Croeso i wefan newydd y Senedd. Os ydych yn cael anhawster defnyddio'r wefan hon, cysylltwch a ni.
Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau'r Senedd
Cyhoeddwyd 05/01/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 19/01/2021   |   Amser darllen munudau
Pwrpas hanfodol y Cod Ymddygiad hwn yw cynnal enw da’r Senedd a'r ethos agored ac atebol sy'n angenrheidiol i atgyfnerthu hyder y cyhoedd yng ngonestrwydd Aelodau'r Senedd yn y ffordd y maent yn cyflawni eu dyletswyddau a'u cyfrifoldebau cyhoeddus pwysig.
Mae'r Cod hwn yn berthnasol i holl Aelodau'r Senedd. Rhaid i Aelodau gydymffurfio ag ef. Os oes gennych unrhyw bryderon am ymddygiad Aelod neu os ydych am wneud cwyn, cysylltwch â’r Comisiynydd Safonau.
Dylid darllen pob cyfeiriad yn y ddogfen hon at Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Cynulliad yn y ddogfen hon fel un at Senedd Cymru/Welsh Parliament.
Newidiodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ei enw’n swyddogol i Senedd Cymru ar 6 Mai 2020. Mae adran 150A o Ddeddf Llywodraeth Cymru yn nodi y bydd pob cyfeiriad at enw blaenorol y sefydliad yn cael ei ddarllen, o ran y gyfraith, fel cyfeiriad at yr enw newydd, ac y bydd gan yr enwau Saesneg a Chymraeg statws cyfartal.
Mae'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad wrthi’n diweddaru'r Cod Ymddygiad a'r gweithdrefnau cysylltiedig, a bydd yr enw'n cael ei ddiweddaru fel rhan o'r broses hon.
Mae'r Senedd wedi ymrwymo i ddelio'n effeithiol ag unrhyw bryderon neu gwynion. Dysgwch ragor am ein polisi cwyno, y drefn gwyno a sut i wneud cwyn.
- Cod Ymddygiad Aelodau o'r Senedd a Dogfennau Cysylltiedig (PDF, 2.68MB)
- Adran 1: Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau'r Senedd
- Adran 2.1: Canllawiau i Aelodau'r Senedd ar gofrestru, datgan a chofnodi buddiannau ariannol a buddiannau eraill
- Adran 2.2: Cofnodi Cyflogaeth Aelodau'r Teulu gyda Chymorth Arian y Comisiwn
- Adran 2.3: Rheolau a Chanllawiau ar Ddefnyddio Adnoddau'r Senedd
- Adran 2.4: Rheolau ynghylch gweithredu Grwpiau Trawsbleidiol
- Adran 2.5: Canllawiau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar lobïo a mynediad at Aelodau'r Senedd
- Adran 2.6: Cod ar Wahanol Rolau a Chyfrifoldebau Aelodau Etholaeth ac Aelodau Rhanbarthol
- Adran 3.1: Gweithdrefn ar gyfer ymdrin â chwynion yn erbyn Aelodau'r Senedd
- Adran 3.2: Protocol rhwng y Comisiynydd Safonau, Seneddd a'r Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus
- Adran 4.1: Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â Safonau Ymddygiad
- Adran 4.2: Deddfwriaeth
- Adran 4.3: Codau a ffurflenni cysylltiedig eraill