb.”

104. Mae hyn yn cynnwys lobïo uniongyrchol drwy sgyrsiau, negeseuon e-bost, ac ati. Gallai hefyd gynnwys lobïo anuniongyrchol - er enghraifft, gwneud sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol neu gyfryngau’r brif ffrwd gyda’r bwriad o ddylanwadu ar ystyriaeth o'r fath.

105. Mae'r Cod yn nodi yn Rheol 21:

“Ni chaiff Aelodau geisio dylanwadu, annog, cymell na cheisio cymell, person sy'n gwneud cwyn mewn ymchwiliad i dynnu’r cwyn yn ôl neu newid ei gŵyn, neu unrhyw dyst neu berson arall sy'n cymryd rhan mewn cwyn i dynnu tystiolaeth yn ôl neu newid ei dystiolaeth.”

106. Ar y cyd â Rheol 24, mae hyn hefyd yn atal Aelod rhag ceisio gwneud hynny drwy ei staff.

107. Yn olaf, mae'r Cod yn nodi yn Rheol 24:

“Rhaid i Aelodau gymryd camau rhesymol i sicrhau bod eu staff, wrth weithredu ar eu rhan, hefyd yn cynnal ac yn gweithredu yn unol â'r Rheolau hyn a'r Egwyddorion Trosfwaol.”

108. I gyflawni hyn, rhagwelir y bydd Aelodau'n annog, neu'n mynnu, bod eu staff yn ymgymryd â hyfforddiant - gan gynnwys cyrsiau gloywi. Fodd bynnag, yr Aelodau sy'n gyfrifol yn y pen draw am sicrhau eu bod hwy eu hunain a'u staff yn ymwybodol o gynnwys y Cod a'r holl ganllawiau cysylltiedig a gwybodaeth ychwanegol. Nid yw anwybodaeth o ddarpariaethau'r Cod yn rheswm dilys dros eu torri.

109. Ni chaniateir i Aelod geisio osgoi'r Cod, drwy ofyn i'w staff gymryd camau y byddai'r Cod yn eu hatal rhag eu cymryd eu hunain.

 

Rheolau a Chanllawiau

Canllawiau i Aelodau o'r Senedd ar gofrestru, datgan a chofnodi buddiannau ariannol a buddiannau eraill
  • Diweddarwyd ddiwethaf: Mawrth 2021
  • Perchennog: Y Pwyllgor sy'n gyfrifol am Safonau Ymddygiad
  • Cyswllt: Pennaeth y Swyddfa Gyflwyno
  • Ffeiliau PDF

Mae'r Canllawiau yn cynnwys y naw adran ganlynol a dylid ei ystyried yn ei gyfanrwydd:

 

1. Cyflwyniad

1. Diben y canllawiau hyn yw cynorthwyo Aelodau o'r Senedd i gyflawni eu dyletswyddau a rhwymedigaethau mewn perthynas â chofrestru, datgan a chofnodi buddiannau ariannol ac eraill, fel y nodir o dan Adran 36 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ('Deddf 2006') a Rheolau Sefydlog y Senedd. Mae hefyd yn cynnwys manylion am fuddiannau y mae'n rhaid i'r Aelodau gyflwyno adroddiad ar wahân arnynt i'r Comisiwn Etholiadol.

2. Nid yw'r canllawiau hyn, fodd bynnag, yn disodli Deddf 2006, na Rheolau Sefydlog y Senedd, y mae'n rhaid i'r Aelodau gydymffurfio â hwy wrth gofrestru eu buddiannau a'u haelodaeth yn y lle cyntaf, ac wrth eu hadolygu wedyn, a'u datgan a'u cofnodi. Sylwer hefyd na all unrhyw ganllawiau ysgrifenedig ddarparu ar gyfer pob amgylchiad, ac na ddylid ystyried yr enghreifftiau yn y canllawiau hyn yn rhestr gynhwysfawr.

3.  Nid yw'r canllawiau hyn yn cynnwys y rheolau sy'n ymwneud â chyflogi aelodau o'r teulu, na'r rheolau ynghylch rhan Aelodau mewn lobïo am dâl neu gydnabyddiaeth. Mae'r rhain ar gael ar wahân yn y Canllawiau i Aelodau o'r Senedd ynghylch Cofnodi Cyflogaeth Aelodau'r Teulu gyda Chymorth Arian y Comisiwn a Chanllawiau ar Lobïo a Mynediad at Aelodau o'r Senedd.

4. Mae cyfeiriadau yn y canllawiau hyn at drafodion y Senedd yn golygu unrhyw drafodion y Senedd, unrhyw bwyllgor o'r Senedd neu is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath.

2. Y Cefndir a'r Fframwaith Statudol

5. Mae Adran 36 o Ddeddf 2006 yn ei gwneud yn ofynnol bod Rheolau Sefydlog y Seneddyn cynnwys darpariaeth ar gyfer cofrestr o fuddiannau'r Aelodaua bod y gofrestr honno i'w chyhoeddi ac ar gael i'r cyhoedd. Mae'r Ddeddf hefyd yn pennu categorïau penodol o fuddiant y mae'n rhaid ymdrin â hwy yn unol â Rheolau Sefydlog y Senedd. Hefyd, mae Deddf 2006 yn ei gwneud yn ofynnol i Aelodau ddatgan buddiannau ariannol a buddiannau eraillar lafar (rhaid nodi hynny yn y Rheolau Sefydlog) cyn cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd sy'n ymwneud â'r mater hwnnw. Ar hyn o bryd mae'r darpariaethau hyn wedi'u nodi yn Rheol Sefydlog 2, yr Atodiad i Reol Sefydlog 2, a Rheolau Sefydlog 13.8A ac 17.24A. Y prif elfennau yw:

  • 2.1 - cofrestru buddiannau mewn cofrestr sy'n agored i'w harchwilio gan y cyhoedd;
  • 2.6 - datgan buddiannau cofrestradwy cyn i Aelod gymryd rhan mewn unrhyw drafodion yn y Senedd;
  • 2.9 - gwaharddiad ar bleidleisio mewn perthynas ag unrhyw fuddiant y mae'n ofynnol ei gofrestru neu ei ddatgan lle bo'r penderfyniad yn debygol o arwain at fantais ariannol uniongyrchol i'r Aelod, sy'n fwy na'r fantais a ddaw i ran yr etholwyr yn gyffredinol;
  • 13.8A and 17.24A – datgan buddiannau perthnasol ar yr adeg briodol yn ystod unrhyw rai o drafodion y Senedd.

6. Trafodir y darpariaethau hyn yn fanwl ym Mhenod 5.

7. Yn ychwanegol at y gofynion a nodir o dan Reol Sefydlog 2, rhaid i Aelodau hefyd gofnodi buddiannau penodol eraill yn unol â Rheolau Sefydlog 3, 4, a 5. Mae rhagor o wybodaeth am y gofynion hyn ym Mhennod 8 o'r canllawiau hyn.

8. Yn unol â Rheol Sefydlog 22.2, Pwyllgor Cyfrifol (Pwyllgor Safonau Ymddygiad y Senedd ar hyn o bryd) sy'n gyfrifol am oruchwylio'r gwaith o lunio a chynnal y gofrestr a'r canllawiau perthnasol, a sicrhau eu bod ar gael i'r cyhoedd. Mae rhagor o wybodaeth am rôl y Pwyllgor Cyfrifol yn Adran 3.2.

9. Yn ogystal â'r dyletswyddau a nodir yn Neddf 2006 ac yn Rheolau Sefydlog y Senedd, mae cyfrifoldeb statudol ar yr Aelodau i wirio, cofnodi ac adrodd rhai buddiannau'n uniongyrchol i'r Comisiwn Etholiadol, fel y nodir yn Neddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ('PPERA 2000') ac, os ydynt yn ymgeiswyr etholaethol, i hysbysu am roddion a gafwyd tuag at y gwariant ar eu hymgyrch etholiadol o dan Orchymyn Senedd Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007 (Gorchymyn 2007). Mae rhagor o wybodaeth am y gofynion hyn ym Mhennod 6.

3. Methiant i gydymffurfio, a'r drefn gwyno

10. Yr Aelodau unigol sy'n gyfrifol am sicrhau y cydymffurfir â gofynion Rheolau Sefydlog 2 i 5, ond gallant ofyn cyngor y Llywydd, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd, neu Gofrestrydd Buddiannau'r Aelodau (drwy Swyddfa Gyflwyno'r Senedd). Priodol felly yw i'r canllawiau hyn amlinellu'r trefniadau ar gyfer gorfodi a chosbi mewn achosion o beidio â chydymffurfio.

3.1. Beth fydd yn digwydd os na chydymffurfir â'r rheolau?

11. Mae Adran 36(7) o Ddeddf 2006 yn ei gwneud yn drosedd i Aelod gymryd rhan mewn unrhyw drafodion heb fod wedi cydymffurfio â'r gofynion yn Rheol Sefydlog 2.

12. Mae Aelod sy'n euog o drosedd o'r fath yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.  Ni all erlyniad ar sail peidio â chydymffurfio â'r Rheolau Sefydlog gael ei gychwyn ond gan y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus ei hun, neu gyda'i ganiatâd.

13. Mae protocol ar gyfer delio â chwynion am weithredu'n groes i adran 36(7) o'r Ddeddf wedi'i gytuno rhwng y Senedd, y Comisiynydd Safonau a'r Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus. Mae protocol yn ffurfio rhan o’r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau’r Senedd a’r Dogfennau Cysylltiedig.

3.2. Rôl y 'pwyllgor cyfrifol'

14. Mae Rheol Sefydlog 22 yn nodi rôl y Pwyllgor Cyfrifol (Pwyllgor Safonau Ymddygiad y Senedd ar hyn o bryd) mewn perthynas â'r materion yr ymdrinnir â hwy yn y canllawiau hyn. Ei brif rôl yw ymchwilio i unrhyw gŵyn a gaiff ei chyfeirio ato gan y Comisiynydd Safonau, llunio adroddiad ar y gŵyn ac, os yw hynny'n briodol, argymell camau gweithredu. Os cyflwynir adroddiad i'r Pwyllgor Cyfrifol ynghylch methiant i gydymffurfio â'r Rheolau Sefydlog, neu unrhyw benderfyniad gan y Senedd sy'n ymwneud â buddiannau ariannol neu fuddiannau eraill yr Aelodau, caiff y Senedd benderfynu gwahardd Aelod am gyfnod penodol, tynnu hawliau a breintiau oddi arno, neu ei geryddu.

15. Yn ystod y cyfnod tra bo'r Aelod wedi ei wahardd nid oes hawl gan yr Aelod i dderbyn unrhyw gyflog gan y Senedd ac nid oes hawl ganddo neu ganddi i fynychu'r Senedd nac unrhyw un o'i bwyllgorau na'i is-bwyllgorau. O dan Reol Sefydlog 22.10(ii) caiff y Pwyllgor Cyfrifol ddewis tynnu'n ôl unrhyw hawliau neu freintiau eraill sy'n gysylltiedig â bod yn Aelod o'r Senedd, fel y nodir yn y gweithdrefnau ar gyfer ymchwilio i gwynion a sefydlwyd o dan Reol Sefydlog 22.2(iv). Mae'r sancsiynau uchod yn ychwanegol at y posibilrwydd o erlyniad o dan adran 36(7) o Ddeddf 2006.

3.3. Gweithdrefnau cwyno

16. Mae'r trefniadau ar gyfer cwynion yn erbyn Aelodau o'r Senedd wedi'i nodi yng ngweithdrefn Senedd Cenedlaethol Cymru ar gyfer ymdrin â chwynion yn erbyn Aelodau o'r Senedd, sydd ar gael ar wefan y  Senedd a gwefan y Comisiynydd Safonau.

17. Rhaid i'r Comisiynydd Safonau wneud ymchwiliad cychwynnol i gwynion am ymddygiad Aelodau o'r Senedd. Dylid cyfeirio cwynion, boed y rheini gan Aelodau o'r Senedd neu aelodau o'r cyhoedd, at y Comisiynydd Safonau ar ffurf ysgrifenedig gan ddefnyddio'r manylion cysylltu canlynol. Nid yw cydnabyddiaeth bod cwyn wedi'i derbyn gan y Comisiynydd Safonau i'w dehongli fel arwydd bod yna achos i ymchwilio iddo.

Y Comisiynydd Safonau
Senedd
Bae Caerdydd
CF99 1SN

E-bost: comisiynydd.safonau@senedd.cymru

Tel: 0300 200 6542

18. Dylai Aelodau fod yn ymwybodol bod Adran 9 o Fesur Comisiynydd Safonau 2009 hefyd yn gosod dyletswydd ar y Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd i gyfeirio mater at y Comisiynydd, os oes gan y Clerc sail resymol dros amau:

  • bod ymddygiad Aelod y Senedd, ar adeg berthnasol, wedi methu â chydymffurfio â gofyniad mewn darpariaeth berthnasol, a
  • bod yr ymddygiad dan sylw yn berthnasol i swyddogaethau'r Clerc o dan adran 138 o Ddeddf 2006 (y Clerc i fod yn brif swyddog cyfrifyddu'r Comisiwn).
4. Cofrestr Buddiannau'r Aelodau: Gwybodaeth Gyffredinol

4.1. Pwrpas y Gofrestr o Fuddiannau'r Aelodau

19. Pwrpas y Gofrestr o Fuddiannau'r Aelodau ('y gofrestr') yw rhoi gwybod ar sail barhaus i Aelodau o'r Senedd a'r cyhoedd am y buddiannau ariannol hynny a buddiannau eraill y gellid tybio'n rhesymol eu bod yn dylanwadu ar ymddygiad neu weithredoedd yr Aelodau yn y Senedd.

20. Nid gofynion dewisol na gwirfoddol mohonynt. Fel y sonnir ym Mhennod 3, mae cymryd rhan mewn trafodion, heb gofrestru'r buddiannau a bennir ym mharagraff 5 o'r atodiad i Reol Sefydlog 2, yn drosedd o dan Adran 36(7)(a) o Ddeddf 2006.

4.2. Sut mae cofrestru buddiant?

21. Gall Aelodau gofrestru buddiant drwy lenwi a llofnodi ffurflen Gofrestru a Chofnodi Buddiant, sydd ar gael ar wefan y Senedd.

22. Mae cofrestru buddiant sy'n ymwneud â chyflogi aelodau o'r teulu gyda chymorth arian Comisiwn y Senedd yn cael eu gwneud drwy lenwi ffurflen ar wahân, sef Cofnod o Gyflogaeth Aelodau'r Teulu. Mae rhagor o wybodaeth am y rheolau sy'n ymwneud â chyflogi aelodau o'r teulu wedi'i nodi yn adran 7.1 o'r ddogfen hon ac yn y Canllawiau i Aelodau o'r Senedd ynghylch Cofnodi Cyflogaeth Aelodau'r Teulu gyda Chymorth Arian y Comisiwn.

4.3. Pryd dylech chi anfon eich ffurflen?

23. Yn ôl Rheolau Sefydlog 2.3 a 5.5, mae'n rhaid i'r Aelodau lenwi ffurflen gofrestru, ei llofnodi a'i chyflwyno cyn pen wyth wythnos i dyngu'r llw neu roi'r cadarnhad cyfatebol.

24. Cyfrifoldeb yr Aelodau wedyn yw rhoi gwybod am newidiadau yn eu buddiannau cofrestradwy a chofnodadwy cyn pen pedair wythnos ar ôl pob newid. Oherwydd hyn, cynghorir yr Aelodau i adolygu eu cofrestr buddiannau'n rheolaidd.

25. Gallai methu â chydymffurfio â'r amserlenni hyn mewn perthynas â'r gofynion o dan Reol Sefydlog 2, fod yn drosedd o dan Adran 36 o Ddeddf 2006.

4.4. Ble ddylech chi anfon eich ffurflen?

26. Dylai'r Aelod ei hun, neu aelod awdurdodedig o staff, gyflwyno'r ffurflen wedi'i llenwi a'i llofnodi i Swyddfa Gyflwyno'r Senedd, neu fe ellir anfon copi caled ohoni i'r Swyddfa Gyflwyno gan ddefnyddio'r cyfeiriad canlynol, neu fe ellir anfon copi electronig ohoni i swyddfagyflwyno@senedd.cymru:

27.
Y Swyddfa Gyflwyno
Trydydd Llawr, Tŷ Hywel
Senedd
Bae Caerdydd
CF99 1SN

4.5. Beth fydd yn digwydd wedyn?

28. Pan fydd y Ffurflen Cofrestru a Chofnodi wedi dod i law, caiff y manylion eu cyhoeddi ar y gofrestr ar-lein cyn gynted ag y bo modd gan Glercod y Swyddfa Gyflwyno.

29. Mae cynnwys y gofrestr ar gael i'w archwilio gan y cyhoedd. Caiff y fersiwn ar-lein wedi’i diweddaru ei chyhoeddi ar wefan y Senedd cyn gynted ag y bo modd ar ôl i ffurflen gael ei chyflwyno, a gellir cael copi caled gan y Swyddfa Gyflwyno ar gais.

30. Mae'r fersiwn ar-lein o'r gofrestr hefyd yn cynnwys manylion am gyflogaeth aelodau o'r teulu (Rheol Sefydlog 3), yr amser a dreulia'r aelod ar 'weithgarwch cofrestradwy' (Rheol Sefydlog 4) ac aelodaeth o gymdeithasau (Rheol Sefydlog 5).

4.6. Pwy all eich helpu?

31. Mae'r Swyddfa Gyflwyno wrth law i helpu gydag unrhyw ymholiadau gan Aelodau mewn perthynas â'r rheolau hyn. Fodd bynnag, yr Aelodau eu hunain yn unig sy'n gyfrifol am gydymffurfio â'r gofynion o ran cofrestru a chofnodi buddiannau. Dylai'r Aelodau nodi hefyd na all y canllawiau hyn nac unrhyw gyngor a roddir yn ddiweddarach fod yn ddehongliad pendant o ofynion Deddf 2006 a'r Rheolau Sefydlog, oherwydd y llysoedd piau'r dehongliad cyfreithiol terfynol.

32. Gweler isod fanylion cyswllt y Swyddfa Gyflwyno:

Y Swyddfa Gyflwyno
Trydydd Llawr, Tŷ Hywel
Senedd
Bae Caerdydd
CF99 1SN

E-bost: swyddfagyflwyno@senedd.cymru

Tel: 0300 200 6542

5. Beth ddylai gael ei gofrestru?

33. Yn unol â'r Atodiad i Reol Sefydlog 2 rhaid i Aelodau o'r Senedd gofrestru eu buddiannau yn y categorïau canlynol (a elwir yn 'fuddiannau cofrestradwy').

34. Cyn ystyried y manylion, dylai'r Aelodau nodi'r ddau ofyniad cyffredinol yn yr Atodiad i Reol Sefydlog 2:

  • Rhaid i unrhyw weithgarwch y ceir tâl amdano ym meysydd cysylltiadau cyhoeddus a chynghori ac ymgynghori gwleidyddol mewn perthynas â swyddogaethau'r Senedd, gael ei gynnwys yng nghategori 2;
  • Mae mwyafrif y buddiannau a bennir yn y categorïau isod yn cynnwys cyfeiriad at fuddiannau y meddir arnynt yn annibynnol gan bartner yr Aelod neu unrhyw blentyn dibynnol sydd gan yr Aelod neu a roddir iddynt, a rhaid cofrestru'r rhain hefyd os yw'r buddiannau hynny yn hysbys i'r Aelod.

35. Yn ogystal â'r gofynion statudol i gofrestru buddiannau o dan Reol Sefydlog 2, rhaid i Aelodau hefyd gofnodi buddiannau mewn perthynas â Rheol Sefydlog 3 (Cofnodi Cyflogaeth Aelodau'r Teulu gyda Chymorth Arian y Comisiwn), Rheol Sefydlog 4 (Cofnodi Amser y bydd Aelod yn Ymwneud â Gweithgarwch Cofrestradwy), a Rheol Sefydlog 5 (Cofnodi Aelodaeth o Gymdeithasau). Mae rhagor o wybodaeth am y gofynion hyn ym Mhennod 8.

36. Mae diffiniadau o 'partner' a 'plant dibynnol' yn yr Eirfa ar ddiwedd y canllaw hwn.

5.1. Categori 1: Swyddi Cyfarwyddwyr

Swyddi cyfarwyddwyr am dâl a ddelir gan yr Aelod neu hyd y gŵyr yr Aelod, gan bartner yr Aelod neu blentyn dibynnol yr Aelod, mewn cwmnïau cyhoeddus a phreifat gan gynnwys swyddi cyfarwyddwyr nad ydynt yn cael tâl amdanynt yn unigol ond lle telir cyflog drwy gwmni arall yn yr un grŵp.

37. Yn y categori hwn, ac mewn categorïau eraill perthnasol, cynghorir Aelodau i gynnwys fel "tâl" nid yn unig gyflogau a ffioedd, ond hefyd unrhyw dreuliau, lwfansau a buddion trethadwy a dderbynnir, megis car cwmni.

38. Dylai Aelod ddatgan enw'r cwmni y mae'n dal swydd cyfarwyddwr ynddo a rhoi disgrifiad bras o fusnes y cwmni, lle nad yw hynny'n amlwg o'i enw.

39. Yn ychwanegol at unrhyw swyddi cyfarwyddwyr am dâl, mae gofyn hefyd i Aelodau gofrestru unrhyw swyddi cyfarwyddwyr y maent yn eu dal ac sydd eu hunain heb dâl ond lle mae'r cwmnïau dan sylw yn gysylltiedig â, neu'n is-gwmnïau o, gwmni y mae ganddo ef neu ganddi hi swydd cyfarwyddwr am dâl ynddo.

40. Mae'r buddiannau sydd wedi'u cofrestru o dan Gategori 1 yn cael eu hystyried i fod yn 'weithgarwch cofrestradwy'. Felly, rhaid i'r Aelodau ddatgan y buddiannau hyn hefyd o dan Reol Sefydlog 4. Rhaid i hysbysiad o dan Reol Sefydlog 4 sy'n ymwneud â chofnodi'r amser a dreulir ar fuddiannau cofrestradwy, gael ei wneud ar yr un pryd â chofrestriad o dan Gategori 1. Mae rhagor o wybodaeth am y gofynion a nodir yn Rheol Sefydlog 4 ym Mhennod 8 y canllawiau hyn.

5.2. Categori 2: Cyflogaeth, Swydd, Proffesiwn ayyb. am dâl

Cyflogaeth, swydd, masnach, proffesiwn neu alwedigaeth (heblaw aelodaeth o'r Senedd) y mae'r Aelod neu hyd y gŵyr yr Aelod, partner yr Aelod, yn cael tâl amdanynt, neu y mae gan yr Aelod, partner yr Aelod neu blentyn dibynnol yr Aelod sydd dros 16 oed unrhyw fuddiant ariannol ynddynt.

41. Yn y categori hwn, dylid rhoi manylion unrhyw gyflogaeth y tu allan i'r Senedd ac unrhyw ffynonellau tâl nad ydynt yn disgyn yn glir o fewn unrhyw gategori arall.

42. O ran cyflogaeth, dylai Aelodau ddatgan y cyflogwr neu'r cwmni, natur y busnes, a nodi natur y swydd sy'n cael ei dal yn y cwmni neu'r gwasanaethau y mae'r cwmni yn talu iddynt amdanynt. Dylai Aelodau sydd â swyddi â thâl fel ymgynghorwyr neu gynghorwyr nodi natur yr ymgynghoriaeth, er enghraifft "ymgynghorydd rheoli", "cynghorydd cyfreithiol", "ymgynghorydd seneddol a materion cyhoeddus".

43. Os bydd yr Aelod, neu bartner yr Aelod, yn derbyn arian cyhoeddus, yna dylid nodi hynny hefyd, ynghyd â ffynhonnell yr arian hwnnw (ee graniau ffermio neu chelfyddydau ac ati), ond nid oes yn rhaid datgelu faint a dderbyniwyd. Nid yw 'arian cyhoeddus', at ddibenion y categori hwn, yn cynnwys cyflogau yn y sector cyhoeddus, ac felly nid oes angen i Aelodau ddatgan hefyd bod person a gyflogir yn y sector cyhoeddus (ee athrawon, nyrsys ac ati) yn derbyn arian cyhoeddus. Fodd bynnag, dylid cynnwys unrhyw arian cyhoeddus a dderbyniwyd gan y rhai a gyflogir mewn proffesiynau o'r fath, ac eithrio cyflog (er enghraifft drwy waith contractiol ychwanegol).

44. Yn y categori hwn rhaid cynnwys unrhyw weithgaredd am dâl ym maes cysylltiadau cyhoeddus, a gwaith cynghori ac ymgynghori gwleidyddol sy'n ymwneud â swyddogaethau'r Senedd.  Mae hyn yn cynnwys unrhyw weithgaredd am dâl sy'n gysylltiedig ag unrhyw drafodion yn y Senedd, pwyllgor neu is-bwyllgor, noddi digwyddiadau yn adeiladau'r Senedd a chyflwyno sylwadau i Gabinet y Senedd neu unrhyw rai o'i aelodau.  Dylai Aelodau o'r Senedd ofalu nad yw gweithgaredd o'r fath am dâl yn mynd yn groes i'r gwaharddiad ar lobïo am dâl neu gydnabyddiaeth. (Mae rhagor o wybodaeth am reolau'r Senedd mewn perthynas â lobïo ar gael yn y Canllawiau ar Lobïo a Mynediad at Aelodau o'r Senedd).

45. O dan y categori hwn, mae angen cofrestru hefyd fanylion cytundebau sy'n golygu darparu gwasanaethau am dâl yn rhinwedd swydd yr Aelod fel Aelod y Senedd.

46. Mae'r buddiannau sydd wedi'u cofrestru o dan Gategori 2 yn cael eu hystyried i fod yn 'weithgarwch cofrestradwy'. Felly, rhaid i'r Aelodau ddatgan y buddiannau hyn hefyd o dan Reol Sefydlog 4. Dylid datgan y buddiannau o dan Reol Sefydlog 4 ar yr un pryd a chofrestru'r buddiannau o dan Gategori 2. Mae rhagor o wybodaeth am y gofynion a nodir yn Rheol Sefydlog 4 ym Mhennod 8 y canllawiau hyn.

5.3. Categori 3: Enwau Cleientiaid (Gwasanaethau)

O ran Categorïau 1 (Swyddi Cyfarwyddwyr) a 2 (cyflogaeth, swydd, proffesiwn etc am dâl), mae hefyd yn ofynnol bod Aelodau'n cofrestru enwau cleientiaid pan fydd y buddiannau y cyfeirir atynt uchod yn cynnwys gwasanaethau gan yr Aelod neu, hyd y gŵyr yr Aelod, gan bartner yr Aelod neu gan unrhyw blentyn dibynnol i'r Aelod sy'n hŷn nag 16 oed, sy'n deillio o'i aelodaeth o'r Senedd, neu sy'n gysylltiedig â hynny mewn unrhyw fodd.

47. Mewn perthynas ag unrhyw gyflogaeth am dâl a gofrestrwyd/datganwyd yng Nghategori 1 (Swyddi Cyfarwyddwyr) a Chategori 2 (Cyflogaeth, Swydd, Proffesiwn, ac ati am dâl), dylai unrhyw wasanaethau a ddarperir sydd a wnelont â, neu sy'n deillio o, sefyllfa'r Aelod fel Aelod gael eu cofrestru o dan y categori hwn.

48. Dylid rhestru enwau pob cleient gan gynnwys cwmnïau a phartneriaethau y darperir gwasanaethau iddynt gyda'i gilydd ynghyd â natur busnes y cleient ym mhob achos. Lle bo Aelod neu hyd y gŵyr yr Aelod, bartner yr Aelod neu blentyn dibynnol yr Aelod sydd dros 16 oed, yn derbyn tâl gan gwmni neu bartneriaeth sy'n gweithio mewn busnes ymgynghoriaeth ac sydd â'i gleientiaid neu ei chleientiaid ei hun, dylai'r Aelod restru unrhyw rai o'r cleientiaid hynny y darperir gwasanaethau neu gyngor iddynt, un ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol.

49. Mae'r mathau o wasanaethau y bwriedir eu cynnwys yma yn cynnwys y rheini sy'n gysylltiedig ag unrhyw drafodion yn y Senedd, neu wasanaethau eraill sydd a wnelont ag aelodaeth.  Os oes gan Aelod neu hyd y gwyr yr Aelod, bartner yr Aelod neu blentyn dibynnol yr Aelod sydd dros 16 oed, gleientiaid drwy gymhwyster proffesiynol nad oes a wnelo â'r Senedd (er enghraifft fel meddyg, cyfreithiwr neu gyfrifydd) nid oes gofyn i'r Aelod gofrestru enwau'r cleientiaid hynny, cyhyd â'i bod yn glir y tu hwnt i unrhyw amheuaeth nad yw'r gwasanaethau a ddarperir yn cael eu darparu nac yn ymwneud mewn unrhyw fodd â swydd yr Aelod fel Aelod Senedd.

50. O dan y categori hwn, os cyflogir Aelod, neu hyd y gŵyr yr Aelod, partner yr Aelod neu blentyn dibynnol yr Aelod sydd dros 16 oed, fel cynghorydd Senedd gan gwmni sydd ei hun yn ymgynghoriaeth ac sydd felly yn darparu cyngor a gwasanaethau o'r fath i'w gleientiaid, dylai'r Aelod ddatgelu'r rheini o blith cleientiaid yr ymgynghoriaeth y mae ganddo ef neu ganddi hi gyswllt uniongyrchol â hwy i'r diben o ddarparu cyngor neu wasanaethau sy'n ymwneud â'r Senedd neu sy'n elwa yn sgil darparu cyngor neu wasanaethau o'r fath. Lle'r enwir cwmni neu bartneriaeth fel cleient, dylid nodi natur busnes y cwmni neu bartneriaeth.

5.4. Categori 4: Rhoddion, Lletygarwch, Buddion Materol neu Fantais Faterol

Rhoddion, lletygarwch, buddiannau materol neu fantais faterol, y mae eu gwerth yn uwch na'r hyn a bennir mewn unrhyw benderfyniad gan y Senedd, a geir gan yr Aelod neu, hyd y gŵyr yr Aelod, gan bartner yr Aelod neu blentyn dibynnol yr Aelod, gan gwmni, corff neu unigolyn mewn perthynas ag aelodaeth o'r Senedd neu'n deillio o hynny.

Gwerth presennol y rhoddion, lletygarwch, y buddiannau materol neu'r fantais faterol, y mae'n ofynnol iddynt gael eu cofrestru yw 0.5 y cant o gyflog blynyddol crynswth sylfaenol Aelod (£320 ydyw ar hyn o bryd).

Gofynion ychwanegol o dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000:

  • Dylai'r Aelodau sylweddoli, yn ychwanegol at eu rhwymedigaethau adrodd i'r Senedd o dan y categori hwn, fod ganddynt ddyletswydd statudol hefyd o dan PPERA 2000 i wirio, cofnodi ac adrodd yr un rhoddion, lletygarwch, buddiannau materol neu fantais faterol ar wahân i'r Comisiwn Etholiadol. Mae rhagor o wybodaeth am y gofynion hyn ym Mhennod 6.

51. Ar 10 Mai 2006, penderfynodd y Cynulliad [Cofnod y Trafodion] mai'r gwerthoedd ariannol penodedig y mae'n rhaid cofrestru rhoddion, lletygarwch ac unrhyw fuddiannau eraill uwchlaw iddynt yw £338. Ar wahân i roddion a lletygarwch, gallai buddiannau materol neu fantais faterol gynnwys rhyddhau rhag dyled, benthyciadau gostyngol, darparu gwasanaethau, ac ati.

52. Dylid cofrestru unrhyw rodd, neu fuddiant, sy'n gysylltiedig mewn unrhyw ffordd ag aelodaeth o'r Senedd ac a roddir am ddim, neu am gost is nag sydd ar gael i aelodau'r cyhoedd fel arfer, pa bryd bynnag y mae gwerth y rhodd neu'r buddiant yn fwy na'r swm a bennir uchod.  Dylid cofrestru hefyd unrhyw rodd neu fuddiant cyffelyb a dderbynnir gan unrhyw gwmni neu gorff y mae gan yr Aelod, neu hyd y gŵyr yr Aelod, partner yr Aelod neu blentyn dibynnol yr Aelod, fuddiant rheolaethol ynddo.

53. Mae rhoddion a buddion materol yn y categori hwn (a chategorïau eraill) wedi'u heithrio rhag yr angen i gofrestru/datgan os nad ydynt yn gysylltiedig mewn unrhyw ffordd ag aelodaeth o'r Senedd.  O ganlyniad, nid oes angen cofrestru/datgan rhoddion a dderbynnir gan Aelod ar ran y Senedd cyfan cyhyd â'u bod yn cael eu trosglwyddo i'r Senedd ac y cedwir cofnod o berchnogaeth y Senedd o'r rhodd. Mater i'r Aelod unigol yw penderfynu yn y lle cyntaf a yw'r eithriad hwn yn berthnasol mewn unrhyw achos penodol. Os oes unrhyw ansicrwydd, dylid cofrestru'r rhodd.

54. Nid yw pensiynau ynddynt eu hunain yn gofrestradwy; fodd bynnag, gall Aelodau sy'n pryderu am dryloywder ddatgan buddiannau sy'n ymwneud ag incwm pensiwn o dan Reol Sefydlog 13.8A a 17.24A (lle gall Aelod ddatgan ar lafar unrhyw fuddiant perthnasol sydd gan yr Aelod neu aelod o'r teulu, neu fuddiant y mae'r Aelod neu aelod o'r teulu yn disgwyl ei gael, mewn unrhyw fater sy'n codi yn y trafodion hyn).

5.5 Categori 5: Contractau gyda Comisiwn y Senedd neu Llywodraeth Cymru

Unrhyw dâl neu fudd materol y mae'r Aelod, neu hyd y gŵyr yr Aelod, partner yr Aelod neu blentyn dibynnol yr Aelod, yn ei gael gan unrhyw gwmni preifat neu gyhoeddus neu unrhyw gorff arall, sydd, hyd y gŵyr yr Aelod, wedi tendro, neu sy'n tendro, am gontract gyda Chomisiwn y Senedd neu Lywodraeth Cymru neu sy'n meddu ar gontract o'r fath.

55. Dylai Aelodau gofrestru/datgan ffynhonnell pob tâl neu fudd materol a dderbynnir gan unrhyw gwmni neu gorff arall sydd, hyd y gŵyr yr Aelod, wedi tendro, neu sy'n tendro, am gontractau gyda'r Senedd. Fel yn achos Categori 4 (Rhoddion, Lletygarwch, Buddiannau Materol neu Fantais Faterol), nid oes yn rhaid i Aelodau gofrestru incwm pensiwn o dan y categori hwn, nac o dan unrhyw gategori arall.

56. Mater i'r Aelod yw penderfynu beth sydd yn fuddiant materol, ond yn amlwg byddai angen i unrhyw roddion neu letygarwch nad ydynt yn gofrestradwy o dan Gategori 4 uchod ond a roddir gan gwmni sydd â chysylltiadau contractiol â'r Senedd gael ei nodi yn y categori hwn.

5.6. Categori 6: Nawdd Ariannol

Nawdd ariannol mewn perthynas â'r canlynol:

(a) fel ymgeisydd i'w ethol i'r Senedd, lle mae'r nawdd, hyd y gŵyr yr Aelod, mewn unrhyw achos yn fwy na 25 y cant o gostau etholiadol yr ymgeisydd; neu

(b) fel Aelod o'r Senedd gan unrhyw berson neu sefydliad, gan ddatgan a yw nawdd o'r fath yn cynnwys unrhyw daliad i'r Aelod neu unrhyw fuddiant materol neu fantais faterol.

Gofynion ychwanegol o dan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007:

  • Dylai'r Aelodau sylweddoli bod yn rhaid i unrhyw roddion dros £50 a roddir iddynt fel ymgeiswyr etholaethol i'w wario ar eu hymgyrch o dan Orchymyn 2007 ddod o ffynhonnell a ganiateir a chael eu datgan ar ffurflen gwariant yr ymgeisydd ar ôl yr etholiad.

Gofynion ychwanegol o dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000:

  • Dylai Aelodau sylweddoli, yn ychwanegol at eu rhwymedigaethau adrodd i'r Senedd o dan y categori hwn, fod ganddynt ddyletswydd statudol hefyd o dan PPERA 2000 i wirio, cofnodi ac adrodd yr un nawdd ariannol ar wahân i'r Comisiwn Etholiadol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ym Mhennod 6.

57. Mae'r categori hwn yn ymwneud â nawdd gan gwmnïau, undebau llafur, cyrff proffesiynol, cymdeithasau masnach a chyrff eraill. O dan y categori hwn a pharagraff 1 o destun cyffredinol yr atodiad i Reol Sefydlog 2, mae gofyn i'r Aelod gofrestru ffynhonnell unrhyw gyfraniad tuag at ei gostau etholiad ef neu ei chostau etholiad hi sydd yn fwy na 25 y cant o gyfanswm y costau hynny.

58. Dylai'r Aelodau sylweddoli fodd bynnag, na ellir defnyddio eu lwfansau a'u tâl fel Aelod Senedd at ddibenion etholiad. Yn ymarferol, golyga hyn na all Aelodau wneud cais i'r Senedd am unrhyw gostau sy'n gysylltiedig â deunydd etholiadol a threuliau eraill etholiad.

59. O dan y categori hwn, mae'n ofynnol i Aelodau etholaeth gofrestru ffynhonnell unrhyw gyfraniad at eu treuliau etholiad sy'n fwy na 25 y cant o gyfanswm y treuliau fel y'u nodwyd yn y ffurflen gwariant ymgyrch sy'n ofynnol o dan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007. Nid yw'n ofynnol bod gwariant ymgeiswyr rhanbarthol yn cael ei gofrestru, gan fod y Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 yn trin y gwariant fel gwariant gan y blaid.

60. Mae canllawiau pellach i ymgeiswyr ac asiantau ar wariant a rhoddion ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol ac yn y Gorchymyn Cod Ymarfer Treuliau Etholiad Ymgeiswyr (Etholiadau'r Senedd) 2021.

61. Mae isadran (b) o'r categori hwn yn ymdrin â mathau eraill o nawdd ariannol. Bwriedir i hyn gynnwys unrhyw gefnogaeth reolaidd neu barhaus oddi wrth bersonau gan gynnwys cwmnïau neu gyrff y mae'r Aelod yn derbyn unrhyw fudd ariannol neu faterol oddi wrthynt i'w gynorthwyo/i'w chynorthwyo gyda'i rôl fel Aelod o'r Senedd.

62. Os mai cwmni yw'r noddwr, dylid nodi natur ei fusnes.  Dylai Aelodau gofrestru unrhyw drefniant nawdd ariannol y mae ganddynt hwy yn bersonol ran ynddo, pa un a ydynt yn derbyn tâl personol ai peidio.

63. Lle darperir gwasanaeth cynorthwyydd ymchwil neu ysgrifenyddes gyda'r cyflog yn cael ei dalu, yn llwyr neu yn rhannol, gan gorff allanol, a lle darperir llety am ddim neu gyda nawdd at ddefnydd yr Aelod, ar wahân i lety a ddarperir yn gyfan gwbl gan gangen y blaid yn yr etholaeth, dylid cofrestru hynny, fel sy'n briodol, un ai yn yr adran hon neu o dan gategori 5 "Rhoddion, lletygarwch, buddiannau materol neu fantais faterol".

64. Ar 19 Mai 1999, penderfynodd y Senedd [Cofnod y Trafodion] fod llety a ddarperir gan awdurdod lleol neu gorff arall heb unrhyw gost, neu am gost noddedig, i Aelod yn unswydd at y pwrpas o gynnal cymorthfeydd etholaeth wedi ei eithrio rhag yr angen i gofrestru.

65. Dylai Aelodau hefyd gofrestru a datgan unrhyw roddion ariannol sylweddol a roddir gan gorff neu gwmni ar sail reolaidd i gangen eu plaid yn yr etholaeth lle bo cyswllt uniongyrchol rhwng rhoddion o'r fath â'u hymgeisyddiaeth neu eu haelodaeth hwy o'r Senedd.

66. Ar 19 Mai 1999, penderfynodd y Senedd fod "rhoddion i gael eu hystyried yn nawdd ariannol os oes perthynas uniongyrchol rhwng rhoddion o'r fath mewn unrhyw flwyddyn ag ymgeisyddiaeth y person i gael ei ethol i, neu aelodaeth y person o, y Senedd a'u bod yn werth o leiaf £500 (ac mae'r cyfeiriadau uchod at roddion yn cynnwys rhodd unigol)."  Fodd bynnag, nid yw rhoddion a roddir yn uniongyrchol i gangen plaid mewn etholaeth fel mynegiant o gefnogaeth wleidyddol gyffredinol, nad ydynt yn gysylltiedig ag ymgeisyddiaeth yr Aelod neu ei (h)aelodaeth o'r Senedd, yn rhan o benderfyniad y Senedd.

67. Yn yr un modd, nid oes yn rhaid cofrestru rhodd gan undeb llafur i gangen plaid mewn etholaeth lle nad yw'n gysylltiedig â hyrwyddo ymgeisydd penodol am sedd yn y Senedd neu Aelod penodol. Fodd bynnag, dylid ystyried bod cefnogaeth ariannol i Aelod gan undeb llafur yn dod oddi mewn i baragraff 6 a dylid ei chofrestru (ar yr amod wrth gwrs ei bod yn fwy na 25 y cant o'r costau etholiad) hyd yn oed lle bo'r undeb llafur ynghlwm wrth y blaid wleidyddol dan sylw.

5.7. Categori 7: Ymweliadau Tramor

Gyda'r eithriadau a bennir mewn unrhyw benderfyniad a wneir gan y Senedd, ymweliadau tramor a wneir gan yr Aelod, neu hyd y gŵyr yr Aelod, gan bartner yr Aelod neu blentyn dibynnol yr Aelod, mewn perthynas ag aelodaeth o'r Senedd neu'n deillio o hynny pan na fydd cost yr ymweliad wedi'i thalu'n llwyr gan yr Aelod, neu hyd y gŵyr yr Aelod, gan bartner yr Aelod neu blentyn dibynnol yr Aelod, neu gan Lywodraeth Cymru neu arian cyhoeddus Comisiwn y Senedd.

Gofynion ychwanegol o dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000:

  • Dylai'r Aelodau sylweddoli, yn ychwanegol at eu rhwymedigaethau adrodd i'r Senedd o dan y categori hwn, fod ganddynt ddyletswydd statudol hefyd o dan PPERA 2000 i wirio, cofnodi ac adrodd yr un ymweliad tramor ar wahân i'r Comisiwn Etholiadol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ym Mhennod 6.

68. Dylai'r Aelod roi dyddiad, cyrchfan a diben yr ymweliad, ac enw'r llywodraeth, corff, cwmni neu unigolyn a dalodd y gost.  Lle'r ysgwyddwyd rhan yn unig o'r gost gan ffynhonnell allanol (er enghraifft, cost llety ond nid y costau teithio), dylid nodi'r manylion hynny'n gryno. Lle trefnwyd ymweliad tramor gan Grŵp Trawsbleidiol o'r Senedd, ond na thalwyd amdano gan y Senedd na chan grŵp, nid yw'n ddigon enwi'r grŵp fel noddwr yr ymweliad: dylid enwi'r Llywodraeth, corff, cwmni neu berson sy'n talu'r gost yn y pen draw.

69. Penderfynodd y Senedd ar 19 Mai 1999 Senedd Cenedlaethol Cymru, [Cofnod y Trafodion]  nad oes angen cofrestru'r categorïau isod o ymweliadau ond y dylid eu datgan pan fônt yn berthnasol yn nhrafodion y Senedd.

  • Ymweliadau y telir amdanynt gan, neu yr ymgymerir â hwy ar ran y Senedd neu a wneir ar ran corff rhyngwladol y perthyn y Senedd iddo;
  • Ymweliadau tramor gyda, neu ar ran, un o bwyllgorau'r Senedd;
  • Ymweliadau a drefnir gan ac y telir amdanynt yn gyfan gwbl gan blaid wleidyddol yr Aelod ei hun;
  • Ymweliadau y telir amdanynt yn gyfan gwbl gan un o sefydliadau'r Undeb Ewropeaidd neu gan un o grwpiau gwleidyddol Senedd Ewrop.

70. Mae ymweliadau nad oes cysylltiad o gwbl rhyngddynt ag aelodaeth o'r Senedd hefyd wedi'u heithrio rhag yr angen i gofrestru, ond dylid cofrestru ymweliadau sy'n cyfuno dyletswyddau cyhoeddus gyda dibenion preifat onid ymgymerir â'r dyletswyddau cyhoeddus yn ystod ymweliadau y darperir ar eu cyfer gan unrhyw rai o'r eithriadau uchod neu oni bai bo'r Aelod neu bartner yr Aelod neu blant dibynnol yr Aelod yn talu'r gost yn llawn.

5.8. Categori 8: Tir ac Eiddo

Unrhyw dir neu eiddo sydd gan yr Aelod, neu hyd y gŵyr yr Aelod, sydd gan bartner yr Aelod neu blentyn dibynnol yr Aelod, y mae iddo werth sylweddol fel y'i pennir mewn unrhyw benderfyniad gan y Senedd neu y ceir incwm sylweddol drwyddo, heblaw unrhyw gartref a ddefnyddir fel preswylfan bersonol gan yr Aelod neu, hyd y gŵyr yr Aelod, gan bartner yr Aelod neu unrhyw blentyn dibynnol i'r Aelod.

71. Dylai Aelodau nodi natur yr eiddo a'r lleoliad cyffredinol (er enghraifft: "Coetir ym Meirionnydd", "Fferm laeth ym Mro Morgannwg", "3 eiddo preswyl ar rent yn Llandudno").

72. Penderfynodd y Senedd ar 19 Mai 1999 [Cofnod y Trafodion] fod "gwerth sylweddol" yn golygu swm sy'n cyfateb i gyflog blynyddol crynswth sylfaenol Aelod o'r Senedd (£67,649 ar hyn o bryd) a bod "incwm sylweddol" yn golygu swm sy'n cyfateb i 10 y cant o gyflog blynyddol crynswth sylfaenol Aelod o'r Senedd.(£6,794.90 ar hyn o bryd). Nid oes angen, fodd bynnag, cofrestru symiau penodol.

73. Nid oes diffiniad cwbl eglur o eiddo 'a ddefnyddir fel preswylfan bersonol'. Mater i'r Aelodau eu hunain fydd barnu a yw eiddo wedi'i eithrio rhag ei gofrestru am y rheswm hwn ai peidio. Mae nifer o ffactorau y dylai'r Aelodau eu hystyried, a fydd o gymorth iddynt wrth benderfynu a oes yn rhaid cofrestru eiddo ai peidio - maent wedi'u rhestru isod. Dylid pwysleisio nad yw'r ffactorau a restrir yn gynhwysfawr na phenodol, ac y gallai ffactorau eraill fod yn bwysig o dan rai amgylchiadau:

  • A geir incwm sylweddol drwy'r eiddo. Fel rheol, nid yw eiddo y bydd yr Aelod, partner yr Aelod neu blentyn dibynnol yr Aelod yn cael incwm drwyddo (yn enwedig os ydyw'n incwm sylweddol yn ôl y diffiniad uchod) yn un sy'n debygol o'i weld fel un a ddefnyddir fel 'preswylfan bersonol'.
  • A yw'r eiddo yn cael ei ddefnyddio gan yr Aelod, gan bartner yr Aelod, plant yr Aelod neu deulu agos yn unig.
  • A yw'r dreth gyngor neu'r biliau am wasanaethau ar gyfer yr eiddo yn cael eu talu gan yr Aelod neu bartner yr Aelod neu blant dibynnol.
  • A ddylid cofrestru eiddo, megis fferm, sy'n cael ei ddefnyddio fel preswylfan gan yr Aelod, gan bartner yr Aelod neu blant dibynnol yr Aelod, os oes ganddo werth sylweddol ar wahân i'w ddefnydd fel preswylfan.

74. Mae'n bosibl i Aelod neu bartner yr Aelod neu blentyn dibynnol yr Aelod, gael mwy nag un cartref 'a ddefnyddir fel preswylfan bersonol yr Aelod neu bartner yr Aelod neu blentyn dibynnol yr Aelod'. Nid oes yn rhaid cofrestru eiddo o'r fath.

5.9. Categori 9: Cyfranddaliadau

Enwau cwmnïau neu gyrff eraill yn y rhai y mae gan yr Aelod, naill ai ar ei ben neu ar ei phen ei hun neu gyda phartner yr Aelod neu unrhyw blentyn dibynnol i'r Aelod, neu ar eu rhan hwy, fuddiant llesiannol, neu yn y rhai neu, hyd y gŵyr yr Aelod, y mae gan bartner yr Aelod neu unrhyw blentyn dibynnol i'r Aelod fuddiant llesiannol, mewn cyfranddaliadau:

(a) y mae eu gwerth ar y farchnad yn fwy nag un y cant o'r cyfalaf cyfranddaliadol a ddyroddwyd; neu

(b) yn llai nag un y cant ond yn fwy na swm a bennir mewn unrhyw benderfyniad gan y Senedd.

Mae'r gofyniad hwn yn cynnwys unrhyw opsiwn i gaffael cyfranddaliadau.

Lle mae'r Aelod, naill ai ar ei ben ei hun, neu gyda'i bartner neu blant dibynnol, yn fuddiolwr ymddiriedolaeth ddall, rhaid cofrestru hyn hefyd.

Penderfynodd y Senedd ar 10 Mai 2006 fod "yn rhaid cofrestru yng nghyswllt cyfranddaliadau y mae eu gwerth ar y farchnad yn llai nag 1% o‟r cyfalaf cyfranddaliadol a ddyroddwyd lle bo gwerth y cyfranddaliadau hynny yn fwy na 50 y cant o gyflog Senedd blynyddol crynswth sylfaenol Aelod o‟r Senedd" ar 5 Ebrill blaenorol.

75. Mae gwerth y cyfranddaliadau yn cael ei bennu gan bris y cyfranddaliad ar y farchnad ar: ddyddiad ethol yr Aelod i'r Senedd, neu ddyddiad prynu'r cyfranddaliad os yw ar ôl y dyddiad hwnnw; neu ar ôl y dyddiad ethol neu'r dyddiad prynu, ei werth ar 5 Ebrill bob blwyddyn.

76. Mae hyn yn golygu fod yn rhaid i'r Aelodau wneud asesiad blynyddol o'u cyfranddaliadau, a chofrestru unrhyw gyfranddaliad sydd â'i werth yn uwch na'r trothwy ar 5 Ebrill, er efallai y bu ei werth yn is na'r trothwy yn flaenorol.  Mae'n ofynnol i Aelodau gofrestru cyfranddaliadau cyn pen 8 wythnos i'w hethol i'r Senedd, neu cyn pen 4 wythnos i brynu'r cyfranddaliadau, neu ar 5 Ebrill bob blwyddyn, yn dibynnu ar yr amgylchiadau.

77. Gall Aelodau hefyd nodi bod gwerth y cyfranddaliad ar 5 Ebrill wedi disgyn yn is na'r trothwy.  O dan yr amgylchiadau hyn, ni fydd yn rhaid i'r Aelod ddatgan y cyfranddaliadau yn nhrafodion perthnasol y Senedd.

78. Os na ellir canfod y pris ar y farchnad (ee oherwydd nad yw'r cwmni wedi'i restru ac nad yw'r cyfranddaliadau ar y farchnad), dylid defnyddio'r gwerth mewn enw.

79. Mae buddiant mewn cyfranddaliadau yn cynnwys cyfranddaliadau opsiwn. Gall fod yn anodd cyfrifo gwerth cyfranddaliadau opsiwn at ddibenion cofrestru, bernir bod eu gwerth yr un fath â gwerth y cyfranddaliadau ar unrhyw adeg benodol. Fel yn achos cyfranddaliadau, rhaid i'r Aelodau wneud asesiad blynyddol o'u cyfranddaliadau opsiwn, a chofrestru unrhyw opsiynau sydd â'u gwerth yn uwch na'r trothwy ar 5 Ebrill, er efallai y bu eu gwerth yn is na'r trothwy yn flaenorol.

80. Mae buddiannau mewn cyfranddaliadau hefyd yn cynnwys buddiannau llesiannol mewn ymddiriedolaethau dall. Dylid cofrestru ymddiriedolaethau dall ynghyd â'u gwerth (os yw'n hysbys).

81. Wrth benderfynu a yw cyfranddaliadau yn gofrestradwy o dan y meini prawf a nodir uchod, dylai Aelodau gynnwys nid yn unig ddaliadau y mae ganddynt hwy eu hunain fuddiant llesiannol ynddynt ond hefyd y rheini lle mae'r buddiant yn cael ei ddal ar y cyd â, neu ar ran, eu priod neu blant dibynnol. Ar gyfer pob cyfranddaliad, dylai'r cofnod ddatgan enw'r cwmni neu'r corff, nodi'n fyr natur ei fusnes a'i gwneud yn glir pa un neu rai o'r meini prawf cofrestru sydd yn gymwys.

5.10. Categori 10: Aelodaeth/Cadeiryddiaeth o gyrff sy'n derbyn cyllid gan Gomisiwn y Senedd neu Lywodraeth Cymru

Aelodaeth neu gadeiryddiaeth gyda thâl neu'n ddi-dâl a ddelir gan yr Aelod neu, hyd y gŵyr yr Aelod, gan bartner yr Aelod neu blentyn dibynnol yr Aelod, ar unrhyw gorff a ariennir yn llwyr neu'n rhannol gan Gomisiwn y Senedd neu Lywodraeth Cymru.

82. Mae gan Lywodraeth Cymru a'r Senedd bwerau ariannu helaeth mewn perthynas â chyrff cyhoeddus, a dylid cofrestru unrhyw gysylltiad ffurfiol sydd gan Aelod gyda chyrff o'r fath fel aelod neu gadeirydd.

83. Lle bo Aelod Senedd yn gwybod, neu y dylai wybod, fod gan bartner yr Aelod neu blentyn dibynnol yr Aelod, gysylltiad fel aelod neu gadeirydd â chorff gwirfoddol neu gorff arall sy'n derbyn cyllid gan Gomisiwn y Senedd neu Lywodraeth Cymru, dylid cofrestru hynny.

84. Dylid ceisio cyngor y Llywydd, y Clerc neu Gofrestrydd Buddiannau'r Aelodau, i ganfod a yw corff yn cael ei gyllido'n gyfan gwbl neu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru.

85. Mae'r diffiniad o'r term 'aelodaeth' yn y categori hwn yn cynnwys y canlynol:

  • Unrhyw un sy'n dal swydd, er enghraifft, cadeirydd, trysorydd neu lywydd sefydliad, ond mae hefyd yn cynnwys ymddiriedolwyr a chyfarwyddwyr, noddwyr ac is-lywyddion.
  • Aelodaeth o gorff llywodraethu neu fwrdd sefydliad.
  • Unrhyw swydd sy'n derbyn tâl, boed yn weithredol neu'n weinyddol, o fewn y sefydliad neu sy'n ymwneud â'r sefydliad.
6. Adrodd am Fuddiannau wrth y Comisiwn Etholiadol

86. Yn ogystal â'r dyletswyddau a nodir yn Neddf 2006 ac yn Rheolau Sefydlog y Senedd, mae cyfrifoldeb statudol ar yr Aelodau i wirio, cofnodi ac adrodd rhai buddiannau'n uniongyrchol i'r Comisiwn Etholiadol, fel y nodir yn PPERA 2000 ac, os ydynt yn ymgeiswyr etholaethol, i adrodd am roddion tuag at y gwariant ar eu hymgyrch etholiadol o dan Orchymyn 2007. Anogir aelodau i ddarllen canllawiau'r Comisiwn Etholiadol neu i gysylltu â'r Comisiwn Etholiadol yn uniongyrchol os oes ganddynt unrhyw ymholiadau ynghylch y gofynion hyn.

87. Wrth roi gwybod i'r Comisiwn Etholiadol am fuddiant, dylai Aelodau hefyd sylweddoli:

  • bod rhaid i unrhyw nawdd ariannol, rhodd, lletygarwch, buddiant materol neu fantais faterol (gan gynnwys unrhyw rodd neu fenthyciad) dros £500 sydd i'w defnyddio mewn cysylltiad â'u gweithgareddau gwleidyddol, naill ai fel Aelod neu fel aelod o blaid wleidyddol, fod o ffynhonnell a ganiateir;
  • bod rhaid i wybodaeth ychwanegol gael ei darparu i'r Comisiwn Etholiadol mewn perthynas â benthyciadau a roddir iddynt ar gyfer eu defnyddio mewn cysylltiad â'u gweithgareddau gwleidyddol; a
  • bod ganddynt 30 diwrnod i ddarparu'r adroddiad sy'n ofynnol i'r Comisiwn Etholiadol.

6.1. Rhoddion, Lletygarwch, Buddiant Materol neu Fantais Faterol

88. Rhaid i'r Aelodau gofnodi unrhyw rodd, lletygarwch, buddiant materol neu fantais faterol (gan gynnwys unrhyw rodd ariannol neu fenthyciad) sydd i'w defnyddio gan yr Aelod mewn cysylltiad â'i weithgareddau gwleidyddol naill ai fel Aelod neu fel aelod o blaid wleidyddol, a'i bod naill ai:

  • dros £1,500 ac o ffynhonnell a ganiateir (naill ai ar ei phen ei hun neu ar y cyd â rhoddion eraill o'r un ffynhonnell), neu
  • dros £500 ac o ffynhonnell na chaniateir neu na ellir ei hadnabod.

6.2. Nawdd Ariannol

89. Rhaid i'r Aelodau roi gwybod i'r Comisiwn Etholiadol os byddant yn cael nawdd ariannol i'w ddefnyddio mewn cysylltiad â'u gweithgareddau gwleidyddol, a'i fod naill ai:

  • dros £1,500 ac o ffynhonnell a ganiateir (naill ai ar ei phen ei hun neu ar y cyd â rhoddion eraill o'r un ffynhonnell); neu
  • dros £500 ac o ffynhonnell na chaniateir neu na ellir ei hadnabod.

6.3. Ymweliadau Tramor

90. Rhaid i'r Aelodau roi gwybodaeth benodol i'r Comisiwn Etholiadol os yw cost taith dramor yn fwy na £1,500 (naill ai ar ei phen ei hun neu ar y cyd ag ymweliadau eraill y telir amdanynt o'r un ffynhonnell), ac os oedd hynny mewn cysylltiad â gweithgareddau gwleidyddol yr Aelod naill ai fel Aelod neu fel aelod o blaid wleidyddol.

91. Fodd bynnag, dylai'r Aelodau sylweddoli:

  • nad yw gofynion PPERA 2000, o ran caniatâd, yn berthnasol i ymweliadau tramor;
  • nad yw PPERA 2000 yn eithrio rhag hysbysu lle mae cost yr ymweliad tramor wedi'i dalu'n llwyr gan bartner yr Aelod neu blentyn dibynnol yr Aelod; ac
  • bod PPERA 2000 yn nodi na ddylai gwerth unrhyw rodd a dderbynnir fod yn fwy na ‘chostau rhesymol’ yr ymweliad tramor.

Y Comisiwn Etholiadol
Tŷ'r Cwmnïau, Ffordd y Goron
Caerdydd
CF14 3UZ

E-bost: infowales@electoralcommission.org.uk

Tel: 02920 346800

Canllawiau'r Comisiwn Etholiadol ar roddion i unigolion a reoleiddir.

Canllawiau'r Comisiwn Etholiadol ar ymgeiswyr ac asiantau mewn etholiadau i Senedd Cymru.

7. Datgan buddiant ar lafar a chyfyngu ar bleidleisio

7.1. Pwrpas y datganiadau llafar

92. Yn ei hanfod, diben datganiadau llafar yw sicrhau bod y cyhoedd yn gwybod am unrhyw fuddiant ariannol yn y gorffennol, buddiant ariannol presennol neu fuddiant ariannol yn y dyfodol y gallai eraill eu hystyried, o fewn rheswm, eu bod yn dylanwadu ar gyfraniad yr Aelod i ddadl neu drafodaeth.

7.2. Pryd y dylai'r Aelodau ddatgan buddiant?

93. Rhannwyd yr achosion lle mae'n ofynnol i Aelodau ddatgan buddiant yn ddau gategori, sy'n destun sancsiynau troseddol ac anhroseddol fel a ganlyn:

Datgan Buddiannau Cofrestradwy (Troseddol)

Mae Rheolau Sefydlog 2.6 a 2.7 yn datgan fel a ganlyn:

"Yn yr amgylchiadau a bennir yn Rheol Sefydlog 2, cyn cymryd rhan mewn unrhyw drafodion yn y Senedd, rhaid i Aelod ddatgan ar lafar unrhyw fuddiant ariannol sydd ganddo, neu y gall fod yn disgwyl ei gael, neu, hyd y gŵyr yr Aelod, unrhyw fuddiant ariannol sydd gan bartner yr Aelod neu unrhyw blentyn dibynnol sydd gan yr Aelod, neu y gallant fod yn disgwyl ei gael, mewn unrhyw fater sy'n codi yn y trafodion hynny.

Rhaid i ddatganiad llafar o dan Reol Sefydlog 2.6 gael ei wneud mewn perthynas ag unrhyw fuddiant a bennir ym mharagraff 5 o'r Atodiad i Reol Sefydlog 2 os gallai penderfyniad penodol yn y trafodion hynny arwain at fantais ariannol uniongyrchol i'r Aelod, neu, hyd y gŵyr yr Aelod, i bartner yr Aelod neu unrhyw blentyn dibynnol sydd gan yr Aelod, a fyddai'n fwy na'r fantais a allai ddod i ran etholwyr yn gyffredinol."

Mae cymryd rhan mewn trafodion, heb ddatgan buddiannau cofrestradwy yn unol â'r Rheolau Sefydlog hyn, yn drosedd o dan Adran 36(7)(a) o Ddeddf 2006.

Datgan Buddiannau Perthnasol (Anhroseddol)

O dan Reolau Sefydlog 13.8A a 17.24A, rhaid i Aelod, ar yr adeg briodol, ddatgan ar lafar unrhyw 'fuddiant perthnasol' y mae'r Aelod neu aelod o'r teulu yn cael neu yn disgwyl ei gael mewn unrhyw fater sy'n codi yn y trafodion hyn.

Yn ôl Rheolau Sefydlog 13.8A a 17.24A, ystyr 'buddiant perthnasol' at y dibenion hyn yw buddiant yr ystyrir yn rhesymol gan eraill ei fod yn dylanwadu ar gyfraniad yr Aelod i ddadl neu drafodaeth.

Yn wahanol i'r gofynion ar gyfer datgan unrhyw fuddiant perthnasol cyfredol o dan Reol Sefydlog 2.6 a 2.7, nid yw methiant i ddatgan buddiant yn y dyfodol neu fuddiant perthnasol o dan Reolau Sefydlog 13.8A a 17.24A yn drosedd o dan Ddeddf 2006, ond gall fod yn destun cwyn i'r Comisiynydd Safonau.

94. Isod, mae siart llif yn esbonio sut y mae'r ddau gategori hyn yn gweithio ochr yn ochr â'i gilydd.

Siart llif – Datgan buddiant ar lafar a chyfyngu ar bleidleisio (PDF, 44KB)

7.3. Cyfyngu ar bleidleisio

95. O dan Reol Sefydlog 2.9, lle bo gan Aelod fuddiant cofrestradwy y mae'n ofynnol ei ddatgan o dan Reolau Sefydlog 2.6 a 2.7, ni chaniateir i'r Aelod bleidleisio pe gallai'r penderfyniad mewn perthynas â'r buddiant hwnnw arwain at fantais ariannol uniongyrchol i'r Aelod sydd yn fwy na'r fantais a ddeuai i ran yr etholwyr yn gyffredinol. Fel arall, caiff Aelodau bleidleisio yn nhrafodion y Senedd.

96. Megis gyda'r gofyniad i gofrestru a datgan buddiannau cofrestradwy, mae methiant i gydymffurfio â rheol sefydlog 2.9 ar y mater hwn yn droseddo dan Adran 36(7)(a) o Ddeddf 2006.

97. Wrth bleidleisio, rhaid i Aelod ystyried a fyddai'r penderfyniad yn arwain at fwy o fantais ariannol uniongyrchol iddo ef neu hi na'r etholwyr yn gyffredinol. Felly, dylai'r Aelod ystyried dau gwestiwn:

  • A yw'r mater penodol y pleidleisir arno yn y Senedd yn cynnwys penderfyniad a allai effeithio ar fuddiant y mae gofyn ei gofrestru neu ei ddatgan yn unol â'r Atodiad i Reol Sefydlog 2.
  • A fyddai penderfyniad 'yn debygol o arwain at fantais ariannol uniongyrchol i'r Aelod sydd yn fwy na'r fantais a ddeuai i ran yr etholwyr yn gyffredinol'.

98. Os bydd Aelod yn cael mantais ariannol uniongyrchol o benderfyniad a fyddai'n fwy na'r fantais a allai ddod i'r etholwyr yn gyffredinol, byddai ef neu hi yn cael ei wahardd rhag pleidleisio ar y mater hwnnw.

7.4. Datgan buddiannau yn y dyfodol

99. Lle bo angen datganiad llafar o dan Reolau Sefydlog 2.6 a 2.7, dylai'r Aelodau sylweddoli bod y gofynion ar gyfer datganiadau o'r fath yn ehangach eu cwmpas na'r Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â chofrestru buddiannau. Yn ogystal â buddiannau presennol (h.y. y rheini yn y Gofrestr bresennol neu fuddiannau a gafaelwyd yn y pedair wythnos flaenorol), mae gofyn i Aelodau ddatgan y buddiannau a restrir yn yr Atodiad i Reol Sefydlog 2 y maent efallai yn disgwyl eu cael cyn cymryd rhan mewn unrhyw drafodion yn y Senedd os yw'r buddiant mewn unrhyw fater y mae a wnelo'r trafodion ag ef.

100. Efallai y bydd buddiannau y disgwylir eu cael yn y dyfodol yn fwy arwyddocaol na'r buddiannau presennol, ac felly mae'n hanfodol bod yr Aelodau'n onest. Lle bo Aelod, er enghraifft, yn trafod is-ddeddfwriaeth neu'n gwneud sylwadau ar fater y gall yr Aelod yn rhesymol ddisgwyl mantais ariannol bersonol ohono o'r math a bennir yn yr Atodiad i Reol Sefydlog 2, rhaid gwneud datganiad.

101. Wrth benderfynu a yw buddiant y gellid, o bosibl, ei gael yn y dyfodol yn ddigon pendant fel bod angen ei ddatgan, y gair allweddol yn y rheol y mae'n rhaid i'r Aelod ei gofio yw 'disgwyl'. Lle bo cynlluniau neu faint ymwneud Aelod mewn prosiect wedi mynd y tu hwnt i obeithion neu ddyheadau amwys ac wedi cyrraedd y cam lle mae yna ddisgwyliad rhesymol y ceir buddiant cofrestradwy, yna dylid gwneud datganiad yn egluro'r sefyllfa. Lle bo'r buddiant o'r fath fel bod rhaid ei ddatgan cyn siarad, dylai Aelodau sicrhau hefyd eu bod yn cydymffurfio â'r rheolau ar bleidleisio (gweler adran 7.3).

7.5. Datgan buddiannau perthnasol

102. Lle bo angen datganiad llafar o dan Reolau Sefydlog 13.8A a 17.24A, dylai'r Aelodau sylweddoli bod yn rhaid iddynt ddatgan unrhyw fuddiant perthnasolsydd ganddynt hwy neu aelod o'r teulu, neu y disgwylir iddynt hwy neu aelod o'r teulu ei gael, ac y gallai gofynion o'r fath fod yn ehangach eu cwmpas na'r 'buddiannau cofrestradwy' a amlinellir ym mharagraff 5 o'r atodiad i Reol Sefydlog 2. Er enghraifft, er nad oes yn rhaid i'r Aelodau gofrestrueu bod yn cyflogi plant dibynnol o dan baragraff 5(iv) o'r atodiad i Reol Sefydlog 2 sy'n ymwneud â 'Chyflogaeth, Swydd, Proffesiwn, ac ati am dâl', efallai y bydd gofyn i Aelodau ddatgan cyflogaeth o'r fath, pe gallai eraill ystyried, o fewn rheswm, ei fod yn dylanwadu ar gyfraniad yr Aelod at y ddadl neu'r drafodaeth.

103. O dan Reolau Sefydlog 13.8A a 17.24A, mae disgresiwn i'r Aelodau benderfynu a yw unrhyw fuddiant sydd gan Aelod neu aelod o'r teulu, neu y mae Aelod neu aelod o'r teulu yn disgwyl ei gael, yn 'fuddiant perthnasol'. Fel yn achos buddiannau a ddisgwylir yn y dyfodol, felly, mae'n hollbwysig bod yr Aelodau'n onest wrth benderfynu a oes angen gwneud datganiad o dan y Rheol Sefydlog hon ai peidio.

104. Mae'r diffiniad o 'aelodau'r teulu' at ddibenion Rheolau Sefydlog 13.8A a 17.24A, yr un fath ag a gynhwysir o dan Reol Sefydlog 3 sy'n ymwneud â Chofnodi Cyflogaeth Aelodau'r Teulu (ceir y diffiniad llawn yn yr eirfa ar ddiwedd y ddogfen).

105. Nid yw'r rheolau sy'n ymwneud â'r cyfyngiadau ar bleidleisio (fel yr eglurir yn adran 6.2) yn gymwys:

  • mewn perthynas â'r gofyniad o dan Reolau Sefydlog 13.8A a 17.24A, i ddatgan unrhyw 'fuddiant perthnasol' sydd gan Aelod neu aelod o'r teulu, neu y mae Aelod neu aelod o'r teulu yn disgwyl ei gael, mewn unrhyw fater sy'n codi yn y trafodion hyn; neu
  • mewn perthynas ag arfer pleidlais fwrw o dan Reol Sefydlog 6.20.

7.6. Sut y dylai'r Aelodau ddatgan buddiannau?

106. Dylai buddiant gael ei ddatgan os yw naill ai o fewn categori a bennir yn yr atodiad i Reol Sefydlog 2 neu o fewn cwmpas Rheolau Sefydlog 13.8A a 17.24A, ac os yw'n berthnasol i unrhyw fater y mae'r trafodion [Ystyr “trafodion y Senedd” yw unrhyw drafodion y Senedd, unrhyw bwyllgor o'r Senedd neu is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath.] yn ymwneud ag ef. Cyfrifoldeb yr Aelod yw barnu a yw buddiant yn ddigon perthnasol i drafodion penodol fel bod yn rhaid ei ddatgan.

107. Yr egwyddor sylfaenol yw y dylai Aelodau ddatgan buddiannau cofrestradwy a pherthnasol bob tro y maent yn cymryd rhan yn nhrafodion yn y Senedd, fel a ganlyn:

Buddiant cofrestradwy:

  • Mewn cyfarfod llawn - cyn i Aelod siarad am y tro cyntaf ar bob eitem ar yr agenda ond nid bob tro y mae'n siarad wedyn yn ystod eitem benodol o fusnes.
  • Mewn pwyllgor/is-bwyllgor - ar ddechrau pob cyfarfod.

Buddiant perthnasol:

  • Ar yr adeg briodol yn nhrafodion y Senedd.

108. Cyhyd ag y bo'r manylion (gan gynnwys unrhyw symiau perthnasol) yn y Gofrestr Buddiannau, nid oes yn rhaid i'r Aelod ond cyfeirio at y buddiannau a'r ffaith bod y buddiannau i'w gweld yn y Gofrestr. Os yw'r datganiad yn ymwneud â buddiannau nad ydynt yn y Gofrestr neu eu bod yn rhai y mae'r Aelod, (neu hyd y gŵyr yr Aelod, partner yr Aelod neu blant dibynnol yr Aelod) yn disgwyl eu cael yn y dyfodol, yna bydd gofyn rhoi'r manylion llawn (gan gynnwys unrhyw symiau perthnasol) yn y datganiad.

109. Dylai'r datganiad roi digon o wybodaeth i alluogi'r gwrandäwr i ddeall natur y buddiant sy'n cael ei ddatgan; nid yw'n ddigon dweud 'Mae gennyf fuddiant yn y mater sy'n cael ei drafod'.

110. Hefyd, rhaid i'r datganiad nodi'r math o fuddiant dan sylw. Er enghraifft, 'Rydw i'n ffermwr gyda buddiannau mewn tir neu anifeiliaid y byddai'r cynllun yn effeithio arnyn nhw' neu "Rwy'n berchen tŷ yn yr ardal yr effeithir arni gan y cynllun sy'n cael ei ystyried' neu 'Rwy'n aelod o fwrdd un o'r cyrff y byddai'r penderfyniad hwn yn effeithio arnyn nhw'. Os oes gan Aelod fwy nag un buddiant, rhaid iddo ddatgan pob un (ee 'Rwy'n ffermwr a byddai'r cynllun yn effeithio ar fy nhir, ac rydw i hefyd yn berchen ar dŷ y mae fy rhieni'n byw ynddo y byddai'r cynllun yn effeithio arno').

8. Gofynion eraill sy'n ymwneud â Buddiannau'r Aelodau

111. Yn ychwanegol at y gofynion statudol i gofrestru buddiannau o dan Reol Sefydlog 2, rhaid i Aelodau hefyd gofnodi'r buddiannau canlynol:

  • Rheol Sefydlog 3: Cofnodi Cyflogaeth Aelodau'r Teulu gyda Chymorth Arian y Comisiwn
  • Rheol Sefydlog 4: Cofnodi'r Amser y bydd Aelod yn Ymwneud â Gweithgarwch Cofrestradwy
  • Rheol Sefydlog 5: Cofrestru Aelodaeth o Gymdeithasau

112. Mae'r gofynion o dan y Rheolau Sefydlog hyn wedi'u modelu ar y rheini yn Rheol Sefydlog 2 fel bod, er enghraifft, yr amserlenni ar gyfer datgan buddiannau perthnasol yn union yr un fath.  Fel Rheol Sefydlog 2, nid yw'r darpariaethau yn ddewisol nac yn wirfoddol; fodd bynnag, dylai Aelodau nodi nad yw'r gofynion hyn yn cael eu cynnwys yn y sancsiynau troseddol sy'n berthnasol i achosion o dorri rheolau sy'n ymwneud â'r gofrestr buddiannau a datganiadau llafar a nodir o dan Reol Sefydlog.

113. Caiff hysbysiadau o dan y Rheol Sefydlog hon eu cyhoeddi yn yr un ddogfen ar-lein â'r Gofrestr Buddiannau.

8.1. Cofnodi Cyflogaeth Aelodau'r Teulu gyda Chymorth Arian y Comisiwn

Gofynion y Rheolau Sefydlog (Rheol Sefydlog 3)

O dan Reol Sefydlog 3, rhaid i Aelod sydd, ar unrhyw adeg, gyda chymorth arian Comisiwn y Senedd, yn cyflogi (yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol) berson y mae'r Aelod hwnnw'n gwybod ei fod yn aelod o'i deulu neu'n aelod o deulu Aelod arall, gofrestru'r gyflogaeth honno.

Mae canllawiau pellach ynghylch cyflogi aelodau o'r teulu ar gael ar wefan y Senedd.

114. Yn ymarferol, caiff cyflogaeth aelodau o'r teulu gyda chymorth arian y Comisiwn ei gofrestru drwy gwblhau ffurflen Cofnod o Gyflogaeth Aelodau'r Teulu ar wahân ac anfon copi caled wedi'i lofnodi i'r Swyddfa Gyflwyno (mae manylion cyswllt y Swyddfa Gyflwyno yn Adran 4 o'r ddogfen hon). Mae'r amserlenni ar gyfer datgan cyflogaeth aelodau o'r teulu yn union yr un fath â'r rhai sy'n gymwys wrth gofrestru buddiannau yn gyffredinol.

115. Mae'r Cofnod o Gyflogaeth Aelodau'r Teulu yn cael ei gadw yn y Swyddfa Gyflwyno. Caiff y cyhoedd ei ddarllen yn y Swyddfa Gyflwyno yn ystod yr oriau agor, a gellir gofyn am gopïau o gofnodion unigol os dymunir. Caiff y Cofnod o Gyflogaeth Aelodau'r Teulu ei gyhoeddi yn yr un ddogfen ar-lein â'r Gofrestr Buddiannau.

116. Cytunodd Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd ar 17 Ionawr 2019 na fydd dim cyllid Comisiwn y Senedd ar gael i gyflogi aelodau'r teulu nad oeddent eisoes wedi'u cyflogi cyn 1 Ebrill 2019. Felly, gwaherddir aelodau rhag cyflogi aelodau o'u teulu eu hunain gyda chymorth arian Comisiwn y Senedd. Fodd bynnag, bydd cyflogau aelodau'r teulu a benodwyd cyn 1 Ebrill 2019 yn parhau i gael eu hariannu gan y Comisiwn tan ddiwedd y Chweched Senedd, er na chaniateir i gontractau aelodau'r teulu gael eu gwella gan yr Aelod sy'n cyflogi yn ystod y cyfnod hwnnw. Yn ogystal, gall Aelodau barhau i gyflogi aelodau o deuluoedd Aelodau eraill. Felly, mae'r rheolau ar gofnodi cyflogaeth aelodau’r teulu gyda chymorth arian y Comisiwn yn parhau i fod yn gymwys o dan yr amgylchiadau a amlinellir uchod, ac mae'n dal yn ofynnol i Aelodau gofnodi manylion o'r fath, yn unol â Rheol Sefydlog 3.

8.2. Cofnodi'r Amser y bydd Aelod yn Ymwneud â Gweithgarwch Cofrestradwy

Gofynion y Rheolau Sefydlog (Rheol Sefydlog 4)

Os yw'n ofynnol i Aelod gofrestru buddiant o dan Gategorïau 1 (Cyfarwyddiaeth) a 2 (Cyflogaeth, Swyddfa, Proffesiwn ac ati am dâl) (a elwir gyda'i gilydd yn 'weithgarwch cofrestradwy'), rhaid i'r Aelodau hefyd nodi'r amser y bydd yn ymwneud â'r gweithgarwch hwnnw.

117. Rhaid i'r Aelodau gyfeirio at y bandiau canlynol, fel y nodir yn Rheol Sefydlog 4.3, wrth nodi'r amser a dreulir ar weithgarwch cofrestradwy:

  • Band 1: Llai na 5 awr yr wythnos;
  • Band 2: Rhwng 5 ac 20 awr yr wythnos;
  • Band 3: Mwy na 20 awr yr wythnos.

118. Dylid datgan buddiant o dan Reol Sefydlog 4 ar yr un pryd ag y cofrestrir buddiant perthnasol o dan Gategorïau 1 a 2. Gellir gwneud hysbysiadau o dan y Rheol Sefydlog hon drwy fod yr Aelodau'n llenwi'r adrannau perthnasol ar y Ffurflen Cofrestru a Chofnodi Buddiant. Cyhoeddir yr hysbysiadau hyn yn yr un ddogfen ar-lein â'r Gofrestr Buddiannau.

8.3. Cofrestru Aelodaeth o Gymdeithasau

Gofynion y Rheolau Sefydlog (Rheol Sefydlog 5)

O dan Reol Sefydlog 5, mae gofyn i Aelodau gofrestru eu haelodaeth, neu safle o reolaeth gyffredinol, o gymdeithas breifat neu glwb preifat sydd â gofynion mynediad ar gyfer ymaelodi.

119. Yn unol â chyngor y Pwyllgor sy'n gyfrifol am safonau ymddygiad, cyflwynwyd y Gofrestr Aelodaeth o Gymdeithasau wedi i'r Senedd gymeradwyo Rheol Sefydlog 5 ar 19 Ebrill 2005. Mae Rheol Sefydlog 5 yn disodli'r gofyniad blaenorol yn Rheol Sefydlog 2 a oedd yn mynnu bod Aelodau'n cofrestru aelodaeth o'r Seiri Rhyddion.

120. Yn ei hanfod, mae'r polisi'n adlewyrchu darpariaethau Rheol Sefydlog 2, hynny yw sicrhau bod Aelodau o'r Senedd â'r cyhoedd yn gyson ymwybodol o aelodaeth o unrhyw glybiau neu gymdeithasau preifat y gellid tybio eu bod yn dylanwadu ar ymddygiad neu weithredoedd yr Aelodau yn y Senedd.

121. Enghreifftiau o'r math o gyrff y mae'n rhaideu cofrestru:

  • Cymdeithasau preifat sydd â gofynion aelodaeth yn ychwanegol at, neu yn lle, taliadau aelodaeth a'r gofyniad i gytuno ar delerau ac amodau aelodaeth - yn enwedig lle mae'r Aelodaeth yn cael ei dethol neu ei gwahodd yn unig (er enghraifft y Seiri Rhyddion, Rotari, y Ford Gron);
  • Clybiau preifat sydd â gofynion aelodaeth yn ychwanegol at, neu yn lle, taliadau aelodaeth a'r gofyniad i gytuno ar delerau ac amodau aelodaeth - yn enwedig lle mae'r Aelodaeth yn cael ei dethol neu ei gwahodd yn unig (er enghraifft Clybiau Aelodau Preifat, fel y Cardiff and County Club).

122. Enghreifftiau o aelodaeth o'r math o gyrff nad oes yn rhaid eu cofrestru:

  • Cyrff cyhoeddus (er enghraifft CADW, English Heritage, Historic Scotland);
  • Cymdeithasau preifat sy'n codi tâl aelodaeth yn unig (ee yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, RAC, AA, RSPB);
  • Cymdeithasau preifat sydd ag amodau a thelerau aelodaeth (er enghraifft, Prifysgolion neu Golegau Addysg Uwch/Bellach, Cymdeithasau Rhieni/Athrawon, Cyrff Crefyddol, Cyrff Proffesiynol);
  • Clybiau preifat sydd ond yn gofyn am danysgrifiad a/neu gytuno i amodau aelodaeth (ee Clybiau Hamdden neu Glybiau Pobl Gwaith - cyn belled nad oes unrhyw elfen o aelodaeth sydd drwy wahoddiad neu ddethol yn unig).

123. Gall yr Aelodau gyflwyno gwybodaeth o dan y Rheol Sefydlog hon drwy fod yr Aelodau'n llenwi'r adrannau perthnasol ar y Ffurflen Cofrestru a Chofnodi Buddiant. Cyhoeddir gwybodaeth o'r fath yn yr un ddogfen ar-lein â'r Gofrestr Buddiannau.

Geirfa

Aelod o'r Teulu: Ystyr aelod o'r teulu yw:

(a) partner yr Aelod;

(b) plentyn neu ŵyr/wyres yr Aelod;

(c) rhiant neu daid/nain yr Aelod;

(d) brawd neu chwaer yr Aelod;

(e) nai neu nith yr Aelod; neu

(f) ewythr neu fodryb yr Aelod;

mae'r ymadroddion "plentyn", "ŵyr/wyres", "rhiant", "nain/taid", "brawd", "chwaer", "ewythr" a "modryb" yr un mor gymwys i hanner perthnasau, llys-berthnasau, perthnasau maeth a pherthnasau mabwysiadol, ac yn gymwys hefyd i bersonau sy'n perthyn yn yr un modd i bartner yr Aelod.

Buddiant cofrestadwy: Y buddiannau a bennir yn yr Atodiad i Reol Sefydlog 2.

Buddiant perthnasol: Unrhyw fuddiant y gallai eraill ystyried ei fod, o fewn rheswm, yn dylanwadu ar gyfraniad yr Aelod i'r ddadl neu'r drafodaeth.

Comisiynydd Safonau: Person annibynnol a benodwyd gan Senedd Cymru, i ddiogelu safonau, cynnal enw da, ac i fynd i'r afael â phryderon.

Deddf 2006: Deddf Llywodreath Cymru 2006.

Gorchymyn 2007: Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007.

Partner: Ystyr "partner" yw priod, partner sifil neu un o bâr, boed o'r un rhyw neu o'r rhyw arall sy'n byw gyda'i gilydd er nad ydynt yn briod, ac sy'n trin ei gilydd fel priod.

Plentyn Dibynnol: Unrhyw berson sydd, pan gofnodir y buddiant, yn iau nag un ar bymtheg mlwydd oed, neu yn iau na phedair ar bymtheg mlwydd oed ac sy'n derbyn addysg llawn amser mewn sefydliad addysgol cydnabyddedig ac:

(a) sy'n blentyn i'r Aelod; neu

(b) sy'n llysblentyn i'r Aelod drwy briodas; neu

(c) sy'n blentyn a fabwysiadwyd yn gyfreithlon gan yr Aelod; neu

(d) sy'n blentyn y mae'r Aelod yn bwriadu ei fabwysiadu'n gyfreithlon; neu

(e) sy'n blentyn y bu'r Aelod yn ei gefnogi yn ariannol am o leiaf y 6 mis calendr blaenorol.

PPERA 2000: Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000.

Pwyllgor cyfrifol: Ar hyn o bryd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad.

Trafodion y Senedd: Unrhyw drafodion y Senedd, unrhyw bwyllgor o'r Senedd neu is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath.

 

Canllawiau i Aelodau o'r Senedd ar Gofnodi Cyflogaeth Aelodau'r Teulu gyda Chymorth Arian y Comisiwn
  • Diweddarwyd ddiwethaf: Mawrth 2021
  • Perchennog: Y Pwyllgor sy'n gyfrifol am Safonau Ymddygiad
  • Cyswllt: Pennaeth y Swyddfa Gyflwyno
  • Ffeiliau PDF

Mae'r Canllawiau hyn yn cynnwys y ddau atodiad sy'n dilyn y testun a dylid ei ystyried yn ei gyfanrwydd:

 

1. Cytunodd Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd ar 17 Ionawr 2019 na fydd dim cyllid Comisiwn y Senedd ar gael i gyflogi aelodau'r teulu nad oeddent eisoes wedi'u cyflogi cyn 1 Ebrill 2019. Felly, gwaherddir aelodau rhag cyflogi aelodau o'u teulu eu hunain gyda chymorth arian Comisiwn y Senedd. Fodd bynnag, bydd cyflogau aelodau'r teulu a benodwyd cyn 1 Ebrill 2019 yn parhau i gael eu hariannu gan y Comisiwn tan ddiwedd y Chweched Senedd, er na chaniateir i gontractau aelodau'r teulu gael eu gwella gan yr Aelod sy'n cyflogi yn ystod y cyfnod hwnnw. Yn ogystal, gall Aelodau barhau i gyflogi aelodau o deuluoedd Aelodau eraill. Felly, mae'r rheolau ar gofnodi cyflogaeth aelodau’r teulu gyda chymorth arian y Comisiwn yn parhau i fod yn gymwys o dan yr amgylchiadau a amlinellir uchod, ac mae'n dal yn ofynnol i Aelodau gofnodi manylion o'r fath, yn unol â Rheol Sefydlog 3.

2. Diben y canllawiau hyn yw helpu'r Aelodau i gyflawni'r swyddogaethau sydd wedi'u gosod arnynt o dan Reol Sefydlog 3. Serch hynny, nid yw'r canllawiau yn disodli Rheol Sefydlog 3. Yr Aelodau yn unig sy'n gyfrifol am gydymffurfio â'r dyletswyddau sydd wedi'u gosod arnynt, er y cânt ofyn am gyngor y Llywydd, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd neu Gofrestrydd Buddiannau’r Aelodau (drwy Swyddfa Gyflwyno’r Senedd).

3. Dyma brif elfennau Rheol Sefydlog 3 y Senedd:

3.1 – Mae'n rhaid i Aelodau sy'n cyflogi aelodau o deulu (yn unol â'r diffiniad yn  y Rheol Sefydlog) roi hysbysiad o dan y Rheol Sefydlog hon.

3.2 – Yn darparu'r diffiniad o bwy sydd i'w ystyried yn "aelod o deulu" o dan y Rheol Sefydlog hon. (DS. Mae'r gofyniad bod rhaid rhoi hysbysiad yn gymwys i aelodau o deulu Aelodau Senedd eraill hefyd).

3.3 – Yn nodi'r gofynion ynglŷn â'r hyn sydd i'w gynnwys mewn unrhyw hysbysiad a fydd yn cael ei roi o dan y Rheol Sefydlog hon.

3.4 a 3.5 – Yn darparu manylion y dyddiadau cau ar gyfer rhoi hysbysiadau o dan y Rheol Sefydlog hon.

3.6 – Mae'n rhaid i'r hysbysiad gael ei roi drwy lenwi a llofnodi'r ffurflen a ragnodir gan y Llywydd.

3.7 – Mae'r cofnod o hysbysiadau sy'n cael eu rhoi o dan y Rheol Sefydlog hon yn agored i'r cyhoedd ei archwilio.

3.8 – Mae'r Aelodau o dan ddyletswydd barhaus i sicrhau bod y cofnod o hysbysiadau'n gywir.

4. Edrychir yn fanwl ar y darpariaethau hyn isod.

5. Mae Rheol Sefydlog 3 yn ymdrin â sut mae Aelodau i gofnodi'r ffaith bod aelodau o deulu'n cael eu cyflogi. Mae methu â chofnodi cyflogaeth aelodau o deulu yn fater y caiff y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ymchwilio iddo o dan Reol Sefydlog 22 gan argymell camau os bydd yn gweld bod Aelod heb gydymffurfio â darpariaethau Rheol Sefydlog 3.

Y Cofnod o Gyflogaeth Aelodau'r Teulu gyda Chymorth Arian y Comisiwn (RhS3)

6. O dan Reol Sefydlog 3, rhaid i unrhyw Aelod sydd ar unrhyw adeg, gyda chymorth arian y Comisiwn, yn cyflogi, naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, berson y mae'r Aelod hwnnw'n gwybod ei fod yn aelod o deulu'r Aelod hwnnw neu'n aelod o deulu Aelod arall roi hysbysiad o dan y Rheol Sefydlog hon, a hynny heb fod yn hwyrach na'r dyddiad a bennir yn Rheol Sefydlog 3.4.

7. Mae darpariaethau Rheol Sefydlog 3 wedi'u modelu ar y darpariaethau yn Rheolau Sefydlog 2 a 5, fel y gwelir yn yr amserau i gofnodi cyflogaeth aelodau o'r teulu.  Yn yr un modd â Rheolau Sefydlog 2 a 5, nid yw'r darpariaethau yn ddewisol nac yn wirfoddol.

Cofnodi Cyflogaeth yn ymarferol

8. Mae'r diffiniad o'r hyn sydd angen ei gofnodi drwy roi hysbysiad wedi'u nodi yn Atodiad A.

9. Mae manylion y materion penodol y mae angen eu cynnwys mewn unrhyw hysbysiad wedi'u nodi yn Atodiad B.

10. Mae dau brif gwestiwn y mae angen i'r Aelodau eu hystyried wrth benderfynu a yw'n ofynnol iddynt roi hysbysiad ffurfiol ynghylch cyflogaeth o dan y Rheol Sefydlog hon. Os ydy yw'r ateb i'r ddau gwestiwn isod, yna fe fydd angen rhoi hysbysiad ffurfiol:

  • Ydy'r person rwy'n ei gyflogi yn 'aelod o deulu' i mi, neu'n 'aelod o deulu' i Aelod Senedd arall?
  • Ydy cyflogaeth yr 'aelod o deulu' yn cael ei threfnu gyda chymorth arian y Comisiwn?

11. Mae Rheol Sefydlog 3.2 yn darparu diffiniad o ystyr aelod o deulu (Atodiad A). Wrth gwrs, dim ond os yw'r Aelod yn gwybod bod y person y mae'n ei gyflogi yn aelod o deulu'r Aelod hwnnw neu'n aelod o deulu Aelod arall y mae Rheol Sefydlog 3.1 yn ei gwneud yn ofynnol i'r gyflogaeth gael ei chofnodi.

12. Mae darpariaethau'r Rheol Sefydlog hon hefyd yn datgan yn glir ei bod yn ofynnol nid yn unig i'r Aelodau gofnodi'r manylion wrth iddynt gyflogi aelodau o deulu yn uniongyrchol, ond hefyd wrth gyflogi aelodau o deulu ar sail anuniongyrchol. Mae cyflogaeth uniongyrchol yn haws ei hadnabod, ond cynghorir yr Aelodau i ystyried yn fanylach a allai cyflogaeth aelodau o deulu ddod o dan y categori anuniongyrchol. O ran canllaw, mae'r canlynol yn enghreifftiau o'r hyn a fyddai'n gyflogaeth uniongyrchol neu anuniongyrchol. Serch hynny, dylai'r Aelodau nodi nad rhestr gynhwysfawr mo hon, ac mai eu cyfrifoldeb hwy yw cydymffurfio â'r Rheol Sefydlog:

  • Cyflogaeth Uniongyrchol: Cyflogi aelod o deulu fel: aelod o'u Staff Cymorth; derbynnydd mewn swyddfa etholaeth; gweithiwr achosion; ayyb.
  • Cyflogaeth Anuniongyrchol: Cyflogi cwmni bach neu ffyrm y mae aelod o deulu yn ennill budd arwyddocaol ohono neu ohoni, er enghraifft, Aelod sy'n cyflogi ffyrm lanhau fach y mae'r 'aelod o deulu' yn bartner ynddi neu sy'n cyflogi'r 'aelod o deulu' fel glanhawr. Ond does dim rhaid i'r Aelod roi hysbysiad ynglŷn ag aelod o deulu sy'n cael ei gyflogi gan gwmni mawr, megis cyfleustod, dim ond am fod y cwmni hwnnw'n cyflenwi gwasanaethau i'r Aelod.

Y dyddiadau cau ar gyfer cofnodi cyflogaeth - Rheol Sefydlog 3.4 a 3.5

13. Mae Rheol Sefydlog 3.4 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Aelodau roi hysbysiad ffurfiol ynghylch cyflogaeth aelodau o deulu:

(a) cyn pen wyth wythnos ar ôl tyngu'r llw neu roi'r cadarnhad; neu

(b) cyn pen pedair wythnos ar ôl:

(i) y tro cyntaf i'r aelod o deulu gael taliad gyda chymorth arian y Comisiwn,

(ii) y dyddiad y daw'r cyflogai yn aelod o deulu'r Aelod hwnnw neu'n aelod o Aelod arall, neu

(iii) y dyddiad y daw'r Aelod yn ymwybodol am y tro cyntaf o'r ffaith bod y cyflogai yn aelod o deulu'r Aelod hwnnw neu'n aelod o deulu Aelod arall, p'un bynnag yw'r olaf.

14. Mae'r Aelodau hefyd yn gyfrifol o dan Reol Sefydlog 3.5 am roi hysbysiad ffurfiol ynghylch unrhyw newidiadau yn y manylion sydd wedi'u cofnodi eisoes (er enghraifft newid yn swyddogaeth cyflogaeth yr aelod o deulu) a hynny cyn pen pedair wythnos ar ôl i'r newid ddigwydd.

15. Oherwydd y gofyniad yn Rheol Sefydlog 3 bod rhaid rhoi hysbysiad ynghylch unrhyw newid yn y manylion sydd wedi'u cofnodi cyn pen pedair wythnos ar ôl i'r newid hwnnw ddigwydd, cynghorir yr Aelodau i adolygu eu hysbysiadau  yn rheolaidd.

16. Mae cynnwys y Cofnod o Gyflogaeth Aelodau'r Teulu ar gael i'w archwilio gan y cyhoedd ar dudalen Cofrestr Buddiannau pob Aelod. Caiff y tudalennau hyn eu diweddaru cyn gynted ag y bo modd ar ôl i newid i gofrestr Aelod ddod i law.

Atodiad A

Diffiniadau o'r categorïau o faterion y mae'n rhaid eu cofnodi yn unol â Rheol Sefydlog 3.

Dyma ofynion Rheol Sefydlog 3:

3.1 O dan Reol Sefydlog 3, rhaid i Aelod sydd ar unrhyw adeg, gyda chymorth arian y Comisiwn, yn cyflogi, naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, berson y mae'r Aelod hwnnw'n gwybod ei fod yn aelod o deulu'r Aelod hwnnw neu'n aelod o deulu Aelod arall roi hysbysiad o dan y Rheol Sefydlog hon, a hynny heb fod yn hwyrach na'r dyddiad a bennir yn Rheol Sefydlog 3.4.

3.2 Yn y Rheol Sefydlog hon:

(i) ystyr "aelod o deulu" yw:

(a) partner Aelod;

(b) plentyn neu ŵyr/wyres Aelod;

(c) rhiant, taid neu nain Aelod;

(d) brawd neu chwaer Aelod;

(e) nai neu nith Aelod; neu

(f) ewythr neu fodryb Aelod.

(ii) ystyr "partner" yw priod, partner sifil neu un o gwpl p'un ai o'r un rhyw ynteu o'r rhyw arall sy'n byw gyda'i gilydd, er nad ydynt yn briod, ac sy'n trin ei gilydd fel dau briod;

(iii) mae'r ymadroddion "plentyn", "ŵyr", "wyres", "rhiant", "taid", "nain", "brawd", "chwaer", "ewythr" a "modryb" yr un mor gymwys i hanner-perthnasau, llys-berthnasau, perthnasau maeth a pherthnasau mabwysiadol ac maent yn gymwys hefyd i bersonau sydd â'r berthynas o dan sylw â phartner yr Aelod;

(iv) ystyr "arian y Comisiwn" yw symiau a delir gan y Comisiwn ar ffurf lwfansau o dan Reol Sefydlog 1.7.

Atodiad B

Manylion y materion penodol y mae angen eu cynnwys mewn unrhyw hysbysiad a fydd yn cael ei roi yn unol â Rheol Sefydlog 3.

Mae Rheol Sefydlog 3 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Aelodau gynnwys yr wybodaeth ganlynol mewn unrhyw hysbysiad sy'n cael ei roi:

(i) enw'r Aelod;

(ii) os yw'r cyflogai yn aelod o deulu Aelod arall neu Aelodau eraill, enw'r Aelod arall neu enwau'r Aelodau eraill hynny;

(iii) enw llawn y cyflogai;

(iv) perthynas y cyflogai â'r Aelod (neu, os yw'n briodol, â'r Aelod neu'r Aelodau y cyfeirir atynt yn (ii));

(v) ym mha swyddogaeth y mae'r cyflogai wedi'i gyflogi, gan gynnwys unrhyw deitl swydd;

(vi) y dyddiad y dechreuodd y gyflogaeth;

(vii) os yw'r gyflogaeth wedi dod i ben, y dyddiad y daeth i ben; ac

(viii) yr oriau y mae'r cyflogai wedi'i gontractio i'w gweithio bob wythnos.

Mae hefyd yn ofynnol i'r Aelodau roi hysbysiad ynghylch unrhyw newidiadau yn yr wybodaeth sydd wedi'i chofnodi. Gan hynny, os bydd manylion y gyflogaeth, sydd wedi'u nodi uchod, yn newid mewn unrhyw fodd, mae'n rhaid i'r Aelodau roi hysbysiad ynghylch y newidiadau hynny.

Rhaid i hysbysiad o dan Reol Sefydlog 3.1 (yr hysbysiad cychwynnol) neu o dan Reol Sefydlog 3.5 (newid manylion) gael ei roi drwy lenwi a llofnodi'r ffurflen sydd wedi'i rhagnodi gan y Llywydd. Gellir cyflwyno’r ffurflen hon i'r Swyddfa Gyflwyno yn electronig neu ar ffurf copi caled.

Rheolau a Chanllawiau ar Ddefnyddio Adnoddau'r Senedd
  • Diweddarwyd ddiwethaf: 6 Mai 2021
  • Perchennog: Swyddog Cyfrifyddu Comisiwn y Senedd
  • Cyswllt: Tim Ymgysylltu ag Aelodau
  • Ffeiliau PDF

Mae'r Rheolau a'r Canllawiau hyn yn cynnwys y tair adran ganlynol a dylid eu hystyried yn eu cyfanrwydd:

 

Statws y Rheolau a'r Canllawiau

1. Cyhoeddir y Rheolau hyn o dan awdurdod Cod Ymddygiad Aelodau o'r Senedd, Rheol 8, gan Brif Weithredwr a Chlerc y Senedd yn rhinwedd ei rôl fel Prif Swyddog Cyfrifyddu Comisiwn y Senedd o dan adran 138 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

2.Mae'r Prif Weithredwr a'r Clerc, yn rhinwedd ei rôl fel Prif Swyddog Cyfrifyddu, yn atebol am reoleidd-dra a phriodoldeb y modd y rheolir yr arian cyhoeddus a ddarperir i Gomisiwn y Senedd ac am stiwardiaeth ei asedau, yn unol â'r cyfrifoldebau a bennir o bryd i'w gilydd gan y Trysorlys.

3.Mae'r Rheolau hyn yn gymwys pryd bynnag y bydd Aelod yn defnyddio adnoddau'r Comisiwn (fel y'u diffinnir yn y Rheolau hyn). Pe bai gan y Prif Weithredwr a Chlerc sail resymol dros amau na chydymffurfiwyd â'r Rheolau hyn, yna mae dyletswydd ar y Clerc, o dan adran 9 o Fesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009, i gyfeirio'r sail dros yr amheuon hynny at Gomisiynydd Safonau'r Senedd i ymchwilio iddi.

4. Nid yw'r canllawiau ar ôl pob Rheol yn rhan o'r Rheolau. Eu diben yw cynorthwyo’r Aelodau a swyddogion y Comisiwn i ddilyn a chymhwyso'r Rheolau. Caiff Comisiynydd Safonau'r Senedd roi sylw i’r canllawiau hynny pan gyfeirir mater ato i ymchwilio iddo.

5. Dylai’r Aelodau ofyn am gyngor ymlaen llaw gan staff Comisiwn y Senedd os oes unrhyw amheuaeth ynghylch a yw gweithgaredd arfaethedig yn ddefnydd a ganiateir o adnoddau'r Comisiwn.

6. Dylai’r Aelodau hefyd cadw mewn cof ddarpariaethau Rheol 16 sy'n cynnwys trefniadau arbennig y gellir eu cymhwyso yn ystod cyfnodau etholiad, yn ychwanegol at ddarpariaethau Rheolau eraill sy'n ymwneud â chyfnodau etholiad.

Dehongliad

Yn y Rheolau hyn ac yn y Canllawiau mae’r ymadroddion isod i’w dehongli fel a ganlyn:

Ystyr “adnoddau’r Comisiwn” yw unrhyw adnoddau boed yn ariannol neu fel arall, ac mae'n cynnwys adnoddau a ddarperir i’r Aelodau yn y Penderfyniad;

“cyfnod yr etholiad” – yw unrhyw pan fydd: (i) y Senedd wedi’i diddymu, (ii) Senedd y DU wedi’i diddymu, (iii) cyfnod refferendwm fel y'i diffinnir gan adran 102 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000, (iv) bod hysbysiad etholiad wedi'i gyhoeddi ar gyfer etholiad cynghorwyr ar gyfer ardal llywodraeth leol, (v) bod hysbysiad etholiad wedi'i gyhoeddi ar gyfer ethol Comisiynydd Heddlu a Throseddu, neu (vi) bod is-etholiad wedi’i alw drwy roi’r hysbysiad angenrheidiol ar gyfer sedd yn y Senedd, Senedd y DU neu fel cynghorwr;

Ystyr “y Penderfyniad” yw’r Penderfyniad ar Gyflogau a Lwfansau’r Aelodau a gyhoeddir gan Fwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd;

Ystyr “dyletswyddau Aelod” yw gweithgaredd mewn perthynas â busnes y Senedd a busnes etholaethol neu ranbarthol y bydd yr Aelod yn ymgymryd ag ef;

Ystyr “gweithgareddau yn ymwneud â’r cyfryngau” yw gweithgaredd darlledu, ffilmio neu recordio y bydd Aelod (neu unrhyw berson neu sefydliad ar ei ran) yn ymgymryd ag ef ar unrhyw ran o ystâd y Senedd;

Ystyr “gweithgaredd gwleidyddol plaid” yw unrhyw beth allai ymddangos i sylwedydd teg a diduedd fel bod yn weithgaredd gwleidyddol neu geisio cyflawni canlyniad penodol mewn etholiad neu refferendwm (boed fel aelod o blaid wleidyddol gofrestredig neu beidio), ond heb gynnwys trafodaethau ac ystyriaethau’r Aelodau a'u staff mewn perthynas â'r ymateb gwleidyddol i fusnes sydd gerbron y Senedd gan gynnwys busnes y grwpiau gwleidyddol yn y Senedd, neu’r defnydd o logos neu frandio yn unol â'r Rheolau hyn.

Y Rheolau a'r Canllawiau

Rheol 1 – Atebolrwydd personol

Mae'r Aelodau'n bersonol atebol am y defnydd a wneir o’r adnoddau sydd ar gael iddynt gan y Comisiwn.

Canllawiau

Mae'r Aelodau'n bersonol gyfrifol am yr holl gostau yr eir iddynt neu'r adnoddau a ddefnyddir yn eu henwau. Caiff yr Aelodau ddirprwyo'r gwaith o drefnu a chyflawni gweithgareddau i eraill, megis aelodau o'u staff, ond pan fyddant yn gwneud trefniadau o'r fath dylai'r Aelodau gofio eu bod yn parhau i fod yn bersonol atebol am y defnydd a wneir o’r adnoddau a ddarperir iddynt gan y Comisiwn.

 

Rheol 2 – Gwerth am arian, cynaliadwyedd a'r cyfrifoldeb i gynnal enw da

Wrth ddefnyddio adnoddau'r Comisiwn, rhaid i'r Aelodau weithredu'n ddarbodus a rhoi sylw i’r canlynol:

a) yr angen am sicrhau gwerth am arian wrth wario arian cyhoeddus,

b) rhwymedigaethau'r Comisiwn wrth gyflawni ei swyddogaethau o ran sicrhau cyfle cyfartal i bawb a hybu datblygu cynaliadwy, ac

c) enw da a bri y Senedd.

Canllawiau

Rhaid i’r Aelodau ddefnyddio’r adnoddau sydd ar gael iddynt gan y Comisiwn yn ddarbodus ac o fewn cyfyngiadau'r adnoddau cyffredinol sydd ar gael i'r Aelodau.

Mae'r Rheol hon yn cynnwys gwariant yr Aelodau ar deithio a thynnir sylw at yr “Egwyddorion ar gyfer gwariant y Comisiwn ar deithiau gan Aelodau” a'r lwfansau teithio a bennir yn y Penderfyniad.

 

Rheol 3 – Cyflogi staff a ariennir gydag adnoddau'r Comisiwn

Yn achos staff a gyflogir gan Aelodau, rhaid iddynt, yn ystod yr oriau y’u contractiwyd i wneud gwaith y telir amdano gydag adnoddau'r Comisiwn, wneud gwaith mewn cysylltiad â dyletswyddau’r Aelod yn unig.

Canllawiau

Mae'r Rheol hon yn gymwys i staff Aelodau sy'n cael eu talu gydag adnoddau'r Comisiwn.

Rhaid i'r defnydd o staff a ariennir gydag adnoddau'r Comisiwn fod o fewn darpariaethau'r Rheolau hyn. Heb ragfarnu effaith gyffredinol y Rheol hon, byddai defnyddio staff ar gyfer unrhyw un neu ragor o'r gweithgareddau a ganlyn yn torri'r Rheol hon ac felly maent wedi'u gwahardd:

a) Gweithgareddau neu gyfathrebu personol, busnes neu fasnachol;

b) Gweithgaredd gwleidyddol plaid;

c) Gweithgareddau eraill sy'n dod ag elw ariannol i'r Aelod neu unrhyw berson arall.

Mae cymhwyso'r rheol hon yn golygu na ddylai staff cymorth a gyflogir gan Aelod gymryd rhan weithredol mewn ymgyrchu yn ystod eu horiau gwaith dan gontract. Nid yw'r Comisiwn yn cyfyngu staff rhag ymgymryd â gweithgareddau o'r fath y tu allan i'w horiau gwaith ar gontract, tra byddant ar wyliau blynyddol neu tra byddant ar absenoldeb arbennig di-dâl. Rhaid rhoi gwybod i'r tîm Cymorth Busnes i Aelodau ymlaen llaw am unrhyw gyfnodau o wyliau arbennig di-dâl fel bod modd gwneud yr addasiad ariannol priodol.

Cydnabyddir y gall fod yn anodd weithiau tynnu llinell glir rhwng busnes sy'n ymwneud yn briodol â dyletswyddau Aelodau a rhywbeth sy'n dod o fewn y diffiniad o “weithgaredd gwleidyddol plaid”. Felly, er y bwriedir i'r Rheol hon gael ei dilyn yn llym, mae'n annhebygol y bydd cyfeiriad damweiniol at weithgaredd gwleidyddol plaid yn gyfystyr â thorri'r Rheol hon pan fydd Aelod, fel arall, yn cyflawni ei ddyletswyddau’n briodol.

Caiff Aelodau hefyd, yn achlysurol, ddal swydd wleidyddol etholedig arall (er enghraifft, cânt hefyd fod yn gynghorwyr lleol) ar yr un pryd â bod yn Aelod. Mewn achosion o’r fath, dylai Aelodau sicrhau nad yw staff yn gwneud gwaith sy’n ymwneud â swydd etholedig arall yn ystod oriau arferol eu contract a lle caiff adnoddau eu darparu gan y corff y mae’r Aelod hefyd wedi’i ethol i’w wasanaethu.

Yn yr un modd, pan fo aelod o staff Aelod yn dal swydd wleidyddol etholedig ar gorff arall, yna’r Aelod sy’n gyfrifol am sicrhau nad yw’r aelod o staff yn gwneud gwaith sy’n ymwneud â’r swydd etholedig honno yn ystod oriau gwaith y swydd a delir o adnoddau’r Senedd.

 

Rheol 4 – Eitemau a chyfleusterau a brynir gydag adnoddau'r Comisiwn neu a ddarperir gan y Comisiwn

(1)  Rhaid i eitemau a chyfleusterau a brynir gydag adnoddau'r Comisiwn neu a ddarperir gan y Comisiwn at ddefnydd yr Aelodau gael eu defnyddio mewn cysylltiad â dyletswyddau Aelod yn unig.

(2)  Mae eitemau a brynir gydag adnoddau'r Comisiwn yn dod yn eiddo i'r Comisiwn ac yn parhau’n eiddo i’r Comisiwn ac maent i'w dychwelyd yn brydlon pan ofynnir amdanynt.

(3)  Rhaid i eitemau a ddarperir gan y Comisiwn at ddefnydd yr Aelodau gael eu defnyddio yn unol ag amodau a bennir gan y Comisiwn o bryd i'w gilydd, yn ymwneud â'r defnydd ohonynt.

Canllawiau

Mae'r rheol hon yn ymwneud ag eitemau a gwasanaethau y mae Aelodau'n eu prynu gydag adnoddau'r Comisiwn neu'n cael eu darparu gan y Comisiwn at ddefnydd yr Aelodau (er enghraifft, offer TGCh a chontractau gyda darparwyr gwasanaeth).

Heb ragfarnu effaith gyffredinol y Rheol hon, byddai defnyddio eitemau neu gyfleusterau ar gyfer unrhyw un neu ragor o'r gweithgareddau a ganlyn yn torri'r Rheol hon ac felly maent wedi'u gwahardd:

a) Gweithgareddau neu gyfathrebu personol, busnes neu fasnachol;

b) Gweithgaredd gwleidyddol plaid;

c) Gweithgareddau eraill sy'n dod ag elw ariannol i'r Aelod neu unrhyw berson arall.

Mae rheol 4(3) yn cynnwys, yn benodol, fod yr offer TGCh sy’n cael ei ddarparu gan y Comisiwn yn ddarostyngedig i'r Rheolau Diogelwch a Defnyddio TGCh (sy'n cael eu hadolygu ar gyfer y Chweched Senedd) ac sy'n caniatáu defnydd personol cyfyngedig ac achlysurol o’r rhyngrwyd, e-bost a ffôn.

Dylai'r Aelodau gofio bod eitemau a brynwyd gydag adnoddau'r Comisiwn yn dod yn eiddo i'r Comisiwn ac yn parhau’n eiddo i’r Comisiwn ac y dylent hwy a'u staff gymryd gofal da o eitemau o'r fath yn unol â hynny. Mae Aelodau'n benodol gyfrifol am ddychwelyd eitemau ar ddiwedd eu cyfnod yn y swydd.

Mae’r Canllawiau ynghylch Rheol 3 sy’n ymwneud â sefyllfa lle bydd Aelod yn dal swydd wleidyddol etholedig arall, neu lle bo aelod o staff Aelod yn dal swydd wleidyddol etholedig arall, hefyd yn gymwys i ddefnyddio eitemau a chyfleusterau sydd wedi’i gynnwys yn y Rheol hon.

 

Rheol 5 – Cadw at weithdrefnau ariannol

Rhaid i Aelodau gadw at y gweithdrefnau ariannol, a'r trefniadau gwrth-dwyll, mewn cysylltiad â gwariant a defnyddio adnoddau'r Comisiwn y bydd y Comisiwn yn hysbysu’r Aelodau amdanynt o bryd i'w gilydd.

Canllawiau

Mae'r Rheol hon yn ei gwneud yn ofynnol cadw at y trefniadau a'r gweithdrefnau a bennir gan y Comisiwn a/neu'r Penderfyniad (y bydd y Comisiwn yn hysbysu’r Aelodau amdanynt, gan gynnwys ar fewnrwyd yr Aelodau) a fydd yn cynnwys (ond heb ragfarnu effaith gyffredinol y Rheol hon) ganllawiau diwedd y flwyddyn, manylion colledion ariannol, mesurau gwrth-dwyll, trefniadau ynghylch creu a chadw cofnodion (fel diben siwrneiau a’u manylion, oriau gwaith staff a derbynebau ac anfonebau sy'n ymwneud ag eitemau a brynwyd) a darparu gwybodaeth a chyflwyno hawliadau yn brydlon pan ofynnir am hynny, manylion sy'n ofynnol at ddibenion cyfrifyddu neu archwilio'r Comisiwn, neu at ddibenion eraill y gellir gofyn yn briodol am wybodaeth ariannol yn eu cylch ee mewn cysylltiad ag ymchwiliad safonau.

 

Rheol 6 – Diogelu data

Rhaid i Aelodau gydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol sy'n ymwneud â diogelu data a gwybodaeth wrth ddefnyddio adnoddau'r Comisiwn.

 

Rheol 7 – Trin etholwyr yn gyfartal wrth ddefnyddio adnoddau'r Comisiwn

Rhaid i Aelodau drin pob etholwr yn gyfartal wrth ymgysylltu neu ohebu â hwy gan ddefnyddio adnoddau'r Comisiwn.

Yn y Rheol hon, ystyr “yn gyfartal” yw trin etholwyr yn gyfartal ni waeth beth yw eu barn wleidyddol neu eu teyrngarwch neu eu barn wleidyddol neu eu teyrngarwch honedig.

Canllawiau

Rhaid i Aelodau arfer gofal a doethineb wrth baratoi deunyddiau, ar ba ffurf bynnag y bo hynny, er mwyn sicrhau nad yw'r cynnwys yn torri'r Rheol hon a Rheolau 8 i 14 isod.

 

Rheol 8 – Cyfathrebu ac ymgysylltu ag etholwyr gan ddefnyddio adnoddau'r Comisiwn

Pan fydd Aelodau yn cyfathrebu ac yn ymgysylltu ag etholwyr gan ddefnyddio adnoddau'r Comisiwn:

a) rhaid i hynny beidio â bod yn weithgaredd gwleidyddol plaid;

b) rhaid iddo beidio â chael ei wneud yn y fath fodd fel y byddai sylwebydd diduedd a theg yn cael yr argraff ei fod yn ymgyrchu dros ganlyniad penodol mewn etholiad neu refferendwm;

c) rhaid cadw at y Canllawiau ar gymhwyso'r Rheol hon ar ddefnyddio symbolau, logos neu fath arall o frandio sy’n ymwneud â phlaid; a

d) rhaid datgan yn glir ei fod yn cael ei ariannu gan Gomisiwn y Senedd o arian cyhoeddus.

Canllawiau

Atgoffir yr Aelodau eu bod, o dan Reol 1, yn bersonol atebol am ddefnyddio Adnoddau'r Comisiwn ac felly am unrhyw weithgaredd cyfathrebu neu ymgysylltu a wneir gyda’r adnoddau a ddarperir iddynt gan y Comisiwn.

Pe byddai’r Penderfyniad yn gwneud darpariaeth o bryd i'w gilydd ar gyfer darparu deunydd ysgrifennu (anghenion cyffredinol swyddfeydd yn ogystal â phapur pennawd personol), ac argraffu, copïo, ac adnoddau postio ar gyfer (1) hysbysiadau cymorthfeydd, (2) cylchlythyrau a anfonir naill ai mewn ymateb i geisiadau am ragor o wybodaeth gan bobl sy’n derbyn cylchlythyrau; neu (3) cylchlythyrau a anfonir at lofnodwyr deiseb a gyfeiriwyd at Aelod, yna bydd darpariaeth o'r fath yn ddarostyngedig i'r Rheol hon.

Tynnir sylw’r Aelodau at y diffiniad o “weithgaredd gwleidyddol plaid”. Dylai Aelodau hefyd ymgyfarwyddo â’r Penderfyniad o ran y ddarpariaeth ar gyfer cymorth i ymgysylltu ag etholwyr i hyrwyddo eu gwaith fel Aelodau.

Caniateir defnydd cynnil o logos plaid mewn deunydd printiedig a ganiateir ar gyfer ymgysylltu ag etholwyr, gan gynnwys deunydd ysgrifennu personol, ond rhaid i hysbysebion, cynnwys neu ddeunyddiau a gynhyrchir beidio â rhoi'r argraff eu bod wedi'u hariannu gan blaid wleidyddol ac ni ddylid eu defnyddio yn y fath fodd fel y gallai sylwedydd teg a diduedd gael yr argraff eu bod yn ymgyrchu dros blaid wleidyddol neu unigolyn.

 

Rheol 9 – Y Cynllun Ieithoedd Swyddogol

Rhaid i weithgaredd cyfathrebu ac ymgysylltu sy’n defnyddio adnoddau'r Comisiwn fod yn unol â'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol.

Canllawiau

Gellir gweld y Cynllun yma.

 

Rheol 10 – Gwefannau Aelodau

Rhaid defnyddio gwefan Aelod mewn cysylltiad â dyletswyddau Aelod dim ond os cafodd ei hadeiladu neu ei chynnal gan ddefnyddio adnoddau'r Comisiwn, ac os canfyddir bod Aelod wedi torri'r Rheol hon, bydd yr Aelod yn ad-dalu'r Comisiwn yn brydlon pan ofynnir iddo wneud hynny.

Canllawiau

Mae'r gofyniad bod yn rhaid defnyddio gwefan mewn cysylltiad â dyletswyddau Aelod yn unig yn eithrio cynnwys gwleidyddol plaid. Fodd bynnag, ni fydd y cynnwys a ganlyn, sy'n dangos pwy yw’r Aelod er budd ymwelwyr â'r wefan, yn cael ei ystyried yn gynnwys gwleidyddol plaid o dan y Rheol hon:

a) Dangos y blaid y mae’r Aelod yn perthyn iddi;

b) Dangos logo neu frand plaid yr Aelod;

c) Lincs ar y wefan i un neu ragor o wefannau (ar wahân) sydd â chynnwys gwleidyddol plaid. Dylai gwefan yr Aelod egluro bod y lincs yn arwain at wefannau nad ydynt yn cael eu cynnal gan yr Aelod ac nad ydynt yn cael eu hariannu gan adnoddau'r Comisiwn

 

Rheol 11 – Gweithgaredd ar y cyfryngau cymdeithasol

Rhaid i weithgaredd Aelod ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio adnoddau'r Comisiwn fod yn uniongyrchol gysylltiedig â’i ddyletswyddau fel Aelod a rhaid iddo beidio â bod yn weithgaredd gwleidyddol plaid.

Canllawiau

Rhaid peidio â defnyddio adnoddau'r Comisiwn i greu, hysbysebu na hyrwyddo cynnwys sy'n wleidyddiaeth plaid. Mae hyrwyddo gweithgaredd ar y cyfryngau cymdeithasol, er enghraifft defnyddio Facebook (gan gynnwys “hybu” erthyglau Facebook) neu hysbysebion Twitter, o fewn y Rheol hon dim ond os yw'r erthygl yn uniongyrchol gysylltiedig â dyletswyddau'r Aelod ac nad yw'n weithgaredd gwleidyddol plaid. Rhaid i’r gweithgaredd hyrwyddo gael ei anelu at yr etholaeth neu'r rhanbarth y mae'r Aelod yn ei gynrychioli.

 

Rheol 12 – Gweithgareddau yn ymwneud â'r cyfryngau

Yn achos gweithgareddau yn ymwneud â’r cyfryngau:

a) rhaid iddynt beidio ag amharu ar weithgareddau eraill ar ystâd y Senedd na rhwystro ymwelwyr rhag cael mynediad;

b) rhaid iddynt beidio â chael eu cynnal yn y Siambr, yr ystafelloedd pwyllgora, yr orielau cyhoeddus, na mannau eraill nad oes gan y cyhoedd fynediad cyffredinol iddynt oni bai eu bod wedi'u cymeradwyo ymlaen llaw gan y Llywydd;

c) os yw’r cynnwys yn ymwneud â gwleidyddiaeth plaid, dim ond yn y mannau cyhoeddus ar ystâd y Senedd neu yn swyddfeydd yr Aelod ei hun neu grŵp ei blaid y gellir cynnal y gweithgaredd;

d) ni chaniateir unrhyw weithgaredd o’r fath yn unman ar ystâd y Senedd yn ystod cyfnod etholiad.

Canllawiau

Mae'r diffiniad o weithgaredd gwleidyddol plaid yn golygu na chaniateir ymgyrchu i ddenu pleidleisiau yn unman ar ystâd y Senedd.

Dylid gofyn am gydsyniad y Llywydd drwy gysylltu â Swyddfa’r Cyfryngau.

 

Rheol 13 – Noddi digwyddiadau

Rhaid i aelodau beidio â noddi na threfnu digwyddiadau ar ystâd y Senedd sy'n cynnwys:

a) gweithgareddau neu gyfathrebu personol, busnes neu fasnachol;

b) gweithgaredd gwleidyddol plaid, gan gynnwys defnyddio logos neu ddulliau brandio plaid, neu ymgyrchu dros ganlyniad penodol mewn etholiad neu refferendwm;

c) codi arian o unrhyw fath neu weithgaredd lle codir tâl mynediad;

d) digwyddiadau, arddangosfeydd neu arddangosiadau o ddeunydd sydd, ym marn Clerc y Senedd, yn debygol o achosi tramgwydd (gan ystyried telerau Polisi Urddas a Pharch cyfredol y Senedd);

e) cyfarfodydd cyffredinol (boed yn gyfarfodydd blynyddol neu'n gyfarfodydd arbennig) sefydliadau allanol;

f) gweithgareddau eraill a allai ddod ag elw ariannol i'r Aelod neu unrhyw berson arall.

Canllawiau

Wrth noddi digwyddiadau, dylai'r Aelodau gofio mai diben defnyddio ystâd y Senedd gan Aelodau ar gyfer digwyddiadau yw galluogi'r Senedd i fod yn ddeddfwrfa arloesol sy'n rhoi llais pobl Cymru wrth galon yr hyn a wnawn trwy ymgysylltu’n ystyrlon a thrwy gynnal busnes y Senedd.

Mae Polisi urddas a Pharch y Senedd i'w gael yma.

 

Rheol 14 – Neilltuo ystafelloedd cyfarfod

Ni chaniateir i Aelodau neilltuo ystafelloedd cyfarfod ar ystâd y Senedd ar gyfer busnes gwleidyddol unrhyw blaid.

Canllawiau

Tynnir sylw’r Aelodau at:

a) y diffiniad o “weithgaredd gwleidyddol plaid” yn y rheolau hyn;

b) darpariaethau Rheol 16 sy'n cynnwys trefniadau arbennig a all fod yn gymwys yn ystod cyfnod etholiad.

Cydnabyddir y gall fod yn anodd weithiau tynnu llinell glir rhwng busnes sy'n ymwneud yn briodol â dyletswyddau Aelodau a rhywbeth sy'n dod o fewn y diffiniad o “weithgaredd gwleidyddol plaid”. Felly, er y bwriedir i'r Rheol hon gael ei dilyn yn llym, mae'n annhebygol y bydd cyfeiriad damweiniol at weithgaredd gwleidyddol plaid yn gyfystyr â thorri'r Rheol hon pan fydd Aelod, fel arall, yn cynnal busnes yn briodol mewn ystafell gyfarfod.

 

Rheol 15 – Fetio at ddibenion diogelwch

Mae'r defnydd o adnoddau'r Comisiwn, ac eithrio gan Aelodau neu eu partneriaid (fel y'u diffinnir yn Rheol Sefydlog 3.2(ii)), wedi'i gyfyngu i bersonau sydd wedi cael eu fetio at ddibenion diogelwch ar y lefel briodol.

Canllawiau

Rhaid i bob un sy’n gweithio i Aelod gael ei fetio at ddibenion diogelwch cyn iddo ddechrau gweithio, p'un a yw wedi'i leoli yn Nhŷ Hywel neu yn rhywle arall.

 

Rheol 16 – Cyfnod etholiad: trefniadau arbennig

Yn ystod cyfnod etholiad rhaid i Aelodau gadw at unrhyw gyfyngiadau ychwanegol a bennir gan y Comisiwn am y cyfnod hwnnw ynghylch defnyddio adnoddau'r Comisiwn, ystâd y Senedd neu gynnal gweithgareddau yn ymwneud â’r cyfryngau.

Canllawiau

Mae etholiadau a refferenda yn gyfnodau o sensitifrwydd gwleidyddol uwch, sy’n galw am gyfyngiadau ychwanegol i sicrhau nad yw adnoddau'r Comisiwn nac ystâd y Senedd yn cael eu defnyddio er budd plaid wleidyddol neu ymgeisydd unigol. Bydd y Comisiwn yn rhoi gwybod i’r Aelodau ac i benaethiaid staff (neu eu cyfwerth) pob plaid wleidyddol am gyfyngiadau ychwanegol o’r fath.

Rheolau ynghylch gweithredu Grwpiau Trawsbleidiol
  • Diweddarwyd ddiwethaf: 5 Mai 2021 (i adlewyrchu newid enw)
  • Perchennog: Y Pwyllgor sy'n gyfrifol am Safonau Ymddygiad
  • Cyswllt: Clerc y Pwyllgor sy'n gyfrifol am Safonau Ymddygiad
  • Ffeiliau PDF

Mae rhagor o wybodaeth am Grwpiau Trawsbleidiol ar gael yma.

Mae'r Rheolau hyn yn cynnwys yr adran sy'n dilyn y testun a dylid eu hystyried yn eu cyfanrwydd:

 

1. Cyflwyniad

1. Mae gan grwpiau trawsbleidiol gydnabyddiaeth eang am fod yn rhan werthfawr o'r broses ddemocrataidd. Mae hi yr un mor bwysig bod grwpiau yn gweithredu mewn modd agored a thryloyw.

2. Mae'r rheolau hyn ar y ffordd mae grwpiau trawsbleidiol yn gweithredu yn disodli Canllawiau'r Llywydd ar Ffurfio Grwpiau Trawsbleidiol, a wnaed ar 10 Mawrth 2004.

3. Mae holl grwpiau trawsbleidiol presennol y Senedd yn ddarostyngedig i'r Rheolau newydd hyn o'r dyddiad y daw'r Rheolau i rym.

2. Diffiniad a Statws

4. Diben grwpiau trawsbleidiol y Senedd yw cynnig fforwm i Aelodau o'r Senedd o wahanol bleidiau i ddod ynghyd i drafod ac ystyried meysydd sydd o ddiddordeb cyffredinol iddynt.

5. Nid yw grwpiau trawsbleidiol yn grwpiau ffurfiol o'r Senedd ac nid ydynt felly'n ddarostyngedig i Reolau Sefydlog y Senedd. Nid oes rôl ffurfiol ganddynt mewn datblygu polisi.

6. Caiff Aelodau sefydlu grwpiau trawsbleidiol i ymdrin ag unrhyw faes sy'n berthnasol i'r Senedd, ond ni ddylai geisio dyblygu meysydd swyddogaeth pwyllgorau'r Senedd, ac nid oes ganddynt unrhyw bwerau fel sydd gan bwyllgorau'r Senedd (h.y. ni allant alw ar unrhyw dystion neu Weinidogion i ddod i'w cyfarfodydd neu i gyflwyno dogfennaeth, ac ni chânt ddefnyddio logo na brand Senedd Cymru).

3. Aelodau

7. Rhaid i grŵp trawsbleidiol gynnwys Aelodau o dri grŵp plaid gwleidyddol o leiaf a gaiff eu cynrychioli yn y Senedd.

8. Yn ogystal, gall grwpiau gynnwys aelodau o'r tu allan i'r Senedd. Y grŵp fydd yn cael penderfynu gwahodd unigolion o'r tu allan i'r Senedd i fod yn aelod.

4. Ethol Deiliaid Swyddi

9. Dylai pob grŵp ethol Cadeirydd ac Ysgrifennydd.

10. Rhaid i Gadeirydd y grŵp fod yn Aelod Seneddol. Gall Ysgrifennydd y grŵp fod naill ai'n Aelod Senedd, yn aelod o staff cymorth Aelodau o'r Senedd neu'n unigolyn o'r tu allan i'r Senedd. Pan fydd grŵp yn penodi Ysgrifennydd nad yw'n Aelod Senedd, ni chaiff yr unigolyn hwnnw weithredu heb gael sêl bendith Cadeirydd y grŵp o flaen llaw. Rhaid i bob hysbysiad, gohebiaeth, dogfennaeth a threfniadau eraill ynghylch gweithgareddau'r grŵp gael eu cyhoeddi yn enw'r Cadeirydd.

11. Fel arfer, rhaid i grŵp gynnal cyfarfod i ethol ei ddeiliaid swyddi. I ddechrau, disgwylir i'r deiliaid swyddi gael eu hethol mewn cyfarfod cyffredinol blynyddol dechreuol. Fodd bynnag, gall deiliaid swyddi hefyd gael eu hethol yng nghyfarfodydd eraill y grŵp. Ar ôl ethol deiliad swydd, dylai Cadeirydd y grŵp roi hysbysiad ynghylch y newid hwn o fewn pedair wythnos gan ddefnyddio'r ffurflen gofrestru yn Atodiad A.

5. Cofrestru

12. Ar ôl cynnal cyfarfod cyffredinol blynyddol dechreuol neu ethol deiliaid swyddi drwy ddull arall, dylai grwpiau trawsbleidiol gael eu cofrestru drwy ddefnyddio'r ffurflen gofrestru briodol. Rhaid i'r ffurflen gofrestru gael ei llofnodi gan Gadeirydd y grŵp, a rhaid iddo gynnwys rhestr o'r aelodau, gan gynnwys enw o leiaf dau Aelod arall o ddau grŵp plaid arall yn y Senedd, ac enwau holl aelodau'r grŵp nad ydynt yn Aelodau o'r Senedd.

13. Bydd y manylion ar y ffurflenni cofrestru yn cael eu cyhoeddi gan swyddogion Comisiwn y Senedd ar adran y grŵp trawsbleidiol perthnasol ar wefan y Senedd.

14. Bydd disgwyl i grwpiau trawsbleidiol sydd eisoes yn bodoli yn y Senedd gynnal cyfarfod cyffredinol blynyddol o fewn 12 mis i'r dyddiad y daeth y rheolau hyn i rym. Bydd disgwyl i unrhyw grwpiau a gaiff eu cofrestru ar ôl y dyddiad hwn gynnal cyfarfod cyffredinol blynyddol o fewn 12 mis i'r dyddiad y cawsant eu cofrestru.

6. Ailgofrestru Grwpiau Trawsbleidiol ar ôl cyfnod o ddiddymiad

15. Mae'n rhaid i grwpiau ailgofrestru ar ddechrau pob Senedd newydd ar ôl etholiad.

7. Cofnodi newidiadau

16. Cadeirydd y grŵp sy'n gyfrifol am roi gwybod am unrhyw newidiadau i fanylion grwpiau, gan gynnwys newidiadau i ddeiliaid swyddi, drwy gyflwyno ffurflen gofrestru ddiwygiedig. Dylid rhoi gwybod am unrhyw newidiadau o fewn pedair wythnos i'r dyddiad y daethant i rym, a byddant yn cael eu cyhoeddi ar adran y grŵp trawsbleidiol perthnasol ar wefan y Senedd.

Cynnal Cyfarfodydd

8. Defnyddio cyfleusterau ac adnoddau'r Senedd

17. Nid yw grwpiau trawsbleidiol yn cael blaenoriaeth dros fusnes swyddogol y Senedd, ac felly dim ond pan fydd cyfleusterau'r Senedd ar gael y cânt eu defnyddio.

18. Rhaid i Gadeirydd y grŵp wneud cais i neilltuo ystafell ar gyfer cynnal cyfarfod o'r grŵp trawsbleidiol. Yr Aelod hwnnw fydd hefyd yn gyfrifol am holl drefniadau'r cyfarfod gan gynnwys mynd i gwrdd ag aelodau allanol o'r grŵp a'u tywys o amgylch adeiladau'r Senedd.

19. Nid oes gan grwpiau trawsbleidiol hawl i ddefnyddio unrhyw rai o wasanaethau staffio Comisiwn y Senedd fel gwasanaethau'r pwyllgorau. Fodd bynnag, caiff cyfieithu ar y pryd, o'r Gymraeg i'r Saesneg, ei ddarparu ar gyfer cyfarfodydd a gynhelir ar ystad y Senedd os bydd Cadeirydd y grŵp yn gwneud cais am y gwasanaeth.

20. Rhaid i grwpiau trawsbleidiol barchu'r cyfyngiadau sydd ar eu defnydd o gyfleusterau ac adnoddau'r Senedd. Caiff Aelodau wneud defnydd rhesymol o gyfleusterau ffôn, ffacs, llungopïo a TG y Senedd ac offer swyddfa'r Senedd wrth ymgymryd â busnes grwpiau trawsbleidiol, neu er mwyn cyflawni gofynion y rheolau hyn, e.e. i ddarparu gwybodaeth i'w chyhoeddi ar wefan y Senedd.

21. Cadeirydd y grŵp trawsbleidiol fydd yn gyfrifol am sicrhau bod y grŵp yn cydymffurfio â'r rheolau ar ddefnydd y grŵp o adnoddau a chyfleusterau'r Senedd. Nid oes gan sefydliadau nac unigolion allanol, sydd â chysylltiadau â grwpiau trawsbleidiol, hawl i ddefnyddio adnoddau'r Senedd.

9. Darparu gwybodaeth yn Ieithoedd Swyddogol y Senedd

22. Bydd unrhyw wybodaeth a gaiff ei darparu gan Gomisiwn y Senedd am grwpiau trawsbleidiol, ac sydd i'w chyhoeddi ar wefan Senedd Cymru o dan y rheolau hyn, ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg yn unol â darpariaethau Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) 2012 a Chynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am aelodaeth, dyddiad a lleoliadau cyfarfodydd, cofnodion yr holl gyfarfodydd, gan gynnwys y cyfarfod cyffredinol blynyddol, a'r datganiad ariannol blynyddol.

23.  Y grŵp trawsbleidiol ei hun fydd yn gyfrifol am wneud trefniadau i gyfieithu dogfennau sy'n gysylltiedig â'r grŵp trawsbleidiol nad oes angen eu cyhoeddi ar wefan y Senedd.

10. Cronfa Mynediad Senedd

24. Sefydlwyd y Gronfa Fynediad i sicrhau bod gan Aelodau o'r Senedd y cymorth angenrheidiol i ymgysylltu ag etholwyr sydd ag anghenion amrywiol, ac i ddarparu cymorth ychwanegol i Aelodau anabl a staff cymorth anabl.

25. Ni cheir defnyddio'r Gronfa Fynediad i dalu am wasanaethau cyfieithu testun i Ieithoedd Swyddogol y Senedd nac ar gyfer gwasanaethau cyfieithu ar y pryd o'r Gymraeg i'r Saesneg mewn digwyddiadau a noddir gan Aelodau a gaiff eu trefnu gan gyrff allanol.

26. Os yw'r Cadeirydd yn teimlo bod angen cymorth ychwanegol ar y grŵp trawsbleidiol er mwyn caniatáu iddo ymgysylltu ag etholwyr sydd ag anghenion amrywiol, er enghraifft i gyfieithu ar y pryd i iaith ar wahân i un o ieithoedd swyddogol y Senedd, ac na all y cymorth hwn gael ei ddarparu gan aelodaeth y grŵp, yna gallant gyflwyno achos busnes i'r tîm Cymorth Busnes i Aelodau er mwyn defnyddio'r Gronfa. Ceir canllawiau manylach ar y Gronfa Fynediad ar Fewnrwyd yr Aelodau. Wrth gyflwyno achos busnes am gymorth ariannol, dylai'r Cadeirydd ystyried statws grwpiau trawsbleidiol a chofio nad ydynt yn rhan o drafodion swyddogol y Senedd.

11. Rhoi gwybod am gyfarfodydd o flaen llaw

27. Fel arfer, cyfrifoldeb Cadeirydd y grŵp fydd cyhoeddi gwybodaeth am amseroedd a lleoliadau cyfarfodydd y grŵp. Os yw'r swyddogaeth honno wedi cael ei dirprwyo i Ysgrifennydd y grŵp, ni chaiff yr unigolyn hwnnw weithredu heb gael sêl bendith Cadeirydd y grŵp o flaen llaw. Rhaid i bob hysbysiad, gohebiaeth, dogfennaeth a threfniadau eraill ynghylch gweithgareddau'r grŵp gael eu cyhoeddi yn enw'r Cadeirydd.

28. Dylai Cadeirydd y grŵp ddarparu manylion am amseroedd a lleoliadau cyfarfodydd i swyddogion perthnasol Comisiwn y Senedd fel y gallant gyhoeddi'r wybodaeth ar adran y grŵp trawsbleidiol ar wefan y Senedd.

12. Rheolau Ariannol a Chofrestru Buddiannau

29. Nid oes gan y Senedd gyllideb i dalu am gostau rhedeg grwpiau trawsbleidiol, ac eithrio i dalu am yr adnoddau a nodir yn adrannau 8-10 uchod. Rhaid i aelodau'r grŵp dalu am unrhyw gostau eraill o'r fath eu hunain.

30. Mae'n rhaid i grwpiau trawsbleidiol gofio am uniondeb y Senedd wrth ystyried derbyn unrhyw symiau arian, rhoddion, lletygarwch ac ati gan gyrff allanol. Yn benodol, mae gofyn i Aelodau unigol gydymffurfio â'r rheolau ynghylch cofrestru a datgan buddiannau ariannol mewn perthynas ag unrhyw weithgaredd y maent yn ymgymryd â hwy o fewn grwpiau trawsbleidiol neu ar ran y grŵp - fel y'i nodwyd yn Rheol Sefydlog 2.

31. Yn benodol, mae Adran 5 o'r Atodiad i Reol Sefydlog 2 yn nodi'r buddiannau cofrestradwy. Mae hyn yn cynnwys; "(iv) rhoddion, lletygarwch, buddion materol neu fantais faterol y mae eu gwerth yn uwch na'r hyn a ragnodir mewn unrhyw benderfyniad gan y Senedd..." a "(v) unrhyw dâl neu fudd materol arall y mae'r Aelod [...] yn ei gael oddi wrth unrhyw gwmni preifat neu gyhoeddus neu unrhyw gorff arall sydd wedi tendro, neu sy'n tendro, am gontract gyda'r Senedd, neu sy'n meddu ar gontract o'r fath."

32. Ar 10 Mai 2006, penderfynodd y Senedd mai lefel y gwerth y mae'n rhaid cofrestru/datgan rhoddion, lletygarwch ac unrhyw fuddion eraill yw 0.5 y cant o gyflog blynyddol crynswth sylfaenol y Senedd i Aelod o'r Senedd. O dan y Penderfyniad presennol, mae hyn yn cynnwys unrhyw beth sydd werth mwy na £269.26 (0.5% o £53,852).

33. Mae Aelod o'r Senedd sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd ond nad yw wedi cydymffurfio â'r rheolau ar gofrestru buddiannau yn cyflawni trosedd o dan adran 36 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

34. Yn ogystal â'r gofyniad i Aelodau unigol o grwpiau trawsbleidiol gofrestru unrhyw symiau arian, rhoddion, lletygarwch neu fuddion eraill gan gyrff allanol ar Gofrestr Buddiannau'r Senedd (yn unol â Rheol Sefydlog 2), dylai adroddiad blynyddol y grŵp trawsbleidiol restru'r holl fuddion a gafwyd gan y grŵp cyfan, neu gan aelodau unigol, gan gyrff allanol. Mae hyn yn cynnwys unrhyw gymorth gweinyddol neu gymorth arall neu wasanaethau a ddarparwyd i'r grŵp.

35. Caiff Aelodau eu hatgoffa hefyd am ddarpariaethau Rheol Sefydlog 2.8, sy'n gwahardd lobïo am dâl neu gydnabyddiaeth ac sy'n drosedd o dan adran 36 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Caiff lobïo am dâl neu gydnabyddiaeth ei ddiffinio yn y Rheolau Sefydlog fel cychwyn neu ddadlau o blaid "unrhyw achos neu fater ar ran unrhyw gorff neu unigolyn mewn unrhyw drafodion yn y Senedd, nac annog unrhyw Aelod arall i gychwyn neu ddadlau o blaid unrhyw achos neu fater mewn unrhyw drafodion o'r fath, yn gyfnewid am unrhyw dâl neu fudd mewn da, boed yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, y mae'r Aelod, neu, hyd y gŵyr yr Aelod, ei bartner neu unrhyw blentyn dibynnol sydd gan yr Aelod, wedi' gael neu'n disgwyl ei gael."

13. Y cyfarfod cyffredinol blynyddol a'r adroddiad blynyddol a'r datganiad ariannol

36. Rhaid i Gadeirydd y grŵp trawsbleidiol alw am gyfarfod cyffredinol blynyddol bob 12 mis. Yn y cyfarfod hwnnw, rhaid i'r grŵp enwebu a phleidleisio dros y deiliaid swyddi (gweler yr adran 'Ethol deiliaid swyddi' uchod). Rhaid i'r deiliaid swyddi gael eu hethol yn swyddogol yn y cyfarfod cyffredinol blynyddol hyd yn oed os yw'r deiliad swydd wedi cael ei benodi eisoes mewn cyfarfod diweddar.

37. Cyfarfod cyntaf y grŵp fydd ei gyfarfod cyffredinol blynyddol dechreuol. Ar ôl pob cyfarfod cyffredinol blynyddol wedi hynny, rhaid i Gadeirydd y grŵp trawsbleidiol, o fewn 6 wythnos, gyhoeddi adroddiad blynyddol a datganiad ariannol. Rhaid i'r adroddiad:

gynnwys aelodaeth y grŵp ac enwau deiliaid y swyddi;

nodi nifer y cyfarfodydd y mae'r grŵp wedi'u cynnal ers y cyfarfod cyffredinol blynyddol diwethaf, pwy fu'n bresennol, a chrynodeb o'r materion a drafodwyd;

nodi enwau'r holl lobïwyr proffesiynol a'r sefydliadau gwirfoddol ac elusennol y mae'r grŵp wedi cwrdd â nhw yn ystod y flwyddyn flaenorol; a

chynnwys datganiad ariannol blynyddol sy'n nodi gwariant y grŵp a pha fuddion a lletygarwch a gafodd y grŵp. Rhaid i'r datganiad gynnwys dadansoddiad o gostau'r holl nwyddau a gwasanaethau a ddarparwyd, a'r buddion a gafwyd, ac enwau'r darparwr/darparwyr.

38. Bydd y cofnodion yn cael eu cyhoeddi ar adran y grŵp trawsbleidiol perthnasol ar wefan y Senedd.

14. Cofnodion Cyfarfodydd

39. Cadeirydd y grŵp trawsbleidiol fydd yn gyfrifol am sicrhau bod cofnodion pob cyfarfod o'r grŵp yn cael eu rhoi i swyddog perthnasol Comisiwn y Senedd o fewn pedair wythnos i gynnal y cyfarfod. Rhaid i'r cofnodion gynnwys manylion am leoliad y cyfarfod, pwy oedd yn bresennol, gan gynnwys enwau a theitlau deiliaid swyddi'r grŵp fel y Cadeirydd a'r Ysgrifennydd, enwau Aelodau'r grŵp ac ymwelwyr neu westeion allanol, a disgrifiad cryno o'r materion a drafodwyd. Bydd y cofnodion yn cael eu cyhoeddi ar adran y grŵp trawsbleidiol perthnasol ar wefan y Senedd.

15. Cydymffurfio â'r rheolau

40. Er bod cyfrifoldeb ar holl Aelodau o'r Senedd sy'n aelodau o grwpiau trawsbleidiol i sicrhau bod y grŵp yn cynnal ei fusnes mewn modd priodol, Cadeirydd y grŵp, fel y llofnodwr, fydd yn bennaf cyfrifol am sicrhau bod y grŵp yn cydymffurfio â'r rheolau.

41. Gall methu â chydymffurfio â'r rheolau, neu dorri'r rheolau, mewn perthynas â chofrestru grwpiau trawsbleidiol, ethol deiliaid swyddi, cynnal cyfarfodydd cyffredinol blynyddol neu ddarparu gwybodaeth sy'n ofynnol yn ôl y rheolau, arwain at y grŵp yn colli cydnabyddiaeth ar awdurdod y Llywydd (bydd y grŵp yn cael ei ddatgofrestru a bydd yr holl fanylion am y grŵp yn cael ei dynnu oddi ar wefan y Senedd).

42. Os oes gan unrhyw Aelod bryder ynghylch dehongli'r Rheolau, dylai gysylltu â swyddog/swyddogion Comisiwn y Senedd sydd â chyfrifoldeb dros gofrestru grwpiau trawsbleidiol yn yr achos cyntaf.

43. Yn unol â Gweithdrefn Senedd Cymru ar gyfer Ymdrin â Chwynion yn erbyn Aelodau o'r Senedd, y Comisiynydd Safonau a'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad fydd yn ymdrin ag unrhyw gŵyn ynghylch safonau ymddygiad personol, defnydd priodol o adnoddau'r Senedd a/neu gofrestru buddiannau yn unol â Rheol Sefydlog 2, mewn perthynas â gweithgareddau Aelod sy'n gysylltiedig â grŵp trawsbleidiol. Gall hyn arwain at osod sancsiynau ar Aelod penodol.

44. O dro i dro, gall y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ystyried papur gan swyddogion y Comisiwn sy'n ymdrin â chofrestru gwybodaeth am weithgareddau grwpiau trawsbleidiol ac, os yw'n angenrheidiol, gwneud argymhellion i'r Llywydd ynghylch cydymffurfio â'r rheolau hyn.

Cytunwyd gan benderfyniad y Cynulliad ar 26 Mehefin 2013.

Canllawiau Senedd Cymru ar lobïo a mynediad at Aelodau o'r Senedd
  • Diweddarwyd ddiwethaf: 5 Mai 2021 (i adlewyrchu newid enw)
  • Perchennog: Y Pwyllgor sy'n gyfrifol am Safonau Ymddygiad
  • Cyswllt: Clerc y Pwyllgor sy'n gyfrifol am Safonau Ymddygiad
  • Ffeiliau PDF

 

1. Bwriedir i'r canllawiau hyn gyd-fynd â gofynion Cod Ymddygiad ar Safonau Ymddygiad ar gyfer Aelodau o'r Senedd, a'u hategu.

2. Ni ddylai Aelod o'r Senedd, wrth ddod i gysylltiad ag unrhyw berson neu sefydliad sy'n lobïo, wneud unrhyw beth sy'n mynd yn groes i God Ymddygiad Senedd Cymru ar gyfer Aelodau o'r Senedd , nac unrhyw reol neu benderfyniad perthnasol arall gan y Senedd nac unrhyw ddarpariaeth statudol.

3. Ni ddylai Aelod, wrth ddod i gysylltiad ag unrhyw berson neu sefydliad sy'n lobïo, ymddwyn mewn unrhyw ffordd a allai ddwyn anfri ar Senedd Cymru, neu ei Aelodau'n gyffredinol.

4. Rhaid sicrhau'r cyhoedd nad yw unrhyw berson neu sefydliad yn cael gwell mynediad at unrhyw Aelod, neu'n cael triniaeth ffafriol ganddo, o ganlyniad i gyflogi lobïwr proffesiynol, naill ai fel cynrychiolydd neu i ddarparu cyngor strategol. Yn benodol, ni ddylai Aelod gynnig na rhoi mynediad neu driniaeth ffafriol i lobïwyr proffesiynol neu eu cyflogwyr. Ni ddylid chwaith roi lobïwyr proffesiynol neu eu cyflogwyr ar ddeall y gellid cael mynediad neu driniaeth ffafriol gan Aelod o'r Senedd arall neu grŵp neu berson yng Senedd Cymru neu sy'n gysylltiedig â Senedd Cymru.

5. Cyn cymryd unrhyw gamau o ganlyniad i gael ei lobïo, dylai Aelod fod yn sicr o enwau'r sawl sy'n ei lobïo a'r cymhelliant dros y lobïo. Caiff Aelod o'r Senedd ddewis gweithredu mewn ymateb i lobïwr proffesiynol, ond mae'n bwysig bod yr Aelod yn gwybod ar ba sail y mae'n cael ei lobïo er mwyn sicrhau bod unrhyw gamau a gymerir ganddo yn cydymffurfio â'r safonau sydd wedi'u nodi yn y Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau o'r Senedd.

6. Ar hyn o bryd, nid oes cynllun gwirfoddol na statudol ar gyfer cofrestru lobïwyr proffesiynol yn weithredol yng Nghymru. Cyn cytuno i gyfarfod â pherson neu sefydliad y mae'r Aelod yn credu ei fod yn lobïwr proffesiynol, efallai y byddai'r Aelod am ddarganfod a yw'r lobïwr yn aelod o gorff proffesiynol sy'n cofrestru gwybodaeth am bwy y mae ei aelodau yn eu cynrychioli, ac sydd â chod ymddygiad proffesiynol ar gyfer ei aelodau. Byddai hyn yn cynnwys cyrff materion cyhoeddus fel Public Affairs Cymru a'r Gymdeithas Ymgynghorwyr Gwleidyddol Proffesiynol (APPC). Os nad yw'r lobïwr yn aelod o gorff proffesiynol o'r fath, rhaid i'r Aelod o'r Senedd wneud penderfyniad ynghylch a yw am barhau i gyfarfod yr unigolyn hwnnw. [At ddibenion y canllawiau hyn, byddai 'lobïwr proffesiynol' yn cynnwys 'unrhyw un sy'n ymgymryd â gweithgarwch lobïo, h.y. gweithgarwch sydd wedi'i anelu at ddylanwadu Aelodau o'r Senedd, ar sail broffesiynol neu mewn swydd gyflogedig'. Mae hyn yn cynnwys lobïwyr mewnol, elusennau, cymdeithasau masnachu a sefydliadau eraill sy'n cyflogi staff i wneud gwaith lobïo, a lobïwyr unigol, yn ogystal ag ymgynghorwyr ac asiantau sydd naill ai'n lobïo'n uniongyrchol, neu ar ran cleientiaid neu sy'n cynghori cleientiaid ynghylch ymgymryd â gwaith lobïo].

7. Yn ogystal, dylai Aelodau ystyried un neu fwy o'r camau a ganlyn:

  • cadw cofnod o'r holl gyfarfodydd y maent yn eu cael â phobl sydd, yn eu tyb hwy, yn gwneud gwaith lobïo;
  • cyn cytuno i'w gyfarfod, gofyn i'r person sy'n gwneud y gwaith lobïo gadw cofnod o'r cyfarfod a sicrhau y gall yr Aelod gael mynediad at y cofnod hwnnw, ar unrhyw adeg yn y dyfodol, pe bai galw amdano; a
  • trefnu bod aelod o'u staff cymorth yn cymryd nodiadau mewn unrhyw gyfarfodydd y maent yn eu cael â phobl sydd, yn eu tyb hwy, yn gwneud gwaith lobïo.

8. Mae'r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau o'r Senedd yn pennu'r safonau disgwyliedig ar gyfer derbyn lletygarwch, rhoddion a buddion. Yn ogystal â hyn, a darpariaethau statudol Deddf Llywodraeth Cymru 2006, mae gofyn i Aelodau:

  • wrthod unrhyw waith am dâl a fyddai'n golygu eu bod yn lobïo ar ran unrhyw berson neu sefydliad neu ar ran cleientiaid unrhyw berson neu sefydliad;
  • gwrthod unrhyw waith am dâl i ddarparu gwasanaethau fel strategydd, cynghorwr neu ymgynghorydd, er enghraifft cynghori ar faterion yn ymwneud â Senedd Cymru neu gynghori ynghylch sut i ddylanwadu ar Senedd Cymru a'i Aelodau. (Nid yw hyn yn rhwystro Aelod rhag cael ei dalu am waith a allai godi oherwydd ei fod yn aelod o'r Senedd, neu mewn perthynas â hynny, er enghraifft newyddiaduraeth neu ddarlledu, sy'n cynnwys gwneud sylwadau gwleidyddol neu fod yn rhan o waith cynrychioladol neu gyflwyniadol, er enghraifft bod yn rhan o ddirprwyaethau neu gymryd rhan mewn cynadleddau neu ddigwyddiadau eraill); a
  • gwrthod pob lletygarwch, budd neu rodd, ar wahân i'r rhai mwyaf di-nod neu achlysurol, os yw'r Aelod yn ymwybodol mai lobïwr proffesiynol sy'n eu cynnig. Mae'r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau o'r Senedd yn amlinellu'r safonau ymddygiad personol a'r egwyddorion cyffredinol am ymddygiad a nodwyd gan y Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus. Mae'r rhain yn cynnwys gofynion i "[b]eidio â derbyn unrhyw arian fel cymhelliant neu dâl am arfer dylanwad seneddol", y rheol ynghylch "dim adfocatiaeth â thâl", ac i beidio â "rhoi eu hunain o dan unrhyw rwymedigaeth ariannol neu rwymedigaeth arall i unigolion neu gyrff allanol a allai geisio dylanwadu arnynt wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau swyddogol." Gan fod nifer o bobl o'r farn bod lobïwyr proffesiynol yn gwerthu eu gwasanaethau drwy honni y gallant gynnig dylanwad i'w cleientiaid dros bobl sy'n gwneud penderfyniadau, gallai fod yn rhesymol meddwl y gallai derbyn budd o unrhyw fath ddylanwadu ar farn Aelodau i gyflawni eu swyddogaethau swyddogol. (Os daw Aelod yn ymwybodol o ffynhonnell y lletygarwch, budd neu rodd ar ôl ei dderbyn, dylai ystyried naill ai ad-dalu costau unrhyw letygarwch neu fudd neu ddychwelyd unrhyw rodd.)

9. Caiff Aelodau gymryd rhan mewn digwyddiadau lle codir tâl ar bobl eraill i fod yno. Er enghraifft, gall cymryd rhan mewn cynhadledd neu seminar lle codir tâl ar gynrychiolwyr fod yn ffordd ddefnyddiol i Aelod gasglu barn eang am bwnc penodol. Fodd bynnag, mae'n bosibl y gallai fod rhywfaint o bryder bod digwyddiadau sy'n syrthio i'r categori hwn yn ffordd o 'brynu' mynediad at Aelodau o'r Senedd. Mae'n bwysig nad oes sail i unrhyw ganfyddiad o'r fath. Ni ddylid, felly, gynnig na rhoi unrhyw driniaeth ffafriol i unrhyw berson neu sefydliad ar ôl dod i gyswllt cychwynnol ag Aelod o'r Senedd mewn digwyddiad o'r fath.

10. Ni ddylai Aelodau gymryd rhan mewn unrhyw ddigwyddiad os ydynt yn ymwybodol, neu'n dod yn ymwybodol, fod y trefnwyr yn hyrwyddo'r digwyddiad ar y sail bod y rhai sy'n talu i ddod i'r digwyddiad yn 'prynu' dylanwad Aelodau o'r Senedd neu y gallant ddisgwyl cael mynediad gwell at Aelodau o'r Senedd, neu driniaeth well gan Aelodau o'r Senedd yn y dyfodol, na fyddai'n cael ei roi i berson neu sefydliad arall.

11. Wrth gytuno i noddi unrhyw ddigwyddiad, cyfarfod neu arddangosfa ar ystâd y Senedd, rhaid i Aelodau bob amser gydymffurfio â gofynion Canllawiau Digwyddiadau Senedd Cymru a'r Telerau ac Amodau ar gyfer digwyddiadau, a gaiff eu hanfon at drefnwyr digwyddiadau a'r Aelodau sy'n noddi'r digwyddiad. Rhaid i'r Aelod sy'n noddi'r digwyddiad, neu gynrychiolydd ar ei ran, fynd i'r digwyddiad, arddangosfa neu gyfarfod, a'r Aelod hwnnw sy'n gyfrifol am y digwyddiad.

12. Dylai Aelodau sicrhau bod staff sy'n gweithio iddynt fod yn ymwybodol o'r rheolau a'r canllawiau hyn, a'u bod yn cadw atynt wrth weithredu ar ran Aelod neu mewn unrhyw berthynas â Senedd Cymru.

Cytunwyd ar y canllawiau drwy benderfyniad y Cynulliad ar 26 Mehefin 2013.

Cod ar Wahanol Rolau a Chyfrifoldebau Aelodau Etholaeth ac Aelodau Rhanbarthol
  • Diweddarwyd ddiwethaf: Mai 2021
  • Perchennog: Y Pwyllgor sy'n gyfrifol am Safonau Ymddygiad
  • Cyswllt: Clerc i'r Pwyllgor sy'n gyfrifol am Safonau Ymddygiad
  • Ffeiliau PDF

 

Cyflwyniad a'r fframwaith statudol

1. Drafftiwyd y cod hwn gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, yn unol ag adran 36(6) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 1.10.

2. Mae adran 36(6) yn nodi bod yn rhaid i'r Rheolau Sefydlog gynnwys darpariaeth ynglŷn â gwahanol rolau a chyfrifoldebau Aelodau etholaeth ac Aelodau rhanbarthol y Senedd (neu ddarpariaeth ar gyfer gwneud cod neu brotocol ynghylch hynny). Mae hefyd yn nodi'r canlynol – (a) Ni ddylai Aelodau etholaeth eu disgrifio'u hunain mewn ffordd sy'n awgrymu eu bod yn Aelodau rhanbarthol yn y Senedd, ac (b) Ni ddylai Aelodau rhanbarthol y Senedd eu disgrifio'u hunain mewn ffordd sy'n awgrymu eu bod yn Aelodau etholaeth yn y Senedd.

3. Yn unol â hynny, mae Rheol Sefydlog 1.10 yn nodi bod yn rhaid i'r Senedd wneud cod neu brotocol, i'w ddrafftio gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, yn unol ag adran 36(6) o'r Ddeddf, ynglŷn â gwahanol rolau a chyfrifoldebau Aelodau etholaeth ac Aelodau rhanbarthol. Rhaid i'r cod neu'r protocol gynnwys darpariaeth yn unol â phum egwyddor allweddol benodol (Rheol Sefydlog 1.10 (i)-(v)) a rhaid iddo gynnwys darpariaeth ar gyfer naw mater a nodir yn yr Atodiad i Reol Sefydlog 1.

4. Rhaid darllen y Cod felly yng ngoleuni'r pum egwyddor allweddol a ganlyn:

(i) mae pob Aelod o dan ddyletswydd i fod yn hygyrch i bobl yr ardaloedd y maent wedi'u hethol i'w gwasanaethu ac i gynrychioli eu buddiannau yn gydwybodol;

(ii) wrth iddynt droi at eu dewis Aelod, dymuniadau'r etholwyr a/neu fuddiannau'r etholaeth neu'r ardal sydd o'r pwys pennaf;

(iii) mae gan bob Aelod statws cyfartal;

(iv) ni ddylai Aelodau gamliwio ar ba sail y maent wedi'u hethol na pha ardal y maent yn ei gwasanaethu; a

(v) ni ddylai Aelod ymdrin ag achos etholaeth neu fater etholaeth nad yw o fewn ei etholaeth neu ei ranbarth (yn ôl fel y digwydd), heblaw drwy gytuno ymlaen llaw.

5. Yn unol â'r Atodiad i Reol Sefydlog 1 y Cod yn gwneud darpariaeth mewn naw maes:

Disgrifio'r Aelodau

"Darpariaeth i'r Aelodau rhanbarthol a'r Aelodau etholaeth eu disgrifio'u hunain yn gywir ac ar gyfer gofynion ynglŷn â defnyddio adnoddau'r Senedd, er enghraifft, deunyddiau swyddfa."

6. Ni ddylai Aelodau gamliwio ar ba sail y maent wedi'u hethol neu'r ardal maent yn ei gwasanaethu.

7. Rhaid i Aelodau rhanbarthol ac Aelodau etholaeth eu disgrifio'u hunain yn gywir fel nad ydynt yn drysu'r unigolion y maent yn ymdrin â hwy.

8. Dylai Aelodau etholaeth eu disgrifio'u hunain bob tro fel: "[Enw], Aelod o Senedd Cymru dros etholaeth [x]", neu "[Enw], yr Aelod o'r Senedd dros etholaeth [x]."

9. Dylai Aelodau rhanbarthol disgrifio eu hunain bob tro fel: "[Enw], Aelod o Senedd Cymru dros ranbarth [y]" neu "[Enw], yr Aelod o'r Senedd dros ranbarth [y]."

10. Ni ddylai Aelodau rhanbarthol eu disgrifio'u hunain fel Aelodau "lleol" na datgan bod ganddynt ddiddordeb penodol mewn un rhan yn unig o'r rhanbarth dan sylw.

11. Ni ddylai Aelodau etholaeth eu disgrifio'u hunain fel yr unig Aelodau dros ardal neu etholaeth benodol.

12. Dylai Aelodau roi sylw i ganllawiau'r Llywydd ynglŷn â defnyddio adnoddau'r Senedd, fel deunyddiau swyddfa, gan gynnwys y canllawiau a gyhoeddir sy'n berthnasol i gyfnod cyn etholiad.

Ymdrin â Materion Etholaeth/Rhanbarth

"Darpariaeth i'r Aelodau allu ymgymryd â mater sy'n effeithio ar yr etholaeth neu'r rhanbarth y'u hetholwyd drosti gan sicrhau moesgarwch ar faterion sy'n effeithio ar fwy nag un etholaeth."

13. Mae gan bob Aelod Senedd yr hawl i ddangos diddordeb mewn mater sy'n effeithio ar yr etholaeth neu'r rhanbarth y'u hetholwyd drosti neu drosto, neu i ymgymryd â mater o'r fath. Mae'n bosibl y bydd yr Aelodau am gysylltu â'i gilydd, er cwrteisi, os ydynt yn ymwneud neu'n bwriadu ymwneud â mater lleol pwysig sy'n effeithio ar fwy nag un etholaeth neu ranbarth.

Achosion Etholwyr Unigol

"Darpariaeth i ddiogelu hawl etholwr i droi at ei Aelod etholaeth, a / neu unrhyw un o'r pedwar Aelod rhanbarthol a etholwyd yn ei ranbarth."

14. Yr egwyddor sylfaenol yw bod dymuniadau'r etholwr o'r pwys mwyaf. Cynrychiolir pob etholwr gan un Aelod etholaeth a phedwar Aelod rhanbarthol. Yr etholwr sydd i benderfynu a yw am gysylltu â'i Aelod etholaeth ynteu ag unrhyw un o'r Aelodau rhanbarthol a etholwyd a gofyn iddynt ymgymryd ag achos. Gall etholwyr gysylltu ag unrhyw un o'r Aelodau o'r Senedd (etholaeth neu ranbarthol) a etholwyd i'w cynrychioli gan fod gan bob Aelod statws cyfartal yn ffurfiol ac yn gyfreithiol. Os bydd Aelod yn cytuno i ymgymryd ag achos, rhaid iddo ef neu hi ystyried dymuniadau'r etholwr wrth benderfynu ar y ffordd orau o fynd â'r achos yn ei flaen.

15. Disgwylir i bob Aelod ymgymryd ag unrhyw achos a gyflwynir iddynt, er y cydnabyddir y gallai fod gan Aelod reswm teg dros wrthod achos gan etholwr - er enghraifft, os yw'r achos yn gofyn am gamau gweithredu a fyddai'n arwain at wrthdaro buddiannau mewn perthynas ag achos sydd eisoes ar y gweill neu os yw'n mynd yn erbyn credoau gwleidyddol yr Aelod. Os felly, fel arfer, byddai disgwyl i'r Aelod hysbysu'r etholwr na fydd yn ymgymryd â'r achos.

16. Mewn amgylchiadau arbennig iawn, efallai y bydd yn addas i Aelod ymgymryd â mater ar ran unigolyn nad yw'n byw yn ei etholaeth neu ei ranbarth ei hun. Cyn gwneud hynny, rhaid i'r Aelod fod yn fodlon bod amgylchiadau'n bodoli sy'n ei gwneud yn wirioneddol anymarferol neu'n anaddas i un o'r Aelodau sy'n cynrychioli'r unigolyn dan sylw ymgymryd â'r mater. Lle bydd materion o'r fath yn codi, rhaid i'r Aelod sy'n cynnig ymgymryd â'r mater ar ran unigolyn o'r fath hysbysu'r Aelodau sy'n cynrychioli'r unigolyn hwnnw, rhoi eglurhad a chael cytundeb yr Aelodau hynny. Oherwydd mai dim ond mewn amgylchiadau arbennig iawn y bydd yn rhaid cymryd camau o'r fath, mae'n bosibl y bydd cyfyngiadau o ran y wybodaeth y byddai'n addas ei rhoi i egluro'r sefyllfa. Ni all Aelod ymgymryd â mater o'r fath heb gytundeb yr Aelodau sy'n cynrychioli'r unigolyn dan sylw. Ni ddylai Aelodau wrthod rhoi caniatâd ar sail afresymol.

Codi Materion gydag Aelod o'r Llywodraeth

"Darpariaeth i sicrhau bod gan unrhyw Aelod hawl i godi mater gyda'r aelod perthnasol o'r Llywodraeth ar ran etholwr yn yr ardal (yr etholaeth neu'r rhanbarth) y'i hetholwyd drosti."

17. Mae gan unrhyw Aelod hawl i godi mater gyda'r Gweinidog perthnasol yn Llywodraeth Cymru ar ran etholwr yn yr ardal yr etholwyd yr Aelod drosti.

18. Atgoffir Aelodau ynghylch gofynion Deddf Diogelu Data 1998 wrth brosesu data personol a data personol sensitif. (Mae rheolau arbennig o lym sy'n gymwys o ran prosesu data personol sensitif.) Ni ddylai Aelodau drosglwyddo data personol neu ddata personol sensitif ynghylch etholwr heb ganiatâd yr etholwr. Wrth gyfathrebu gyda Gweinidogion neu asiantaethau eraill, rhaid i Aelodau sicrhau bod unrhyw ohebiaeth gychwynnol, yn ysgrifenedig neu ar lafar, yn ei gwneud yn glir ar ba sail y trosglwyddir unrhyw ddata personol neu ddata personol sensitif am etholwr.

Aelodau yn Gweithredu yn eu Hardaloedd

"Darpariaeth yn adlewyrchu'r disgwyliad y bydd yr Aelodau yn gweithio ledled yr ardal (yr etholaeth neu'r rhanbarth) y'i hetholwyd drosti."

19. Disgwylir i Aelodau weithio ledled yr ardal (yr etholaeth neu'r rhanbarth) y'i hetholwyd drosti.

Ymweliadau Ysgolion

"Darpariaeth ar gyfer hysbysu'r Aelodau ynglŷn ag ymweliadau swyddogol ysgolion â'r Senedd a drefnir gan y Comisiwn."

20. Pan wahoddir ysgolion a cholegau i ymweld â'r Senedd gan y Gwasanaeth Cyfathrebu Allanol, bydd y gwasanaeth hwnnw'n hysbysu'r Aelodau (etholaeth a rhanbarthol) perthnasol. Yr Aelodau sydd i benderfynu i ba raddau y byddant yn cymryd rhan yn yr ymweliadau.

Sylwer: Nid yw'r darpariaethau hyn yn cynnwys ymweliadau a drefnir gan Aelodau unigol.

Ymholiadau ffôn

"Darpariaeth i lywio sut yr ymdrinnir ag ymholiadau ffôn i switsfwrdd y Senedd gan aelodau o'r cyhoedd sy'n ceisio cysylltu ag Aelod."

21. Bydd aelodau o'r cyhoedd sy'n galw'r switsfwrdd i siarad ag Aelod (etholaeth neu ranbarthol) penodol yn cael eu cysylltu â'r Aelod hwnnw'n unig. Os na fydd yr Aelod ar gael, rhoddir dewis i'r unigolyn sy'n galw i adael neges. Os bydd etholwr yn cysylltu ag Aelod o'u dewis, dymuniadau'r etholwr sydd o'r pwys mwyaf. Os na fydd aelodau o'r cyhoedd yn gwybod enw'r Aelod Senedd o'u dewis, trosglwyddir yr alwad i Linell Wybodaeth y Senedd. Bydd y Llinell Wybodaeth yn nodi cod post y galwr er mwyn canfod yr etholaeth dan sylw, ac yna'n rhoi enwau'r Aelod etholaeth a'r Aelodau rhanbarthol i'r galwr. Bydd y galwr yna'n penderfynu â pha Aelod y mae'n dymuno siarad.

Staff yr Aelodau

"Darpariaeth y dylai'r Aelodau sicrhau bod y staff sy'n gweithio iddynt, yn y Senedd ac yn lleol, gan gynnwys eraill sy'n gweithio ar eu rhan gydag etholwyr, yn ymwybodol o Reol Sefydlog 1.10 ac unrhyw god neu brotocol a lunnir o ganlyniad iddi a'u bod yn gweithredu yn unol â hwy."

22. Dylai Aelodau sicrhau bod y staff sy'n gweithio iddynt, yn y Senedd ac yn lleol, gan gynnwys pobl eraill sy'n gweithio ar eu rhan gydag etholwyr, yn ymwybodol o Reol Sefydlog 1.10 a'r cod hwn, ac yn gweithredu yn unol â'r rheini.

Gorfodi

"Darpariaeth i unrhyw gŵyn yn erbyn Aelod mewn perthynas â'r cod neu'r protocol gael ei chyfeirio at y Pwyllgor Safonau Ymddygiad."

23. Dylid gwneud unrhyw gŵyn yn erbyn Aelod mewn perthynas â'r Cod i'r Comisiynydd Safonau yn unol â gweithdrefnau Senedd Cymru ar gyfer ymdrin â chwynion yn erbyn Aelodau o'r Senedd (y Weithdrefn Gwyno). Ymdrinnir â'r gŵyn yn unol â'r Weithdrefn Gwyno. Os bydd y Comisiynydd yn credu bod y gŵyn yn dderbyniol, bydd yn cynnal Archwiliad Ffurfiol i'r gŵyn ac yn cyflwyno adroddiad i'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad.

Gweithdrefn ar gyfer ymdrin â chwynion yn erbyn Aelodau o'r Senedd
  • Diweddarwyd ddiwethaf: Mai 2021
  • Perchennog: Y Pwyllgor sy'n gyfrifol am Safonau Ymddygiad
  • Cyswllt: Clerc i'r Pwyllgor sy'n gyfrifol am Safonau Ymddygiad
  • Ffeiliau PDF

 

1. Darpariaethau cyffredinol

Trefniadau gweinyddol

1.1. Dylid gwneud cwynion i'r Comisiynydd Safonau ("y Comisiynydd"), sy'n swyddog statudol annibynnol a benodir o dan Fesur Comisiynydd Safonau Senedd Cymru 2009 ("y Mesur"). Bydd Swyddfa'r Comisiynydd yn logio'r ohebiaeth ac yn anfon llythyr at yr achwynydd i gydnabod bod y gŵyn wedi dod i law. Bydd y llythyr yn egluro nad yw hyn o reidrwydd yn golygu bod y gŵyn yn dderbyniadwy, a bydd yn nodi mai dim ond os yw'r achwynydd yn barod i'r manylion gael eu rhyddhau i'r Pwyllgor ac i'r Aelod sy'n destun y gŵyn y bydd yr achos yn mynd rhagddo.

Ymchwiliadau

1.2. Rhaid i ymchwiliadau o dan y weithdrefn hon gael eu cynnal gan y Comisiynydd yn unol â'r Mesur.

1.3. Pan fydd swydd y Comisiynydd yn wag, neu os na fydd y Comisiynydd, am ba bynnag reswm, yn gallu cynnal ymchwiliad, caiff y Senedd benodi rhywun i weithredu fel Comisiynydd dros dro i ymgymryd â swyddogaethau'r swydd honno. Ceir darpariaethau pellach ynghylch penodi Comisiynydd dros dro yn Adran 4 o'r Mesur.

Cyfnodau

1.4. Pan fydd y Comisiynydd yn ymchwilio i gŵyn, mae dau gam posibl:

Cam yr Ymchwiliad Rhagarweiniol sy'n cynnwys ymchwilio a phenderfynu a yw cwyn yn dderbyniadwy; ac, os yw'r gŵyn yn dderbyniadwy, daw'r

Cam Ymchwiliad Ffurfiol sy'n cynnwys ymchwiliad pellach i'r gŵyn a phroses o adrodd yn ôl i'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad.

Cynnal Ymchwiliadau

1.5. Yn unol â darpariaethau'r weithdrefn, y Comisiynydd fydd yn penderfynu pa bryd a sut i gynnal ymchwiliadau ym mhob cam.

1.6. Rhaid i bob cam o ymchwiliad i gŵyn gael ei gynnal yn breifat. Fodd bynnag, gall y Comisiynydd, ar unrhyw adeg, adrodd yn ôl i'r Pwyllgor ar hynt ymchwiliad i gŵyn a rhaid gwneud hynny os nad yw'r ymchwiliad ffurfiol wedi cael ei gwblhau o fewn chwe mis i'r dyddiad y mae'r Comisiynydd yn canfod fod cwyn yn dderbyniadwy.

1.7. Os yw ymchwiliad i gŵyn yn parhau ar ddechrau cyfnod etholiad y Senedd , caiff yr ymchwiliad ei ohirio dros dro a bydd yn ailgychwyn ar ddiwedd cyfnod yr etholiad. Bydd trafodaethau ynghylch cwyn yn erbyn Aelod a gaiff ei ailethol yn dod i ben yn unol â'r weithdrefn hon.

1.8. O ran Aelod na chaiff ei ailethol, mae'r cosbau y gellir eu defnyddio mewn achos o ganfod methiant i gydymffurfio, yn gyfyngedig a gallai'r Pwyllgor ystyried hynny wrth drafod pa gamau i'w cymryd mewn cysylltiad ag unrhyw adroddiad gan y Comisiynydd ynghylch y gŵyn.

2. Cam yr Ymchwiliad Rhagarweiniol

2.1. Yn ystod y cam hwn, rhaid i'r Comisiynydd ymchwilio a phenderfynu a yw cwyn yn dderbyniadwy ai peidio o fewn telerau paragraff 3 isod. Gall y Comisiynydd gysylltu â'r achwynydd i gasglu rhagor o fanylion ac i holi a yw'n fodlon i'w enw gael ei ryddhau i'r Aelod sy'n destun cwyn ac i'r Pwyllgor. Hefyd, gall y Comisiynydd, yn ôl ei ddisgresiwn, gysylltu â'r Aelod sy'n destun cwyn, os yw'r Comisiynydd o'r farn bod angen gwneud hynny er mwyn penderfynu a yw'r gŵyn yn dderbyniadwy.

2.2. Os cred y Comisiynydd fod y gŵyn yn dderbyniadwy, rhaid i'r Comisiynydd symud ymlaen i Ymchwiliad Ffurfiol i'r gŵyn.

2.3. Os cred y Comisiynydd nad yw'r gŵyn yn dderbyniadwy, rhaid i'r Comisiynydd wrthod y gŵyn, gan hysbysu'r achwynydd a nodi'r rhesymau dros y penderfyniad.

3. Derbyniadwydeb cwynion

3.1. Mae cwyn yn dderbyniadwy o dan y weithdrefn hon:

(i) os caiff ei chyflwyno'n ysgrifenedig a lle nad yw'r achwynydd yn gallu cyflwyno cwyn yn ysgrifenedig, bydd cyfleusterau ar gael trwy gyfrwng swyddfa'r Comisiynydd fel y gall gytuno ar delerau datganiad ysgrifenedig;

(ii) os yw'n trafod ymddygiad Aelod Senedd;

(iii) os nad yw'n ddienw a'i bod yn nodi pwy yw'r achwynydd yn glir mewn modd sy'n golygu y gellir cyfathrebu ymhellach ag ef/hi;

(iv) os yw'n nodi'n glir pwy yw'r Aelod Senedd sy'n destun y gŵyn;

(v) os y'i gwneir o fewn blwyddyn i'r dyddiad pan allai'r achwynydd fod wedi dod yn rhesymol ymwybodol o'r ymddygiad y cwynir yn ei gylch; a

(vi) os yw'n ymddangos bod digon o sylwedd i gyfiawnhau ymchwiliad pellach (h.y. mae digon o dystiolaeth i awgrymu bod yr ymddygiad dan sylw wedi digwydd, a phe bai hynny'n cael ei brofi, gallai olygu bod yr Aelod heb gydymffurfio ag unrhyw un o ofynion Rheol Sefydlog 22.2(i)).

4. Cam yr Ymchwiliad Ffurfiol

4.1. Yn ystod y cam hwn, rhaid i'r Comisiynydd ymchwilio i gŵyn dderbyniadwy gyda'r bwriad o:

(i) sefydlu'r ffeithiau mewn cysylltiad â pha un a yw'r Aelod perthnasol wedi ymddwyn yn y modd a nodir gan y gŵyn ai peidio; a

(ii) dod i gasgliad o ran a yw Aelod, o ganlyniad i'r ymddygiad hwnnw, wedi methu â chydymffurfio ag un o'r materion a nodir yn Rheol Sefydlog 22.2(i).

4.2. Pan fo gwaith ymchwilio ffurfiol i gŵyn wedi'i gwblhau, rhaid i'r Comisiynydd lunio adroddiad i'w gyflwyno i'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Rhaid i'r adroddiad gynnwys:

(i) manylion y gŵyn;

(ii) manylion yr ymchwiliad a gynhaliwyd gan y Comisiynydd;

(iii) y ffeithiau y daeth y Comisiynydd o hyd iddynt mewn cysylltiad â pha un a yw'r Aelod perthnasol wedi ymddwyn yn y modd y cwynwyd yn ei gylch ai peidio, ynghyd ag unrhyw ffeithiau a ddarperir gan yr Heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron neu'r Llysoedd mewn achos lle cafodd tystiolaeth ei chyfeirio (gweler yr adran ar Droseddau);

(iv) y casgliad y daeth y Comisiynydd iddo o ran pa un a yw'r Aelod hwnnw, o ganlyniad i'r ymddygiad hwnnw, wedi methu â chydymffurfio ag un o'r materion a nodir o fewn Rheol Sefydlog 22.2(i); ond

(v) ni fydd yn cynnwys unrhyw sylwadau nac argymhellion o ran pa sancsiwn (os o gwbl) a ddylai gael ei roi ar yr Aelod o dan sylw;

(vi) pa un a yw'r achwynwr, ym marn y Comisiynydd yn cyfeirio at faterion sy'n ymwneud ag egwyddorion cyffredinol.

Os bydd y Comisiynydd, wrth gynnal yr ymchwiliad, yn dod yn ymwybodol o unrhyw amgylchiadau sy'n codi materion sy'n ymwneud ag egwyddorion cyffredinol neu arfer cyffredinol sy'n berthnasol i swyddogaethau'r Clerc o dan Adran 138 o'r Ddeddf fel y prif swyddog cyfrifyddu, neu a allai, wrth i'r Clerc ymchwilio ymhellach, roi dyletswydd ar y Clerc o dan Adran 9, rhaid i'r Comisiynydd gyflwyno'r amgylchiadau hynny yn ysgrifenedig, ar wahân, i'r Clerc hefyd.

4.3. Ni fydd adroddiad sy'n dod i'r casgliad bod Aelod wedi methu â chydymffurfio ag un o'r materion o fewn Rheol Sefydlog 22.2(i) yn cael ei gyflwyno gerbron y Pwyllgor oni bai fod copi o'r adroddiad drafft wedi'i roi i'r Aelod a'r achwynydd a'u bod wedi cael cyfle i wneud sylwadau ar gywirdeb ffeithiol. Os oes sylwadau nad yw'r Comisiynydd yn eu derbyn, rhaid i adroddiad y Pwyllgor nodi manylion y ffeithiau hyn sy'n destun dadl.

4.4. Rhaid sicrhau bod copïau o adroddiad terfynol y Comisiynydd i Bwyllgor ar ymchwiliad ffurfiol ar gael i'r achwynydd ac i'r Aelod sy'n destun cwyn yr un pryd ag y darperir copïau i'r Pwyllgor.

4.5. Bydd yr Aelod sy'n destun cwyn yn cael ei hysbysu gan y Pwyllgor bod ganddo hawl i:

(i) gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i'r Pwyllgor o fewn amser penodol; ac

(ii) cyflwyno sylwadau llafar mewn gwrandawiad llafar gan y Pwyllgor.

4.6. Mae adroddiad y Comisiynydd yn parhau'n gyfrinachol nes y bydd y Pwyllgor wedi gorffen ystyried y gŵyn. Bydd gofyn i'r rhai sy'n cael copi o'r adroddiad barchu ei gyfrinachedd.

5. Cydweithrediad yr Aelodau

5.1. Mae'r weithdrefn hon yn seiliedig ar yr egwyddor y bydd Aelodau o'r Senedd yn cydweithredu'n llwyr ag unrhyw ymchwiliad i gŵyn. Disgwylir i Aelodau ymateb yn bersonol bob tro i unrhyw gais gan y Comisiynydd. Yn ystod unrhyw gam o'r broses o ystyried cwyn, os bydd gan Gomisiynydd achos i gredu nad yw unrhyw Aelod yn cydweithredu, ar ôl rhoi hysbysiad o fwriad i wneud hynny i'r Aelod sy'n destun cwyn, gall y Comisiynydd gyflwyno'r farn hon i'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Yna, gall y Pwyllgor drefnu i'r adroddiad gael ei gyhoeddi a'i osod gerbron y Senedd cyn gynted ag sy'n bosibl.

5.2. Ni fydd llunio adroddiad o'r fath yn atal y Comisiynydd na'r Pwyllgor rhag parhau i ystyried y gŵyn yn unol â'r weithdrefn hon.

6. Troseddau

6.1. Yn ystod unrhyw gam o ystyried cwyn:

(i) os ceir tystiolaeth o ymddygiad a allai gynnwys methiant i gydymffurfio ag adran 36(7) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, rhaid i'r Comisiynydd hysbysu'r Clerc ar unwaith. Rhaid i'r Clerc gyfeirio'r papurau o dan sylw i'r Heddlu yn unol â'r protocol y cytunwyd arno gyda'r Heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron.

(ii) os ceir tystiolaeth o ymddygiad a allai olygu cyflawni unrhyw drosedd arall, yn amodol yn unig i'r disgwyliad y bydd tystiolaeth o'r fath yn cael ei chyfeirio at yr Heddlu fel arfer, bydd y Comisiynydd yn defnyddio ei ddisgresiwn i benderfynu a fydd y mater yn cael ei gyfeirio at yr Heddlu, a phryd a sut y bydd hynny'n digwydd.

6.2. O dan amgylchiadau o'r fath, bydd yr holl waith o ystyried y gŵyn o dan y weithdrefn hon yn cael ei ohirio dros dro nes bod casgliadau terfynol ymchwiliad yr Heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron neu'r Llysoedd yn hysbys.

7. Ystyriaeth y Pwyllgor Safonau

Ystyriaeth Gychwynol

7.1. Yn gyntaf, bydd y Pwyllgor yn cyfarfod yn breifat i ystyried manylion y gŵyn, ond ni fydd yn cyflwyno unrhyw gasgliadau o sylwedd am y gŵyn yn ystod y cam hwn. Diben y cyfarfod preifat fydd ystyried adroddiad y Comisiynydd, ac unrhyw dystiolaeth ysgrifenedig arall a wêl yn berthnasol i benderfynu:

(i) a ddylid gwahodd unrhyw dystion i gyflwyno tystiolaeth i'r Pwyllgor mewn gwrandawiad llafar; a

(ii) a ddylai'r Pwyllgor ystyried y gŵyn yn gyhoeddus ynteu'n breifat.

7.2. Gall y Pwyllgor ystyried hefyd sut y mae'n cynnig y dylid holi'r Aelod neu'r tystion.

7.3. Ni chaiff y Comisiynydd Safonau fod yn bresennol yn y cyfarfod preifat cychwynnol hwn oni bai fod y Pwyllgor yn estyn gwahoddiad iddo.

7.4. Yn unol â Rheol Sefydlog 22.5, lle y mae Aelod o'r Pwyllgor yn destun cwyn, ni chaiff gymryd unrhyw ran yng ngwaith y Pwyllgor o ystyried y gŵyn. O dan yr amgylchiadau hynny, caiff Aelod arall o'r un grŵp gwleidyddol gymryd lle'r Aelod hwnnw yn unol â'r trefniadau a nodir yn y Rheolau Sefydlog.

Gwrandawiad Llafar

7.5. Bydd y Pwyllgor yn cyfarfod yn breifat - oni bai ei fod wedi penderfynu, ar ôl ystyried amgylchiadau'r achos ac unrhyw gyngor a gafwyd gan y Comisiynydd Safonau neu ar ran Clerc y Senedd, y dylai gyfarfod yn gyhoeddus - i ystyried:

(i) unrhyw dystiolaeth neu sylwadau llafar neu ysgrifenedig y mae'r Aelod sy'n destun cwyn yn dymuno'u cyflwyno; a

(ii) unrhyw dystiolaeth lafar neu ysgrifenedig gan dystion.

7.6. Gall y Comisiynydd gael ei wahodd i roi tystiolaeth yn y cyfarfod, yn ôl disgresiwn y Cadeirydd.

7.7. Mewn unrhyw wrandawiad llafar, caiff cynghorydd ddod yn gwmni i'r Aelod sy'n destun cwyn neu i unrhyw dystion sy'n dewis rhoi tystiolaeth.

7.8. Darperir trawsgrifiad gair-am-air o drafodion unrhyw wrandawiadau llafar. Y rhagdybiaeth gyffredinol yw mai dim ond er mwyn cael esboniad o faterion ffeithiol y bydd y Pwyllgor yn gofyn cwestiynau i'r Aelod neu i'r tystion. Byddai gan yr Aelod neu unrhyw dystion hawl i holi a chael ateb i gwestiynau ffeithiol am faterion gweithdrefnol neu dechnegol; nid oes ganddynt hawl i gwestiynu'r Comisiynydd na'r Pwyllgor am faterion eraill.

7.9. Os daw rhywun gyda'r Aelod neu'r tystion, caiff y Cadeirydd roi caniatâd i'r person hwnnw gyflwyno sylwadau ar lafar a byddai'r un rheolau'n berthnasol.

Y Pwyllgor yn Ystyried ei Benderfyniad

7.10. Yn dilyn unrhyw wrandawiad llafar bydd y Pwyllgor yn cyfarfod yn breifat i ystyried a yw'r Aelod wedi methu â chydymffurfio ag un o'r materion a nodir yn Rheol Sefydlog 22.2(i) a pha gamau, os o gwbl, y dylai gynghori'r Senedd i'w cymryd os canfyddir methiant i gydymffurfio.

7.11. Er mwyn i'r Pwyllgor benderfynu gwneud argymhelliad, yn unol â'r hyn a fanylir ym mhwnt 7.11, rhaid cael mwyafrif clir o blaid yr argymhelliad.

Argymhellion y Pwyllgor

7.12. Gall y Pwyllgor benderfynu:

(i) na chanfuwyd unrhyw fethiant i gydymffurfio ac y dylid gwrthod y gŵyn;

(ii) y canfuwyd methiant i gydymffurfio ond ei fod yn ddibwys ac y dylid gwrthod y gŵyn;

Neu, yn amodol ar unrhyw apêl gan yr Aelod dan sylw, gall y Pwyllgor benderfynu argymell i'r Senedd:

(iii) y canfuwyd methiant i gydymffurfio ac na ddylid cymryd unrhyw gamau pellach;

(iv) y canfuwyd methiant i gydymffurfio ac y dylid  'ceryddu' yr Aelod yn unol â'r Rheolau Sefydlog;

(v) y canfuwyd methiant i gydymffurfio ac y dylid  gwahardd yr Aelod o drafodion y Senedd [Diffinnir "trafodion y Senedd" yn adran 1(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 fel "unrhyw un o drafodion y Senedd, pwyllgorau'r Senedd neu is-bwyllgorau pwyllgorau o'r fath"] naill ai'n gyffredinol neu'n benodol, er enghraifft, o drafodion cyfarfodydd penodol o'r Senedd neu ei bwyllgorau, am gyfnod i'w bennu yn y cynnig gwahardd, ac yn unol â'r Rheolau Sefydlog [Yn achos argymhelliad i wahardd, yn unol â'r Rheolau Sefydlog bydd hyn yn arwain yn awtomatig at dynnu cyflog aelod yn ôl am y cyfnod gwahardd, ond nid at dynnu'n ôl unrhyw lwfansau eraill y darperir ar eu cyfer o dan y Penderfyniad ar Gyflogau a Lwfansau Aelodau. Ni effeithir ar gyflog a lwfansau staff a gyflogir gan yr Aelod dan sylw];

(vi) y canfuwyd methiant i gydymffurfio ac y dylai rhai o'r hawliau a'r breintiau penodol sydd gan Aelodau o'r Senedd gael eu tynnu yn ôl oddi ar yr Aelod o dan sylw; neu

(vii) pan ystyrir bod hynny'n briodol, gellir cymhwyso unrhyw gyfuniad o'r sancsiynau uchod.

Bydd hawliau a breintiau Aelodau y gallai'r Pwyllgor eu hargymell i gael eu tynnun ôl yn cael eu nodi yn adroddiad y Pwyllgor i'r Senedd , a gall hyn gynnwys:

  • tynnu hawl mynediad Aelod i ystad y Senedd;
  • gwaharddiad o weithgareddau eraill y byddai gan Aelod hawl i fynd iddynt fel arfer; a/neu
  • tynnu breintiau cynrychioliadol a seremonïol a breintiau cysylltiedig oddi ar Aelod a fyddai fel arfer yn meddu arnynt.

Ystyriaethau

7.13. Wrth benderfynu pa sancsiwn/sancsiynau i'w argymell/hargymell i'r Senedd, bydd y Pwyllgor yn gwneud penderfyniad ar sail amgylchiadau penodol yr achos o dan sylw. Bydd yn ystyried difrifoldeb yr achos, i ba raddau y gallai fod wedi dwyn anfri ar y Senedd , ac a yw'r achos o dan sylw yn ail drosedd, neu'n dangos ymddygiad cyson y gellir ystyried ei fod yn dangos dirmyg tuag at gyd-Aelodau, y rheolau neu'r sefydliad.

8. Y Weithdrefn Adrodd ac Apelio

8.1. Cyn gynted â phosibl ar ôl penderfyniad y Pwyllgor, rhaid rhoi copi o adroddiad y Pwyllgor i'r Aelod sy'n destun y gŵyn, a rhaid i bob parti drin yr adroddiad hwn yn gyfrinachol. Yn yr achosion hynny pan fydd y Pwyllgor wedi ystyried y gŵyn yn breifat, a lle nad oes methiant i gydymffurfio neu y gwrthodwyd y gŵyn, rhaid trefnu i'r adroddiad fod yn ddienw.

Lle mae'r Pwyllgor wedi canfod bod Aelod wedi methu â chydymffurfio, ac nad yw'r pwyllgor yn argymell y dylid gwrthod y gŵyn, gall yr Aelod sy'n destun y gŵyn apelio i'r Llywydd o fewn 10 diwrnod gwaith i'r dyddiad pan gaiff copi o adroddiad y Pwyllgor.

Rhaid i'r Pwyllgor gyhoeddi adroddiad o'i ystyriaethau a'i osod gerbron y Cynullid ynghyd ag adroddiad y Comisiynydd i'r Pwyllgor. Lle y mae'r Llywydd yn hysbysu'r Pwyllgor bod apêl wedi'i wneud, ni chaiff y Pwyllgor gyhoeddi ei adroddiad na'i osod gerbron y Senedd nes bod y gwaith o ystyried yr apêl wedi'i gwblhau.

Os caiff cwyn ei gyfeirio yn ôl i'r Pwyllgor o dan baragraff 8.6 i, rhaid i'r Pwyllgor, ar ddiwedd ei ystyriaeth bellach o'r gŵyn, baratoi adroddiad diwygiedig. Yna, bydd Paragraff 8.1 yn berthnasol i'r adroddiad diwygiedig yn hytrach na'r adroddiad gwreiddiol.

Penodi Rhywun i Ystyried Apêl

8.2. Rhaid i'r Llywydd, ar bob achlysur, benodi person annibynnol â chymhwyster yn y gyfraith i benderfynu ar yr apêl. Ni chaniateir i'r person a benodir fod yn Aelod o'r Senedd nac yn aelod o staff y Senedd , a rhaid penodi'r person hwnnw, ar gais y Llywydd, gan yr Uwch Farnwr Llywyddol ar gylchdaith Cymru.

8.3. Ar ôl enwebu'r person annibynnol â chymhwyster yn y gyfraith, ond cyn y penodiad, bydd y Llywydd yn rhoi cyfle i'r Aelod sy'n destun y gŵyn, gyflwyno sylwadau ysgrifenedig dros beidio â phenodi'r person dan sylw, o fewn pum niwrnod gwaith o gael gwybod enw'r enwebai. Os bydd y Llywydd yn derbyn unrhyw sail fel rheswm dilys ac yn penderfynu peidio â phenodi'r person a enwebwyd, bydd yn gofyn am enwebiad arall fel ym mharagraff 8.2.

Ystyried Apelau

8.4. Dim ond ar y seiliau canlynol y caiff apelau eu hystyried:

(i) bod casgliadau'r Pwyllgor yn seiliedig ar anghywirdebau ffeithiol sylweddol nad oedd y Pwyllgor yn ymwybodol ohonynt, ond pe baent wedi bod yn ymwybodol ohonynt, gallent fod wedi arwain y Pwyllgor i gasgliadau gwahanol;

(ii) bod afreoleidd-dra gweithdrefnol a oedd yn rhagfarnu yn erbyn hawl yr Aelod i gael gwrandawiad teg.

8.5. Dim ond adroddiadau'r Comisiynydd a'r Pwyllgor ac unrhyw sylwadau ysgrifenedig eraill a wnaiff yr apelydd y bydd y person annibynnol â chymhwyster yn y gyfraith yn eu hystyried. Ni fydd y person hwnnw yn cynnal gwrandawiadau llafar nac yn ystyried sylwadau o unrhyw ffynhonnell arall.

8.6. Rhaid i'r person a benodir i benderfynu'r apêl baratoi adroddiad o'i ystyriaethau o'r apêl, a'i roi i'r Aelod ac i'r Pwyllgor, ac:

(i) os yw sail yr apêl yn cael ei gadarnhau, bydd yn cadarnhau'r apêl ac yn cyfeirio'r gŵyn yn ôl i'r Pwyllgor i'w hystyried ymhellach; neu

(ii) bydd yn gwrthod y gŵyn.

8.7. Rhaid i'r Pwyllgor osod adroddiad y person a benodir i benderfynu ar yr apêl gerbron y Senedd, ynghyd ag adroddiad y Comisiynydd ac adroddiad neu (os cyfeiriwyd y mater yn ôl i'r Pwyllgor o dan baragraff 86.1), adroddiad diwygiedig y Pwyllgor ei hun.

Yn yr achosion hynny lle mae'r Pwyllgor wedi ystyried y gŵyn yn breifat, a lle mae'r Pwyllgor, ar ôl iddi gael ei chyfeirio yn ôl i'r Pwyllgor gan y person a benodwyd i benderfynu ar yr apêl, wedi gwrthod y gŵyn, rhaid i'r Pwyllgor drefnu i'w adroddiad diwygiedig ac i un y person a benodwyd i benderfynu'r apêl, fod yn ddienw.

9. Y Senedd yn Ystyried

Pan na fydd apêl yn llwyddiannus

9.1. Pan na fydd apêl yn llwyddiannus neu pan na chaiff apêl ei wneud i'r Llywydd a phan nad yw'r Pwyllgor yn penderfynu gwrthod y gŵyn, mae'n rhaid i Gadeirydd y Pwyllgor Safonau gyflwyno cynnig yn galw ar y Senedd i gymeradwyo argymhellion y Pwyllgor. Ni fydd cynigion o'r fath yn destun gwelliannau. Rhaid gwneud amser i drafod y cynnig cyn gynted â phosibl.

10. Unioni methiant neu wrthod y gŵyn

10.1. Yn ystod ymchwiliad, lle nad yw'r ffeithiau'n destun dadl a bod yr Aelod yn unioni neu'n ymddiheuro ar unwaith am fân fethiant yn ddi-oed, gall y Comisiynydd argymell i Gadeirydd y Pwyllgor Safonau y dylid dod â'r ymchwiliad i ben. Os bydd y Cadeirydd yn cytuno, bydd y Comisiynydd yn hysbysu'r Aelod a'r achwynydd, er bod methiant i gydymffurfio wedi'i ganfod, na fydd unrhyw gamau pellach yn cael eu cymryd yn erbyn yr Aelod.

10.2. Os mai'r Cadeirydd yw testun y gŵyn, gall y Comisiynydd argymell i aelod o'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad, a enwebwyd gan y Pwyllgor, weithredu yn y cyswllt hwn. Bydd Clerc y Pwyllgor yn sicrhau bod aelod o'r Pwyllgor yn cael ei enwebu at y diben hwnnw.

10.3. O dan yr amgylchiadau hyn, nid oes gofyn i'r Comisiynydd adrodd yn ôl i'r Pwyllgor Safonau heblaw i argymell unrhyw gamau a allai fod yn angenrheidiol er mwyn egluro neu ddehongli rheolau er gwybodaeth ar gyfer y dyfodol. Os yw'r Comisiynydd yn dewis adrodd yn ôl yn y modd hwn, ni fydd angen nodi enw'r Aelod na'r achwynydd.

Protocol rhwng y Comisiynydd Safonau, Senedd Cymru, a'r Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus
  • Diweddarwyd ddiwethaf: Mai 2021
  • Perchennog: Y Pwyllgor sy'n gyfrifol am Safonau Ymddygiad
  • Cyswllt: Clerc i'r Pwyllgor sy'n gyfrifol am Safonau Ymddygiad
  • Ffeiliau PDF

 

1. Pan ddaw yn amlwg i Glerc y Senedd ( 'y Clerc') fod Aelod o'r Senedd wedi torri'r gofynion hynny o dan Reol Sefydlog 2 sy'n ymwneud â chofrestru buddiannau Aelodau, neu y mae'n bosibl ei fod wedi eu torri, bydd yn ddyletswydd ar y Clerc i gyflwyno adroddiad i'r Comisiynydd Safonau am doriad neu doriad posibl ar unwaith. Er mwyn osgoi amheuaeth, ni fydd gan y Clerc unrhyw ddisgresiwn i wneud unrhyw beth ar wahân i gyflwyno adroddiad ar y mater.

2. Ni fydd yn orfodol i'r Clerc hysbysu'r Aelod o'r Senedd o dan sylw o'r ffaith bod adroddiad yn cael ei gyflwyno ar y mater. Ar ôl i'r Comisiynydd Safonau gael yr adroddiad, bydd yn ddyletswydd arno i ystyried a yw toriad neu doriad posibl o Rheol Sefydlog 2 yn drosedd o dan Adran 36(7) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

3. Os bydd y Comisiynydd yn dod i'r casgliad bod tystiolaeth a allai fod yn dramgwydd troseddol, bydd y Comisiynydd yn cyfeirio'r mater at y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus i ystyried dechrau achos troseddol oni bai bod y Comisiynydd yn fodlon:

(i) bod y toriad neu doriad posibl o'r gofynion hynny o dan Reol Sefydlog 2 yn ymwneud â chofrestru buddiannau Aelodau yn un anfwriadol; ac

(ii) na fu unrhyw drafodion ym mhwyllgorau neu sesiynau Cyfarfod Llawn y Senedd, ers y dyddiad pryd y dylai'r mater dan sylw fod wedi cael ei gofrestru, lle y gallai'r mater anghofrestredig fod wedi bod yn berthnasol; ac

(iii) na fyddai er budd y cyhoedd i fynd ar drywydd achos troseddol.

4. O dan amgylchiadau o'r fath, bydd y Comisiynydd Safonau yn trin yr adroddiad fel cwyn a bydd yn dilyn y gweithdrefnau priodol.

5. Er mwyn osgoi amheuaeth, bydd torri agweddau gwahanol ar Reol Sefydlog 2, neu dorri'r un agweddau, dro ar ôl tro yn golygu y bydd y mater yn cael ei gyfeirio i'w ystyried fel achos troseddol.

 

Ffeiliau PDF